
Briffio Argyfwng y Bobl: Dangosiad a Thrafodaeth
Ymunwch â ni yn CyDA ar ddydd Gwener 21 Awst 7:30yp am ddangosiad AM DDIM o Friffio Argyfwng y Bobl – ffilm holl bwysig sy’n dod â naw gwyddonydd ac arbenigwr blaenllaw o’r DU ynghyd i gyflwyno’r dystiolaeth ddiweddaraf ar yr argyfwng hinsawdd a natur a pham ei bod yn bwysig.
Mae’r dangosiad a’r drafodaeth yn rhan o raglen ehangach Cynhadledd Flynyddol CyDA, a gynhelir eleni dros benwythnos 21-23 Awst. Rydym yn agor y dangosiad yma o Friffio Argyfwng y Bobl fel digwyddiad annibynnol, am ddim.
Bydd Mike Berners-Lee, yr athro, awdur ac ymchwilydd ôl troed carbon clodfawr a gadeiriodd y Briffio Argyfwng Cenedlaethol yn San Steffan yn wreiddiol, yn cyflwyno’r dangosiad. Bydd Mike hefyd yn siaradwr gwadd yng nghynhadledd CyDA.
Ar ôl y ffilm bydd trafodaeth agored a phanel am yr hyn y mae’n ei olygu i’n cymunedau a’r hyn y gallwn ei wneud ar lefel leol.
Briffio Argyfwng Cenedlaethol
Yn ystod Tachwedd 2025, dyma’r Briffio Argyfwng Cenedlaethol yn cymryd lle yn San Steffan. Dyma naw o arbenigwyr blaenllaw’r DU ar y chwalfa hinsawdd a natur, yn rhannu beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer iechyd, systemau bwyd, diogelwch gwladol a’r economi, a dyma nhw’n briffio 1,200 o wleidyddion ac arweinwyr o fusnes, diwylliant, ffydd, chwaraeon a’r cyfryngau, gydag ymddangosiadau o Chris Packham, Deborah Meaden ac amrywiaeth o leisiau o ar draws y DU.
Fe ffilmiwyd y digwyddiad ac yna ei droi i mewn i ffilm Briffio Argyfwng y Bobl – y ffilm 50 munud sydd nawr yn cael ei sgrinio ar draws y wlad ac wedi’i amlygu gan ITV, Sianel 4 a’r Times. Y syniad yw adeiladu ymchwydd o alwad ar y Llywodraeth i ymateb ar frys ac ar raddfa i’r sefyllfa fygythiol ar lefel argyfwng yr ydym nawr ynddo.
Gellir gweld mwy o fanylion a gwybodaeth am weithrediadau y gellir ei gymryd ar wefan Briffio Argyfwng Cenedlaethol. Os yr hoffwch flas o beth mae’r ffilm fel, gellir gwylio trelar o’r ffilm ar YouTube yma.
Gwybodaeth Allweddol:
- Hyd: 1 awr a hanner, gan gynnwys sgrinio a sgwrs
- Dyddiad: Dydd Gwener 21 Awst
- Amseroedd dechrau a gorffen: 7:30-9:00yh
- Lleoliad: Y Theatr Sheppard, adeilad WISE
- Mae mynediad am ddim ond mae llefydd yn gyfyng felly gofynnwn i chi arwyddo fyny o flaen llaw. Rydych wedi’ch annog i ddod a ffrind, cymydog neu aelod o’ch teulu: mae croeso i bawb. Ond plîs noder, nid yw’r ffilm wedi’i argymell ar gyfer y rheini sydd o dan 16.
- Bydd bar Donnelly ar agor o 7yh
- Noder: mae’r ffilm ond yn cael ei ddangos mewn dangosiadau ac nid yw ar gael ar lein.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y digwyddiadau hyn, plîs cyfeiriwch nhw at gsmo@cat.org.uk
Searching Availability…
