Cardiau post o’r dyfodol


Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Cardiau post o’r dyfodol

Yn eich barn chi, sut olwg fydd ar y byd mewn 10 mlynedd?

Rhan o waith CyDA yw ystyried sut olwg fydd ar y dyfodol. Sut allai cynhesu byd eang effeithio ar ein bywydau ni a bywydau eraill, a beth y gallwn ei newid er mwyn creu byd sy’n well ar gyfer pobl a bywyd gwyllt?

Allwch chi ysgrifennu cerdyn post atoch chi eich hun o fyd di-garbon?

BYDD ANGEN

  • Pen
  • Papur maint cerdyn post (15cm x 10.5cm)
  • Eich dychymyg a’ch doethineb

CAM WRTH GAM

1. Dychmygu byd newydd

Dechreuwch drwy ddychmygu sut olwg allai fod ar eich bywyd ar ôl i gynhesu byd-eang ei newid. Sut mae’r tirlun o’ch cwmpas wedi newid? Oes yna newidiadu eraill? Beth am y bwyd yr ydych yn ei fwyta, y ffordd yr ydym yn teithio, ble rydym yn mynd ar ein gwyliau, beth yr ydym yn ei wisgo? A ydym wedi addasu i fywydau carbon isel newydd a chlyfar?

2. Sut olwg sydd ar y dyfodol?

Mewn cerdyn post o’r dyfodol, allwch chi ddisgrifio’r byd newydd hwn? Allwch chi dynnu llun ohono? Defnyddiwch eich dychymyg a byddwch yn gadarnhaol ac yn arbrofol. Meddyliwch am fwyd, teithio, ysgol, gwaith, cymunedau a natur. Sut allwn ni newid pethau er gwell?

3. Anfonwch ef!

Er bod mynd i swyddfa’r post yn anodd ar hyn o bryd, hoffem glywed oddi wrthych! Beth am dynnu llun o’ch cerdyn post a thagio CyDA er mwyn i ni gael casglu’r holl storïau?

I rannu llun o’ch cerdyn post, postiwch ef ar dudalen facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar instagram. #CATatHome

O na fyddech yma!

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.