
Cynefin
Calon Werdd Cymru
Prosiect ailddatblygu cyfalaf sy’n wirioneddol drawsnewidiol – i adeiladu Calon Werdd Cymru.
Mae Cynefin yn fuddsoddiad sy’n werth £25.3m yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), gan drawsnewid y safle yn ganolfan o safon byd ar gyfer addysg amgylcheddol a thwristiaeth gynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru.
Ariannir Cynefin yn rhannol trwy Fargen Twf Canolbarth Cymru a chan ffynonellau cyllid cyfatebol allweddol, a bydd yn gwella profiad dysgu ymwelwyr â CyDA ac yn creu swyddi gwyrdd diogel, gan gynorthwyo taith Cymru i sicrhau sero net.
Gan ddatblygu hanes CyDA o arweinyddiaeth amgylcheddol dros 50 mlynedd, bydd Cynefin yn cryfhau ein gallu i gyflawni ein cenhadaeth mewn ffordd sylweddol – gan ehangu ein cyrhaeddiad, dyfnhau ein heffaith, a gwella cydnerthedd ariannol hirdymor.
Mae’r gair Cynefin yn cyfleu ein cysylltiad dwfn â lle a’n hymdeimlad o berthyn – a dyna’n union beth mae’r prosiect ailddatblygu yma yng nghylch. Mae’r prosiect yn galluogi ein gweledigaeth o CyDA bwyiog, cynhwysol ac ysbrydoledig sy’n cynorthwyo pontio cyfiawn i ddyfodol di-garbon o’n cartref yn chwarel adfywiol Llwyngwern yng nghanolbarth Cymru.
Cynefin
Enw
Lle o gysylltiad dwfn ac o berthyn; lle y mae’r tirlun gwyrdd sy’n ein hamgylchynu yn teimlo fel ein cartref.
Y Prosiect
Bydd Cynefin yn darparu cyfleusterau dysgu newydd er mwyn cyflwyno sgiliau ar gyfer y dyfodol, trawsnewid y cynnig i ymwelwyr yn brif atyniad i dwristiaid, gwella cyfleusterau a chapasiti CyDA i gynnig llety, a sicrhau a darparu swyddi diogel.
Cyflwynir y prosiect fesul cam wrth i’r cyllid gael ei sicrhau, ar y cyd â Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Cam 1 y Prosiect
Trwy adnewyddu’r Bythynnod Chwarel, y Theatr Byrnau Gwellt, ac Adeilad WISE, mae CyDA yn ail-ddychmygu mannau allweddol ar draws ei safle – gan gyfuno treftadaeth, cynaliadwyedd ac arloesedd er mwyn creu amgylcheddau ysbrydoledig ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol er mwyn dysgu a chysylltu.
Buddsoddiad amcangyfrifedig o £3 miliwn, gyda 52% ohono yn cael ei ariannu gan Fargen Twf Canolbarth Cymru.

Bythynnod Chwarel
Caiff Bythynnod Chwarel hanesyddol CyDA eu hailddatblygu yn llety grŵp cynaliadwy enghreifftiol ar gyfer hyd at 30 o westeion. Gan fanteisio ar y safonau adeiladu diweddaraf a gwneud y defnydd mwyaf o adnoddau CyDA ar y safle, bydd y prosiect yn anrhydeddu gwaddol y bythynnod fel cartrefi ar gyfer gweithwyr yn y chwarel wrth eu trawsnewid yn lle bywiog a hygyrch lle y gall grwpiau sy’n ymweld aros, cysylltu a myfyrio.

Theatr Byrnau Gwellt
Bydd y gwaith ôl-osod yn Theatr Byrnau Gwellt CyDA yn rhoi bywyd newydd i’r lle unigryw hwn, ac yn ei drawsnewid yn ganolfan ddysgu fywiog ar gyfer grwpiau ysgol a grwpiau eraill o hyd at 30 o ddysgwyr a fydd yn ymweld.
Gerllaw gerddi gwyllt, pyllau a choetir, bydd ystafell ddosbarth newydd yn yr awyr agored yn darparu lle diogel ac ysgogol i chwarae ac archwilio.

Adeilad WISE
Caiff Adeilad WISE – un o strwythurau mwyaf eiconig ac arwyddocaol CyDA o ran ei bensaernïaeth – ei adfywio. Fe’i adeiladwyd yn 2010 yn wreiddiol, gan ddefnyddio dulliau dylunio cynaliadwy arloesol, ac mae wedi ymateb i heriau dylunio arbrofol. Bydd y gwaith adnewyddu uchelgeisiol hwn yn adfer y safle ac yn ei wneud yn addas ar gyfer y dyfodol, gan wella ei berfformiad solar a datgloi potensial dysgu ac ymgysylltu newydd.
Cam 2 y Prosiect
Yn ystod Cam 2 y prosiect, bydd CyDA yn ailagor fel prif atyniad cynaliadwy i ymwelwyr – gan arwain y ffordd unwaith eto o ran twristiaeth gynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru.
Estynnir croeso i ymwelwyr gyda phrofiad hollol newydd wrth gyrraedd, gan gynnwys cyfleusterau manwerthu, arddangosiadau a mwynderau newydd, cyn archwilio safleoedd arddangos wedi’u hadfywio a fydd yn gwireddu datrysiadau newid hinsawdd.
Caiff y rheilffordd halio cydbwysedd dŵr y mae pobl yn hoff iawn ohoni ei gwella a’i hadnewyddu’n llawn, a bydd y Ddychmygfa newydd yn cynnig canolfan fywiog ar gyfer cynnal digwyddiadau byw, gweithdai a dysgu cymunedol. Ar draws y safle, bydd tirluniau ysbrydoledig yn dathlu bwyd, chwarae, cynhyrchiant, a bioamrywiaeth, gan greu profiadau bythgofiadwy i ymwelwyr dydd, grwpiau a dysgwyr.
Camau’r Prosiect yn Nes Ymlaen
Bydd camau’r prosiect yn nes ymlaen yn canolbwyntio ar gynnig sgiliau i bobl ar gyfer y dyfodol.
O drawsnewid mannau dysgu CyDA yn ganolfan sgiliau diweddaraf a chyfleusterau newydd er mwyn croesawu dysgwyr i CyDA a chroesawu gwirfoddolwyr preswyl, bydd camau’r prosiect yn nes ymlaen yn gwella gallu CyDA i arwain y ffordd o ran darpariaeth sgiliau cynaliadwy am flynyddoedd i ddod.
Beth yw Bargen Twf Canolbarth Cymru?
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n rhan o’r Weledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, yn fuddsoddiad hirdymor ar y cyd sy’n werth £110 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu seilwaith economaidd sy’n arwyddocaol ar lefel ranbarthol, ysgogi buddsoddiad cyhoeddus a phreifat, creu swyddi hirdymor a chynyddu cynhyrchiant er mwyn ysgogi twf cynaliadwy ar draws sectorau allweddol fel twristiaeth, ynni, a seilwaith digidol.
Mae prosiect Cynefin CyDA yn cyd-fynd yn agos gyda gweledigaeth y Fargen Twf, gan gynnig ymateb cymunedol sy’n seiliedig ar le i heriau ecolegol a hinsawdd. Wrth i’r Fargen Twf symud i’w cham cyflawni, mae Cynefin yn cyfrannu at Ganolbarth Cymru gwyrddach a mwy cydnerth trwy ddarparu sgiliau gwyrdd a swyddi o ansawdd uchel.
Mae’r gallu i sicrhau cyllid cyfatebol yn ofyniad allweddol yn y Fargen Twf, sy’n sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i sicrhau effaith mwy fyth. Mae CyDA yn un o’r ychydig sefydliadau yn y rhanbarth sy’n meddu ar y capasiti a’r hygrededd i sicrhau’r lefel hon o ran cyllid cyfatebol, gan sicrhau ei bod yn bartner cyflawni hanfodol ar gyfer prosiectau uchelgeisiol ac o werth uchel fel Cynefin.
Newyddion diweddaraf Cynefin
-

Mae Canolbarth Cymru yn rhanbarth lle y gwelir harddwch naturiol eithriadol, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, ac arwyddocâd amgylcheddol dwfn. Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae…
-

Ymwelodd Steve Witherden, Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, a Chanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) heddiw i ddysgu mwy am waith yr elusen yn rhannu datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a…
-

Roedd Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn falch o groesawu’r tîm datblygu lawn o Croeso Cymru ar gyfer cyfarfod oll-staff yr wythnos hon, gan nodi…

Dweud eich dweud
Mae clywed ystyriaethau a myfyrdodau ein cymuned ehangach yn eithriadol o bwysig i ni. Os oes gennych chi syniadau, ystyriaethau am y cynlluniau neu os hoffech ofyn cwestiwn, mae croeso i chi gysylltu.
Cefnogir prosiect Cynefin gan Fargen Twf Canolbarth Cymru, gyda chyllid cyfatebol ychwanegol gan:
- Cynulleidfa Canonesau Ein Harglwyddes St Augustine
- Ymddiriedolaeth Ethel a Gwynne Morgan
- Ymddiriedolaeth Hamamelis
- Cefnogwyr hael eraill CyDA

Cofrestru ar gyfer E-bost
Cadwch lygad ar y gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru i dderbyn ein negeseuon e-bost a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelodau CyDA.


