Author: Myfi Fenwick

  • Sut yr oedd CyDA wedi Helpu Lyreco i Ymwreiddio Cynaliadwyedd ar draws ei Weithrediadau

    Sut yr oedd CyDA wedi Helpu Lyreco i Ymwreiddio Cynaliadwyedd ar draws ei Weithrediadau

    Gwaith CyDA gyda Lyreco i gynorthwyo gweithredu Cynaliadwy

    Yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), credwn y dylai hyfforddiant cynaliadwyedd fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth – dylai rymuso pobl i weithredu mewn ffordd ystyrlon. Pan gysylltodd Lyreco, cwmni cenedlaethol cyflenwi swyddfeydd, â CyDA i gynorthwyo datblygiad dealltwriaeth o gynaliadwyedd o fewn ei dîm cadwyn cyflenwi, roedd y nod yn glir: ymwreiddio cynaliadwyedd mewn gweithrediadau a phenderfyniadau dyddiol.

    Trwy gyfrwng profiad hyfforddiant ymarferol ac ymdrochol, helpodd CyDA y cyfranogwyr i symud o wybodaeth ar lefel arwynebol i weithrediad hyderus ac ymarferol, gan arwain at newidiadau go iawn ar draws safleoedd, systemau, ac arweinyddiaeth.

    Cawsom sgwrs gyda Jake Jones, Cydlynydd Ansawdd Diogelwch a Chynaliadwyedd Lyreco, i glywed sut yr oedd dull CyDA wedi helpu i ysgogi trawsnewid, grymuso unigolion a dylanwadu ar y strategaeth ar gyfer y tymor hir.

    Creu Sylfeini ar gyfer Newid

    Roedd nifer o’r rhai a oedd wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant wedi cael gyrfaoedd hir yn y cwmni, ac roeddent yn aml wedi cychwyn yno mewn rolau iau a symud i fyny dros ddegawdau. Fel yr esboniodd Jake Jones:

    “Mae gennym nifer fawr o gyflogeion a ddechreuodd weithio yma pan oeddent yn 16 oed… ac fel rhan o’r dilyniant gyrfa hwnnw, mae angen i bobl gael hyfforddiant ar lefel uwch.”

    Roedd y sefydliad yn cydnabod bod angen i gynaliadwyedd fod yn fwy na gwerth corfforaethol – roedd yn rhaid ei ymwreiddio yn y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn gweithio. Roedd hyfforddiant CyDA yn cynnig ffordd ymarferol a strwythuredig o wneud hynny.

    “[Rydym yn] deall cynaliadwyedd fel prif ddarn – nid yn unig oherwydd bod cwsmeriaid yn dymuno hyn, ond hefyd, dylem fod yn gwneud hyn.”

    Mae hyfforddiant CyDA yn cyfuno meddwl ar ffurf systemau, gweithdai ymarferol, ac enghreifftiau o’r byd go iawn er mwyn helpu cyfranogwyr i ddeall dimensiynau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cynaliadwyedd. Mae’r dull gweithredu hwn yn helpu pobl i gysylltu cysyniadau haniaethol gyda’u gwaith a’u cyfrifoldebau nhw

    Dewis y Bobl Gywir i Arwain Newid

    Bu’r sefydliad yn strategol wrth ddewis cyfranogwyr, gan ddewis unigolion yr oeddent naill ai’n cyflawni rolau dylanwadol ar hyn o bryd neu a oedd wedi dangos dymuniad i dyfu ac arwain.

    “Dewiswyd yr unigolion gan ystyried yr effaith… eu hongl newid. Mae rhai pobl yn hapus i beidio gwneud unrhyw newid… mae eraill yn dymuno gweld dilyniant.”

    Mae’r dull gweithredu hwn yn cyd-fynd ag athroniaeth CyDA bod hyrwyddwyr cynaliadwyedd o fewn sefydliadau yn gallu bod yn asiantau dros newid pwerus. Trwy roi gwybodaeth a hyder i’r bobl gywir, gall yr hyfforddiant raeadru allan, gan effeithio ar dimau, adrannau, a pholisi.

    O Ymwybyddiaeth i Ddealltwriaeth

    Un o ganlyniadau mwyaf trawiadol yr hyfforddiant oedd y symud o ymwybyddiaeth oddefol i ddealltwriaeth weithredol. Fel y disgrifiodd Jake:

    “Gallent ddweud wrthych bod newid hinsawdd yn wael. Ni allent ddweud pam wrthych… rhoddodd CyDA y sylfeini iddynt ar gyfer yr egwyddorion hynny, a roddodd ystyr i’r holl bwynt wedyn.”

    Mae hwn yn un o nodau craidd hyfforddiant CyDA – helpu cyfranogwyr i ddeall y gwyddor, y systemau a’r cyd-destunau cymdeithasol y tu ôl i heriau cynaliadwyedd.

    Roedd yr hyfforddiant yn defnyddio technegau hwyluso cynhwysol hefyd er mwyn sicrhau y gallai pawb gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon:

    “Roedd rhannu grwpiau yn caniatáu i’r rhai mwy tawel yn y grŵp i gael mwy o lais ac i ymgysylltu yn fwy… Yn gyffredinol, roedd eich arddulliau addysgu wedi helpu pobl i gyfleu’r neges.”

    Trwy gyfuno gwaith grŵp, teithiau safle, a sesiynau rhyngweithiol, roedd CyDA wedi creu amgylchedd lle y gallai cyfranogwyr archwilio syniadau, holi cwestiynau, a chysylltu dysgu gyda’u rolau nhw.

    Trosi Dysgu yn Weithredu

    Roedd effaith yr hyfforddiant i’w weld yn glir ac yn gyflym ar ffurf newidiadau gweithredol. Daeth cynaliadwyedd yn rhan reolaidd o gyfarfodydd mewnol a phrosesau gwella parhaus:

    “Bellach, mae cynaliadwyedd yn elfen o gyfarfodydd PD… Arferem wneud pethau o’r enw troeon Gemba… nawr, ystyrir cynaliadwyedd ac ymgysylltu cymunedol ac iechyd a diogelwch, ar yr un pryd.”

    Roedd un enghraifft yn ymwneud â lleihau deunydd pacio plastig dianghenraid:

    “Os byddwn yn gwaredu’r leinin plastig ar y paled hwn… nid ydym yn cynhyrchu cymaint o wastraff plastig. Nid oed angen bod leinin plastig yno.”

    Er bod y newidiadau yn fach, maent yn dangos sut y gall cynaliadwyedd gael ei ymwreiddio mewn penderfyniadau bob dydd, nid mewn strategaeth ar lefel uchel yn unig.

    Mae’n bwysig nodi bod yr hyfforddiant wedi helpu i ddyrchafu cynaliadwyedd o fewn arweinyddiaeth hefyd:

    “Mae rhai o’r unigolion eisoes wedi cael eu dyrchafu i rolau rheoli ar lefel uwch nawr… Bellach, mae gennych chi unigolion sydd â’r cynaliadwyedd hwnnw mewn swyddi uwch nag o’r blaen.”

    Mae hwn yn ddangosydd llwyddiant allweddol: pan fydd staff sydd wedi cael hyfforddiant cynaliadwyedd yn symud i rolau lle y gallant ddylanwadu ar bolisi, cyllidebau a diwylliant.

    Effeithlonrwydd Ynni

    Roedd un cyfranogydd wedi defnyddio’r hyfforddiant gyda defnydd ynni ar draws safleoedd y sefydliad yn uniongyrchol. Yn hytrach na chynnal archwiliadau hir, penderfynodd weithredu mewn ffordd bendant:

    “Yn hytrach nag archwilio pa adnoddau sydd gennym, mae wedi mynd â gwaredu nwy os oes angen… Nid oes angen tanwydd ffosil, iawn? Dyna’r rhesymeg.”

    Arweiniodd hyn at newidiadau ymarferol, megis newid i wresogi trydanol a theilwra defnydd ynni yn unol â’r angen go iawn:

    “Dim ond dau unigolion sydd ar y safle am y diwrnod cyfan… felly maent wedi cael gwresogydd trydan rhwng y ddau ohonynt.”

    Llwyddodd y sefydliad i sicrhau tystysgrif ISO 50001 am reoli ynni hefyd:

    “Ers hynny, rydym wedi sicrhau tystysgrif ISO 50001 hefyd… mae hynny yn gyrru’r newid yn y math hwn o brosiect hefyd.”

    Mae’r canlyniadau hyn yn dangos sut y gall hyfforddiant CyDA gynorthwyo dysgu unigol a newid strategol ar draws sefydliad.

    Cynnal y Momentwm

    Mae’r sefydliad yn bwriadu parhau gyda’r rhaglen hyfforddiant, gan ddefnyddio model CyDA er mwyn cynorthwyo carfannau yn y dyfodol:

    “Y nod yw gwneud hyn bob rhyw ychydig flynyddoedd… gydag unigolion sydd wedi dangos addewid, sy’n dymuno gwneud mwy, ac sy’n ymwneud â rhoi sgiliau iddynt, rhoi’r sgiliau cynaliadwyedd hynny iddynt.”

    Mae’r math hwn o feddwl ar gyfer y tymor hir yn hanfodol. Nid ymyrraeth untro yw cynaliadwyedd, mae’n broses barhaus o ddysgu, myfyrio a gwella. Cynlluniwyd hyfforddiant CyDA i gynorthwyo’r daith honno.

    Roedd hyfforddiant CyDA wedi helpu cyfranogwyr i symud i ffwrdd o ymwybyddiaeth oddefol i ymgysylltu gweithredol – gan ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu rolau, dylanwadu ar benderfyniadau gweithredol, a siapio arweinyddiaeth y dyfodol. Fel y mae Jake Jones yn myfyrio:

    “Mae’n eistedd yng nghefn eu meddyliau nawr… mae’n dod allan ac mae’n cael ei weld ac yn cael ei ddangos o bryd i’w gilydd mewn gwahanol brosiectau.”

    Mae gwaith CyDA gyda Lyreco yn dangos sut y gall hyfforddiant ysgogi newid parhaus – gan helpu sefydliadau i droi cynaliadwyedd o fod yn werth i fod yn arfer.

    Dysgu mwy

    I gael gwybod mwy am gynnig hyfforddiant CyDA neu i wneud ymholiad am archebu ychydig hyfforddiant gan y tîm, trowch at cy.cat.org.uk.

  • Pam Ydym yn Addysgu: Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd yn CyDA

    Pam Ydym yn Addysgu: Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd yn CyDA

    Mae Dr Alan Owen, Uwch-Ddarlithydd CyDA a Thiwtor Cyrsiau Byr yn archwilio sut y gall ein cyrsiau byr Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd helpu pobl i arbed amser, arian a rhwystredigaeth wrth ddarganfod pa ddewisiadau ynni adnewyddadwy fydd yn gweithio iddyn nhw.

    (more…)
  • Diwrnod Diogelu Ein Planed 2025:  Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn CyDA

    Diwrnod Diogelu Ein Planed 2025:  Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn CyDA

    Yn ystod Wythnos Genedlaethol y Goeden, bydd CyDA yn cynnal POP25, digwyddiad blynyddol ysbrydoledig i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw, ac a gyflwynir gan Swyddfa Addysg y Gofod y DU (ESERO-UK) yn STEM Learning ac ar y cyd ag Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Ofod y DU.

    Ar 27 Tachwedd, wnaeth miloedd o bobl ifanc o bob cwr o’r DU dod ynghyd mewn ffordd rith ar gyfer Diwrnod Diogelu Ein Planed (POP25), sef digwyddiad neilltuol i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw ac a gynlluniwyd i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y gwyddonwyr, y peirianwyr a’r rhai a fydd yn sicrhau newid.  Eleni, rydym yn falch o’r ffaith mai Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) fydd y lleoliad ffisegol ar gyfer cynnal y digwyddiad blynyddol hollbwysig hwn.

    Beth yw POP25?

    Mae cenhadaeth POP25 yn syml, ond yn bwerus: ymgysylltu ysgolion gyda gwyddoniaeth a datrysiadau sy’n helpu i ddiogelu ein planed.  Mae angen pobl ifanc medrus arnom ar fyrder i gychwyn ar yrfaoedd, sy’n meddu ar yr arweinyddiaeth a’r sgiliau i barhau i archwilio a gweithredu datrysiadau ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.  Trwy gyfrwng sesiynau byw, gweithgareddau rhyngweithiol, a chysylltiadau uniongyrchol gyda gorsafoedd ymchwil ar draws y byd, bydd myfyrwyr yn archwilio sut y caiff newid hinsawdd ei fonitro a’i liniaru – o deithiau i’r gofod i waith cadwraeth bioamrywiaeth.

    Mae rhaglen eleni yn llawn cynnwys ysbrydoledig, gan gynnwys:

    • Cyswllt byw â Gorsaf Reoli ESA er mwyn dysgu sut y mae lloerennau arsylwi y ddaear yn olrhain newid hinsawdd.
    • Golwg fanwl ar ddiogelu bioamrywiaeth, a fydd yn cynnwys cynhyrchwyr cyfres Kingdom y BBC, a ddarlledir cyn bo hir, a phrosiectau cadwraeth yn Zambia.
    • Diweddariadau byw o long ymchwil Syr David Attenborough wrth iddi deithio rhwng Yr Ynys Las a’r Arctig.
    • Cysylltiadau â gorsaf ymchwil yr Antarctig Halley VI a gwyddonwyr sy’n astudio llenni iâ yn Norwy a Northymbria.

    A’r dechrau yn unig yw hynny.  Cynlluniwyd pob sesiwn i ddangos i bobl ifanc nad yw gwyddoniaeth yn ymwneud â deall problemau yn unig, ond hefyd, mae’n ymwneud â chreu datrysiadau.

    CAT Biodiversity Engagement Ranger Sven Verbelen chatting to POP25 presenters.
    Sven Verbelen, Ceidwad Ymgysylltu Bioamrywiaeth CyDA, yn sgwrsio â chyflwynwyr POP25 yn fyw o CyDA.

    Pam CyDA?

    Mae cynnal POP25 yn CyDA yn gyfuniad perffaith.  Am dros 50 mlynedd, mae CyDA wedi bod ar flaen y gad o ran addysg amgylcheddol a datrysiadau ymarferol i newid hinsawdd.  Mae ein lleoliad unigryw yng nghalon Cymru, wedi ein hamgylchynu â choedwigoedd a systemau ynni adnewyddadwy, yn cynnig cefndir ysbrydoledig ar gyfer diwrnod a gaiff ei neilltuo i ddiogelu’r blaned.

    Mae rôl CyDA yn mynd y tu hwnt i ddarparu lleoliad.  Rydym yn rhannu cenhadaeth graidd y digwyddiad:  grymuso pobl gyda gwybodaeth a sgiliau er mwyn creu dyfodol cynaliadwy. O’n cyrsiau ôl-raddedig i ymweliadau ysgol a gweithdai ymarferol, mae CyDA wedi ymrwymo i feithrin cenhedlaeth nesaf yr arweinwyr amgylcheddol.  Mae POP25 yn amlygu’r effaith hon trwy gysylltu ein gwaith gydag ymdrechion byd-eang, gan gynnwys y dechnoleg ddiweddaraf yn y gofod.

    Cymru Fyw yn POP25

    Rydym wrth ein bodd fod Athro Richard Lucas wedi bod yn rhan o’r rhaglen, gan gyflwyno ei Brosiect Cymru Fyw.  Mae’r fenter arloesol hon yn defnyddio data arsylwi y Ddaear er mwyn monitro a deall newidiadau yn nhirluniau Cymru – enghraifft berffaith o’r ffordd y mae gwyddor y gofod a gweithredu lleol yn dod ynghyd i ddiogelu ecosystemau.

    Professor Richard Lucas presenting from the CAT viewing platform with Professor Suzie Imber
    Yr Athro Richard Lucas o Cymru Fyw yn sgwrsio â chyflwynydd POP25, yr Athro Suzie Imber

    Wythnos Genedlaethol y Goeden

    Mae POP25 yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol y Goeden, sef y dathliad blynyddol mwyaf o goed yn y DU, a gynhelir gan y Cyngor Coed.  Mae coedwigoedd yn cyflawni rôl hanfodol wrth amsugno carbon, cynorthwyo bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid hinsawdd.  Mae lleoliad CyDA mewn coetir a’n hymrwymiad i ddefnydd tir cynaliadwy yn golygu ein bod yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal diwrnod sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r blaned.  Trwy gysylltu gwaith monitro yn y gofod gyda gwaith cadwraeth ymarferol, mae POP25 yn amlygu sut y mae technoleg ac ecoleg yn gweithio law yn llaw i ddiogelu ein dyfodol.

    Ysbrydoli Gyrfaoedd a’r Dyfodol

    Nid yw POP25 yn ymwneud â gwyddoniaeth yn unig;  mae’n ymwneud â phosibiliadau gyrfa ar gyfer pobl ifanc.  Bydd sesiynau yn y prynhawn yn arddangos 16 o lwybrau gyrfa gwahanol ym maes cynaliadwyedd a gweithredu ar gyfer yr hinsawdd, gan helpu myfyrwyr i weld nad yw diogelu’r blaned wedi’i gyfyngu i un disgyblaeth yn unig.  Boed hynny trwy beirianneg, gwyddor data, cadwraeth, neu’r cyfryngau creadigol, mae rôl i bawb.

    Gyda bron i 200,000 o fyfyrwyr a dros 10,000 o addysgwyr wedi cofrestru, mae’r POP25 yma wedi bod y mwyaf hyd yn hyn!

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Ymweliadau Ysgol

    Dysgwch fwy am waith CyDA gydag ysgolion a gwnewch ymholiad ynglŷn â dod â’ch dosbarth i CyDA.