Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Prydain Di-garbon

Prydain Di-garbon

Mae Cytundeb Paris y Cenhedloedd Unedig yn datgan y dylai dynoliaeth gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn canol y ganrif hon. Mae hwn yn symudiad mawr, ond does dim dewis, rhaid llwyddo os ydym am osgoi newid hinsawdd peryglus iawn.

Ers ei ddechreuad yn 2007, mae prosiect Prydain Di-garbon wedi cyflwyno’r data caled a mynegi’r hyder sydd eu hangen i ddychmygu dyfodol lle’r ydym wedi codi i ofynion gwyddoniaeth hinsawdd. Mae hyn wedi helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth ac i agor trafodaethau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddarganfod atebion.

Yn y gweithdy hwn bydd disgyblion yn edrych ar sut y gallwn leihau allyriadau carbon Prydain i sero, ac yn ystyried sut fyddai Prydain heb garbon. Bydd y gweithdy hwn yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu gweledigaeth eu hunain am ddyfodol cynaliadwy, a darganfod mwy am y sgiliau a’r technolegau sydd ar gael all helpu i droi ei gweledigaeth yn realiti

Gwybodath allweddol

  • Parhau am 60 – 90 munud
  • Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 – lefel A
  • Canolbwyntio ar gynaladwyedd ac atebion i broblemau byd-eang mawr
  • Pris £90 y sesiwn
  • Grwpiau hyd at 20 mewn nifer

Braslun o’r Gweithdy

Beth sy’n digwydd?

Cyflwynir disgyblion i’r problemau mawr – newid hinsawdd, tanwydd ffosil, diogelwch ynni, ecwiti byd-eang. Fe’u hatgoffir hefyd am darged cyfredol llywodraeth y DU i ostwng allyriadau C02 gan 80% erbyn 2050. Mae hyn yn arwain at y cwestiwn allweddol – sut fyddai Prydain heb allyriadau carbon?

Bydd disgyblion yn archwilio’r problemau sy’n wynebu gwahanol sectorau – ‘yr amgylchedd adeiledig’, ‘trafnidiaeth’, ‘amaeth’, ‘defnydd tir’, ‘ynni’ a ‘nwyddau’. Archwilir y casgliadau a’r hyn sydd ei angen i droi eu gweledigaeth yn realiti. Mae’r gweithgaredd hwn yn cyfrannu at ‘gaffael gwybodaeth’ mewn gwyddoniaeth, technoleg a defnydd tir, yn ogystal â datblygu meddwl beirniadol, gwneud penderfyniadau a sgiliau cyfathrebu. Caiff disgyblion eu cymell a’u hysbrydoli i ddarganfod mwy a chymryd perchnogaeth dros ddyfodol cynaliadwy.

Mae’r llwybr di-garbon ar y safle yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu’r syniadau hyn ymhellach.

Lleoliad

Cynhelir y gweithgaredd hwn ar y prif safle ac mae cyfle i’w ymestyn drwy ychwanegu’r llwybr di-garbon ar draws y safle.

Gweithgareddau Cyfoethogi

Gellir cyfoethogi’r gweithgaredd hwn drwy ychwanegu gweithdai a fydd yn edrych yn fanylach ar adeiladu cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy.

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i wneud ymholiadau neu i ddarganfod mwy.