
Bio-Blitz Gŵyl y Banc yn CyDA
Ymunwch â thîm CyDA ar gyfer gweithgaredd cyfri natur ymarferol i gofnodi a diogelu ein bioamrywiaeth leol.
Darganfyddwch y bywyd gwyllt rhyfeddol sy’n rhannu ein safle yn ystod ein Bio-Blitz Gŵyl y Banc sy’n addas i’r teulu i gyd. Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim yma yn gwahodd pobl o bob oedran sy’n angerddol dros natur i fod yn ‘wyddonwyr dinasyddion’ am y diwrnod. Gan ddefnyddio Theatr Strawbale CyDA fel ein safle ar gyfer gweithredoedd y diwrnod, gallwch fynd ati i archwilio pyllau, cael cip ar drapiau dros nos gwyfynod, cyfri rhywogaethau gan ddefnyddio trawsluniau gloÿnnod byw, ac arolygu ein dolydd haf.
Bydd pob creadur a phlanhigyn a welwch yn cael ei gofnodi gan ddefnyddio’r ap iNaturalist, gan ddiweddaru cofnodion cadwraeth CyDA yn uniongyrchol a chyfrannu at ddata bioamrywiaeth hanfodol ar gyfer y dyffryn i gyd. P’un a ydych chi’n draciwr profiadol neu newydd ddechrau a’n chwilfrydig, does dim os nac oni bai y bydd yn ddiwrnod gwych o sbïo ar natur.
Mae cinio llysieuol blasus ar gael o Gaffi CyDA gyda lluniaeth ar gael drwy gydol y dydd.
Archebwch eich tocyn digost ymlaen llaw i’n helpu ni gadw golwg ar niferoedd y diwrnod gan ddefnyddio’r ddolen archebu isod. Archebu’n hanfodol
Gwybodaeth allweddol
- Dyddiad: Dydd Llun 31 Awst
- Amser: 10yb i 3yp
- Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr CyDA
- Mynediad: Am ddim Archebu’n hanfodol
- Parcio: Am ddim
- Mae’r mynediad drwy gerddediad serth 5 – 10 munud i fyny o faes parcio isaf CyDA. Mae parcio i bobl anabl ar gael ar ben ucha’r rhiw.
Searching Availability…
