
Llythrennedd Carbon ar gyfer Awdurdodau Lleol – Ar lein
Archwiliwch ddatrysiadau hinsawdd, lluniwch gynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch gwaith, a sicrhewch ardystiad Llythrennedd Carbon ar ein cwrs ar-lein.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer tîmau ac unigolion sy’n gweithio o fewn Awdurdodau Lleol. Bydd y cwrs ar-lein hwn yn ystyried gwyddor diweddaraf newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang a sut y bydd y rhain yn effeithio ar ein sefydliadau. Gan fanteisio ar ein hymchwil Prydain Ddi-Garbon, byddwn yn ystyried y ffordd orau i ni gyflawni’r targedau sero net hyn, y ffordd orau y gallwn ymgysylltu â’r sefydliadau hynny o’n cwmpas, a sut i fynd ati i wneud gwaith cynllunio gweithredu effeithiol. Caiff eich allbwn o’r cwrs hwn ei werthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon.
Beth yw Llythrennedd Carbon?
Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth o effeithiau a chostau carbon gweithgareddau bob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, cymunedol a sefydliadol.’
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: 09.30 – 13.00 bob dydd
- Dyddiadau nesaf:
- Hanner cyntaf: 3 Tachwedd 2026
- Ail hanner: 10 Tachwedd 2026
- Bydd gofyn gwneud hyd at ddwy awr ychwanegol o waith annibynnol er mwyn sicrhau achrediad
- Ffioedd: £140
- Cysylltwch os hoffech dalu trwy anfoneb
- Bydd yn cynnwys: hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunyddiau cwrs ar-lein, achrediad gan y Prosiect Llythrennedd Carbon
- Amodau a thelerau
- Rhaid eich bod yn 16 oed neu’n hŷn i fynychu’r cwrs hwn
- Cliciwch yma am restr lawn o’r amodau a thelerau
Cynigir yr hyfforddiant hwn fel cwrs pwrpasol hefyd ar ddyddiad sy’n gyfleus i chi. Cysylltwch i drefnu.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae prosiect Prydain Di-garbon CCyDA yn cynnig y data caled a’r hyder sy’n ofynnol er mwyn dychmygu dyfodol lle’r ydym wedi ymateb i alwadau gwyddor hinsawdd. Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth, gan esgor ar sgyrsiau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau.
Bydd y cwrs ar-lein hwn sydd wedi cael ei achredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon, yn archwilio’r datrysiadau a gynigir gan weledigaeth diweddbwynt Prydain Di-garbon.
Gan fanteisio ar astudiaethau achos ac esiamplau go iawn, byddwn yn ystyried camau ymarferol i gyrraedd sero net o bersbectif Awdurdod Lleol.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymrwymo i ddau gam lleihau carbon – caiff y rhain eu gwerthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon, gan eich galluogi i fynd ymlaen i hyfforddi eraill yn eich sector neu ardal waith.
Mae’r hyfforddiant ar-lein hwn yn addas i bawb sy’n gweithio mewn Awdurdodau Lleol, gan gynnwys rheolwyr ac Aelodau Etholedig. Yn ystod y diwrnod, bydd sesiynau trafod a myfyrio yn rhan o’r amserlen, sesiynau holi ac ateb, cyfleoedd rhwydweithio a chyfnodau lle y byddwch yn treulio amser all-lein er mwyn cadw’r ffurf yn braf ac yn ddiddorol.
Searching Availability…
