
Llythrennedd Carbon ar gyfer Dinasyddion a Mudiadau Cymunedol – Ar lein
Archwilio datrysiadau hinsawdd, llunio cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch cymuned, a sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon ar ein cwrs ar-lein.
Datblygwyd y cwrs hwn yn benodol ar gyfer grwpiau ac unigolion sy’n gweithio tuag at greu cymunedau sero net. Bydd y cwrs ar-lein hwn yn ystyried gwyddor newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang a sut y bydd y rhain yn effeithio ar ein cymunedau. Gan fanteisio ar ein hymchwil Prydain Ddi-Garbon, byddwn yn ystyried y ffordd orau i ni gyflawni’r targedau sero net hyn, y ffordd orau y gallwn ymgysylltu â’r sefydliadau hynny o’n cwmpas, a sut i fynd ati i wneud gwaith cynllunio gweithredu effeithiol. Caiff eich allbwn o’r cwrs hwn ei werthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon.
Beth yw Llythrennedd Carbon?
Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth o effeithiau a chostau carbon gweithgareddau bob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, cymunedol a sefydliadol.’
Pam bod Llythrennedd Carbon yn bwysig
Mae Llythrennedd Carbon yn fwy nag ymwybyddiaeth yn unig. Mae’n ymwneud â deall effaith dewisiadau bob dydd ar yr hinsawdd a chael eich grymuso i weithredu – fel unigolyn, ar y cyd ac fel sefydliad. Mae’n safon cydnabyddedig sy’n helpu i ymwreiddio gweithredu ar gyfer yr hinsawdd wrth galon eich gwaith cymunedol.
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: 09.30 – 13.00 bob dydd
- Dyddiadau nesaf:
- Hanner cyntaf: 20 Hydref 2026
- Ail hanner: 22 Hydref 2026
- Bydd gofyn gwneud hyd at ddwy awr ychwanegol o waith annibynnol er mwyn sicrhau achrediad
- Ffioedd: £85
- Cysylltwch os hoffech dalu trwy anfoneb
- Bydd yn cynnwys: hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunyddiau cwrs ar-lein, achrediad gan y Prosiect Llythrennedd Carbon
- Amodau a thelerau
- Rhaid eich bod yn 16 oed neu’n hŷn i fynychu’r cwrs hwn
- Cliciwch yma am restr lawn o’r amodau a thelerau
Cynigir yr hyfforddiant hwn fel cwrs pwrpasol hefyd ar ddyddiad sy’n gyfleus i chi. Cysylltwch i drefnu.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae prosiect Prydain Di-garbon CyDA yn cynnig y data caled a’r hyder sy’n ofynnol er mwyn dychmygu dyfodol lle’r ydym wedi ymateb i alwadau gwyddor hinsawdd. Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth, gan esgor ar sgyrsiau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau.
Bydd y cwrs ar-lein achrededig hwn gan y Prosiect Llythrennedd Carbon yn archwilio’r datrysiadau a gynigir gan weledigaeth pwynt terfyn Prydain Ddi-garbon. Gan fanteisio ar astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn, byddwn yn ystyried camau ymarferol er mwyn cyrraedd sero net o bersbectif cymuned.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymrwymo i gyflawni dau gam lleihau carbon; un fel unigolyn ac un a fydd yn dylanwadu ar grŵp o unigolion. Anogwn y rhain i fod yn weithredoedd cymunedol neu’n seiliedig ar waith er mwyn cynorthwyo newid diwylliant carbon isel yn ein cymunedau. Caiff y camau hyn eu gwerthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon, a fydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i hyfforddi eraill yn eich sector neu’ch maes gwaith.
Mae’r hyfforddiant ar-lein hwn yn addas i bawb sy’n gweithio mewn cymunedau, gan gynnwys unigolion a sefydliadau sy’n seiliedig ar le. Yn ystod y diwrnod, bydd sesiynau trafod a myfyrio yn rhan o’r amserlen, sesiynau holi ac ateb, cyfleoedd rhwydweithio a chyfnodau lle y byddwch yn treulio amser all-lein er mwyn cadw’r ffurf yn braf ac yn ddiddorol.
Searching Availability…
