
Cyflwyniad i Reoli Adeiladau Treftadaeth
Dysgwch sut i ofalu am adeiladau treftadaeth a meithrin sgiliau ymarferol yn ystod y cwrs byr hwn yn CyDA, dros dau ddiwrnod a hanner.
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn neu sy’n ymwneud â gofalu am, trwsio, neu reoli adeiladau hanesyddol. Bydd yn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng effeithlonrwydd ynni, effaith amgylcheddol, esmwythdra ac iechyd deiliaid, wrth ddiogelu treftadaeth yr adeilad.
Ar y cwrs, byddwch yn datblygu sylfaen gadarn yn yr egwyddorion cadwraeth treftadaeth, gan sicrhau profiad gwerthfawr o weithio gyda deunyddiau traddodiadol a fframweithiau asesu ar yr un pryd.
Gwybodaeth Allweddol
- Hyd: 2.5 diwrnod
- Dyddiadau nesaf: Dydd Mawrth 21 Ebrill tan Dydd Iau 23 2026
- Amser: dechrau am 1.30yp a gorffen am 4yp ar y diwrnod olaf
- Amseroedd cychwyn a gorffen:
- Cychwyn: Dydd Mawrth 21 am 13.30pm
- Gorffen: Dydd Iau 23 am 4pm
- Ffi: £195
- Yn cynnwys: hyfforddiant a chinio.
- Bydd angen: Esgidiau cadarn a dillad sy’n dal dŵr.
- Telerau ac Amodau
- Rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Cliciwch yma am restr gyflawn o’r telerau ac amodau.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae’r cwrs yn cynnwys dwy brif elfen sy’n gysylltiedig:
1. Calch: O ddeunydd crai i’w ddefnydd ymarferol.
Mae’r arddangosiad a’r gweithdy cyntaf yn gyfle i weld sut y caiff Calch ei gynhyrchu o’i ddeunydd crai, gan ddefnyddio ‘odyn faes’ fach ac odyn ficro i drawsnewid Calchfaen yn Galch.
Yna, byddwch yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio’r Calch a gynhyrchwyd i wneud gwaith pwyntio a phlastro, dan arweiniad tiwtoriaid arbenigol.
2. Asesu arwyddocâd a chyflwr adeiladau hanesyddol
Gan weithio gyda rhai o fyfyrwyr gradd CyDA, byddwch yn cymryd rhan mewn asesiad strwythuredig o adeilad hanesyddol ar y safle. Bydd y sesiwn hon yn cynnig fframwaith ymarferol i chi er mwyn gwerthuso arwyddocâd treftadaeth a chyflwr – sgiliau y gallwch eu defnyddio yn eich prosiectau a’ch sefydliadau, neu mewn gwaith yn y dyfodol.
Bydd cyfres o deithiau, anerchiadau a chyfleoedd i drafod eich prosiectau chi gyda’n tiwtoriaid arbenigol yn gymysg â’r gweithgareddau Gweithdy hyn.
Cwrs ar gyfer pwy yw hwn:
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un a fyddai’n dymuno meithrin gwybodaeth a sgiliau ym maes rheoli adeiladau treftadaeth.
Nid oes gofyn cael unrhyw sgiliau adeiladu blaenorol ar gyfer y cwrs hwn.
Searching Availability…





