
Straeon CyDA
Rhannwch eich stori am newid
Rydym yn casglu straeon o’n cymuned rhyfeddol i ddysgu am y newid yr ydych chi oll yn ei wneud allan yn y byd, a sut y mae CyDA wedi eich helpu chi ar y daith hon.
Mae CyDA yn gymuned unigryw a grëwyd gan ac ar gyfer pobl fel chi. Am dros 50 mlynedd, rydym wedi bod yn ysbrydoli, yn hysbysu ac yn galluogi ein gilydd i gymryd camau ystyrlon er mwyn sicrhau byd gwell.
O sgiliau ymarferol i ysbrydoliaeth bwerus, mae CyDA wedi cynorthwyo miloedd o bobl ar eu teithiau cynaliadwyedd.
Nawr, hoffem glywed gennych chi er mwyn deall sut y mae ein gwaith wedi galluogi newid gyda’ch bywyd, eich cymuned a thu hwnt. Os ydych chi wedi dilyn cwrs, wedi gwirfoddoli, wedi mynychu cynhadledd neu wedi ymweld a chael eich ysbrydoli – mae eich stori yn bwysig.
A fyddech gystal â neilltuo amser i lenwi’r ffurflen isod i adrodd eich stori chi.
(Ar hyn o bryd, dim ond yn Saesneg y mae ein ffurflen straeon CyDA ar gael, ond rydym yn gweithio ar fersiwn yn y Gymraeg fydd ar gael yn fuan.)
Pam rhannu eich stori?
Mae eich profiadau chi yn ein helpu i:
- Ddeall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu a sut y gall CyDA eu cynorthwyo.
- Ysbrydoli eraill i weithredu yn eu bywydau a’u cymunedau eu hunain.
- Cryfhau ein hachos dros sicrhau cyllid, fel y gallwn gyrraedd mwy fyth o bobl.
Pa fath o straeon yr hoffem eu clywed?
- A wnaethoch chi ddilyn cwrs CyDA a oedd wedi rhoi’r hyder i chi gychwyn ar brosiect newydd?
- A wnaeth ymweliad yn ystod eich plentyndod danio angerdd gydol oes dros gynaliadwyedd?
- A oedd gwirfoddoli wedi esgor ar lwybr gyrfa newydd i chi?
- A wnaethoch chi astudio yn CyDA ac a ydych chi’n dilyn gyrfa werdd nawr?
Beth bynnag fo’ch stori, byddem wrth ein bodd i’w chlywed. Gyda’n gilydd, gallwn arddangos grym cymuned CyDA a chreu dyfodol mwy cadarn a chynaliadwy.

Stori CyDA Hattie
Fe wnaethon ni sgwrsio ag un o’n cyn-wirfoddolwyr i ddarganfod sut wnaeth ei phrofiad o wirfoddoli gyda ni yn CyDA yn 2019 paratoi’r ffordd ar gyfer ei gyrfa mewn cadwraeth.

Graddedig CyDA, Julian Mills
“Mae CyDA a’r cwrs pensaernïaeth gynaliadwy wedi bod yn sylfaen i bwy rydw i wedi datblygu fel Pensaer, dylunydd ac yn ôl pob tebyg yn berson.”

