Adeiladu Cynaliadwy a Mathemateg
CWRS UNDYDD I OEDOLION, WEDI’I ARIANNU’N LLAWN.
Ymunwch â ni am ddiwrnod i adeiladu ar y safle – gan ddefnyddio deunyddiau adeiladu cynaliadwy.
Cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol hwyliog lle y byddwch yn archwilio deunyddiau fel pridd a gwellt, rhoi cynnig ar ychydig waith adeiladu ymarferol a defnyddio rhai sgiliau mathemateg i’ch helpu wrth i chi adeiladu.
Byddwch yn gweithio gyda’n staff profiadol wrth i chi ddysgu sgiliau ymarferol a gwneud ychydig waith mathemateg sylfaenol sy’n hwyl. Law yn llaw â dysgu sgiliau ymarferol, byddwch yn gallu archwilio ein safle prydferth a mwynhau cinio llysieuol blasus am ddim.
Gwybodaeth allweddol
- Dydd Iau 16 Hydref
- 11am tan 2pm
- Ariannir yn llawn trwy raglen Lluosi, sy’n ceisio helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau yn ystod bywyd bob dydd
- Er mwyn mynychu, rhaid eich bod:
- Yn breswylydd ym Mhowys
- O leiaf 19 oed
- Heb fod wedi sicrhau cymhwyster rhifedd Lefel 2 neu TGAU Mathemateg
- Bydd yn cynnwys: hyfforddiant, cinio bwffe, cyfraniad at gostau teithio
- Bydd angen y canlynol arnoch: argymhellir esgidiau cryf, haenau a dillad dal dŵr – dosbarthir rhagor o wybodaeth cyn i’r cwrs gychwyn
- Ni chynhelir asesiadau na phrofion eraill, mae’n ymwneud ag archwilio mathemateg a sut y gallwch ei ddefnyddio o ddydd i ddydd
- Gweler ein cyrsiau eraill, sef Adeiladu Cynaliadwy a Mathemateg, Coedwigaeth Gynaliadwy a Mathemateg – gallwch fynychu cymaint ag y byddwch yn dymuno (os bydd lleoedd ar gael)
Am wybodaeth bellach neu i archebu lle ar ddyddiad neu ddyddiadau o’ch dewis, cysylltwch ag education@cat.org.uk