
Gweminar Am Ddim: Cladin pren allanol – Gwneud y peth cywir
Ymunwch â ni ar-lein ar nos Fercher, 12 Awst am 7pm am y diweddaraf yn ein cyfres newydd o webinarau ar-lein AM DDIM. Bydd Dr Ivor Davies yn archwilio’r hyn y mae angen i ni ei ystyried wrth gynllunio ac adeiladu cladin pren allanol.
Ynglŷn â’r Pwnc:
Nod y weminar hon yw helpu dylunwyr, adeiladwyr a pherchnogion tai i osgoi problemau cyffredin, gan gyflwyno’r prif ystyriaethau sy’n effeithio ar ddyluniad ac adeiladwaith cladin pren allanol, a chan ganolbwyntio ar y prif gwestiynau a’r heriau sy’n gallu codi.
Mae’r pynciau yn cynnwys egwyddorion dylunio, dewis pren, manylion yr adeiladwaith, caewyr, manyleb, prif ystyriaethau diogelwch, a chynnal a chadw. Nodir ffynonellau gwybodaeth bellach.
Gwybodaeth allweddol:
Bydd y gyfres newydd yma o weminarau am ddim yn dod â Darlithwyr ein Hysgol Raddedig a staff mewnol arbenigol i’ch sgriniau wrth iddynt dynnu ar eu meysydd arbenigol i archwilio ystod o faterion sy’n ymwneud â Chynaliadwyedd. Bydd themâu’r gweminarau yn cwmpasu ystod o bynciau – o fwyd ac adnoddau naturiol, adfer cynefinoedd ac ynni adnewyddadwy i newid systemau, pensaernïaeth gynaliadwy a mwy.
Cyhoeddir rhagor o bynciau a dyddiadau yn ein cyfres newydd o weminarau am ddim yn fuan.
- Hyd: 1 awr, gan gynnwys sgwrs a sesiwn holi ac ateb
- Dyddiadau i ddod: Dydd Mercher 12 Awst 2026
- Amser cychwyn: 7.00yp
- Mae lleoedd yn gyfyngedig i 100 o bobl
Amdan y Siaradwr:
Mae Dr Ivor Davies yn uwch-ddarlithydd mewn adeiladu gwyrdd yn ysgol raddedig CyDA, ac mae’n ymgynghorydd technegol i Gymdeithas Decin a Chladin Pren y DU. Ivor oedd prif awdur BS 8605-1 gan gynnig arweiniad am fanyleb cladin pren.
Neilltuwch eich Tocynnau:
Archebwch eich lle am ddim isod. Ar ôl i chi wneud yr archeb, anfonir dolen atoch drwy e-bost gyda chyfarwyddiadau ymuno pellach a byddwn yn eich cadw’n ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf cyn y digwyddiad.
Searching Availability…
