Author: alis.rees

  • O CyDA i Sgwâr Trafalgar: Myfyrwyr yn Dadorchuddio ‘Gorsedd’

    O CyDA i Sgwâr Trafalgar: Myfyrwyr yn Dadorchuddio ‘Gorsedd’

    Fel rhan o ddathliad Daucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol, y Triumph of Art, daeth myfyrwyr o Ysgol Graddedig yr Amgylchedd CyDA â strwythur newydd pwerus yn fyw yng nghalon Llundain.
    Mae’r ‘Orsedd’ yn adeiladwaith pensaernïol trawiadol wedi’i ddylunio a’i adeiladu gan grŵp o fyfyrwyr ar y cwrs Feistr mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy, yn ystod eu modiwl Adeiladu mewn cydweithrediad â’r artist Jeremy Deller, Oriel Mostyn yn Llandudno a’r Oriel Genedlaethol.

    A Structure Rooted in Sustainability  

    A’i wreiddiau’n gorwedd yn ethos CyDA o gynaliadwyedd ymarferol wedi’i arwain yn gymunedol, mae Gorsedd yn fwy na llwyfan – mae’n symbol o weithrediad ar y cyd, etifeddiaeth ddiwylliannol, a phwysau taer yr argyfwng ecolegol. Wedi’i godi gan ddefnyddio pren Cymreig, helyg o Wlad yr Haf, Pren Haenog wedi’i ddarparu gan ReCollective (asiantaeth deunyddiau wedi’i sefydlu gan raddedigion o CyDA) a llechi o Chwarel Llwyngwern CyDA, mae’r strwythur yn tynnu ar ysbrydoliaeth o gylchoedd cerrig, arferion derwyddon, a hanes adeg rhyfel yr Oriel Genedlaethol o storio’n ddiogel yn Chwarel Manod.

    Mae’r prosiect yma yn rhan o fodiwl adeiladu CyDA ac yn rhan unigryw sydd wrth raidd ein Meistr Rhan II mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy wedi’i achredu gan ARB. Mae’r cwrs yn cydweddu theori dylunio gydag adeiladu ymarferol, gan rymuso myfyrwyr i archwilio deunyddiau carbon-isel, technegau gwerinol, ac ymrwymiad cymunedol.
    Mae’r modiwl adeiladu yn galluogi myfyrwyr i ymdrwytho yn yr elfennau ymarferol o weithredu dyluniadau ac adeiladu drwy droi llaw at weithdai adeiladu a gweithio ar friffiau ar gyfer cleientiaid byw. Mae’r adeileddau a ‘i dylunnir a’i hadeiladir bob blwyddyn ar y modiwl yn pwysleisio ar gynaliadwyedd, gwastraff minimol, cyrchu cyfrifol a hyblygrwydd.

    Dywedodd fyfyriwr CyDA, Louis Parry-Jones “Un o elfennau allweddol y Radd Feistr mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy yn CyDA a ddenodd fi at y cwrs o’r cychwyn cyntaf, oedd y modiwl Adeiladu. Fyddwn i byth wedi dychmygu y byddai’r Oriel Genedlaethol yn dod atom gyda briff mor gyffrous ar gyfer y modiwl! Rydw i wedi dysgu cymaint o’r broses ddylunio ac adeiladu a chredaf y bydd yn amhrisiadwy i fy ngwaith yn y dyfodol.”

    Wedi’i adeiladu gan ddwylo niferus: Adeiladwaith Perfformiadol 

    Roedd yr adeiladwaith yn gamp mewn cydweithio, gan adleisio technegau traddodiadol o godi ysguboriau a hwylbrenni. Fe godwyd y ffrâm yn gwbl â llaw, digwyddiad prin iawn dyddiau hyn, dros ddydd Iau a dydd Gwener cyn y digwyddiad ar ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf. Gan ddefnyddio symudiadau wedi’u coreograffi, roedd y codi yn fynegiant perfformiadol o waith tîm yn dathlu’r hyn y gellir ei gyflawni pan ystyriwn ffyrdd symlach o wneud pethau, dysgu o’r gorffennol, canolbwyntio ar offer sydd gennym yn barod a chydweithio tuag at ddiben cyffredin.


    Mae Gorsedd yn deillio o ddwylo niferus yn gweithio tuag at amcan wedi’i rannu. O’r myfyrwyr, y tiwtoriaid yr MArch Gwyn Stacey a Dieter Brandstätter, Jenny Hall, Simon Elliston a raddiodd o CyDA a chydweithredwyr o Momentum Engineering.

    Dywedodd Richard Heath o Momentum Engineering, ymgynghoriaeth peirianneg strwythurol a sifil sy’n arbenigo mewn dylunio ac adeiladu gyda phren “Rydym wedi bod yn darparu cefnogaeth peirianneg i’r strwythurau a’i dylunnir a’u codir yn ystod Wythnos Adeiladu CyDA ers dros 20 mlynedd, ac mae’r Triumph of Art yn un o’r prosiectau mwyaf a wnaed! Rydym wedi bod yn darparu cyngor peirianneg strwythurol ar ddulliau dylunio a hunan-adeiladu’r myfyrwyr ar gyfer y strwythur pren ac wedi arolygu’r strwythur wedi’i godi yn Sgwâr Trafalgar cyn ei ddefnydd yn nathliadau Daucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol.”

    Willow Panels being made at Community WIllow Weaving Workshops.

    Drwy gydol y gwaith adeiladu, mae myfyrwyr wedi cael cymorth gan aelodau o gymuned CyDA ac aelodau o’r cyhoedd lleol i wehyddu helyg gan ddefnyddio technegau syml i ffurfio’r fframiau sy’n ffurfio to’r strwythur.

    “Mae’r gefnogaeth a gawsom gan ein tiwtoriaid, ein cyd-ddisgyblion a chymuned ehangach CyDA dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn eithriadol; ni allem fod wedi cwblhau’r prosiect hwn hebddo. Mae symbolaeth y prosiect wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn ein profiadau yn CyDA gan ddod â chymuned at ei gilydd.” Anna Karien-Drost, myfyrwraig CyDA 

    Woven Willow Panels adorn the timber structure

    Etifeddiaeth sy’n estyn tu hwnt i Sgwâr Trafalgar 

    Mae’r myfyrwyr a oedd yn rhan o’r Adeiladu Hannah Maxey, Anna Drost, Alfie Hatch, Cat San, Sam Garbett a Louis Parry-Jones hefyd wedi mynd ymlaen i sefydlu Studio CLAASH, cydweithfa ddylunio ac adeiladu y byddant yn parhau gydag ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau yn CyDA.
    Er bod ymddangosiad cyntaf yr Orsedd yn Sgwâr Trafalgar, rydym am ei ddefnyddio eto ar gyfer digwyddiad yn CyDA y flwyddyn nesaf a gobeithio yn y dyfodol mewn gwyliau a digwyddiadau eraill ledled y wlad, gan barhau i rannu neges CyDA o newid cynaliadwy, wedi’i yrru gan y gymuned a’r gamp drawiadol y mae ein carfan o fyfyrwyr wedi’i chyflawni yn ystod eu hastudiaethau.

  • Archwilio cynaliadwyedd a dychmygu dyfodol newydd i fyfyrwyr Walsall yn CyDA

    Archwilio cynaliadwyedd a dychmygu dyfodol newydd i fyfyrwyr Walsall yn CyDA

    Bob blwyddyn, mae disgyblion Blwyddyn 7 o Ysgol Ramadeg Queen Mary yn Walsall yn teithio o galon Gorllewin Canolbarth Lloegr i fryniau canolbarth Cymru. Fel rhan o’u taith ysgol, maen nhw’n dod i Ganolfan y Dechnoleg Amgen i gael eu trochi yng nghanol natur, archwilio cynaliadwyedd a chymryd rhan mewn gweithdai ymarferol.

    I lawer, mae’n gyfle prin i dreulio amser mewn lleoliad mor wledig a naturiol – wedi’i amgylchynu gan goed, awyr iach a thrydar adar.

    “Rydych chi’n dod i rywle fel hyn ac yn cael eistedd a gwrando ar adar, cael awyr iach… maen nhw’n canolbwyntio cymaint yn fwy,” meddai John Ridler, athro sydd wedi dod â myfyrwyr i CyDA bob blwyddyn ers 2009.

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Dysgu Tu Hwnt i’r Ystafell Ddosbarth

    Cymerodd y grŵp o 27 o ddisgyblion ran yng Ngweithdy Egni Gwynt CyDA ac archwilion nhw’r llwybr Prydain Di-garbon – profiadau a dyluniwyd i ddod â gwyddoniaeth hinsawdd a pheirianneg yn fyw.

    “Does dim ond cymaint y gallwn ni fel athrawon ei wneud y tu mewn i’r ystafell ddosbarth,” eglura John. “Mae dod yma gydag arbenigwyr yn eu meysydd, a all roi tro hollol wahanol ar bethau, yn rhoi lefel llawer uwch o wybodaeth i’r myfyrwyr.”

    Mae’r sesiynau’n ymarferol, ac yn llawn cyfleoedd i fod yn greadigol.

    “Roedden nhw i gyd yn canolbwyntio’n fawr ar yr arbrawf tyrbin gwynt,” medd John. “Dyma Sarah, a arweiniodd y sesiwn, yn cyflwyno mewn ffordd na allwn i ei wneud. Ac oherwydd y bu’n hwyl, fe wnaethon nhw amsugno cymaint mwy.”

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Agor Llwybrau Newydd

    Er bod llawer o fyfyrwyr yn cyrraedd gyda uchelgeisiau i ddilyn meddygaeth, mae ymweliadau â CyDA yn aml yn ehangu eu gorwelion.

    “Mae llawer o’n disgyblion yn dod i mewn gan feddwl mai meddygaeth yw eu llwybr tebygol,” medd John. “Ond mae profiadau fel hyn yn eu hysbrydoli i ystyried peirianneg – rhywbeth efallai na fyddent byth wedi meddwl fod ar eu cyfer nhw.”

    Mae Queen Mary’s bellach yn gweld 15–20 o fyfyrwyr y flwyddyn yn mynd ymlaen i astudio peirianneg yn y brifysgol. Er ei bod hi’n anodd olrhain hynny’n uniongyrchol i un daith, mae John yn credu bod yr ymweliad â CyDA yn hau’r hadau.

    “Os yw hyn o bosibl yn gatalydd i’w cael nhw i edrych ar beirianneg, yna gwych,” meddai.

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Gwerth Lle 

    Yn CyDA, mae dysgu’n digwydd mewn cyd-destun. Mae’r safle ei hun, wedi’i gynllunio i ddangos byw’n gynaliadwy, yn dod yn rhan o’r wers.

    “Maen nhw’n dod o amgylchedd prysur, swnllyd. Yma, mae’n heddychlon. Mae’n dawel. Maen nhw’n teimlo hynny, ac maen nhw’n cael llawer allan ohono,” myfyria John. “Mae mor bwysig iddyn nhw.” 

    I lawer o’r myfyrwyr ifanc hyn, mae ymweld â CyDA yn cynnig persbectif newydd ar yr amgylchedd, ar ddysgu ac ar yr hyn y gallai eu dyfodol ei gynnig.

    I gael gwybod mwy am gynnig CyDA ar gyfer ysgolion, prifysgolion a sefydliadau neu i wneud ymholiad, ewch i https://cat.org.uk/groups-learning/ 

  • Stori CyDA Hattie: Ennill Hyder mewn Cadwraeth

    Stori CyDA Hattie: Ennill Hyder mewn Cadwraeth

    Fe wnaethon ni ddal fyny ag un o’n cyn-wirfoddolwyr, Hattie Jones, i ddarganfod sut baratôdd ei phrofiad yn CyDA yn 2019 y ffordd ar gyfer ei chyrfa mewn cadwraeth.

    Ymunodd Hattie â CyDA fel gwirfoddolwr preswyl yn 2019, ychydig cyn y pandemig. Gyda chefndir mewn sŵoleg a diddordeb cynyddol mewn cadwraeth, roedd hi’n edrych i feithrin sgiliau ymarferol – yn enwedig mewn rheoli coetiroedd.

    “Roeddwn i newydd ddychwelyd o ddwy flynedd yn Seland Newydd,” meddai hi. “Roeddwn i eisiau bod yn rhywle yn y DU gyda mynyddoedd ac ymdeimlad cryf o gymuned. Roedd CyDA yn ffitio i’r dim”

    Gwirfoddolodd Hattie gyda Thîm Coetir a Dŵr CyDA am ychydig dros chwe mis. Dechreuodd ei lleoliad preswyl gyda chwrs byr mewn Rheoli Coetir yn Gynaliadwy, ac fe roddodd hyn gyflwyniad cadarn iddi i’r gwaith o’i blaen.

    “Fe aethom ni’n syth i mewn iddo – yn dysgu gan arbenigwyr lleol ac yn cael rhoi cynnig arni’n ymarferol yn y coed.”

    Yn ystod ei hamser yn CyDA, helpodd Hattie i reoli Coed Gwern, coetir sy’n eiddo i CyDA ar draws y ffordd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, lle defnyddiodd offer llaw, cliriodd lwybrau, a chymerodd ran mewn amrywiaeth o dasgau tymhorol. Cafodd gyfle hefyd i archwilio ei diddordebau ei hun. “Roeddwn i wir yn hoff o wyfynod, felly sefydlais ystod o drapiau gwyfynod. Roedd eraill yn gwneud pethau fel garddio Japaneaidd neu arolygon gweirgloddiau. Roedd yn amgylchedd cefnogol iawn.”

    Dyma’r profiad yn helpu Hattie i feithrin hyder a datblygu sgiliau newydd.

    “Cyn CyDA, doeddwn i ddim yn siŵr sut i fynd mewn i’r sector coetir. Rhoddodd gwirfoddoli’r profiad a’r gred i mi y gallwn i wneud.”

    Ar ôl gadael CyDA, cwblhaodd Hattie gwrs llif gadwyn gyda grŵp o gyd-wirfoddolwyr. Arweiniodd hynny at rôl gadwraeth leol, ran-amser cyn iddi symud i Ogledd Cymru i fod yn barcmon a rheolwr meithrinfa goed.

    Mae ei rôl bresennol yn cynnwys casglu hadau o goetiroedd lleol a’u tyfu ymlaen i’w plannu mewn ardaloedd ucheldir.
     
    “Rwy’n tyfu coed i tua phedair troedfedd o uchder fel y gallant oroesi pori gan ddefaid a geifr. Rydym hefyd yn gweithio ar ddod â rhywogaethau prinnach fel yr aethnen yn ôl.”

    Ex CAT Volunteer Hattie with some seedlings

    Mae’r aethnen wedi dod yn ffocws penodol. “Dim ond tua 60 o goed aethnen unigol sydd ar ôl yng Ngogledd Cymru, ac ni allant atgenhedlu’n naturiol oherwydd bod y coed gwrywaidd a benywaidd yn rhy bell oddi wrth ei gilydd. Rydym wedi bod yn peillio cenau coed â llaw – a’r llynedd cawsom yr aethnen hadog cyntaf yn yr ardal ers dros 500 mlynedd.”

    Wrth edrych yn ôl, fe ddywedir Hattie bod CyDA wedi chwarae rhan fawr yn llunio ei chyrfa. “Roedd yn lle mor brysur – yn llawn pobl oedd eisiau gwneud newid. Roedd bod o gwmpas eraill gyda’r un egni ac angerdd yn ysbrydoledig iawn.”

    Mae hi’n dal mewn cysylltiad â llawer o’i chyd-wirfoddolwyr, sydd wedi mynd ymlaen i weithio mewn meysydd fel ffermio adfywiol, garddio marchnad, cyfiawnder hinsawdd, a gwaith-maes ecolegol. “Roedd yn amser gwych,” meddai. “Rhoddodd CyDA sylfaen gref iawn i ni i gyd.”

    I ddarganfod am gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar ddod yn CyDA neu i gysylltu â ni, ewch i cat.org.uk/volunteer.

  • Pa dda wna perswâd os does neb yn talu sylw?

    Pa dda wna perswâd os does neb yn talu sylw?

    Mae Jonathon Porritt yn awdur blaenllaw ac yn ymgyrchydd arweiniol dros ddatblygiad cynaliadwy. Ers dros bum degawd, mae wedi darparu arweiniad strategol i’r ‘mawr a’r da’, gan barhau i gymryd rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth werdd a llawer o ymgyrchoedd gwahanol. Yn y blog hwn, mae’n rhannu darn o’i lyfr sydd ar ddod.

    Love, Anger & Betrayal

    Ym mis Gorffennaf eleni, bydd yn cyhoeddi ei lyfr diweddaraf, ‘Love, Anger & Betrayal’, wedi’i gyd-awduro gyda 26 o ymgyrchwyr ifanc angerddol.

    Mae Jonathon wedi ymrwymo’n frwd tuag at rymuso’r genhedlaeth nesaf, ac mae’n hyrwyddo lleisiau a gweithredoedd pobl ifanc wrth iddynt wynebu dyfodol sydd wedi’i lunio gan yr argyfwng deuol o newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth.

    Mae ‘Love, Anger & Betrayal’ yn alwad glir am gyfiawnder hinsawdd sy’n pontio’r cenedlaethau ac yn sialens feiddgar i amgylcheddaeth brif ffrwd, yn ogystal ag archwiliad personol o straeon a chymhelliant y rheini a’i henwir gan rai fel ymgyrchwyr ‘radicalaidd.’

    Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd Jonathon, ynghyd ag un o’i gyd-awduron ifanc ysbrydoledig, yn ymuno â ni fel siaradwyr gwadd yng Nghynhadledd Flynyddol CyDA, eleni, ym mis Awst. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i glywed gan ddwy genhedlaeth o arweinwyr hinsawdd sydd ar flaen y gad ar gyfer y symundiad dros ddyfodol cynaliadwy. Mae’n anrhydedd i ni gynnig rhagolwg byr cyffrous o’r llyfr yma.

    Detholiad

    A word about the title of this book. Before opting for ‘Love, Anger & Betrayal’, my favourite working title was ‘For the Love of God, Pay Attention!’ – as a rather blunt way of capturing the incomprehension felt by these young campaigners as we hurtle towards a world ravaged by climate breakdown.  Yet so few people really seem to care. Because of that, there’s an undeniable element of desperation in the choices they make about campaigning tactics, in a world where the old model of political engagement has gone and ‘spectacle beats argument every time’. As Chris Hayes puts it in his excellent book, The Sirens’ Call: How Attention Became the World’s Most Endangered Resource

    Love, Anger & Betrayal by Jonathan Porritt

    Working with young activists has forced me to confront the full extent of today’s ongoing intergenerational injustice – in effect, the whole notion of Intergenerational Justice has been turned on its head. Instead of older generations doing everything they can to ensure a better, more secure future for all those who come after them, today’s younger generation finds itself doing a lot of the heavy lifting to secure a still liveable future not just for themselves, but for their parents and grandparents.

    Which is why I hope, almost against all hope, at this very late stage, that all those parents, grandparents and citizens deeply concerned about the future, will find their own way of stepping up – moving from concern to action. When Martin Luther King said that ‘the arc of the moral universe is long, but it bends towards justice’, he sure as hell didn’t mean that justice will simply arrive, so sit back and wait for the happy outcome! As he said: ‘Social progress never rolls in on the wheels of inevitability. It comes through the tireless efforts and persistent work of dedicated individuals.’

    Ar ei symlaf, rwy’n cymryd rhan gan fy mod wrth fy modd â bywyd: pobl a phopeth ar y blaned sy’n gwneud y byd yn werth ymladd drosto. Mae hanes yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni dderbyn fel ymgyrchwyr y bydd rhai pobl yn ein casáu ni, mae ceisio codi ymwybyddiaeth yn y modd yma yn gwneud rhai pobl yn grac iawn. Ond hyd yn oed pan fyddant yn anghytuno, mae sgwrs yn parhau. Efallai y byddan nhw’n dechrau teimlo rhywfaint o’r ofn hwnnw?”’ – Jacob

    “Mae llawer o bobl yn esgus nad yw’r argyfwng hinsawdd yn digwydd, a bydd popeth yn iawn. Rwy’n gwybod y gall fy nghyfranogiad fy hun wneud i lawer o ffrindiau a theulu deimlo’n anghyfforddus – bron fel pe bawn i’n ymgorfforiad o’r holl bryderon hynny! Dydy rhai ffrindiau wir ddim eisiau gwybod. ‘Mae’n fraint bod yn rhan o hyn, ond gall hefyd bod yn faich – gwneud y gwaith bob dydd, boed hynny o flaen fy meddwl ai peidio, rwy’n ei wneud oherwydd bydd cannoedd o filiynau o bobl yn dioddef yn y dyfodol. Gall fod yn anodd bod o gwmpas pobl sydd ddim yn deall hynny –ac sydd ddim eisiau gorfod meddwl amdano.”- Olive

    Ymunwch â Jonathon yng Nghynhadledd Flynyddol CyDA yr haf hwn, o 15 i 17 Awst, i archwilio’r pwnc yn fanylach a dod â’ch syniadau a’ch meddyliau eich hun fel aelod o CyDA.