Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Pympiau Gwres

Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Pympiau Gwres

Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Pympiau Gwres

130 130 people viewed this event.

Ailfeddwl darpariaeth ynni i aelwydydd – dod i ddeall pympiau gwres.

Yn aml, hysbysebir pympiau gwres fel rhywbeth sy’n cynnig ‘gwres am ddim’ oherwydd gallant gynnig mwy o ynni (fel gwres) am swm bach o ynni (trydan).  Dewch i archwilio’r wyddoniaeth, datblygu dadansoddiad cost a budd a mesur y gostyngiad o ran allyriadau gan bympiau gwres, a fydd yn eich galluogi i benderfynu ai pwmp gwres yw’r dewis cywir i chi.

Gwybodaeth allweddol

Parhau: un diwrnod

  • Parhau: un diwrnod
  • Dyddiad nesaf: dydd Sadwrn 7 Mawrth 2026
  • Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 9.30yb a gorffen am 3.30yp.
  • Ffi: £125
  • Yn cynnwys: hyfforddiant , cinio bwffe
  • Telerau ac Amodau:

    • Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae pympiau gwres yn gweithio trwy dynnu gwres o’r aer, y ddaear neu o ddŵr, gan ddibynnu ar y system.  Mae’r ffordd y maent yn gwneud hyn yn broses gymhleth, ac mae gosod pympiau gwres yn gofyn am lefel dda o wybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion amrywiol.

Yn ystod y cwrs, byddwn yn archwilio egwyddorion gweithredu pympiau gwres, sut y maent yn gweithio a pha amodau y maent yn gweithio orau ynddynt.  Byddwn yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng pympiau gwres ffynhonnell aer, daear a dŵr, gan gyfrifo effeithlonrwydd ynni pob un ohonynt.

Bydd cymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol yn archwilio’r angen am waith dylunio manwl, o’r system a’r adeilad dan sylw.  Yn ogystal, bydd y cwrs yn ystyried datblygu dadansoddiad cost a budd a mesur gostyngiadau o ran allyriadau, gan eich galluogi i benderfynu ai pympiau gwres yw’r dewis cywir ar gyfer eich cartref, eich safle cymunedol neu’ch busnes chi.

Mae gwybodaeth sylfaenol o MS Excel (neu raglen gyfatebol) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.

Cyrsiau Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi

Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres sy’n archwilio technolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer cartrefi. Gellir cymryd pob cwrs yn unigol neu fel cyfres, a byddant yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi gwahanol dechnolegau adnewyddadwy ar waith yn eich cartref.

Cyfarfod â’ch tiwtor

Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.



Searching Availability…



To register for this event email your details to billy.aiken@cat.org.uk

Register using webmail: Gmail / AOL / Yahoo / Outlook

 

Date And Time

2026-03-07 @ 09:30 to
2026-03-07 @ 15:30
 

Location

 

Event Types

 

Event Category

Share With Friends