Steve Witherden AS

AS Sir Drefaldwyn yn Hyrwyddo CyDA mewn Trafodaeth yn San Steffan 

Mae AS Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden, wedi rhoi CyDA o dan sbotolau cenedlaethol cadarn yn ystod trafodaeth yn Neuadd San Steffan a oedd yn canolbwyntio ar rôl Canolfannau Gwyddoniaeth a Darganfod ar gyfer blaenoriaethau gwyddoniaeth a thechnoleg y DU.  

Roedd y drafodaeth yn rhan o’r ymgyrch ‘Science Centres for Our Future’  dan arweiniad yr Association for Science and Discovery Centres, sy’n galw ar y Llywodraeth i ddarparu £19.5 miliwn o fuddsoddiad cyfatebol i fynd i’r afael â risgiau taer seilwaith a sicrhau dyfodol y canolfannau hyn. Ar hyn o bryd, mae Canolfannau Gwyddoniaeth a Darganfod wedi’u heithrio o gyllid seilwaith sydd ar gael i amgueddfeydd a llyfrgelloedd – bwlch sy’n bygwth eu gallu i barhau i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau’r dyfodol.

Steve Witherden AS

Pam fod Canolfannau Gwyddoniaeth a Darganfod yn Bwysig 

Ar draws y DU, mae Canolfannau Gwyddoniaeth a Darganfod yn chwarae rhan unigryw ac anamnewidiadwy. Maent yn ennyn chwilfrydedd ac yn ysbrydoli miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, gan gynnwys miloedd o blant ysgol, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd mewn technolegau newydd a chreu llwybrau i yrfaoedd gwyddoniaeth. Mae’r canolfannau hyn hefyd yn hanfodol wrth fynd i’r afael â phrinder sgiliau STEM y DU – her sy’n costio tua £1.5 biliwn i’r economi bob blwyddyn. 

Tynnodd yr AS Steve Witherden sylw at hyn yn ystod y ddadl, gan ddweud: 

“Mae Canolfannau Gwyddoniaeth yn bwerus ond yn cael eu tanbrisio. Maent yn dywysyddion mewn cynaliadwyedd, addysg ac arloesedd. Gyda chydnabyddiaeth a buddsoddiad, gallant ffynnu – gan gefnogi nodau hinsawdd cenedlaethol, ysbrydoli gwyddonwyr a pheirianwyr y dyfodol, a sicrhau bod gwyddoniaeth yn parhau i fod yn hygyrch i bawb.”

Steve Witherden AS

Rôl CyDA mewn dyfodol cynaliadwy 

Am dros 50 mlynedd, mae CyDA wedi bod yn arloesi cynaliadwyedd – gan gyfuno ymchwil sydd o flaen y gad gydag addysg byd arweiniol i gyflymu’r trawsnewidiad i ddyfodol di-garbon. Mae ein graddau ôl-radd a hyfforddi proffesiynol yn darparu unigolion gydag arbenigedd mewn egni adnewyddadwy, adeiladu cynaliadwy, a gwyddoniaeth amgylcheddol – sgiliau sy’n hanfodol i gyflawni targedau sero-net y DU ac amcanion strategol diwydiannol. 

Siaradodd yr AS Steve Witherden yn angerddol am gyfraniad unigryw CyDA: 

Mae CyDA wir yn dlws yng nghoron Sir Drefaldwyn – canolfan sydd wastad wedi bod o flaen ei amser mewn arloesi byd mwy cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd.

Mae effaith CyDA yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Ganolbarth Cymru. Bob blwyddyn, rydym yn hyfforddi cannoedd o fyfyrwyr ôl-raddedig, yn darparu rhaglenni llythrennedd carbon i gynghorau ledled y DU, ac yn ysbrydoli miloedd o blant ysgol trwy weithdai a mentrau ymgysylltu STEM fel Dyfodol Mentrus, sy’n grymuso pobl ifanc i ddychmygu a chreu gweledigaethau positif ar gyfer dyfodol cynaliadwy. 

Yn hwyrach yn ei araith, dyma’r AS Steve Witherden yn mynd ymlaen i egluro:

“Ers dros hanner canrif, mae CyDA wedi cyfuno ymchwil arloesol ag addysg o’r radd flaenaf i gyflymu’r trawsnewidiad i ddyfodol di-garbon. 

Nid canolfan yn unig ydyw; mae’n gatalydd ar gyfer newid – yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.”

Cysylltiad Personol 

Dyma Steve Witherden AS hefyd yn rhannu ei gysylltiad dwfn personol i CyDA: 

“Fy nhad oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i’r brifysgol, lle bu’n astudio Economeg Amaethyddol. Ar ôl graddio, symudodd fy rhieni i Sir Drefaldwyn yn y 1970au ac ymgartrefu ym Machynlleth. Roeddent ymhlith aelodau sefydlol CyDA, un o’r canolfannau gwyddoniaeth hynaf yn y DU.”

Gorffennodd gyda neges bwerus:

“Gyda chydnabyddiaeth briodol, buddsoddiad brys mewn seilwaith, a chronfa adnewyddu cyfalaf hirdymor, gall CyDA a’r canolfannau rhagorol eraill ledled y DU barhau i danio chwilfrydedd, ehangu sgiliau gwyrdd, a datgloi potensial llawn gwyddoniaeth a thechnoleg y DU ar gyfer dyfodol iach, diogel a chynaliadwy.”

Edrych ymlaen 

Dyma’r drafodaeth yn arddangos cymorth cryf trawsbleidiol a thraws cenhedloedd ar gyfer Canolfannau Gwyddoniaeth a Darganfod. Siaradodd ASau o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn angerddol am bwysigrwydd Canolfannau Gwyddoniaeth a Darganfod ynghyd â’u cysylltiadau personol eu hunain, ac anogodd Kaniska Narayan, y Gweinidog a ymatebodd ar ran y llywodraeth, i weithio gyda’r sector i sicrhau y gallant barhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol a chefnogi blaenoriaethau cenedlaethol mewn gwyddoniaeth, technoleg, a chynaliadwyedd. 

Ni wnaeth y Gweinidog Narayan ymrwymo i unrhyw ffynhonnell benodol o gyllid, ond ymatebodd gan gydnabod y rôl bwysig y mae Canolfannau Gwyddoniaeth a Darganfod yn ei chwarae a’i fod wedi “clywed yn glir ac yn uchel y pryderon a fynegwyd ynghylch gwydnwch ariannu canolfannau gwyddoniaeth a darganfod.”

Gellir gwylio’r drafodaeth lawn yma. 

Looking across the CAT site