Cwrs Deuddydd Rheolaeth Gynaliadwy Rhandiroedd -Gwanwyn/Haf 

Cwrs Deuddydd Rheolaeth Gynaliadwy Rhandiroedd -Gwanwyn/Haf 

Cwrs Deuddydd Rheolaeth Gynaliadwy Rhandiroedd -Gwanwyn/Haf 

1184 1184 people viewed this event.

Fersiwn deuddydd o gwrs poblogaidd Rheolaeth Gynaliadwy Rhandiroedd CyDA – yn cwmpasu’r sgiliau allweddol a’r theori sydd ei angen i redeg a rheoli rhandir yn gynaliadwy, gyda ffocws penodol ar gyfnodau’r gwanwyn a’r haf.

Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer garddwyr newydd a phrofiadol yn ddiwahân. Dewch i dreulio penwythnos yn aros a garddio yn CyDA – dysgwch sut mae CyDA yn rheoli ei rhandiroedd a sut rydym yn addasu i’r argyfwng hinsawdd ac enillwch ddigonedd o wybodaeth y gallwch fynd gyda chi i ddechrau edrych ar ôl eich prosiect rhandir unigol neu gymunedol.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: dau ddiwrnod 
  • Dyddiadau ar ddod: 
  • 3 – 4 Ebrill 2027 
  • Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd yn cychwyn am 9.30yb ar 3 Ebrill ac yn gorffen am 4.30yp ar 4 Ebrill 
  • Cost y cwrs: £250 am lety llawn a phob pryd bwyd – bydd hyn yn cynnwys llety gwely a brecwast ar Ddydd Sadwrn 3 Ebrill, cinio, lluniaeth, hyfforddiant a’r holl ddeunyddiau 
  • Bydd angen arnoch: esgidiau cadarn a dillad addas ar gyfer y tywydd – cwrs ymarferol yw hwn allan yn y gerddi 
  • Telerau ac Amodau: 

    • Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau. 
    • Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma 

What you will learn

Treuliwch y penwythnos yng ngerddi CyDA yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o nifer o arferion pwysig gan gynnwys:

  • Paratoi cymysgeddau pridd ar gyfer gwlâu plannu rhandiroedd
  • Deall gofal pridd, compost a gwrteithion gwyrdd
  • Plannu hadau
  • Plannu allan
  • Dyfrhau gwlâu plannu rhandiroedd

Bydd egwyddorion damcaniaethol eraill a drafodir drwy gydol y penwythnos yn cynnwys:

  • Cynllunio ar gyfer y tymhorau a datrys problemau
  • Dysgu sut i weithredu gofal sy’n benodol i’r tymor yn ystod misoedd y gwanwyn a dechrau’r haf.
  • Plannu Tymhorol
  • Dulliau di-balu
  • Cynyddu cnwd
  • Yr offer hanfodol, defnyddio tŵls a diogelwch offer
  • Cylchdroi cnydau syml
  • Plannu planhigion cydymaith
  • Datblygu dealltwriaeth o sut i gefnogi bioamrywiaeth o fewn eich rhandir a pham fod cefnogi ecosystemau iach mor bwysig.
  • Garddio sy’n addasu i’r hinsawdd mewn lleoliad rhandir
  • Profi pridd
  • Plannu olynol ar gyfer hirhoedledd y tymor a’r cynnyrch gorau
  • Dulliau organig o reoli plâu

Manylion y Tiwtor

Mae Veronica wedi bod yn Geidwad Gerddi CyDA ers 2021. Gyda’i dull cyfannol o arddio, mae angerdd Veronica dros greu gofodau awyr agored bioamrywiol, ffyniannus, hygyrch i bawb, yn heintus ac mae ei chyrsiau’n llawn cyfoeth o wybodaeth am arddio tymhorol, ymarferol.

Searching Availability…

To register for this event email your details to billy.aiken@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2027-04-03 @ 09:30 to
2027-04-04 @ 16:00
 

Event Types

 

Event Category

Share With Friends