
Rheolaeth Gynaliadwy Rhandiroedd: Hydref
Dysgwch sut i reoli rhandir mewn ffordd sy’n cyd-fynd â byd natur, gan ddefnyddio technegau garddio organig ac sy’n addasu i’r hinsawdd yn ystod y cwrs byr undydd hwn yn CyDA.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddiwedd y tymor tyfu ac mae cwrs y gwanwyn yn archwilio sgiliau tymhorol adeg y gwanwyn.
Os yw tyfu yn faes newydd i chi neu os oes gennych chi ddigon o brofiad o weithio gyda rhandiroedd yn barod, mae’r cwrs byr undydd hwn yn cynnig sgiliau ymarferol a dirnadaeth ecolegol er mwyn eich helpu i redeg rhandir cynaliadwy a chynhyrchiol. Dan arweiniad tîm gerddi gwych CyDA, byddwch yn archwilio sut i ofalu am bridd, cynllunio eich lle tyfu eich hun, a chynorthwyo bioamrywiaeth trwy gydol y tymhorau.
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: un diwrnod
- Dyddiadau:
- Gwanwyn – 11 Ebrill 2026
- Gwanwyn – 22 Ebrill 2026
- Hydref – 3 Hydref 2026
- Hydref – 14 Hydref 2026
- Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd yn cychwyn am 9.30yb ac yn gorffen am 4yp
- Cost y cwrs: £65 – bydd hyn yn cynnwys cinio, hyfforddiant a’r holl ddeunyddiau
- Bydd angen arnoch: esgidiau cadarn a dillad addas ar gyfer y tywydd – cwrs ymarferol yw hwn allan yn y gerddi
- Telerau ac Amodau:
- Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Treuliwch y diwrnod yng ngerddi rhandir prydferth CyDA yn dysgu sut i dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ac addasu i heriau hinsawdd sy’n newid.
Byddwch yn cael profiad ymarferol ac yn dysgu gwybodaeth i’w defnyddio yn eich rhandir neu’ch lle tyfu cymunedol chi.
Bydd y materion a ystyrir yn cynnwys:
- Asesu pridd, heulwen a lle
- Gwella pridd a gofalu am welyau uwch
- Cynllunio llain bach a chylchdroi cnydau
- Defnyddio gwrtaith gwyrdd a phlannu cefnogol
- Dyfrhau a rheoli plâu mewn ffordd organig
- Calendrau plannu tymhorol a chompostio
- Egwyddorion bio-ddynamig a dulliau dim palu
- Cynorthwyo bioamrywiaeth ac ecosystemau iach
Byddwch yn gwneud gwaith ymarferol gyda chymysgeddau pridd, hau hadau, plannu allan a thechnegau dyfrhau, gan archwilio sut i gynllunio ar gyfer y tymhorau i ddod a rheoli eich rhandir trwy gydol y flwyddyn.
Manylion y Tiwtor
Mae Veronica wedi bod yn Geidwad Gerddi CyDA ers 2021. Gyda’i dull cyfannol o arddio, mae angerdd Veronica dros greu gofodau awyr agored bioamrywiol, ffyniannus, hygyrch i bawb, yn heintus ac mae ei chyrsiau’n llawn cyfoeth o wybodaeth am arddio tymhorol, ymarferol.
Searching Availability…





