Beirdd yn cydweithio â CyDA i gyfleu atebion di-garbon

Beirdd yn cydweithio â CyDA i gyfleu atebion di-garbon


Home » Beirdd yn cydweithio â CyDA i gyfleu atebion di-garbon

Bydd beirdd o Brifysgol Aberystwyth yn cydweithio â CyDA i gyfansoddi barddoniaeth sy’n ystyried newid hinsawdd, natur a chynaliadwyedd.

Bydd aelodau o adrannau Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a Daearyddiaeth a Gwyddor Daear yn cydweithio â’n tîm Prydain Di-garbon i gyfansoddi cerddi sy’n ymdrin ag atebion hinsawdd a’r heriau a wynebir gennym wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd y beirdd yn defnyddio ein hymchwil, arferion a’n hyfforddiant  Prydain Di-garbon fel ysbrydoliaeth ac i’w helpu i gyfleu materion yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd.

Bydd y cerddi yn Gymraeg a Saesneg, ac yn cael eu harddangos yn ein canolfan eco lle y gall ymwelwyr eu darllen, cyn cael eu harddangos ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Anna Bullen o’n tîm Prydain Di-garbon:  “Ein cenhadaeth yma yn CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Bydd cael dealltwriaeth newydd o’r heriau a’r potensial ar gyfer defnyddio arferion creadigol fel rhan o’r ddeialog di-garbon yn llywio ein hymdrechion i gyfleu atebion amgylcheddol yn effeithiol i’r cyhoedd yn ehangach.”

Meddai’r Athro Matthew Jarvis o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol:  “Trwy hyfforddiant, darlithoedd a deialog gyda staff Canolfan y Dechnoleg Amgen, byddwn yn astudio ymatebion ymarferol ar gyfer dyfodol cynaliadwy gan ystyried materion megis bioamrywiaeth, ynni adnewyddadwy ac adeiladu cynaliadwy. Byddwn yn dysgu am arwyddocâd nodau sero net i gynllunio atebion amgylcheddol i’r argyfwng hinsawdd, a byddwn yn ystyried sut beth fyddai bywyd di-garbon.

“Yna byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfansoddi barddoniaeth sy’n ystyried y materion dan sylw ac a fydd, gobeithio, yn tanio dealltwriaeth ehangach o’r cysyniad di-garbon ymhlith y darllenwyr.”

Y beirdd sy’n cydweithio ar y prosiect yw’r Athro Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury o’r Adran Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd, yr Athro Matthew Jarvis a Dr Gavin Goodwin o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a’r Dr Hywel Griffiths o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear.

Mae Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol wedi dyrannu cyllid i Brifysgol Aberystwyth trwy ei Gronfa Pontio Disgyblaethau er Atebion Amgylcheddol i gefnogi’r prosiect. Mae’r arian hwn yn cefnogi academyddion ac ymchwilwyr i weithio ar draws ffiniau disgyblaethol ac, wrth wneud hynny, i ddatblygu dealltwriaeth am wahanol safbwyntiau a methodolegau ymchwilio y gellir eu defnyddio i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol.

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.