Cyflwyniad i Gadw Gwenyn

Cyflwyniad i Gadw Gwenyn

Cyflwyniad i Gadw Gwenyn

294 294 people viewed this event.

Cyfle i ddod i ddeall hanfodion cadw gwenyn ac archwilio bioleg gwenyn mêl a’u manteision amgylcheddol.

Bydd y cwrs 2 ddiwrnod hwn yn cynnig sylfaen drylwyr i chi mewn deall cylchoedd bywyd gwenyn mêl, yn ogystal â mathau eraill o wenyn a’r gwahanol ddewisiadau o ran yr offer y gallwch ei ddefnyddio a’r arddulliau rheoli y gallwch eu mabwysiadu er mwyn bod yn wenynwr sy’n ystyriol o wenyn.  Byddwch yn cael y cyfle i weld y tu mewn i nythfa gwenyn mêl byw ac yn cael eich atgyfeirio i lwybrau hyfforddiant a chymorth pellach er mwyn i chi allu cychwyn ar eich antur cadw gwenyn eich hun.  Darparir dillad diogelwch.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd:  dau ddiwrnod
  • Dyddiad:  Dydd Sadwrn 5 Medi – Dydd Sul 6 2026
  • Amseroedd cychwyn a gorffen:  bydd yn cychwyn am 10.00yb ac yn gorffen am 4.00yp ar y diwrnod olaf
  • Ffioedd:  £248
  • Yn cynnwys: cinio, ffioedd dysgu a’r holl ddeunyddiau
  • Mae llety llawn a phob pryd bwyd ar gael ar gyfer y cwrs hwn: £97 am ystafell wely i un person. (Bydd yr opsiwn hwn ar gael unwaith y byddwch yn clicio ar “Available” neu “Book Now” isod)
  • Beth fydd ei angen arnoch:  esgidiau – esgidiau glaw yn ddelfrydol a phâr o fenyg – dylai’r rhain fod yn fenyg rwber golchi llestri, sy’n ffitio’n dynn dros y llaw.
  • Amodau a Thelerau:

    • Rhaid eich bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Cliciwch yma am restr lawn o’r Amodau a Thelerau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Cewch yr holl wybodaeth angenrheidiol a’r sgiliau trin er mwyn i chi ddechrau cyfarwyddo â gwenyn mêl gan Jonathan Garratt, arbenigwr angerddol ynghylch gwenyn a chadw gwenyn.

Bydd Jonathan yn eich tywys trwy arferion cadw gwenyn sympathetig – gan weithio gyda gwenyn mêl mewn ffordd fwy naturiol.

Cewch ddysgu am bwysigrwydd a manteision gwahanol fathau o wenyn yn yr amgylchedd naturiol, gan ystyried eu rôl peillio, sut i’w hannog i ddod i’ch gardd, gwahaniaethau mewn cylchoedd bywyd, problemau y byddant yn dod ar eu traws a ffyrdd y gallwn helpu.

Bydd sesiynau ymarferol gyda gwenyn Jonathan yn ystyried sut i drin gwenyn mêl, prif elfennau ymarferol cychod gwenyn, gwahanol drefniadau gosod sydd ar gael gan gynnwys adeiladwaith fframiau a chychod gwenyn, a ble i leoli cychod gwenyn. Cewch wybod ble i gael gwenyn a pha offer y bydd ei angen (a pha offer na fydd ei angen arnoch!).

Byddwch hefyd yn dysgu sut y caiff mêl ei brosesu, o’r cwch i’r bwrdd, a sut y cynhyrchir cŵyr gwenyn. Ceir sawl defnydd ar gyfer y cynhyrchion hyn, a bydd Jonathan yn cynnig cyngor ac arweiniad, yn ogystal â chyngor am lyfrau, cylchgronau a gwefannau defnyddiol. Lleolir CYDA yn Biosffer Dyfi UNESCO, ac mae’r safle yn gartref i amrywiaeth eang o ecosystemau a bywyd gwyllt.

Mae’r cwrs hwn yn ffordd wych o ddysgu am wenwyn wrth dreulio ychydig amser yn ymlacio mewn amgylchedd naturiol, a dod yn fwy ymwybodol o rythmau naturiol byd natur a’ch synhwyrau chi.

Cyflwyniad i’ch tiwtoriaid

Jonathan Garratt

Amgylchynwyd Jonathan Garratt gan wenyn mêl yn ystod ei fagwraeth, pan arferai archwilio cychod gwenwyn ei dad ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, cyn ymgymryd â’r cyfrifoldeb drostynt yn y pen draw.

Yn ddiweddar, ymddeolodd o’r Uned Gwenyn Genedlaethol ar ôl 22 mlynedd, ac mae wedi bod yn cynnal cyrsiau cadw gwenyn am flynyddoedd lawer, yn annibynnol a thrwy gyfrwng sefydliadau megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Eryri, Prifysgol Bangor a’r Ganolfan Sgiliau Coetir.

Mae gan Jonathan radd BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddor Amgylcheddol a gradd Msc mewn Rheoli Adnoddau Gwledig, yn ogystal â Thystysgrif Dylunio Permaddiwylliant. Mae wedi cyflawni rolau amrywiol dros y blynyddoedd ym maes cadwraeth, yr amgylchedd, amaethyddiaeth ac ymgynghori amgylcheddol.

Mae Jonathan yn unigolyn hynod o frwdfrydig ac mae’n mwynhau trosglwyddo ei sgiliau i eraill a hyrwyddo holl rywogaethau gwenyn, yn ogystal â gwenyn mêl.

Lisa Mundle

Mae gan Lisa Mundle radd BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddor Amgylcheddol a Thystysgrif Dylunio Permaddiwylliant ac mae’n wenynwraig a hyfforddwr cymwys, gan reoli gweithgarwch prosesu a marchnata mêl a chynhyrchion cychod gwenyn. Mae Lisa yn arddwraig ac yn tyfu bwyd, ac mae ganddi ddiddordeb arbenigol mewn garddio i sicrhau peillwyr.

Mae Lisa yn gweithio i’r Gynghrair Gweithwyr Tir hefyd, sef undeb o ffermwyr, coedwigwyr a thyfwyr sy’n ceisio trawsnewid y system fwyd er budd natur a phobl.

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CYDA dros gyfnod eich cwrs byr? Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

  • Gwely a Brecwast y noson cyn y bydd eich cwrs yn cychwyn – £80 sengl
  • Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £97 sengl

Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk



Searching Availability…



To register for this event email your details to courses@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-09-05 @ 10:00 to
2026-09-06 @ 16:00
 

Location

 

Event Types

 

Event Category

Share With Friends