O ddydd Gwener 21 i ddydd Sul 23 Awst, bydd CyDA yn agor ei drysau unwaith eto ar gyfer ein Cynhadledd CyDA flynyddol, sef penwythnos o sgyrsiau, teithiau a gweithdai yn archwilio sut y gallwn ymateb i heriau ein hoes.
“Nid breuddwyd gwrach yw Gobaith Gweithredol. Nid aros i gael ein hachub yw Gobaith Gweithredol…mae’n golygu parodrwydd i ddarganfod ein cryfderau ni a chryfderau eraill; cadernid ein diben, ein hawdurdod ni, bywiogrwydd ein chwilfrydedd a’n capasiti i arwain. Ni ellir darganfod unrhyw un o’r rhain mewn cadair freichiau neu heb risg. Rydym wedi cyflawni llawer ac rydym yma i gyflawni ein rhan.”
Geiriau Joanna Macey yw’r rhain, yr ysgolor a’r awdur diweddar, ac maent yn taro tant wrth i ni edrych ymlaen at gynhadledd eleni.

Cysylltiad, Dewrder a Gobaith Ymarferol
Ar adeg pan fo’r argyfyngau hinsawdd a natur yn gallu teimlo’n llethol, a phan fo’r wybodaeth y byddwn yn ei chael yn aml yn dameidiog neu’n bolareiddiedig, mae’r weithred o ddod ynghyd yn teimlo’n hanfodol.
Mae angen lleoedd arnom lle y gall pobl ddod ynghyd mewn ffordd onest, gan fynd i’r afael â chymhlethdod a gweithredu datrysiadau sy’n radical, yn gynhwysol ac sy’n seiliedig ar realaeth a gofal. Felly mae thema cynhadledd eleni, “Cysylltiad, Dewrder a Gobaith Ymarferol” yn cyfeirio at ffordd ymlaen: nid yw datrysiadau technegol yn ddigon ar eu pen eu hunain.
Trwy gydol y gynhadledd, bydd cyfranogwyr yn archwilio sut y gall gweithredu ymarferol, sgyrsiau dewr a meddwl ar ffurf systemau gyfuno i siapio dyfodol mwy cynaliadwy. O sgiliau adeiladu ymarferol ym maes adeiladu cylchol, i drafodaethau sy’n procio’r meddwl am ynni, gwydnwch cymunedol a chyfiawnder hinsawdd, byddwn yn treulio penwythnos yn cysylltu syniadau gyda gweithredoedd.
Bydd ein haelodau yn dangos enghreifftiau ysbrydoledig ar draws cymuned CyDA, o deithiau ym maes adeiladu cynaliadwy i brosiectau ynni cymunedol, adrodd straeon a chanlyniadau ymchwil. Mae’r straeon hyn yn bwysig. Maent yn ein hatgoffa bod newid eisoes yn digwydd a’i fod yn cael ei ysgogi gan bobl sy’n fodlon arbrofi, cydweithio a chymryd camau hyderus yn lleol. O’r fan hon, cawn ein hatgoffa o ddoethineb pellach y diweddar Joanna Macey: “byddwch yn hael gyda’ch cryfderau a’ch sgiliau. Nid eich eiddo preifat chi yw’r rhain, a byddant yn tyfu o gael eu rhannu.”

Bob blwyddyn, mae cynhadledd CyDA yn bywiogi ein hymdeimlad o berthyn yn y byd, sy’n helpu i ddatblygu gwydnwch rhag gorflino neu besimistiaeth.
Gall y cyfle i rannu arbenigedd a straeon ar draws cenedlaethau, disgyblaethau a phersbectifau, ac i fod yn bresennol a gwrando, fod yn bwerus. Mae’n ein hatgoffa, er bod ein profiadau a’n safbwyntiau yn wahanol efallai, yn aml, bydd gennym lawer yn fwy yn gyffredin nag yr ydym yn sylweddoli. Er enghraifft, mae sesiwn Labordy Arloesi CyDA yn defnyddio delweddu cyfunol er mwyn helpu i ddatgloi ffyrdd newydd o feddwl, bod a gwneud. A hyd yn oed gyda chymaint o elfennau cyffredin a gwerthoedd tebyg ymhlith ein cymuned, mae’n arfer y gallwn fynd ag ef allan i’r byd.
Briff Argyfwng y Bobl
Bydd y prif siaradwr eleni, Mike Berners-Lee, yn archwilio “Llwybrau trwy’r Polygreisis”, gan fanteisio ar syniadau o’i lyfr, A Climate of Truth.
Mae ei waith yn ein herio i wyneb maint y problemau sydd o’n blaenau, oherwydd mae’n cydnabod mai dim ond o’r dewrder hwn wrth ystyried y gwir y gallwn sicrhau newid. Mae’n nodi mai un o’r rhwystrau mwyaf y mae’n rhaid i ni eu goresgyn yw gonestrwydd ac atebolrwydd yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth a sgwrs gyhoeddus.
Mae hon yn un o’r egwyddorion sydd wedi arwain at y Briff Argyfwng Cenedlaethol ynghylch Hinsawdd a Natur, a gadeiriwyd gan Mike yn y Neuadd Ganolog yn San Steffan ym mis Tachwedd 2025. Gallwch ddarllen am ei brofiad yn y digwyddiad ym mlog Mike yma.
Fel y mae wedi myfyrio, roedd y Briff Argyfwng Cenedlaethol ynghylch Hinsawdd a Natur yn dangos pwysigrwydd cyfleu’r gwirioneddau hyn, ac mae’r momentwm bellach yn datblygu trwy gyfrwng sesiynau Briffio Argyfwng y Bobl a gynhelir ar draws y DU, a chynhelir un o’r rhain yn y Gynhadledd ymhen ychydig wythnosau.

Bydd y Gynhadledd yn cychwyn trwy sgrinio Briff Argyfwng y Bobl, sef rhaglen ddogfen a ffilm ymgyrchu gymunedol sy’n para 50 munud, ac sy’n nodi bygythiadau rhyng-gysylltiedig yr argyfyngau hinsawdd a natur. Gan fanteisio ar dystiolaeth gan arbenigwyr blaenllaw o Brydain ym maes gwyddor hinsawdd, economeg, iechyd ac ecoleg, mae’n amlygu’r cyfleoedd cadarnhaol a fyddai’n dilyn gweithredu cyflym go iawn wrth ymateb i’r argyfwng. Yn dilyn y ffilm, estynnir gwahoddiad i’r sawl a fydd yn bresennol i ymuno mewn trafodaeth strwythuredig, gan greu lle ar gyfer sgwrs agored ac adeiladol am yr hyn y bydd y materion a godir yn eu golygu yn lleol.
Paul Allen, Cydlynydd Gwybodaeth ac Allgymorth
“Mae pawb wedi sylwi ar y tywydd poeth eithafol yr ydym wedi ei gael hyd yn hyn eleni. Ar yr un pryd, mae cannoedd o sesiynau gwylio ‘Briff Argyfwng y Bobl’ wedi bod yn digwydd ar draws y DU. Nawr yw’r amser i gynyddu gweithredu prif ffrwd er mwyn sicrhau newid. Nid yn unig y mae’n rhaid i ni wneud hyn, ond os byddwn yn gwneud hyn yn iawn, mae’n gyfle i gynnig budd i gymaint o sectorau. Y chwyldro ynni glân yw un o rannau’r economi sy’n tyfu gyflymaf’; mae darpariaeth solar yn perfformio’n well na hyd yn oed yr amcanestyniadau mwyaf gobeithiol o ran creu swyddi ac incwm i gymunedau. Mae diet gwell a chyflenwadau bwyd lleol yn dda i bobl ac i’r blaned. Gadewch i ni ddod ynghyd i archwilio’r ffordd y gallwn sicrhau bod hwn yn gychwyn newid go iawn.
Mae’r weithred o dreulio amser yng nghwmni ein gilydd yn esgor ar ddulliau a ffyrdd o feddwl newydd. Yn yr un modd ag y mae natur yn rhannu maeth yn y pridd, mae ‘ecosystem’ yr aelodau, y myfyrwyr, y staff a’r cyn fyfyrwyr yn dod ynghyd yn CyDA i groes-ffrwythloni ffyrdd y gallwn ymateb i’r heriau yr ydym yn eu hwynebu, ac mae’n hanfodol wrth helpu i ehangu datrysiadau. Mae anerchiadau, teithiau, gweithdai a sgyrsiau yn ymgysylltu â’r dychymyg er mwyn gwireddu gwahanol ddyfodol sy’n herio’r sefyllfa fel ag y mae. Wrth i ni ollwng gafael ar y straeon sy’n ein dal yn ôl, a dychmygu posibiliadau newydd gyda’n gilydd, rydym yn creu gweledigaeth ar y cyd o’r hyn sy’n bosibl.
Mae syniadau wedi’u gwreiddio mewn safbwyntiau byd ein bod yn rhan o fyd natur, yn rhan hanfodol o’r trawsnewidiad angenrheidiol. Maent yn meithrin gwerthoedd fel gonestrwydd, cyfrifoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a defnyddioldeb, sy’n cryfhau ymrwymiad y cyhoedd i weithredu ynghylch yr hinsawdd a natur, yn hytrach na gwerthoedd sy’n seiliedig ar gyfoeth, statws a grym, sy’n ei wanhau.
Trwy ddod ynghyd, rydym yn cydnabod nad yw hyn i gyd i’w gyflawni gennym fel unigolion, rydym yn gweld ein bod yn gelloedd mewn ‘organeb’ sy’n esblygu ac sy’n tyfu, gan ymateb i’r polygreisis a chydnabod yr angen am ddigonolrwydd i bawb, fel rhan o natur sy’n ffynnu.”
Ymunwch â Chynhadledd CyDA eleni
Os ydych chi’n ymwneud gryn dipyn â chynaliadwyedd neu’n dechrau archwilio eich rôl wrth siapio dyfodol cadarnhaol, estynnir croeso cynnes i chi i Gynhadledd CyDA eleni.
Gallwch gael gwybod mwy am y gynhadledd, gan gynnwys tocynnau a llety, ar ein tudalen archebu y gynhadledd, ynghyd â rhaglen ein cynhadledd. Os nad ydych yn aelod o CyDA eto, gallwch ymuno pan fyddwch yn archebu lle.
Mawr obeithiwn eich croesawu i CyDA ym mis Awst eleni.

Cofrestru ar gyfer E-bost
Cadwch lygad ar y gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru i dderbyn ein negeseuon e-bost a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelodau CyDA.











































