Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Gwaith Llaw Llesol

Gwaith Llaw Llesol


Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Gwaith Llaw Llesol

Beth am feithrin eich creadigrwydd drwy greu eich Mandala llonyddol eich hun allan o ddeunydd naturiol?

Profwyd bod arafu a threulio amser ym myd natur yn gwneud i ni deimlo’n dda! Gall ein bywydau prysur achosi straen a bod yn flinedig, ond pan fyddwn yn treulio amser ym myd natur gall ein meddyliau a’n cyrff ymlacio. Gall y profiad hwn gael effaith bwerus a chadarnhaol ar ein iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol!

Mae’r hydref yn amser bendigedig i wisgo’n gynnes a mynd am dro llesol yn y gwyllt a chreu mandala hydrefol. Gan ofalu eich bod yn cadw at y canllawiau Covid yn eich ardal chi, ewch allan am dro gyda’ch teulu yn yr awyr iach a gweld glesni ffrwythlon yr haf yn trawsnewid yn hudol i liwiau aur, brown a choch yr hydref.

Defnyddiwch eich synhwyrau (golwg, clyw, cyffwrdd ac arogleuo) i archwilio eich amgylchedd hydrefol a chasglu’n ofalus ddeunyddiau naturiol sydd wedi cwympo a mynd â hwy adre gyda chi i wneud mandala hydrefol. Edrychwch ar ein gweithgaredd Archwilio â’ch Synhwyrau am awgrymiadau.

Darlun cymhleth yw mandala a grëir ar y llawr ac a ddefnyddiwyd yn draddodiadol yng nghrefydd Fwdhaidd Tibet fel math o fyfyrdod i wella a chanolbwyntio’r meddwl. Ystyr y gair ‘mandala’ yw ‘cylch’. Ceir y siapiau eiconig hyn mewn diwylliannau modern a hynafol ledled y byd ac fe’u defnyddir i gynrychioli cyfanrwydd a chysylltiad â’r byd naturiol. Maent yn aml yn gymesur ac wedi eu gwneud o dywod lliw neu ddeunyddiau naturiol.

Gall defnyddio deunyddiau naturiol sydd wedi cwympo i wneud eich mandala fod yn weithgaredd natur braf a llonyddol y gellir ei wneud yn yr awyr agored neu yn y tŷ. Os nad oes gennych ofod awyr agored, gallwch luniadu eich mandala gan ddefnyddio lliwiau naturiol tymhorol, a gallwch gopïo lluniau coed a phlanhigion hydrefol o’r rhyngrwyd.

Bydd angen

  • Gwirio’r canllawiau Covid yn eich ardal chi.
  • Eich gardd, parc lleol, coedwig gyhoeddus neu leoliad natur.
  • Tiwnio i mewn i’ch synhwyrau (golwg, clyw, arogleuo a chyffwrdd)
  • Unrhyw ddeunydd naturiol y gallwch ddod o hyd iddynt (brigau, dail sydd wedi cwympo, plu, hadau coed, podiau hadau sych)
  • Man clir ar lawr neu ford

Mandalas hydrefol – Cam wrth gam

1. Canfod eich llonyddwch

Mewn amryw o draddodiadau, defnyddir mandala i ganolbwyntio’r meddwl a chanfod heddwch a llonyddwch. Cyn dechrau ar eich mandala, cymerwch ychydig o anadliadau araf, dwfn i mewn ac allan a cheisiwch dawelu eich meddwl a distewi unrhyw ofidiau.

2. Chwilota gofalus

Nawr bod eich meddwl yn dawel, gallwch fynd allan i gasglu deunyddiau naturiol o’ch gardd neu ofod awyr agored. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae planhigion a choed yn trawsnewid o lesni ffrwythlon i liwiau’r hydref – aur, brown a choch.

Ceisiwch gasglu pethau sydd eisoes wedi cwympo i’r ddaear a phethau rydych yn gyfarwydd â hwy gan fod rhai planhigion yn pigo neu’n wenwynllyd. Yn olaf, ewch â phethau sy’n doreithiog yn unig i sicrhau nad ydych yn cymryd bwyd creaduriaid gwyllt.

Ystyriwch siâp, lliw ac ansawdd y pethau a welwch. Sut byddant yn edrych gyda’i gilydd?

3. Dechrau yn y canol

Gwasgarwch eich deunyddiau i weld beth sydd gennych. Mae mandala’n aml yn dechrau yn y canol ac yn tyfu allan o’r fan honno. A oes rhywbeth yn eich casgliad fyddai’n gwneud canolbwynt perffaith?

Rhowch yr eitem hon yng nghanol eich gweithle gan adael digon o le o amgylch i adeiladu eich mandala.

 

Autumn Mandala
Llun gan Hanna Bullen – Celf Ryner

4. Dyluniad cymesur

O’ch canolbwynt, dechreuwch adeiladu eich mandala mewn haeniau cylchol. Mae dyluniadau mandala gan amlaf yn arddangos cymesuredd rheiddiol (os torrwch ef unrhyw le drwy’r canol, fe fydd y ddwy ochr yr un peth pob tro, fel cacen).

Cofiwch hyn wrth greu eich mandala. Allwch chi ddod o hyd i ddail, brigau, blodau a phlu sydd yr un fath?

Autumn Mandala
Llun gan Hanna Bullen – Celf Ryner

5. Ailddylunio ac ailwneud

Mae mandalâu o’u hanfod yn bethau dros dro, felly gofalwch gymryd digon o luniau o’ch creadigaeth cyn iddynt ddiflannu. Yr hyn sy’n dda yw, gallwch ail-lunio ac ail-wneud eich mandalâu dro ar ôl tro, ond cofiwch rannu eich lluniau gyda ni.

Hoffem weld llun o’ch mandala. Gofynnwch i oedolyn i’w rannu â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

  • Facebook – @centreforalternativetechnology
  • Twitter – @centre_alt_tech
  • Instagram – @centreforalternativetechnology

 

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein drwy gofrestru i dderbyn e-negesau a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.