
Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Cynhyrchu Ynni Oddi ar y Grid
Archwiliwch dechnolegau ynni adnewyddadwy, fel gwynt, solar, a pico-hydro, a darganfyddwch pa system sydd orau i chi ar y cwrs byr deuddydd hwn.
Archwiliwch:
- Ble ddylech chi roi’r system?
- Faint o ynni fyddwch chi’n ei gael?
- Faint o arian fyddwch chi’n ei arbed?
- Sut olwg fydd ar eich gostyngiad allyriadau?
- Pa storfa ynni allwch chi ei defnyddio?
- Faint o ynni sydd ei angen arnoch chi?
- Sut i fesur system ddibynadwy?
Nod y cwrs byr hwn yw ateb y cwestiynau hyn a mwy trwy gyfres o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol.
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: dau ddiwrnod
- Dyddiad nesaf: Dydd Sadwrn 20 i Ddydd Sul 21 Mehefin 2026
- Ffi: £250
- Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 9.30yb a gorffen am 3.30yp ar y diwrnod olaf
- Yn cynnwys: hyfforddiant a chinio
- Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr
- Telerau ac Amodau:
- Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r gallu i chi benderfynu a yw ynni oddi ar y grid yn ymarferol ar gyfer eich lleoliad, sut y dylid gyflunio system hybrid, datblygu dadansoddiad cost a budd a meintioli’r gostyngiadau mewn allyriadau.
Bydd yn rhoi trosolwg o’r gwahanol systemau ynni sydd ar gael yn fasnachol, a sut i asesu eu haddasrwydd a’u heffeithlonrwydd ar gyfer eich lleoliad. Byddwch yn dysgu sut i gynnal dadansoddiad adnoddau gwynt/solar/hydro, cyfrifo’r allbwn blynyddol tebygol ar gyfer safle penodol, sut i gyfrifo eich anghenion ynni, a sut i ddewis system storio ynni briodol.
Bydd eich tiwtor arbenigol, Alan, yn eich tywys drwy sut i ddewis y lleoliad a’r cyfeiriadedd gorau, maint y system y bydd ei hangen arnoch, ac yn edrych ar y dulliau o gysylltu gwahanol dechnolegau.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i weld a thrafod technolegau raddfa fach safle CyDA.
Mae gwybodaeth sylfaenol am MS Excel (neu raglen gyfwerth) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.
Cyrsiau Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi
Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres sy’n archwilio technolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer cartrefi. Gellir cymryd pob cwrs yn unigol neu fel cyfres, a byddant yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi gwahanol dechnolegau adnewyddadwy ar waith yn eich cartref.
- Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: PV Solar -18 Ebrill 2026
- Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Micro Hydro – 16 Mai 2026
Ychwanegu llety i’ch archeb
A hoffech chi aros yn CyDA dros gyfnod eich cwrs byr? Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.
Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:
- Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £96 sengl
Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk
Cyfarfod â’ch tiwtor
Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.
Searching Availability…
