Category: CAT Stories

  • Stori CyDA: Alice Breeveld

    Stori CyDA: Alice Breeveld

    Gan raddio o CyDA yn 2023, dyma ni’n clywed yn ddiweddar gan Alice am sut mae hi’n rhoi ei gradd Meistr mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol ar waith. 

    O ddefnyddio ei set o sgiliau newydd i wneud newidiadau cynaliadwy yn ei rôl fel Cymrawd Ymchwil Uwch yn UCL, i roi’r hyder a enillodd ar waith fel gwirfoddolwr yn ei grŵp hinsawdd lleol, mae stori Alice yn ddarlleniad ysbrydoledig i bob un ohonom yn CyDA! 

    C. Beth oedd eich cefndir cyn ymrestru ar y cwrs yn CyDA? 

    Astudiais ffiseg a seryddiaeth yn y brifysgol ac rydw i wedi bod yn gweithio ers sawl degawd yn adran gwyddor gofod UCL, i ddechrau mewn ffiseg synwyryddion ac yna’n gweithio ar galibro telesgopau gofod optegol ac uwchfioled. Rydw i hefyd wedi bod yn rhan o rywfaint o ymchwil seryddiaeth. 

    Roedd gen i fy swydd drwy gydol fy astudiaethau, ac felly cyflawnais y cwrs dros nifer o flynyddoedd. Roeddwn i wrth fy modd gyda phob modiwl. Roedd yr wythnosau ar y safle yn gyfle i ymgolli, gyda chanolbwyntiad llawn o’r wawr i’r cyfnos a minnau wedi ymdrwytho’n llwyr. 

    Roeddwn i’n ofni’r aseiniadau, gan argyhoeddi i fy hun bob tro na fyddwn i byth yn gallu ei wneud, ond trwy neilltuo digon o amser, siarad â myfyrwyr eraill a fy nhiwtor, dyfalbarheais a chwblheais bob un ar amser. 

    C. Pa effaith gafodd eich astudiaethau? 

    Dyma’r wythnosau dysgu a’r aseiniadau ar y safle yn dysgu llawer iawn i mi am bob pwnc, ond roeddwn i hefyd yn teimlo fy mod i’n meithrin set o sgiliau defnyddiol iawn. Teimlais ymdeimlad gwirioneddol o gyflawniad ar ôl pob modiwl. 

    Canlyniad: hwb enfawr i’m hyder yn fy ngallu i lywio drwy symiau enfawr o ddeunydd a dewis y pwyntiau allweddol, ysgrifennu pethau mewn gwahanol arddulliau, a chyfathrebu â phobl. Yn y gorffennol, pan fyddwn i efallai wedi bod yn cael sgwrs gyda rhywun am newid hinsawdd, byddwn i’n cymryd yn ganiataol eu bod nhw’n gwybod mwy na fi a’u bod nhw’n arbenigwr a minnau’n gwybod ychydig, yn enwedig os oedden nhw’n ddynion. Nawr rwy’n teimlo mai fi yw’r arbenigwr (weithiau) a gallaf siarad yn fwy hyderus. Mae gen i barch newydd tuag ataf fy hun. 

    C. Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol? 

    O ran fy ngyrfa, dydw i ddim wedi gwneud y newid cynlluniedig hwnnw, yn rhannol oherwydd bod fy adran wedi rhoi prosiect newydd i mi, ond hefyd ar ôl llawer o feddwl a thrafod (a phennod o bodlediad Outrage and Optimism ar yr hyn y gall pobl ei wneud yn y gweithle), sylweddolais fod angen ymgyrchwyr arnom YN MHOBMAN. Does dim pwynt i bawb sy’n poeni am yr hinsawdd gadael eu gweithle i chwilio am swyddi ‘gwyrdd’. Mae angen pobl sy’n arwain o’r tu mewn arnom. 

    Bellach mae gen i dîm bach ond ymroddedig sy’n tyfu, o bobl yn gweithio yn dilyn y rhaglen Effaith Werdd. Rydym wedi gwneud cynllun cynaliadwyedd ar gyfer ein hadran, sydd wedi cael ei dderbyn fwy neu lai gan y rheolwyr. Rwyf hefyd yn arwain grŵp Gofod Gwyllt gan wneud ein tiroedd yn fwy bioamrywiol ac ysbrydoli staff a myfyrwyr. Ysgrifennais gynllun ar wahân ar gyfer rheoli tiroedd yn gynaliadwy. Fe wnaethon ni blannu perllan, mae gennym ddôl blodau gwyllt, ac mae gennym loches ymlusgiaid ac ati. 

    Y tu allan i’r gwaith, rwyf nawr yn gweithredu fel ysgrifennydd i grŵp gweithrediad hinsawdd lleol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth dros newid hinsawdd yn y gymuned. Rydym yn agos iawn at lansio llyfrgell o bethau mewn cydweithrediad â’n llyfrgell a phentref ymddeol leol. 

    Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd heb fy hyder a’m hunan-barch newydd. 

    Atgoffhad Calonogol 

    Mae’r ffordd y cyfunodd Alice yr hyder a’r set sgiliau a enillodd o’i gradd Meistr â’i hangerdd ei hun yn atgof gwych o pam rydyn ni’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn Ysgol Raddedig CyDA… grymuso’r penderfynoldeb oddi mewn! Ac mae’r ffyrdd y mae Alice yn rhoi newid ar waith yn ei gweithle a’i chymuned yn ddarlleniad calonogol i bob un ohonom yn CyDA! 

    Os oes gennych chi stori i’w rhannu am sut mae CyDA wedi cael effaith ar eich bywyd, gwaith neu brofiadau, byddem wrth ein bodd yn eu clywed. 

    Astudiwch yn CyDA 

    Wedi’ch ysbrydoli gan stori Alice? Dysgwch fwy am ein Gradd Feistr mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol neu ein cyrsiau eraill ar un o’n diwrnodau agored, neu drwy gysylltu â’n Tîm Derbyniadau: study@cat.org.uk 01654 705974. 

    Pink Flowers in focus with the WISE building in the background
  • ‘Gwneud y Pethau Bychain’ – Gan ein bod ni’n rhan o rywbeth mwy

    ‘Gwneud y Pethau Bychain’ – Gan ein bod ni’n rhan o rywbeth mwy

    I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydym ni wedi bod yn myfyrio ar y ddihareb ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ a sut mae newidiadau neu rhyngweithiadau bach yn gallu arwain at ddylanwad mwy wrth i ni weithio tuag at ddyfodol gwyrddach.

    Mae graddfa’r argyfwng hinsoddol a bioamrywiaeth a’r trawsnewidiad systemig sydd angen i fynd i’r afael ag e yn aml yn gallu ein gadael a theimlad di-rym a brawychus ac nid  yw hyn yn anarferol. Ond fel pleidia siaradwr gwadd CyDA, Jean Boulton, gall ‘feddwl yn fawr ond gweithredu’n fach’ ysgogi newid er gwaetha’r ymdeimladau llethol hyn. Yn fwy aml na’i gilydd, nid yw’r  ‘pethau bach’  hyn mor fach chwaeth, ac arweinia’r gweithrediadau yma at fwy o weithrediadau.

    Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn lwcus i dderbyn nifer helaeth o storiâu CyDA o’n cefnogwyr ardderchog, gyda nifer ohonynt wedi’u hysbrydoli i wneud newidiadau yn eu bywydau hwy a gweithredu yn eu cymunedau. Ymysg yr hanesion calonogol yma, roedd llawer ohonynt yn siarad am sut mae rhyngweithiadau bach gyda CyDA wedi arwain at newidiad gydol oes…dyma dri ohonynt.

    Camau Bach Er Lles Newid Amgylcheddol – Jonathan Voles

    Daeth yr aelod Jonathan Voles i CyDA yn y 1970au ac ers hynny, mae e wedi bod yn hyrwyddwr ymroddedig dros y camau bach y gallwn ni gyd ei gymryd i wneud ein bywydau dyddiol yn fwy cynaliadwy!

    Newidiodd CyDA fy mywyd pan ddes i ymweld fel rhan o grŵp ysgol, mor bell yn ôl nawr nes i mi anghofio pryd yn union! Yr hyn nad wyf wedi’i anghofio yw’r ffordd y cipiodd CyDA fy nychymyg a’m hysbrydoli. Y safle ei hun a’r ffactorau amgylcheddol, yr arddangosfeydd, yr ystyriaeth o’r dyfodol – a chofiwch bryd hynny roedd materion amgylcheddol, technegau adeiladu, pŵer gwynt a phŵer solar ymhell y tu hwnt i barth cysur y rhan fwyaf o bobl, tra nawr maen nhw’n rhan o’r brif ffrwd!

    Dros y blynyddoedd, rydw i wedi bod yn ymwelydd rheolaidd ac wedi bod yn aelod ac yn gefnogwr i CyDA pryd bynnag y mae arian wedi caniatáu. Llusgais fy ngwraig a’m plant i CyDA a cheisio eu hysbrydoli yn y ffordd y cefais fy ysbrydoli ac er nad ydw i bellach yn fachgen ysgol angerddol, rydw i wedi parhau i siarad â phobl am CyDA a’r camau bach y gallwn eu cymryd i wneud newid amgylcheddol yn realiti yn ein bywydau.”

    Mae’r angerdd sy’n trwytho geiriau Jonathon wrth iddo ysgrifennu am ddylanwad ei ymweliad yn cynhesu calon pob un ohonom ni yn CyDA yn enwedig y ffaith fod o’n dal i rannu ei ysbrydoliaeth hyd y diwrnod hwn.

    Cretan Windmill

    Newid ar Fwrlwm: Newidiadau i Egni’r Cartref – Bridget Walton

    Mae stori Bridget Walton yn enghraifft hyfryd o sut mae’r newidiadau mae hi wedi ei wneud yn ei bywyd wedi’i byrlymu’n bellach, gyda gwybodaeth rannedig yn dod yn ddybledig!

    “Yn y 1970au, byddem yn mynd ar wyliau i Gymru ac yn mynd heibio’r ganolfan ac yn meddwl tybed beth oedd hi. Yn ddiweddarach, ymwelsom gan ryfeddu at y posibiliadau.

    Ym 1981, cawsom banel dŵr solar wedi’i osod (yn ddiweddarach, cawsom un arall wedi’i osod) a thua 8 mlynedd yn ôl, cawsom 5 panel solar wedi’u gosod ar ein to i gynhyrchu ein trydan ein hunain. Trosglwyddais fy ngwybodaeth i ffrind a dyma hi wedyn yn gosod 15 panel ar do ei thŷ hi.

    “Gwnaeth un ymweliad amser maith yn ôl effaith fawr. Sut y gellid dylunio adeiladau i fod yn gynhesach ac yn fwy cynaliadwy, sut y gallai gwastraff papur fynd i mewn i gompost i adnewyddu pridd, defnyddio dŵr i bweru’r lifft, agorodd y rheilffordd fy meddwl i bosibiliadau newydd. Ers hynny, rwyf wedi parhau â’m taith i fyw’n fwy adfywiol ac wedi ychwanegu PV, dŵr poeth solar, ac ASHP i’m cartref.”

    Gyrru Newid Cymdeithasol- Alison Shaw

    Mae Alison Shaw yn un o’n haelodau CyDA anhygoel sy’n gweithredu’n lleol gyda’r cyfan ar feddwl. Mae’r prosiectau mae hi’n gweithio ar yn atgoffhad calonnog o ba mor bwysig ydy hi i i ymddwyn gyda gofal tuag at ein gilydd a’n planed o fewn ein cymuned a thu hwnt.

    “Nawr fy mod i wedi ymddeol, rwy’n treulio fy amser yn garddio er budd bywyd gwyllt (gan gynnwys bodau dynol!) wedi fy ysbrydoli gan erddi CyDA

    Rwy’n rhedeg caffi atgyweirio, gyda digon o gyfle ar gyfer sgyrsiau hinsawdd gydag aelodau’r cyhoedd ac rwyf wedi cael fy ysbrydoli i dreulio amser yn ymgyrchu dros yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys ymgais 5 mlynedd (hyd yn hyn) i berswadio’r awdurdod lleol i ddatod ei gynllun pensiwn o danwydd ffosil. Rydym yn gobeithio y bydd cynnig i’r cyngor yn cael ei gyflwyno ymhen cwpl o fisoedd. Mae’r cynnydd yn araf iawn, ond nid ydym yn rhoi’r gorau iddi!”

    Fe ysbydolwyd Alison i ymuno a CyDA ar ol darllen Clean Slate gan deimlo fod y cylchgrawn yn rhannu gwybodaeth ar faterion amgylcheddol pwysig, ond ar lefel ddynol, gyda digon o wybodaeth am sut i gymryd camau ymarferol. Mae hi hefyd yn mynychu Cynhadledd flynyddol CyDA yn rheolaidd, ble mae hi’n teimlo ei bod hi ymhlith ffrindiau sy’n rhannu ei phryderon ond sydd hefyd yn obeithiol i gymryd camau i roi newid ar weithred.

    Alison Shaw

    Ysgrifennodd Alison ddarn hynnod o hardd yn ddiweddar wedi’i ysbrydoli gan ymweliadau a CyDA gyda’r enw, Cyrhaeddiad.

    ‘Gwnewch y Pethau Bychain’

    Fel mae’r straeon hyn yn ein hatgoffa, rydym yn gwneud y pethau bychain hyn yn union oherwydd ein bod ni’n rhan o rywbeth mwy, ac mae ein rhyngadweithiau, profiadau a gweithrediadau yn werth ei wneud dim ots ar ba raddfa.

    Ydych chi eisiau cymryd y cam cyntaf tuag at wneud newid ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Dydd Gŵyl Dewi hwn, beth am gymryd y cam cyntaf ac edrych ar ein tudalen wybodaeth am ddim, archebu lle ar gwrs byr, archwilio cwrs ôl-raddedig CyDA neu archebu lle yng nghynhadledd CyDA heddiw.

    Streon CyDA

    Eich straeon chi sy’n cyd-greu penodau gorffennol, presennol a dyfodol CyDA. Mae sut rydych chi’n gweithredu lle bo’n fach yntau’n fawr, yn cyfrannu i’n stori a’n dylanwad ehangach. 

    Os oes gennych chi stori i’w rhannu am sut mae CyDA wedi cael effaith ar eich bywyd, eich gwaith neu’ch profiadau, byddem wrth ein bodd i’w glywed.

    Rhannwch eich stori CyDA

  • Straeon CyDA:  Raddon Stephenson

    Straeon CyDA:  Raddon Stephenson

    Rydym yn falch o rannu straeon ysbrydoledig aelodau cymuned CyDA sy’n rhoi cynaliadwyedd ar waith.  Dyma sut y mae Raddon Stephenson, graddedig CyDA, yn gwneud gwahaniaeth.

    Mae Raddon yn gweithio ym maes garddwriaeth drefol ym Mhantri Bwyd a Rhandir Cymunedol Canolfan Caritas Lalley ym Manceinion, sydd wedi’i hymwreiddio’n ddwfn mewn mynd i’r afael â materion cymdeithasol ac amgylcheddol.  Yn ei rôl fel Rheolwr y Ddarpariaeth Fwyd a’r Rhandir, mae Raddon yn canolbwyntio ar gau’r ddolen gwastraff bwyd, gan helpu pobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain yn y ddinas, a chydnabod y cysylltiad rhwng lles cymdeithasol, ein systemau bwyd a’r amgylchedd naturiol.

    Raddon Stephenson

    Dywedodd Raddon, “Mae cael swydd sy’n fy ngalluogi i dyfu bwyd, gwella iechyd meddwl pobl trwy gyfrwng sesiynau lles garddio, a mynd i’r afael â gwastraff bwyd mewn ffordd uniongyrchol yn rhoi cryn foddhad.  Rydw i wastad yn dysgu sut i fod yn dyfwr gwell a’r ffordd fwyaf effeithiol o annog cyfranogiad cymunedol yn eu lle gwyrdd lleol trwy arsylwi’r hyn yr ydym yn ei dyfu a sut y mae pobl yn ymateb i’r safle.  Mae hefyd yn wych dysgu gan bobl sydd wedi symud i’r DU o fannau eraill, sydd â gwybodaeth a sgiliau tyfu amrywiol i’w rhannu hefyd.”

    Trwy’r gwaith hwn, mae Raddon yn defnyddio’r hyn a ddysgodd yn ystod ei radd Meistr mewn Adnoddau Naturiol a Bwyd Cynaliadwy yn CyDA.  Yn ystod ei gyfnod yn astudio yn CyDA, fe’i ysbrydolwyd gan y dysgu ymarferol, megis adnabod planhigion, ond hefyd, gan y sgiliau cysyniadol a feistrolodd, megis dulliau meddwl ar ffurf systemau.

    Yn 2022, sefydlodd brosiect compostio gydag ysgol gynradd leol.  Ar ôl adnabod nad oedd yr ysgol yn gwahanu gwastraff bwyd, nad oedd y plant yn defnyddio eu rhandir, a bod angen compost ar y darn o dir 1,400m2 yn gyson, aeth Raddon ati i fynd i’r afael â’r diffyg cysylltiad rhwng y tri mater.  Trefnodd bod y disgyblion yn compostio eu bwyd dros ben o’u ffreutur, ac yna, eu bod yn tyfu bwyd ar gyfer y gymuned trwy gyfrwng y pantri, gan gau’r bwlch gwastraff bwyd.  Llwyddodd y prosiect i sicrhau cyllid ar gyfer system gompostio Ridan.  Bellach, mae’n cynhyrchu 9.5 tunnell o gompost di-fawn ar gyfer y rhandir bob blwyddyn!

    Cyn dod i CyDA, roedd Raddon yn canlyn gyrfa fel cerddor, ond yn fuan ar ôl iddo gychwyn ar hyn, daeth y pandemig, gan ganslo unrhyw waith ar yr adeg honno.  Fodd bynnag, bu’r cyfnod clo yn gyfle iddo gael amser i fyfyrio.  Ar ôl gwneud gwaith ar fferm organig, penderfynodd Raddon ganlyn ei ddiddordeb angerddol mewn byd natur, gan ddilyn llwybr academaidd yn CyDA.  Roedd wedi adnabod bod yr hyn a dyfwn a sut yr ydym yn ei dyfu yn cael effaith sylweddol ar ein ecosystemau a bod yr angen cyffredinol i fwyta yn gallu cysylltu pobl gyda datrysiadau amgylcheddol mewn ffordd uniongyrchol.

    Roedd astudio yn CyDA wedi cynnig y cyfle i Raddon barhau i greu a rhannu ei gerddoriaeth hefyd, gan gynnwys Y Gân Gompost a ysgrifennwyd yn ystod ei draethawd estynedig, ac y mae bellach yn ei chynnwys yn ei waith garddio cymunedol er mwyn ymgysylltu â phlant i leihau a chompostio gwastraff bwyd.

    “Mae astudio yn CyDA wedi caniatáu i mi ganolbwyntio ar faes gwaith sydd wir o fudd i les cymdeithasol ac ecolegol y gymuned, ac sy’n cynnig cryn foddhad i mi. Mae’r cwrs ôl-raddedig, y gymuned fyfyrwyr a safle CyDA ei hun wir wedi bod yn ysbrydoledig, gan fy nhywys at swydd lle y gallaf ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m sgiliau ym maes tyfu bwyd ac ymgysylltu cymunedol bob dydd.”

    A yw CyDA wedi ysbrydoli eich taith cynaliadwyedd chi?

    Byddem wrth ein bodd yn clywed sut yr ydych chi’n sicrhau newid. Rhannwch eich stori ar cy.cat.org.uk/am-cyda/straeon-cyda/ er mwyn cael cyfle i fod mewn rhifyn o Clean Slate, ar wefan CyDA neu ar gyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol.

  • O aelwyd gyffredin i gartref arbennig sero net

    O aelwyd gyffredin i gartref arbennig sero net

    Mae Paul Martin, graddedig CyDA, yn rhannu ei daith tuag at sicrhau statws sero net yn ei dŷ pâr tair ystafell wely a adeiladwyd yn y 1960au, gan ddangos bod ffordd o fyw modern sy’n cael effaith fach yn bosibl i aelwyd gyffredin yn y DU.

    Paul Martin's house and car

    Yn 2010, ar ôl cael fy nghymell gan fy ymweliadau a’m hastudiaethau yn CyDA, penderfynais ei bod hi’n bryd i mi gymryd camau i leihau fy nghyfraniad personol i newid hinsawdd. Yn ystod fy nghwrs BSc, rydw i’n cofio gweld astudiaeth achos o dŷ yn y DU a oedd yn cael ei bweru gan baneli ffotofoltaidd (PV) solar, gyda’r pŵer dros ben yn gwefru cerbyd trydan (EV), a meddyliais, “Hoffwn i wneud hynny!”

    Cymryd y cam cyntaf

    Y cam cyntaf oedd deall fy nefnydd o ynni. Gwneuthum hyn trwy roi mwy o sylw i’m biliau cyfleustodau a chymryd darlleniadau mesurydd ar gyfer trydan, nwy a dŵr. Euthum ati i gyfrifo faint o danwydd yr oeddwn yn ei ddefnyddio a faint o filltiroedd yr oeddwn yn eu teithio yn fy nghar bob blwyddyn. Gyda chymorth cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon, amcangyfrifais gyfanswm yr allyriadau CO2 yr oedd modd eu priodoli i’m ffordd o fyw (e.e. fy niet a’r pethau yr oeddwn yn eu prynu) a hefyd, fy nghyfran o seilwaith y DU (gwasanaethau, ffyrdd, ysbytai ac ati). Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, dechreuais amcangyfrif fy ôl bys CO2 – dadansoddiad manwl o’m hallyriadau ar draws gwahanol gategorïau (Ffig.1) – a chyfanswm fy ôl troed (Ffig.2), a oedd wedi fy nghaniatáu i olrhain fy nghynnydd tuag at sero net dros y blynyddoedd.

    Prynais fy nhŷ ym 1995. Roedd gennyf set lawn o ddata ar gyfer 1998 cyn i mi wneud unrhyw newidiadau i’r eiddo, felly dewisais hon fel y flwyddyn a fyddai’n waelodlin er mwyn mesur gwelliannau yn ei herbyn. Ym 1998, ôl troed carbon fy aelwyd oedd 10.7 tunnell o CO2e y flwyddyn.

    Newidiadau ffordd o fyw

    Yn gyntaf, dechreuais ystyried effaith fy newisiadau ffordd o fyw, gan bod y rhain yn gallu cynnig y ffordd gyflymaf o sicrhau newid. Gan ddefnyddio’r cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon, cefais ffigwr gwaelodlin o 1tCO2e y flwyddyn.

    Er mwyn lleihau allyriadau ffordd y fyw, roedd angen i mi wneud rhai newidiadau. Newidiais fy niet i fod yn ddiet llysieuol (a newidiais i ddiet figan yn nes ymlaen) a phrynais fwyd organig, ffres a thymhorol o siopau fferm lleol pan oedd modd. Symudais fy nghyfrifon ariannol i fanciau moesegol, sy’n cael eu cefnogi gan elusennau amgylcheddol (gan gynnwys CyDA) a dechreuais fyw yn unol â thair egwyddor – lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

    Roedd y dewisiadau hyn wedi lleihau fy allyriadau ffordd o fyw gymaint â 50% neu 0.5tCO2e y flwyddyn. Yn gyffredinol, gwelais y newidiadau hyn yn hawdd i’w gweithredu, heb fawr o effaith o ran y gost.

    View from the house

    Defnydd fy aelwyd o drydan

    Gan feddwl am leihau fy allyriadau yn y cartref, dechreuais gyda fy nefnydd o drydan. Tan 2012, darparwyd yr holl drydan ar gyfer fy nghartref gan y Grid Cenedlaethol.

    • Yn 2012, gosodais aráe PV solar 1.8kWp (cilowat brig) ar fy nho sy’n wynebu y de-ddwyrain.  Manteisiais ar gynllun Tariff Cyflenwi Trydan (FiT) llywodraeth y DU ar y pryd (a ddisodlwyd erbyn hyn gan y Gwarant Allforio Clyfar (SEG)).
    • Yn 2018, gosodais fatri storio trydan plwm-asid 4kWh i gynyddu cyfran y pŵer solar yr oeddwn yn ei ddefnyddio yn bersonol o 25% i 75% a lleihau’r swm yr oeddwn yn ei allforio i’r grid (ar ôl y rhychwant oes disgwyliedig o chwe blynedd, penderfynais uwchraddio i un lithiwm-ion 13.5kWh).
    • Yn 2022, ychwanegais aráe solar eilradd 1kWp ar do fy ngarej sy’n wynebu’r de-orllewin.  Ychwanegais fwy o allu cynhyrchu pŵer adnewyddadwy o gyfran ym Mhrosiect Tyrbin Gwynt Graig Fatha.

    Talais am yr holl fesurau hyn fy hun. Ond roedd yr hyn a gefais yn ôl ar ffurf arbedion mewn costau ynni a refeniw gan FiT a’r tyrbin wedi rhoi arian ar gyfer mwy o fesurau.

    Graph of Paul Martin's annual CO2 emissions

    O ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae defnydd ynni trydan blynyddol fy aelwyd o’r grid wedi lleihau 34%, ac mae allyriadau fy nhŷ wedi lleihau gymaint â 0.8tCO2e y flwyddyn.

    Gwresogi

    Ym 1998, roedd y gwres ar gyfer fy nhŷ a’r dŵr yn cael ei ddarparu gan foeler nwy aneffeithlon o’r 1970au a chan reiddiaduron.  Nid oedd unrhyw ddeunydd inswleiddio yn y llofft na’r waliau ceudod.  Roedd gen i ffenestri gwydr dwbl a drysau patio o’r 1980au a drysau pren allanol a oedd yn gollwng dŵr.

    Yn 2005, cyn i mi ddechrau gwneud ymdrech ymwybodol i leihau fy ôl troed carbon, euthum ati i wneud rhai gwelliannau i’r cartref.  Gosodais ddrws ffrynt a drysau patio newydd a llenwais ddrws ochr â brics.  Disodlais do gwastad.  Gosodais ddeunydd inswleiddio ffeibr gwlân 150mm yn y prif llofft.  A gosodais foeler cyddwyso nwy a oedd yn 90% o ran ei effeithlonrwydd yn lle’r hen foeler, ynghyd â phibellau a rheiddiaduron newydd.

    Yn nes ymlaen, gan fanteisio ar grant gan Lywodraeth Cymru, euthum ati i sicrhau gwelliant o ran y gwres a oedd yn cael ei golli o ffabrig yr adeilad a thrwy ymdreiddiad, trwy osod deunydd inswleiddio yn y waliau ceudod, ychwanegu at y deunydd inswleiddio yn y llofft i 300mm, a selio mannau lle’r oedd aer yn dianc.  Disodlais y ffenestri gydag unedau gwydr dwbl allyriadau isel, wedi’u llenwi ag Argon ac a oedd yn sicrhau safon A, gan ddal gwres i mewn a manteisio i’r eithaf ar ynni haul goddefol.

    Yna yn 2023, disodlais y boeler nwy a oedd yn 18 oed gyda phwmp gwres o’r aer 5kW, a oedd yn golygu bod fy ngofod a’m dŵr yn cael eu gwresogi gan drydan.  Er mwyn gwneud hyn, manteisiais ar grant* o £7,500 gan Lywodraeth y DU.  Yn ystod y flwyddyn gyntaf, roedd hwn wedi rhoi cyfernod perfformiad (COP) o 4.01.  Yn ei hanfod, mae pob uned o fewnbwn trydanol yn darparu pedair uned o wres, effeithlonrwydd o 400%, o’i gymharu â 90% ar gyfer boeler nwy newydd.

    Roedd y mesurau hyn wedi lleihau fy nefnydd o ynni blynyddol er mwyn gwresogi’r gofod a’r dŵr gymaint ag 84%, a lleihau fy allyriadau gymaint â 2.7tCO2e y flwyddyn.

    Teithio

    Fel defnyddiwr cadair olwyn, byddaf yn gwneud fy holl deithio personol mewn car.  Ar ddiwedd 2011, newidiais fy nghar petrol i gar hybrid ysgafn, gan arbed 1.4tCO2e y flwyddyn.  Dair blynedd yn ddiweddarach, llwyddais i uwchraddio unwaith eto, gan brynu cerbyd trydan batri 100%, gan arbed 0.5tCO2e pellach y flwyddyn.

    Yn 2024, gan bod cyfran uwch o drydan y grid yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, sef gwynt yn arbennig, lleihawyd fy allyriadau blynyddol trwy deithio mewn car gymaint â 79% neu 2.2tCO2e y flwyddyn.  Mae hyn er gwaethaf y ffaith fy mod wedi teithio 4,000 o filltiroedd yn fwy yn ystod y flwyddyn.

    Mae modd gwefru’r cerbyd trydan gan bŵer solar yn gyfan gwbl yn ystod yr haf hefyd gan fy mod wedi ychwanegu’r aráe solar eilradd – dim cost, dim allyriadau.

    Defnydd dŵr

    Rydw i wedi lleihau cyfanswm y dŵr yr wyf yn ei ddefnyddio trwy gynaeafu dŵr, gosod teclynnau llif isel ar arllwysfeydd, defnyddio amserydd ar y gawod, cael cawod yn lle bath, a defnyddio peiriant golchi llestri yn hytrach na llenwi’r sinc. Mae cyfanswm y dŵr yr wyf yn ei ddefnyddio bob blwyddyn wedi gostwng 80%, gan arwain at ostyngiadau o
    0.04tCO2e y flwyddyn o ran allyriadau.

    Seilwaith

    Caiff allyriadau eu priodoli i’r seilwaith yr ydym yn ei ddefnyddio, fel gwasanaethau, ffyrdd, ysbytai ac ati. Nid oes modd rheoli’r rhain yn bersonol, felly maent wedi aros yr un fath yn ystod y cyfnod.

    Cefais y ffigwr o’r cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon a ddefnyddiais – 2.75tCO2e y flwyddyn ar gyfer pob dinesydd yn y DU.

    Er mwyn gwrthbwyso rhai o’r allyriadau hyn, defnyddiais secwestriad naturiol trwy roi rhodd flynyddol i Goed Cadw i blannu gwerth 25m2 o goetir. Plannais 14 o goed brodorol ar y safle, creais ddau bwll, tyfais wal werdd a rhoddais do gwyrdd bywlys helaeth ar fy estyniad sydd â tho gwastad. Rydw i’n ffodus bod gennyf ardd fawr, sy’n caniatáu i mi wneud y pethau hyn.

    Effaith gyffredinol

    O ganlyniad i’r mesurau a ddisgrifiwyd uchod, erbyn 2024, roedd cyfanswm fy allyriadau carbon wedi lleihau 79% neu 8.5tCO2e y flwyddyn o’i gymharu â gwaelodlin 1998, o 10.7tCO2e i 2.2tCO2e.

    Ymhellach, roedd fy allyriadau i y gallwn eu rheoli yn bersonol, heb gynnwys y seilwaith, wedi creu ffigwr negyddol o
    -0.5tCO2 e yn 2024. Mae Ffig. 2 yn dangos y gostyngiad o ran allyriadau carbon yn ystod y cyfnod, gan gymharu cyfanswm fy ôl troed, allyriadau y gallaf eu rheoli yn bersonol, a’r targed y pen ar gyfer y DU.

    Graph of Paul Martin's Personal Carbon Footprint
    Ffig.2 Fy allyriadau CO2e blynyddol o 2011 i 2024, gan gynnwys gwaelodlin 1998

    Bellach, mae fy nghartref a’m ffordd o fyw yn rhydd rhag tanwydd ffosil, ac mae’r tŷ yn un o’r SuperHomes, rhwydwaith o gartrefi effeithlon o ran ynni ac y gwnaethpwyd gwaith ôl-osod arnynt, a aseswyd gan y Sefydliad Ynni Cenedlaethol. Erbyn hyn, mae gennyf dŷ sy’n cael ei bweru gan ynni solar ac mae’r ynni dros ben yn gwefru cerbyd trydan – rydw i wedi llwyddo i gyrraedd y nod!

    Am yr Awdur

    Ar ôl astudio gradd BSc mewn Astudiaethau Amgylcheddol a Diploma mewn Polisi Amgylcheddol, yna gradd MSc mewn Cynaliadwyedd mewn Darpariaeth Ynni a Rheoli’r Galw yn CyDA, mae Paul bellach yn ysgrifennu erthyglau a blog ar ecofuturist.net ynghylch sicrhau ei ffordd o fyw net sero o ran carbon. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr EVA Cymru, corff cynrychioliadol cenedlaethol Cymru ar gyfer perchnogion a gyrwyr cerbydau trydan.

  • Stori CyDA Hattie: Ennill Hyder mewn Cadwraeth

    Stori CyDA Hattie: Ennill Hyder mewn Cadwraeth

    Fe wnaethon ni ddal fyny ag un o’n cyn-wirfoddolwyr, Hattie Jones, i ddarganfod sut baratôdd ei phrofiad yn CyDA yn 2019 y ffordd ar gyfer ei chyrfa mewn cadwraeth.

    Ymunodd Hattie â CyDA fel gwirfoddolwr preswyl yn 2019, ychydig cyn y pandemig. Gyda chefndir mewn sŵoleg a diddordeb cynyddol mewn cadwraeth, roedd hi’n edrych i feithrin sgiliau ymarferol – yn enwedig mewn rheoli coetiroedd.

    “Roeddwn i newydd ddychwelyd o ddwy flynedd yn Seland Newydd,” meddai hi. “Roeddwn i eisiau bod yn rhywle yn y DU gyda mynyddoedd ac ymdeimlad cryf o gymuned. Roedd CyDA yn ffitio i’r dim”

    Gwirfoddolodd Hattie gyda Thîm Coetir a Dŵr CyDA am ychydig dros chwe mis. Dechreuodd ei lleoliad preswyl gyda chwrs byr mewn Rheoli Coetir yn Gynaliadwy, ac fe roddodd hyn gyflwyniad cadarn iddi i’r gwaith o’i blaen.

    “Fe aethom ni’n syth i mewn iddo – yn dysgu gan arbenigwyr lleol ac yn cael rhoi cynnig arni’n ymarferol yn y coed.”

    Yn ystod ei hamser yn CyDA, helpodd Hattie i reoli Coed Gwern, coetir sy’n eiddo i CyDA ar draws y ffordd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, lle defnyddiodd offer llaw, cliriodd lwybrau, a chymerodd ran mewn amrywiaeth o dasgau tymhorol. Cafodd gyfle hefyd i archwilio ei diddordebau ei hun. “Roeddwn i wir yn hoff o wyfynod, felly sefydlais ystod o drapiau gwyfynod. Roedd eraill yn gwneud pethau fel garddio Japaneaidd neu arolygon gweirgloddiau. Roedd yn amgylchedd cefnogol iawn.”

    Dyma’r profiad yn helpu Hattie i feithrin hyder a datblygu sgiliau newydd.

    “Cyn CyDA, doeddwn i ddim yn siŵr sut i fynd mewn i’r sector coetir. Rhoddodd gwirfoddoli’r profiad a’r gred i mi y gallwn i wneud.”

    Ar ôl gadael CyDA, cwblhaodd Hattie gwrs llif gadwyn gyda grŵp o gyd-wirfoddolwyr. Arweiniodd hynny at rôl gadwraeth leol, ran-amser cyn iddi symud i Ogledd Cymru i fod yn barcmon a rheolwr meithrinfa goed.

    Mae ei rôl bresennol yn cynnwys casglu hadau o goetiroedd lleol a’u tyfu ymlaen i’w plannu mewn ardaloedd ucheldir.
     
    “Rwy’n tyfu coed i tua phedair troedfedd o uchder fel y gallant oroesi pori gan ddefaid a geifr. Rydym hefyd yn gweithio ar ddod â rhywogaethau prinnach fel yr aethnen yn ôl.”

    Ex CAT Volunteer Hattie with some seedlings

    Mae’r aethnen wedi dod yn ffocws penodol. “Dim ond tua 60 o goed aethnen unigol sydd ar ôl yng Ngogledd Cymru, ac ni allant atgenhedlu’n naturiol oherwydd bod y coed gwrywaidd a benywaidd yn rhy bell oddi wrth ei gilydd. Rydym wedi bod yn peillio cenau coed â llaw – a’r llynedd cawsom yr aethnen hadog cyntaf yn yr ardal ers dros 500 mlynedd.”

    Wrth edrych yn ôl, fe ddywedir Hattie bod CyDA wedi chwarae rhan fawr yn llunio ei chyrfa. “Roedd yn lle mor brysur – yn llawn pobl oedd eisiau gwneud newid. Roedd bod o gwmpas eraill gyda’r un egni ac angerdd yn ysbrydoledig iawn.”

    Mae hi’n dal mewn cysylltiad â llawer o’i chyd-wirfoddolwyr, sydd wedi mynd ymlaen i weithio mewn meysydd fel ffermio adfywiol, garddio marchnad, cyfiawnder hinsawdd, a gwaith-maes ecolegol. “Roedd yn amser gwych,” meddai. “Rhoddodd CyDA sylfaen gref iawn i ni i gyd.”

    I ddarganfod am gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar ddod yn CyDA neu i gysylltu â ni, ewch i cat.org.uk/volunteer.