Gweminar Am Ddim – Diweddariad ar COP31 o CyDA 

Gweminar Am Ddim – Diweddariad ar COP31 o CyDA 

Gweminar Am Ddim – Diweddariad ar COP31 o CyDA 

546 546 people viewed this event.

Ymunwch a ni ar lein ar Ddydd Mercher 18 Tachwedd 2026 am 7yp wrth i ni ddechrau ar ein cyfres Hydref/Gaeaf o weminarau ar-lein am ddim.

Bydd Dr Emily Westwell yn trafod Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig, y corff sy’n gwneud penderfyniadau ar weithredu rhyngwladol ar newid hinsawdd. Mae’r seminar yma’n cymryd lle ochr yn ochr â COP fis Tachwedd yma, ble bydd Emily yn archwilio hanes y COP, y cyfleoedd ar gyfer gweithredu a’r heriau sy’n wynebu llywodraethant rhyngwladol ar newid hinsawdd.

Ynglŷn â’r Pwnc: 

Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig (COP) yw’r corff mwyaf sy’n gwneud penderfyniadau ar weithredu ar yr hinsawdd yn rhyngwladol. Yn y sgwrs a’r Sesiwn Holi ac Ateb yma, byddwn yn archwilio’r rôl mae COP wedi’u ddylunio i gyflawni, ei effeithlonrwydd a’r heriau o gonsensws o fewn penderfyniadau rhyngwladol ar newid hinsawdd. Byddwn yn siarad am gyfleoedd a chyfyngiadau’r broses COP o ran effeithio gweithredu ystyrlon wrth archwilio disgwyliadau COP31, bydd yn digwydd yn Türkiye Tachwedd yma

Gwybodaeth allweddol: 

Bydd y gyfres newydd yma o weminarau am ddim yn dod â Darlithwyr ein Hysgol Raddedig a staff mewnol arbenigol i’ch sgriniau wrth iddynt dynnu ar eu meysydd arbenigol i archwilio ystod o faterion sy’n ymwneud â Chynaliadwyedd. Bydd themâu’r gweminarau yn cwmpasu ystod o bynciau – o fwyd ac adnoddau naturiol, adfer cynefinoedd ac ynni adnewyddadwy i newid systemau, pensaernïaeth gynaliadwy a mwy. 

Cyhoeddir rhagor o bynciau a dyddiadau yn ein cyfres newydd o weminarau am ddim yn fuan. 

  • Hyd: 1 awr, gan gynnwys sgwrs a sesiwn holi ac ateb
  • Dyddiadau i ddod: Dydd Mercher 18 Tachwedd Gorffennaf 2026 
  • Amser cychwyn: 7.00yp 
  • Mae lleoedd yn gyfyngedig i 100 o bobl 

Amdan y Siaradwr: 

Dr Emily Westwell

Ymunodd Emily â Ysgol Raddedig CyDA yn 2023 ac mae’n addysgu ar amrywiaeth o fodiwlau MSc fel uwch ddarlithydd.

Cwblhaodd Emily ei PhD ym Mhrifysgol Keele mewn actifiaeth amgylcheddol, agroecoleg, a sofraniaeth bwyd.

Mae gan Emily gefndir fel actifydd-ymchwilydd ac mae wedi gweithio’n agos gyda sefydliadau bwyd amgen ar lawr gwlad ym Manceinion a Llundain. Mae ganddi hefyd ddiddordeb brwd mewn amgylcheddaeth a phrosesau newid cymdeithasol, gan gymryd diddordeb arbennig mewn dewisiadau cymunedol amgen a chynaliadwy a mudiadau cymdeithasol amgylcheddol.

Mae Emily yn addysgu ar amrywiaeth o fodiwlau yn CyDA, gan gynnwys Cynhyrchu a Bwyta’n Gynaliadwy, Cynaliadwyedd ac Addasiad, Gwleidyddiaeth yr Amgylchedd, Dylunio Ymchwil Gymhwysol, a Dinasoedd a Chymunedau.

Emily Westwell

Neilltuwch eich Tocynnau: 

Archebwch eich lle am ddim isod. Ar ôl i chi wneud yr archeb, anfonir dolen atoch drwy e-bost gyda chyfarwyddiadau ymuno pellach a byddwn yn eich cadw’n ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf cyn y digwyddiad.

Searching Availability…

To register for this event email your details to billy.aiken@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-11-18 @ 19:00 to
2026-11-18 @ 20:00
 

Location

Online event

Share With Friends