Darlith gyhoeddus yr Ysgol Raddedig: John Little 

Darlith gyhoeddus yr Ysgol Raddedig: John Little 

Darlith gyhoeddus yr Ysgol Raddedig: John Little 

186 186 people viewed this event.

Ymunwch â myfyrwyr CyDA am ddarlith am ddim gan John Little yn archwilio garddio dinesig cymunedol, ac adferiad safleoedd tir llwyd. Cynhelir nos Lun 20 Ebrill am 7yp. 

Rydym wrth ein bodd i groesawu’r darlithydd gwadd John Little i CyDA yn ystod ein hwythnos addysgu ôl-raddedig ar gyfer y modiwl  ‘Ecoleg Adferol.’ 

Yn y ddarlith a’r sesiwn holi ac ateb yma, bydd John yn amlinellu ei ymgyrch ‘care not capital’ sy’n edrych ar symud arian i ffwrdd o brosiectau seilwaith cyfalaf ac mewn i ofodau gwyrdd. Gan edrych ar yr angen am fwy o arddwyr hyfforddedig i ofalu am ofodau newydd, yn enwedig safleoedd tir llwyd, a sut mae bod yn arddwr mannau cyhoeddus am fwy na garddwriaeth yn unig.  

Bydd y sgwrs hefyd yn archwilio technegau garddio sydd o fantais i fioamrywiaeth. Gan archwilio’r gwerth mewn cadw ac ail-bwrpasi wastraff ar y safle i greu gofodau prydferth a bioamrywiol, manteision toeau gwyrdd, a chwestiynu’r pwyslais cyfredol ar ddefnyddio uwchbridd mewn prosiectau newydd, yn enwedig ar briffyrdd a datblygiadau newydd.  

Gwybodaeth Allweddol 

  • Hyd: 1 awr 30 munud 
  • Dyddiad: Dydd Llun 20 Ebrill 2026
  • Amseroedd cychwyn a gorffen: 7yp-8:30yp 
  • Lleoliad: Theatr Sheppard, adeilad WISE 
  • Mynediad am ddim ond lleoedd cyfyngedig felly cofrestrwch ymlaen llaw 
  • Archebwch bryd o fwyd gyda’r nos yng nghaffi CyDA ac ymunwch â’n myfyrwyr i drafod a sgwrsio cyn i’r ddarlith ddechrau. 

    • Gellir archebu hwn ymlaen llaw am £10 ochr yn ochr â’ch archeb darlith gyhoeddus isod. 
    • Bydd cinio yn cael ei weini am 6:00yp cyn i’r ddarlith ddechrau. 
    • Dim ond cyn y digwyddiad y gellir archebu hwn ymlaen llaw ac ni ellir ei brynu ar y safle. 
    • Mae bar Donnelly ar agor o 8.30yp. 

  • At ddibenion dysgu myfyrwyr yn unig y caiff y ddarlith ei recordio ac ni fydd ar gael yn gyhoeddus ar-lein. Archebwch i ymuno â ni mewn person.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost i gsmo@cat.org.uk. 

Yng nghylch y siaradwr

Mae John Little yn un o’r ffigyrau fwyaf dylanwadol mewn garddwriaeth gyfoes, mae’n arbenigwr mewn toeau gwyrdd, garddio gofodau cyhoeddus ac ar ôl 18 mlynedd o ofalu am fannau gwyrdd tai cymdeithasol, dechreuodd carenotcapital.org, ymgyrch ‘ddim er elw’ i hyfforddi garddwyr ym mhopeth heblaw garddwriaeth pur. Yn 2008 lansiodd amrywiaeth o lochesi to gwyrdd bach gan gynnwys storfa beiciau a biniau.

John Little



Searching Availability…



To register for this event email your details to billy.aiken@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-04-20 @ 19:00 to
2026-04-20 @ 20:30
 

Event Types

Share With Friends