Ynni Adnewyddadwy
Gydag enghreifftiau di-ri o arddangosfeydd ynni adnewyddadwy gweithiol, digon o lefydd dosbarth a chyfoeth o diwtoriaid arbenigol, mae CyDA yn gymwys i ymdrin â’r maes hwn.
Ymchwilio i ynni adnewyddadwy, deall yr egwyddorion a darganfod pam ei fod yn bwysig. Ymchwilio i wahanol systemau generadu a sut i storio ynni. Edrych ar enghreifftiau cynnar o dyrbinau gwynt a dysgu mewn modd ymarferol am gynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy.
Dewch i brofi ein gweithdai a’n gweithgareddau pŵer gwynt neu ein taith dywysedig arbenigol am ynni adnewyddadwy.




