Amdanom ni
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw yn y byd, ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, ac mae wedi’i lleoli ym Mhowys, Canolbarth Cymru.
Cydweithio ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth
Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, mae angen gweithredu ar bob lefel ac ar draws pob sector. Mae gan unigolion, cymunedau, busnesau a’r llywodraeth rôl yn hyn.
Mae CyDA yn darparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ysbrydoliaeth i bobl gydweithio er mwyn creu dyfodol mwy diogel, iachach a thecach i bawb.
A wnewch chi helpu i greu newid?
Mae angen pobl fel chi arnom, sy’n ymboeni am y byd a’r holl rai sy’n ei rannu, er mwyn helpu i sicrhau bod newid yn digwydd.
A wnewch chi ymuno â ni heddiw a dod yn rhan o’r newid?
- Cefnogwch ein gwaith trwy ymaelodi neu wneud cyfraniad ariannol heddiw.
- Ymwelwch â’n canolfan eco gyda’ch ysgol, eich coleg neu’ch grŵp prifysgol i ddarganfod datrysiadau ymarferol.
- Dewch i feithrin sgiliau newydd ar un o’n cyrsiau byr mewn ynni adnewyddadwy, adeiladu gwyrdd, tyfu cynaliadwy a mwy.
- Astudiwch am radd Meistr amgylcheddol gyda ni.
- Dewch â’ch busnes neu’ch mudiad cymunedol i CyDA ar ymweliad grŵp, neu llogwch ein hadeilad WISE sydd wedi ennill gwobrau, ar gyfer eich cynhadledd neu’ch digwyddiad nesaf.
- Darganfyddwch ffyrdd eraill y gallwch gynorthwyo ein gwaith.
STRATEGAETH A LLYWODRAETHU
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen Cyf yn elusen addysgol gofrestredig sydd wedi ymrwymo i ymchwilio a chyfleu datrysiadau cadarnhaol er mwyn sicrhau newid amgylcheddol. Dewch i ddysgu mwy am rôl unigryw CyDA, ei ffyrdd o weithio a’i phrif flaenoriaethau.
POBL
Mae ein hymddiriedolwyr, ein staff a’n gwirfoddolwyr yn dwyn ymrwymiad, angerdd ac ystod eang o sgiliau a gwybodaeth, ac maent yn hollbwysig i’n gwaith o rannu datrysiadau ac ysbrydoli gweithredu ynghylch yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Dewch i gyfarfod rhai o aelodau tîm CyDA a rhoi cipolwg ar ein swyddi gwag diweddaraf.
AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT
Un o’n prif flaenoriaethau dros y blynyddoedd nesaf yw gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar bob lefel ar draws y sefydliad. Darllenwch am rai o’r ffyrdd yr ydym yn ymrwymo o’r newydd i weithredu a sut y gallwch chi gymryd rhan.

Ein Hanes
Gallwch ddarganfod rhai o’r ffyrdd y mae CyDA wedi sicrhau newid ar draws dros 50 mlynedd o ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i sicrhau datrysiadau ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd.

Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
Mae prosiect mawr i greu canolfan sgiliau cynaliadwy arloesol a phrofiad ysbrydoledig newydd i ymwelwyr yn CyDA yn cael ei ddatblygu o hyd. Darllenwch fwy am ein cynlluniau.

Cofrestru ar gyfer E-bost
Cadwch lygad ar y gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru i dderbyn ein negeseuon e-bost a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelodau CyDA.




