Darlith gyhoeddus: Sarah Woods

Darlith gyhoeddus: Sarah Woods

Darlith gyhoeddus: Sarah Woods

157 157 people viewed this event.

Ymunwch â myfyrwyr CyDA am ddarlith am ddim gan Sarah Woods wedi’i deitlo ‘Fel Oddi Allan fel Oddi Mewn’. Cynhelir nos Lun 13 Ebrill am 7yp.

Rydym wrth ein bodd i groesawu’r darlithydd gwadd Sarah Woods i CyDA yn ystod ein hwythnos addysgu ôl-raddedig ar gyfer y modiwl  ‘Cyfathrebu Newid Cymdeithasol Trawsffurfiol.’ 

Mae’r dywediad poblogaidd ‘Fel Oddi Mewn fel Oddi Allan’ yn dweud bod y cyfrifoldeb am greu newid yn y byd yn gorwedd ynom ni. Ond beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n gwrthdroi’r syniad hwnnw? Mae’r ddarlith hon yn archwilio sut mae’r byd rydyn ni’n byw ynddo yn effeithio’r straeon rydyn ni’n eu hadrodd i ni’n hunain, a’r hyn sy’n teimlo’n bosibl yn ein bywydau a’n einioes. 

Gwybodaeth Allweddol 

  • Hyd: 1 awr 30 munud 
  • Dyddiad: Dydd Llun 13 Ebrill 2026
  • Amseroedd cychwyn a gorffen: 7yp-8:30yp 
  • Lleoliad: Theatr Sheppard, adeilad WISE 
  • Mynediad am ddim ond lleoedd cyfyngedig felly cofrestrwch ymlaen llaw 
  • Archebwch bryd o fwyd gyda’r nos yng nghaffi CyDA ac ymunwch â’n myfyrwyr i drafod a sgwrsio cyn i’r ddarlith ddechrau. 

    • Gellir archebu hwn ymlaen llaw am £10 ochr yn ochr â’ch archeb darlith gyhoeddus isod. 
    • Bydd cinio yn cael ei weini am 6:00yp cyn i’r ddarlith ddechrau. 
    • Dim ond cyn y digwyddiad y gellir archebu hwn ymlaen llaw ac ni ellir ei brynu ar y safle. 
    • Mae bar Donnelly ar agor o 8.30yp. 

  • At ddibenion dysgu myfyrwyr yn unig y caiff y ddarlith ei recordio ac ni fydd ar gael yn gyhoeddus ar-lein. Archebwch i ymuno â ni mewn person.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost i gsmo@cat.org.uk

Yng nghylch y siaradwr

Mae Sarah yn awdur ac ymchwilydd clodfawr. Mae ei gwaith wedi cael ei gynhyrchu gan theatrau gan gynnwys yr RSC, Theatr Hampstead a’r Royal Opera House. Mae hi’n ysgrifennu dramâu i’r BBC ar gyfer y teledu a radio. Mae ei drama ddiweddaraf ORIGIN, yn ddramateiddiad o The Origin of Species gan Darwin, ac mae ar gael ar BBC Sounds ar hyn o bryd. Mae ymchwil Sarah yn archwilio sut mae straeon yn creu ac yn newid y byd. Ar hyn o bryd mae hi’n Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Árni Magnússon yn Reykjavik.

Sarah Woods



Searching Availability…



To register for this event email your details to billy.aiken@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-04-13 @ 19:00 to
2026-04-13 @ 20:30
 

Event Types

Share With Friends