
Dinasoedd a Chymunedau
Ymunwch ag wythnos addysgu myfyrwyr CyDA i archwilio sut y gallwn greu dinasoedd tecach a mwy cynaliadwy, a’r ffactorau systematig sy’n dylanwadu ar strategaethau amgylcheddol, gwleidyddol, economaidd a pholisi sy’n siapio dinasoedd.
Trwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd, trafodaethau a gweithgareddau ymarferol, byddwch yn dysgu gyda’n myfyrwyr ôl-raddedig ar ein cyrsiau MSc ynghylch Cynaliadwyedd ac Addasu, Adeiladu Gwyrdd, Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol, Cynaliadwyedd ac Ecoleg, a Chynaliadwyedd a Newid Ymddygiad.
Byddwch yn cael blas o’r profiad o astudio un o’n cyrsiau ôl-raddedig yn CyDA ac yn cael gwybodaeth a sgiliau hynod o werthfawr ynghylch strategaethau ar gyfer cynllunio dinasoedd a chymunedau cyfiawn a chynaliadwy.
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: pum diwrnod
- Dyddiadau nesaf: Dydd Llun 1 Tachwedd tan Dydd Gwener 5 2025
- Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd yn cychwyn am 10yb ac yn gorffen am 1yp ar y diwrnod olaf
- Ffioedd: £700
- Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, cinio
- Sylwer NAD oes llety ar gael ar hyn o bryd yn CyDA ar gyfer y cwrs hwn. Efallai y caiff lleoedd eu rhyddhau pan fydd myfyrwyr wedi archebu eu llety ym mis Medi.
- Bydd angen: fe’ch cynghorir i ddod ag esgidiau da a dillad sy’n dal dŵr
- Amodau a Thelerau:
- Rhaid eich bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Cliciwch yma am restr lawn o’r amodau a thelerau
Bydd y sawl a fydd yn mynychu yn cael tystysgrif presenoldeb am ymuno â’r cwrs ar ddiwedd yr wythnos. Os byddant yn dymuno cofrestru ar gwrs ôl-raddedig yn CyDA ac astudio’r modiwl ar eu cwrs yn y dyfodol, byddant yn gallu cael gostyngiad ar y costau dysgu.
Cwrs ar gyfer pwy yw hwn?
Mae’r wythnos hon ar gyfer pobl sy’n dymuno cael blas o astudio ar lefel ôl-raddedig yn CyDA, ac y maent yn dymuno ymchwilio i’r ffactorau sy’n dylanwadu ar strategaethau amgylcheddol, gwleidyddol, economaidd a pholisi a’r hyn y gallwn ei wneud i greu amgylcheddau trefol tecach a mwy cynaliadwy.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Ar y cwrs byr hwn, bydd cyfranogwyr yn cael cyflwyniad i gymhlethdodau dinasoedd a chymunedau, eu rhyng-gysylltiadau lleol a byd-eang, a sut y mae’r rhain yn siapio’r dasg o greu dinasoedd cynaliadwy.
Mae’r pynciau a ystyrir yn cynnwys:
- Creu mannau a lleoedd cymunedol a threfol heddiw.
- Chwalfa ecolegol ac o ran yr hinsawdd, dinasoedd, a’u rhyng-gysylltiadau ar wahanol lefelau gofodol.
- Dulliau gweithredu rhyng-ddisgyblaethol tuag at drawsnewid mewn dinasoedd a chymunedau.
- Cyfiawnder ac anghyfiawnder amgylcheddol a hinsawdd mewn lleoliadau trefol.
- Dylunio trefol yn benodol, cynllunio a phrosesau trawsnewid ac adfywio yn yr amgylchedd adeiledig.
- Goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol, ecolegol a diwylliannol trawsnewidiadau cynaliadwyedd a thrawsnewidiadau lle a seilwaith.
- Mentrau llawr gwlad a chymunedol.
- Ymwrthedd trefol, adferiadau ac ail-greu gofod.
Sut y byddaf yn dysgu
Trwy ddarllen ymlaen llaw a rhai darlithoedd rhagarweiniol a recordiwyd ymlaen llaw, darlithoedd byw wyneb yn wyneb, trafodaethau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau ymarferol yn CyDA.
Mae’r cwrs byr hwn yn rhan o’r wythnos addysgu ar gyfer modiwl Dinasoedd a Chymunedau y cwrs MSc. Dylech fod yn ymwybodol o’r ffaith y bydd rhai gweithgareddau a chynnwys yn ystod yr wythnos ar gael i fyfyrwyr yn unig efallai, a phan na fydd gweithgarwch yn briodol ar gyfer y sawl sy’n mynychu’r cwrs byr, byddwn yn ceisio trefnu gweithgarwch yn ei le.
Cyfarfod eich tiwtor
Dr Sam Saville
Mae Sam yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Graddedigion CyDA. Mae hi’n ddaearyddwraig sy’n arbenigo mewn systemau gwerth, cysylltiadau natur-diwylliant, rhanbarthau gwledig a phegynol, globaleiddio ac ymchwil cyfranogol.
Bryce Gilroy-Scott
Mae Bryce yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Graddedigion CyDA. Mae ganddo gefndir helaeth mewn pensaernïaeth gynaliadwy ac yn ogystal â bod yn ddarlithydd CyDA, mae’n gweithio fel ymgynghorydd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu modelu ynni, ynni adnewyddadwy.
Tiwtoriaid a darlithwyr eraill
Law yn llaw ag arweinydd y modiwl a staff arbenigol yr Ysgol Graddedigion, arweinir sesiynau addysgu gan amrediad o siaradwyr gwadd a darlithwyr sy’n gweithio yn y sector ac yn y byd academaidd ar hyn o bryd, sy’n ymuno â’r myfyrwyr ar y safle neu trwy ffrydiau byw.
Searching Availability…
