
Gwelyau Cors a Thoiledau Compostaio
Ymunwch â ni am gwrs undydd ymarferol a fydd yn archwilio toiledau compostio a systemau trin dŵr oddi ar y grid, gan ddysgu gan ddegawdau o brofiad CyDA yn y maes hwn.
Ar y cwrs, byddwch yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion, manteision a chyfyngiadau systemau dŵr gwastraff cynaliadwy ynni isel.
Darparir hwn mewn dwy ran allweddol: toiledau compostio a systemau trin dŵr oddi ar y grid. Bydd y ddau yn cynnwys elfen am y theori ac elfen ymarferol, gan fanteisio ar systemau dŵr oddi ar y grid yma yn CyDA fel offeryn dysgu.
Os ydych chi’n byw neu’n gweithio mewn lleoliad anghysbell ac mae angen dewisiadau isel eu heffaith ac ecogyfeillgar arnoch ar gyfer rheoli dŵr gwastraff, CyDA yw’r lle i ddod am ysbrydoliaeth a chyngor. Byddwch yn gadael gan wybod sut i gychwyn arni pan fyddwch yn creu mwynderau preifat cost-effeithiol nad yw’n cymryd llawer o waith i’w cynnal a’u cadw, mewn lleoliadau anghysbell neu pan na fydd dewis arall ar gael.
Gwybodaeth Allweddol
- Hyd: 1 diwrnod
- Dyddiadau nesaf:
- Amseroedd cychwyn a gorffen: 9yb i 5yp
- Ffioedd: £125
- Yn cynnwys: hyfforddiant a chinio.
- Bydd angen: fe’ch cynghorir yn gryf i ddod â dillad sy’n dal dŵr.
- Amodau a Thelerau:
- Rhaid eich bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Cliciwch yma am restr lawn o’r amodau a thelerau
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
- Trosolwg o systemau dŵr amgen a sut y gallant gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy, gan arbed dŵr ac ynni a throi gwastraff yn adnodd
- Prosesau biolegol compostio a dadelfennu gwastraff, a’r ffactorau sy’n dylanwadu arnynt
- Mathau o systemau, gan gynnwys dewisiadau ar gyfer rhannu wrin, cynlluniau siambrau, bwâu ffosydd, aquatrons a thrin dŵr llwyd
- Adfer maethynnau, halogion, diogelwch a hylendid
- Prif agweddau ar leoliad, dyluniad a chynnal a chadw
- Ystyriaethau diwylliannol, y ffactor ‘ych a fi’, ac agweddau cyfreithiol a rheoliadol ar gynllunio system dŵr gwastraff amgen
- Taith fanwl ac archwiliad o systemau dŵr amgen ar waith yn CyDA
Proffil o’r tiwtor
Dr Alexandra Hamer
Mae Alexandra Hamer yn ddarlithydd uwch yn Ysgol Graddedigion CyDA, sy’n addysgu myfyrwyr ar ein cyrsiau MSc mewn Cynaliadwyedd. Mae hi’n addysgu ar ein modiwlau ôl-raddedig, gan ganolbwyntio ar ecoleg a bwyd. Mae hi hefyd yn cyfrannu cymorth GIS ar gyfer modiwlau eraill ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn helpu myfyrwyr i ddod yn hyderus pan yn defnyddio GIS.
Dieter Brandstätter
Mae Dieter wedi gweithio yn CyDA dros y 5 mlynedd ddiwethaf, gan addysgu ar gyrsiau byr, gweithredu’r rheilffordd halio a gwneud cynhyrchion ar gyfer y safle. Mae wedi cynllunio a chreu peiriant CNC (sy’n gallu rhedeg oddi ar bŵer solar) a thwnnel gwynt (i’w ddefnyddio yn yr ysgol graddedigion).
Gan hyfforddi fel Gof Arian a Dylunio Cynnyrch yn y lle cyntaf, mae ganddo ddiddordeb mewn gwerthoedd cynaliadwy deunyddiau, a’r profiad gofodol mewn adeiladau. Mae arbenigedd Dieter ym maes pren a thriniaethau pren naturiol wedi ei arwain at Yakisugi, dull traddodiadol o ddiogelu pren o Japan, y mae modd ei weld ar sawl arwydd o gwmpas y safle.
Searching Availability…
