Diwrnod Agored yr Haf

Diwrnod Agored yr Haf

Diwrnod Agored yr Haf

358 358 people viewed this event.

Ymunwch â ni am Ddiwrnod Agored yr Haf Am Ddim CyDA ar ddydd Sadwrn 1 Awst!

Yn dilyn llwyddiant ein Diwrnod Agored y Gwanwyn, rydym yn teimlo’n gyffrous i’ch croesawu’n ôl i CyDA am ddiwrnod arall a fydd yn llawn gweithgareddau ysbrydoledig i bobl o bob oed.

Bydd cyfle i archwilio yn ystod gweithdai ymarferol, a mwynhau teithiau tywys addas i deuluoedd ac arddangosiadau rhyngweithiol a fydd yn ymwneud â phopeth o adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy i ecoleg, tyfu bwyd, a byw bywyd cynaliadwy.

Os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan hwyliog, os ydych chi’n un o’n cefnogwr ers tro, neu os ydych chi’n rhywun sy’n chwilfrydig ac sy’n dymuno dysgu mwy am ddatrysiadau cynaliadwy, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yno.

Cewch fwynhau bwyd blasus o gaffi llysieuol CYDA trwy gydol y dydd.

Archebwch eich tocyn ymlaen llaw isod, neu ymunwch â ni ar y dydd.  Sylwer bod niferoedd y lleoedd parcio yn gyfyngedig.  Os byddwch chi’n teithio yma mewn car, a fyddech gystal â chyrraedd yn gynnar i sicrhau lle.

Gwybodaeth Allweddol

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn 1 Awst
  • Amser: 10yb i 4yp
  • Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr CyDA
  • Mynediad: Am ddim
  • Parcio: Am ddim
  • Mae’r mynediad drwy gerddediad serth 5 – 10 munud i fyny o faes parcio isaf CyDA. Mae parcio i bobl anabl ar gael ar ben ucha’r rhiw.



Searching Availability…



To register for this event email your details to greg@matchstickcreative.co.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-08-01 @ 10:00 to
2026-08-01 @ 16:00
 

Event Types

Share With Friends