Sgiliau Offer Sylfaenol

Sgiliau Offer Sylfaenol

Sgiliau Offer Sylfaenol

108 108 people viewed this event.

Meithrin yr hyder i ddefnyddio offer DIY sylfaenol yn y cartref yn ystod y gweithdy ymarferol hwn.

Dysgwch sut i ddefnyddio’r prif offer er mwyn cyflawni prosiectau DIY yn y cartref a defnyddio’r sgiliau newydd hyn er mwyn creu blwch bywyd gwyllt, dysgl blannu neu wrthrych pren syml arall i’w gadw.  Byddwch yn dysgu sut i gynllunio, mesur, torri, cydosod a gorffen eich prosiect, gan feithrin eich hyder i ymgymryd â phrosiectau DIY yn y cartref.

Ymunwch â hwn fel cwrs unigol, neu fel sylfaen defnyddiol ar gyfer dysgu pellach yn CyDA.  Er nad yw nifer o’r cyrsiau ymarferol a gynigir gan CyDA yn gofyn am brofiad blaenorol, bydd y cwrs hwn yn cynnig set sylfaenol o sgiliau i gyfranogwyr, a fydd yn cynorthwyo dysgu pellach.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: un diwrnod
  • Dyddiad nesaf:

    • Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2026

  • Amser: dechrau am 10yb a gorffen am 5:00yp
  • Cost: £125
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunydd, cinio
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs hynod ymarferol, bydd angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch gyda chi.
  • Telerau ac Amodau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

  • Hyder wrth ddefnyddio offer DIY bob dydd yn y cartref
  • Dysgu am y defnydd sylfaenol o offer DIY a sut i’w defnyddio mewn prosiect syml
  • Sut i wneud gwrthrych pren syml gan ddefnyddio’r offer.

Cyfarfod eich tiwtor

Dieter Brandstätter

Mae Dieter wedi bod yn gweithio yn CyDA dros y 5 mlynedd ddiwethaf, gan addysgu ar gyrsiau byr, rhedeg y rheilffordd halio a gwneud cynhyrchion ar gyfer y safle.  Mae wedi cynllunio a chreu peiriant CNC (sy’n gallu rhedeg ar bŵer solar) a thwnnel gwynt (i’w ddefnyddio yn ein Hysgol Graddedigion).

Gan hyfforddi fel Gof Arian ac ym maes Dylunio Cynnyrch yn y lle cyntaf, mae ganddo ddiddordeb yng ngwerthoedd cynaliadwy deunyddiau, a’r profiad gofodol mewn adeiladau.  Mae arbenigedd Dieter mewn pren a thriniaethau pren naturiol wedi ei arwain at Yakisugi, dull Japaneaidd traddodiadol o ddiogelu pren, y mae modd ei weld ar nifer o’r arwyddion o gwmpas y safle.



Searching Availability…



To register for this event email your details to billy.aiken@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-03-28 @ 10:00 to
2026-03-28 @ 17:00
 

Location

 

Event Types

 

Event Category

Share With Friends