
Adeiladau Carbon Isel a Sero Carbon
Ymunwch ag wythnos addysgu myfyrwyr CyDA ac ymchwiliwch i’r gofynion er mwyn sicrhau bod adeiladau newydd ac adeiladau y gwnaethpwyd gwaith ôl-osod arnynt yn bodloni statws allyriadau Carbon Isel a Sero Carbon.
Trwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd, trafodaethau a gweithgareddau ymarferol, byddwch yn dysgu law yn llaw â’n myfyrwyr ôl-raddedig ar ein cyrsiau MSc, gan gynnwys ein cwrs Meistr mewn Adeiladu Gwyrdd.
Byddwch yn cael blas o’r profiad o astudio ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig yn CyDA ac yn cael gwybodaeth a sgiliau hynod o werthfawr ynghylch sut y gellir cyfrifo neu fodelu trosglwyddiadau ynni mewn adeiladau a sut y gellir defnyddio hyn i optimeiddio gwaith dylunio er mwyn defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon.
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: pum diwrnod
- Dyddiadau nesaf: Dydd Llun 8 Tachwedd tan Dydd Gwener 12 2025
- Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd yn cychwyn am 10yb ac yn gorffen am 1yp ar y diwrnod olaf
- Ffioedd: £700
- Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, cinio
- Sylwer NAD oes llety ar gael ar hyn o bryd yn CyDA ar gyfer y cwrs hwn. Efallai y caiff lleoedd eu rhyddhau pan fydd myfyrwyr wedi archebu eu llety ym mis Medi.
- Bydd angen: fe’ch cynghorir i ddod ag esgidiau da a dillad sy’n dal dŵr
- Amodau a Thelerau:
- Rhaid eich bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Cliciwch yma am restr lawn o’r amodau a thelerau
Bydd y sawl a fydd yn mynychu yn cael tystysgrif presenoldeb am ymuno â’r cwrs ar ddiwedd yr wythnos. Os byddant yn dymuno cofrestru ar gwrs ôl-raddedig yn CyDA ac astudio’r modiwl ar eu cwrs yn y dyfodol, byddant yn gallu cael gostyngiad ar y costau dysgu.
Cwrs ar gyfer pwy yw hwn?
Mae’r wythnos hon ar gyfer pobl sy’n dymuno cael blas o astudio ar lefel ôl-raddedig yn CyDA, ac y maent yn dymuno cael gwybodaeth am y ffordd y gallwn sicrhau bod ein hadeiladau a’n cartrefi yn defnyddio ynni mewn ffordd fwy effeithlon.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae angen lleihau cyfanswm yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio i wresogi cartrefi ac adeiladau yn gyflym os ydym yn mynd i leihau allyriadau gan gymdeithas mewn ffordd ddigon cyflym i ymateb i heriau yr argyfwng hinsawdd ac addasu i newidiadau amgylcheddol.
Mae gwella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau newydd ac adeiladau sy’n bodoli eisoes yn rhan hanfodol o’r ymateb hwn. Ar y cwrs byr hwn, cyflwynir cyfranogwyr i ddull gweithredu aml-ddisgyblaethol sy’n gallu cael ei ddefnyddio er mwyn arfarnu a helpu i gyfrannu at ddyluniad adeiladau.
Mae’r pynciau a ystyrir yn cynnwys:
- Llif Ynni a Màs mewn Adeiladau
- Gwerthusiad o berfformiad adeilad ar ôl ei ddefnyddio
- Pontydd thermol
- Màs thermol mewn adeiladau
- Ynni Solar
- Aerglosrwydd, awyru ac oeri
- Symudiad lleithder mewn ffabrig adeilad
- Lleithder perthynol, rheoli lleithder yn fewnol a byffro lleithder
- Efelychiad cyfrifiadurol o berfformiad thermol a hygrosgopig adeilad
- Adeiladau carbon isel a sero carbon, gan gynnwys Passivhaus
- Ôl-osod – technegau, pwysigrwydd parhad, manylder
- Ôl-osod – heriau i ddefnyddwyr
Sut y byddaf yn dysgu
Trwy ddarllen ymlaen llaw a rhai darlithoedd rhagarweiniol a recordiwyd ymlaen llaw, darlithoedd byw wyneb yn wyneb, trafodaethau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau ymarferol yn CyDA.
Mae’r cwrs byr hwn yn rhan o’r wythnos addysgu ar gyfer modiwl Adeiladau Carbon Isel a Sero Carbon y cwrs MSc. Dylech fod yn ymwybodol o’r ffaith y bydd rhai gweithgareddau a chynnwys yn ystod yr wythnos ar gael i fyfyrwyr yn unig efallai, a phan na fydd gweithgarwch yn briodol ar gyfer y sawl sy’n mynychu’r cwrs byr, byddwn yn ceisio trefnu gweithgarwch yn ei le.
Cyfarfod eich tiwtor
Arweinwyr y Modiwl
Mae Ivor yn addysgu ar raglen Adeiladu Gwyrdd CyDA yn bennaf, lle y mae’n arbenigo mewn dylunio cynaliadwy, perfformiad adeiladau a phopeth sy’n ymwneud â phren. Mae Ivor yn wyddonydd ac yn dechnolegydd pren. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y ffordd y gall pren a deunyddiau cysylltiedig gyfrannu at wella perfformiad adeilad a’r economi gylchol. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei waith ar ddylunio a pherfformiad ffasadau pren.
Mae Anna Poston yn diwtor ac yn uwch-ddarlithydd ar Raglenni Adeiladu Gwyrdd, SA, SEPDM ac SBC. Gyda chefndir ym maes ymchwil a dylunio Pensaernïol, mae hi’n darlithio ynghylch dylunio cynaliadwy, pensaernïaeth amgylcheddol, perfformiad adeiladau a deunyddiau adeiladu cynaliadwy.
Tiwtoriaid a darlithwyr eraill
Law yn llaw ag arweinydd y modiwl a staff arbenigol yr Ysgol Graddedigion, arweinir sesiynau addysgu gan amrediad o siaradwyr gwadd a darlithwyr sy’n gweithio yn y sector ac yn y byd academaidd ar hyn o bryd, sy’n ymuno â’r myfyrwyr ar y safle neu trwy ffrydiau byw.
Searching Availability…
