Ailwampio Eco

Ailwampio Eco

Ailwampio Eco

155 155 people viewed this event.

Trawsnewid adeiladau yn gartrefi clyd, effaith isel ac effeithlon o ran ynni.

Mae ailwampio ein cartrefi i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni yn un o’r elfennau allweddol mewn gweithredu’n effeithiol yn erbyn newid hinsawdd. Dysgwch gan un o arbenigwyr blaenllaw’r DU ar ailwampio eco i weld pa welliannau allweddol y gallwch chi eu gwneud.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: pedwar diwrnod
  • Dyddiadau nesaf:

    • Dydd Llau 3 Medi tan Dydd Sul 3 2025

  • Amser: dechrau am 10yb a gorffen am 4yp ar y diwrnod olaf
  • Cost: £650
  • Yn cynnwys: cinio, ffioedd dysgu a’r holl ddeunyddiau
  • Mae llety llawn a phob pryd ar gael ar gyfer y cwrs yma: £324 am ystafell wely sengl. (Mae’r opsiwn yma ar gael unwaith i chi glicio “Available” neu “Book Now” islaw)
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol, bydd angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch gyda chi.
  • Telerau ac Amodau:

    • Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut i wneud gwelliannau hanfodol i’ch cartref i’w wneud yn fwy cyfforddus, yn rhatach i’w redeg ac yn well i’r amgylchedd.

Byddwch yn dysgu hefyd am effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, ail-ddefnyddio ac arbed dŵr, adeiladau iach a deunyddiau adeiladu peryglus.

Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer adeiladwyr, penseiri ac unrhyw un sydd am fynd ati i ailwampio adeilad heb effeithio’n ormodol ar yr amgylched.

Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:

  • Insiwleiddio waliau solet.
  • Deunyddiau insiwleiddio, o’r rhai sydd ar gael yn gyffredin i’r rhai diweddaraf, gan edrych ar y problemau ymarferol a’r cyfaddawdu sy’n gysylltiedig â phob un.
  • Gwerth U deunyddiau a deall sut mae adeiladau’n colli gwres.
  • Dysgu am opsiynau ynni adnewyddadwy a systemau dŵr cynaliadwy drwy archwiliad arbenigol o’r systemau sydd ar waith yn CyDA.
  • Ymgynghori a chyngor ar eich prosiect ailwampio eco eich hun.
  • Os ydych yn ystyried troi eich adeilad yn gartref neu’n swyddfa effaith isel ac effeithlon o ran ynni, bydd y cwrs yma’n eich helpu i ddeall ble i ddechrau ac yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi i allu dewis y dulliau a’r deunyddiau sy’n gweddu orau i’ch anghenion.

Cyflwyniad i’ch tiwtor

Mae Nick Parsons wedi gweithio am dros 25 mlynedd ym meysydd adeiladu ynni-effeithlon a chynaliadwy, ac ynni adnewyddadwy.

Mae Nick yn cynnal arolygon ynni yn y cartref er mwyn asesu unrhyw welliannau posibl o ran effeithlonrwydd ynni a gosodiadau ynni adnewyddadwy, ac mae’n darparu gwasanaethau ymgynghori a rheoli prosiectau i unigolion, busnesau bach a sefydliadau cymunedol gan gynnwys, ymhlith eraill, pwyllgorau neuaddau pentrefi, grwpiau ffydd a hosteli heicwyr.

Cyn hynny, bu’n rhedeg prosiect sector gymunedol yn Sheffield, yn hyrwyddo ac yn dangos pob agwedd ar adeiladu cynaliadwy, wedi’i leoli mewn tŷ teras oedd wedi’i eco-ailwampio.

Beth mae pobl yn ei ddweud am y cwrs?

“Wedi’i gyflwyno â brwdfrydedd, ac yn cynnwys llwyth o wybodaeth, cyfuniad da o’r ymarferol a theori. Roedd y cyfleusterau’n wych, amgylchedd dysgu da, popeth wedi llifo’n dda, ac yn teimlo’n gartrefol ac yn gyfforddus.”

“Roedd y gallu i gyfleu theori hynod o gymhleth yn ardderchog, a’r tiwtoriaid yn amyneddgar. Dwi wedi bod yn gweithio yn y maes hwn ers cryn amser ac roedd cynnwys y cwrs yn rhagorol.”

“Wnes i fwynhau’r sesiynau ymarferol a’r holl brofiad o aros ar y safle. Roedd brwdfrydedd ac egni Nick yn ddi-ben-draw.”

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CyDA dros gyfnod eich cwrs byr? Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

  • Gwely a Brecwast y noson cyn y bydd eich cwrs yn cychwyn – £80 sengl
  • Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £324 sengl

Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk



Searching Availability…



To register for this event email your details to billy.aiken@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-09-03 @ 09:30 to
2026-09-06 @ 17:00
 

Location

 

Event Types

 

Event Category

Share With Friends