Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Trafod cynlluniau ar gyfer dyfodol CyDA gyda Craig Williams AS

Trafod cynlluniau ar gyfer dyfodol CyDA gyda Craig Williams AS


Home » Trafod cynlluniau ar gyfer dyfodol CyDA gyda Craig Williams AS

Daeth Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Craig William ar ymweliad â Chanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) heddiw i ddysgu mwy am gynlluniau datblygu CyDA yn y dyfodol a thrafod y galw cynyddol am ddarpariaeth addysg a hyfforddiant amgylcheddol CyDA.

Daw ymweliad yr AS Craig Williams â CyDA yn ystod wythnos pan mae arweinwyr saith economi fwyaf y byd yn cyfarfod yn Uwchgynhadledd G7 yng Nghernyw i drafod  yr adferiad ôl-Covid a newid hinsawdd.

Yn siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Peter Tyldesley, Prif Weithredwr CyDA: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld cynnydd mawr mewn ymwybyddiaeth am newid hinsawdd. Croesawn y cyfle hwn i drafod ein harbenigedd ar sut i gyrraedd allyriadau carbon sero a’n cynllun pum mlynedd gyda Craig Williams AS. Ers degawdau, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen wedi bod yn arloesi ac yn hyfforddi pobl ar sut i greu byd mwy cynaliadwy wrth fyw mewn harmoni gyda phobl a natur. Rydym yn disgwyl ymlaen at weithio gydag ystod ehangach o randdeiliaid wrth ddatblygu’r Ganolfan dros y blynyddoedd nesaf. 

Wrth i ni gynllunio ein hadferiad yn dilyn argyfwng Covid, rhaid i ni gadw ein golygon yn gadarn ar atal yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, sydd hyd yn oed yn fwy niweidiol a di-droi’n-ôl. Wrth adeiladu gwytnwch i wrthsefyll yr argyfyngau lluosog hyn, gallwn greu miliwn o swyddi gwyrdd, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella iechyd a lles.”

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus drwy’r byd, yn ganolfan eco flaenllaw yn fyd-eang, ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU. Yn ogystal â denu ymwelwyr a grwpiau i’r ardal leol, mae CyDA yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn Nyffryn Dyfi ac maen’n cyfrannu oddeutu £1.5m i’r economi lleol pob blwyddyn ar ffurf cyflogau a’i defnydd o gyflenwyr lleol.

Yn ystod yr ymweliad, clywodd  Craig Williams AS am gynlluniau ailddatblygu mawr ar gyfer canolfan ymwelwyr CyDA a thrafododd sut y gallai’r rheiny helpu i adeiladu Canolbarth Cymru Di-garbon.

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.