Arwain gyda Natur:  Arweinyddiaeth Adfywiol i Fenywod

Arwain gyda Natur:  Arweinyddiaeth Adfywiol i Fenywod

Arwain gyda Natur:  Arweinyddiaeth Adfywiol i Fenywod

15 15 people viewed this event.

Addysg weithredol i fenywod sy’n arwain cynaliadwyedd a newid systemau ar lefel uwch.

Cwrs addysg preswyl gweithredol i fenywod sy’n arwain cynaliadwyedd a newid systemau, gan archwilio dulliau systemau byw sy’n cryfhau eu hawdurdod, eu heffaith a’u cydnerthedd personol.

Mae’n gyfnod tyngedfennol i’n byd.  Nid heriau damcaniaethol mwyach yw colli bioamrywiaeth, yr hinsawdd yn methu ac anghydraddoldebau cymdeithasol cynyddol – maent yn siapio penderfyniadau arwain pob dydd.  Er hyn, mae nifer o sefydliadau yn dibynnu ar fodelau arwain mecanistig ac sy’n seiliedig ar effeithlonrwydd o hyd, sydd wedi’u datgysylltu o systemau byw – dulliau nad ydynt yn cyd-fynd â chymhlethdod yr adeg hon yn gynyddol.

Yn aml, bydd menywod sy’n cyflawni rolau ym maes cynaliadwyedd ac sy’n canolbwyntio ar gael effaith yn arwain newid dan yr amodau hyn, gan ddal timau ynghyd, delio ag amwysedd, dylanwadu heb awdurdod llawn, a chyflawni mwy na’u rhan yn dawel. Mae Arwain gyda Natur yn gwrs addysg weithredol preswyl dros dri diwrnod i fenywod ar lefel uwch sy’n dymuno arwain newid systemig mewn ffyrdd sydd â sylfaen gadarn, sy’n effeithiol ac yn gynaliadwy – iddyn nhw, yn ogystal ag yn y gwaith.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd:  3 – 5 Gorffennaf
  • Pris:  £1,200 (yn cynnwys llety, arlwyaeth a ffioedd dysgu)
  • Amser: dechrau am 2yp a gorffen am 2yp ar y diwrnod olaf
  • Bydd angen:  Dillad priodol i’w gwisgo yn yr awyr agored ac yn ystod tywydd gwlyb, gan gynnwys esgidiau ar gyfer sesiynau yn yr awyr agored a sesiynau natur unigol.  Mat bychan neu rywbeth i eistedd arno sy’n dal dŵr.  Dillad anffurfiol a chyffyrddus i’w gwisgo y tu mewn.  Mat ioga neu ymarfer corff a dillad llac.
  • Telerau ac Amodau

Ynglŷn â’r cwrs

Cynhelir y cwrs yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen yng Nghymru, yng nghanol y bryniau a’r coetiroedd o’i hamgylch, ac mae’n cynnig seibiant prin o weithgarwch cyson delio â phroblemau.  Trwy gyfrwng cyfuniad o ddamcaniaeth arwain adfywiol, hyfforddiant gweithredol, dysgu gan gymheiriaid ac arferion sy’n seiliedig ar natur, bydd cyfranogwyr yn cymryd cam yn ôl i fyfyrio, ailgysylltu ac ad-drefnu’r ffordd y maent yn arwain.

Gyda lens rhywedd clir, mae’r cwrs yn archwilio sut y mae normau arwain a etifeddir yn siapio hyder, gweithgarwch penderfynu a phatrymau gor-gyfrifoldeb menywod, gan gyflwyno dulliau amgen hygred wedi’u hymwreiddio mewn systemau byw.  Mae cyfranogwyr yn gweithio gyda heriau arwain go iawn o’u rolau eu hunain, gan sicrhau bod dirnadaeth yn trosi i’w cyd-destun sefydliadol nhw yn uniongyrchol.

Nid yw hyn yn ymwneud ag ychwanegu mwy o offer neu wneud mwy.  Mae’n ymwneud ag arwain mewn ffordd wahanol – gyda mwy o eglurder, cadernid ac awdurdod. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda syniad mwy clir o’r hyn y mae gofyn iddyn nhw ei gario, yn fwy hyderus yn eu dylanwad, ac yn meddu ar adnoddau gwell i arwain newid ystyrlon dros y tymor hir.

Cwrs ar gyfer pwy yw hwn?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer:

  • Menywod ar lefel uwch a chanol uwch sy’n arwain timau, rhaglenni neu strategaeth
  • Sy’n gweithio ym maes cynaliadwyedd, yr hinsawdd, yr amgylchedd, effaith gymdeithasol neu’r pontio gwyrdd
  • Arweinwyr sydd â chyfrifoldeb dros bobl, cyllidebau a phenderfyniadau cymhleth
  • Menywod sy’n ymboeni’n fawr am effaith ac sy’n cwestiynu cost bersonol y ffordd y maent yn arwain ar hyn o bryd
  • Y rhai sy’n ceisio cynnwys trwyadl, lle i feddwl, gan ddysgu ochr yn ochr â chymheiriaid sy’n deall eu realiti
  • Ar agor i bawb sy’n uniaethu fel menywod.

Mae’r cyfranogwyr yn weithwyr proffesiynol profiadol sy’n gwerthfawrogi myfyrio, dyfnder a gweithrediad, ac sy’n dymuno cael datblygiad arweinyddiaeth sy’n hygred ar lefel ddeallusol ac sy’n cynnal ar lefel bersonol.intellectually credible and personally sustaining.

Regenerative Leadership for Women training

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr:

  • Yn deall arweinyddiaeth adfywiol a pham bod modelau arweinyddiaeth alldynnol yn tanseilio effaith dros y tymor hir
  • Adnabod patrymau gor-gyfrifoldeb, brys a llafur anweledig yn eu rolau arwain
  • Cryfhau eu hawdurdod a’u dylanwad heb or-weithredu neu hunan-aberthu
  • Gweithredu meddwl trwy systemau gyda chymorth natur er mwyn delio â chymhlethdod, risg ac amwysedd
  • Datblygu ffyrdd ymarferol o arwain timau a sefydliadau mewn ffyrdd mwy adfywiol, cynaliadwy
  • Gadael gyda mwy o eglurder, hyder ac egni i arwain newid dros y tymor hir

Regenerative Leadership for Women training
Only use for Regenerative Leadership for Women training

Bydd cyfranogwyr yn archwilio:

  • Arweinyddiaeth adfywiol yn ymarferol – arweinyddiaeth sy’n addas yn y dyfodol ar gyfer cyfnodau VUCA.
  • Menywod, grym ac awdurdod – rhoi sylw i’r bylchau o ran awdurdod a dilemâu arweinyddiaeth mewnol
  • Mapio cyfrifoldeb – egluro’r hyn sydd i chi i’w gario (a’r hyn na ddylech chi ei gario)

  • Systemau a chymhlethdod – defnyddio natur a systemau byw wrth wneud penderfyniadau arwain

  • Cryfderau ac arddulliau arwain – trwy gyfrwng TetraMap a phersbectifau elfennol
  • Arferion arwain wedi’u hymwreiddio – myfyrio, synhwyro ac integreiddio sy’n seiliedig ar natur
  • Gweithredu ar gyfer heriau arwain go iawn – trosi dirnadaeth yn weithredu

Tiwtoriaid

Tiwtor Arweiniol:

Mae Rhian Sherrington yn Hyfforddwr Gweithredol ac yn ymarferydd datblygu arweinyddiaeth sy’n arbenigo mewn cynorthwyo menywod sy’n arwain ar gynaliadwyedd, yr hinsawdd a newid systemau.

Mae’n cynllunio ac yn darparu rhaglenni datblygu arweinyddiaeth a hyfforddiant grŵp ar gyfer menywod sydd ar lefel hanner-gyrfa i lefelau uwch, ynghyd â hyfforddiant gweithredol un-i-un gydag arweinwyr yn ymateb i gymhlethdod, cyfrifoldeb a dylanwad mewn rolau sy’n cael eu hysgogi gan ddiben.  Mae ei gwaith yn eistedd yn y man lle y mae arweinyddiaeth, rhywedd a meddwl adfywiol yn croesi.

Rhian yw sylfaenydd a Phrif Hyfforddwr Rhwydwaith Menywod mewn Cynaliadwyedd (WINS), cymuned fyd-eang o weithwyr proffesiynol benywaidd sy’n gweithio ar draws sectorau cynaliadwyedd ac amgylcheddol.  Mae ei dull yn manteisio ar egwyddorion arweinyddiaeth adfywiol, meddwl trwy systemau a dysgu sy’n seiliedig ar natur, gan gyfuno tryloywder gyda myfyrio ac arfer wedi’i ymwreiddio.

Mae’n hwylusydd TetraMap® ac yn hyfforddwr Mighty Heart® ardystiedig ac mae wedi gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys Banc Triodos, ClientEarth, Cymdeithas y Pridd, Eunomia Research & Consulting, Historic England a Phrifysgol Rhydychen.

Tiwtor Cyfrannol

Mae Jannine Barron yn gweithio gydag arweinwyr busnes llawn gweledigaeth, o sylfaenwyr unigol i gwmnïau o faint canolig sy’n cydnabod nad tuedd yw adfywio, ond y dyfodol sy’n dod i’r amlwg.  Mae hi’n hyfforddwr arwain ardystiedig, yn ymarferydd ymdrochi coedwig ac yn fentor busnes.

Fel sylfaenydd Nature’s Boardroom a The Growth Experience, mae’n dwyn y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gael perthynas uniongyrchol gyda’r byd byw fel rhan annatod o strategaeth.  Trwy gyfrwng ei gwaith mentora preifat a’i gwaith cynghori ar newid systemau, mae Jannine yn llais natur mewn sefydliadau ac mae’n siaradwr ac yn athrawes ynghylch grym natur ac adfywio fel grym trawsnewidiol yn ystod yr oes hon.



Searching Availability…



To register for this event email your details to billy.aiken@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-07-03 @ 14:00 to
2026-07-05 @ 14:00
 

Event Types

 

Event Category

Share With Friends