Cwrs llythrennedd carbon ar-lein am ddim i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys.
Cyfle i archwilio datrysiadau hinsawdd, llunio cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch cymuned neu’ch sefydliad, a sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon ar ein cwrs ar-lein a ariannir yn llawn.
Mae’r cwrs hwn ar gael am ddim i unigolion, grwpiau cymunedol, cynghorau tref a chymuned, mentrau cymdeithasol, sefydliadau a busnesau. Yr unig ofyniad yw eich bod yn byw neu’n gweithio ym Mhowys.
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn ystyried gwyddor newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang a sut y bydd y rhain yn effeithio ar eu gwaith. Gan fanteisio ar ein gwaith ymchwil Prydain di-garbon, byddwn yn ystyried amcanion carbon isel ac yn llunio cynllun gweithredu er mwyn dylanwadu ar eraill. Caiff eich allbwn o’r cwrs hwn ei werthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich ardystio yn Hyddysg mewn Carbon.
Beth yw Llythrennedd Carbon? Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth o gostau carbon ac effeithiau gweithgareddau bob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, cymunedol a sefydliadol.’
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: dau sesiwn bore (11 & 18 Hydref)
- Amser: 9.30yb – 1.00yp ar y ddau ddiwrnod
- Lleoliad: ar-lein
- Gellir cynnig yr hyfforddiant am ddim hwn i’ch grŵp hefyd fel cwrs pwrpasol ar ddyddiad sy’n gyfleus i bawb. Cysylltwch i drefnu
- Bydd gofyn gwneud hyd at ddwy awr o waith annibynnol ychwanegol i sicrhau achrediad
- Ffioedd: AM DDIM
- Mae’n cynnwys: hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunyddiau cwrs ar-lein, achrediad y Prosiect Llythrennedd Carbon
- Amodau a thelerau
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae prosiect Prydain Di-garbon CyDA yn cynnig y data caled a’r hyder gofynnol er mwyn delweddu dyfodol lle’r ydym wedi ymateb i alwadau newid hinsawdd. Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth, gan gychwyn sgyrsiau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau.
Bydd y cwrs ar-lein hwn sydd wedi’i achredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon yn archwilio’r datrysiadau a gynigir gan weledigaeth pwynt terfyn Prydain Di-garbon. Gan fanteisio ar astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn, byddwn yn ystyried camau ymarferol i gyrraedd sero net o bersbectif cymunedol.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymrwymo i ddau gam gweithredu lleihau carbon; un fel unigolyn ac un a fydd yn dylanwadu ar grŵp o unigolion. Caiff y camau hyn eu gwerthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich ardystiad Hyddysg mewn Carbon.
Ar draws y diwrnod, cynhelir sesiynau myfyrio a thrafod wedi’u hamserlennu, sesiynau holi ac ateb, cyfleoedd rhwydweithio ac egwyliau all-lein i gadw’r ffurf ar-lein yn ffres ac yn ddiddorol.