Yng ngeiriau James Baldwin, “Ni ellir newid rhywbeth nes byddwn yn ei wynebu”. Mae Mike Berners-Lee yn awdur adnabyddus, yn ymchwilydd ac yn brif siaradwr yn ein cynhadledd flynyddol a gynhelir cyn bo hir, ac mae’n myfyrio am y ffordd y gallwn wynebu methiant gweithredu ynghylch yr hinsawdd hyd yn hyn, yr hyn y gallwn ei wneud amdano, a sut mae CyDA wedi helpu trwy fod yn ysbrydoliaeth.
Pan oeddwn yn fy arddegau, gwelais y tŷ gwellt, y toiled compostio a’r tyrbin gwynt cyntaf i mi eu gweld erioed yn ôl pob tebyg, yn CyDA. Euthum yn ôl sawl gwaith am ysbrydoliaeth dros y blynyddoedd dilynol. Felly roedd hi’n hyfryd bod yn ôl yno eto ym mis Tachwedd am y tro cyntaf ers dros ddegawd, a chael y cyfle i drafod fy llyfr gyda chynulleidfa sydd wir yn ymboeni am y materion yr wyf yn ceisio mynd i’r afael â nhw.
Ysgrifennais A Climate of Truth oherwydd fy mod wedi bod yn gweithio ar yr hinsawdd ac ar gynaliadwyedd ers sawl degawd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn wedi gweld y byd yn cyflymu ar ei daith i’r cyfeiriad anghywir. Roedd hyn er gwaethaf fy holl ymdrechion, ac ymdrechion cymaint o bobl arall – y mae nifer ohonynt yn arwyr pennaf i mi.

Ond rhyngom i gyd, rhaid i wynebu’r ffaith bod dynoliaeth yn dirywio’r hinsawdd a byd natur yn fwy ac yn fwy bob blwyddyn. Nid ydw i’n dweud hyn i’ch diflasu, ond oherwydd, yng ngeiriau James Baldwin, “Ni ellir newid rhywbeth nes byddwn yn ei wynebu”.
Trwy wynebu ein methiant hyd yn hyn, rydym yn rhoi llawer mwy o siawns i ni wneud yn well yn y dyfodol. Yn wir, gallwn droi’r methiant hwnnw yn ddysgu hanfodol sy’n arwain at wneud yn llawer gwell.
Y Briff Argyfwng Cenedlaethol ynghylch Hinsawdd a Natur
Yn fuan ar ôl fy anerchiad yn CyDA, cadeiriais y Briff Argyfwng Cenedlaethol ynghylch Hinsawdd a Natur yn y Neuadd Ganolog yn San Steffan. Daethom â thua 1,000 o bobl ynghyd, gan gynnwys 15% o’r holl ASau a nifer debyg o arglwyddi. Cyflwynom naw briff iddynt gan rai o’r arbenigwyr pennaf yn eu meysydd yn y DU, neu hyd yn oed yn y byd. Cawsant glywed am argyfyngau ym myd natur, yr hinsawdd, pwyntiau tyngedfennol; y goblygiadau ar gyfer tywydd eithafol, diffyg diogeledd bwyd, iechyd, a diogelwch cenedlaethol – nid yn unig ar draws y byd, ond yma yn y DU.
Bu Paul Behrens yn ystyried ein system ffermio a bwyd a’r camau y gallwn eu cymryd er mwyn bod yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae’r hinsawdd a arferai roi cynaeafau dibynadwy i ni wedi mynd – mae tri o blith y pum cynhaeaf gwaethaf a gofnodwyd o ran grawnfwyd wedi digwydd yn ystod y ddegawd hon. Ni ellir osgoi trawsnewid y system fwyd – a bydd hyn yn fuddiol. Trwy arwain y newid nawr, gallwn osgoi cael ein gorfodi i wneud hynny yn nes ymlaen o ganlyniad i siociau bwyd, prisiau sy’n codi ac ansefydlogrwydd.
Roedd y ffordd y mae popeth yn gysylltiedig â phopeth arall yn thema gyson, ac roedd dwyn y materion ynghyd yn rhan o rym y digwyddiad. Nid digwyddiadau unigol neu elfennau unigol o’r polygreisis yw’r bygythiad mwyaf i’r economi, ond y ffordd y mae’r rhain yn debygol o ddwysáu ei gilydd.
Clywsom gan Athro Hugh Montgomery nad y prif fygythiad i iechyd yw trawiadau gwres, ond y ffaith nad oes gwasanaeth iechyd mewn economi sy’n dymchwel. Mae’r bygythiad i ddiogelwch cenedlaethol yn deillio o fyd sy’n mynd yn gynyddol anobeithiol. Roedd rôl ganolog camwybodaeth wrth atal ein cynnydd hyd yn yn thema arall.
Wynebu’r broblem
Mynegwyd rhai negeseuon trawiadol iawn, ond yr ymdeimlad cyffredinol yn yr ystafell oedd cyffro cynyddol. A oedd hynny’n rhyfedd? Ddim mewn gwirionedd. Dyma pam.
Yn gyntaf, roedd ymdeimlad cyffredinol o ryddhad o gael wynebu’r broblem; trwy wneud hynny, llwyddom i’w drawsnewid o fod yn rhywbeth rhy ofnadwy i’w ystyried i fod yn rhywbeth y gallem fynd i’r afael ag ef. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall bod ein cymdeithas a’n gwleidyddiaeth yn mynd i’r cyfeiriad anghywir mewn gwirionedd, a bod y broblem yn cael ei hanwybyddu ar y cyfan, felly roedd hi’n galonogol clywed hyn.
Yn ail, roedd pawb yn yr ystafell yn gweld sut yr oedd pawb arall yn deall yr hyn sy’n digwydd hefyd. Pan ofynnais i bobl godi eu llaw os oeddent yn credu bod y broblem mor ddifrifol ag yr oeddent wedi clywed, os oeddent yn credu ei bod yn waeth, ac os oeddent yn credu bod pobl yn gwneud môr a mynydd o’r mater, ni chododd unrhyw un eu llaw am y dewis olaf. Digwyddodd yr un peth yn CyDA. Yn wir, mae’r un peth yn digwydd ym mhob anerchiad y byddaf yn ei rhoi, i bob math o gynulleidfa. Ceir tystiolaeth gadarn sy’n dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn dymuno gweld llawer mwy o weithredu ynghylch newid hinsawdd ar draws y byd, ond nid ydynt yn sylweddoli bod pobl o’u cwmpas yn teimlo yr un fath. Mae hyn yn arwain at bawb yn aros i bawb arall gymryd y cam cyntaf. Y trydydd rheswm dros y ffaith bod cymaint o egni yn yr ystafell oedd yr ymdeimlad, er gwaethaf ein methiant hyd yn hyn, bod gwir obaith y gallwn wneud yn well.

Sut allwn wneud yn well?
I wneud hynny, mae cywiro’r camwybodaeth sydd wedi bod yn rhwystro popeth bron yn flaenoriaeth bennaf. Fel y dywedodd Hugh Montgomerry, gan fanteisio ar ei flynyddoedd o brofiad o redeg ymatebion brys mewn ysbyty yng nghanol Llundain; “Rydw i’n gwybod beth yw argyfwng. Mae hwn yn argyfwng, ond nid ydym yn ei drin fel un.”
Felly mae’r galwad i weithredu ar fyrder yn alwad am ymgyrch wybodaeth genedlaethol gyda chymorth y llywodraeth, ynghylch yr argyfwng hinsawdd a natur. Gall pob AS ymrwymo i hwn, a gall pawb sy’n darllen hwn annog eu AS i gefnogi’r ymgyrch hwnnw. Trowch at www.NEBriefing.org i weld sut y gallwch chi helpu.
Mae ffilm yn cael ei chreu hefyd, a chynhelir gweithdai a sesiynau i ddangos y ffilm ar hyd a lled y DU. Mae croeso mawr i chi helpu i drefnu un o’r digwyddiadau hyn hefyd.

Ysbrydoli gweithredu
Mae hyn yn fy nhywys yn ôl i brif neges fy llyfr. Os ydym yn dymuno dechrau cyflawni rhywbeth ynghylch y materion sydd bwysicaf i bobl yn 2026; yr hinsawdd, natur, anghydraddoldeb, iechyd, deallusrwydd artiffisial, democratiaeth a llawer llawer mwy, mae angen i ni ddeall y rhesymau pam, er enghraifft, bod 30 COP hinsawdd wedi methu stopio cyfradd yr allyriadau rhag codi, fel pe bai’r cynadleddau hynny fyth wedi digwydd.
Pam y bu bron i ni agor pwll glo newydd yn Whitehaven, Cymbria, pan oedd y dadleuon dros wneud hyn nid yn unig yn anghywir, ond yn ffug o fwriad? Pam ein bod yn trafod meysydd olew a nwy newydd ym Môr y Gogledd? Pam bod y cytuniad byd-eang ar blastigion heb gyflawni unrhyw beth?
Yr elfen gyffredin yw anonestrwydd yn ein gwleidyddiaeth, ein cyfryngau a’n busnesau. Mae enghreifftiau yn cynnwys lobïo gan y diwydiant a chamwybodaeth, y ffaith bod biliwnyddion ysgeler yn berchen ar y wasg i raddau helaeth, gan ddefnyddio eu llwyfan i berswadio’r cyhoedd i wneud pethau sy’n cefnogi eu buddiannau breintiedig nhw, a gwleidyddion sydd wedi gallu dweud pethau (nid celwyddau yn unig) y bwriedir iddynt beri i’r cyhoedd gredu pethau nad ydyn nhw yn eu credu mewn gwirionedd.
Rhaid i ni bennu rhai egwyddorion ynghylch gonestrwydd mewn bywyd cyhoeddus a mynnu eu bod yn cael eu gweithredu fel safonau sylfaenol. Os bydd gwleidydd yn ein camarwain unwaith, mae hynny’n dweud popeth wrthym am eu haddasrwydd i gyflawni’r rôl. Os yw biliwnydd yn berchen ar ffynhonnell cyfryngau sydd ag enw gwael, dylai hynny fod yn ddigon i chi wybod na ddylech ymddiried ynddo.
Yn y DU, ac mewn gwledydd eraill, rydym wedi bod yn esgeulus ynghylch safonau gonestrwydd mewn bywyd cyhoeddus ac yn y cyfryngau. O ganlyniad, rydym bellach yn wynebu brwydr yn erbyn ffasgiaeth. Mae’r UD wedi colli’r frwydr honno, a bydd goblygiadau tywyll i hyn dros y blynyddoedd i ddod. Ond yn y DU, rydym ar y dibyn o hyd ac mae popeth yn y fantol. Mae angen i ni ddihuno nawr. Pan ddeuthum ar draws CyDA yn gyntaf, roedd yn ffynhonnell ysbrydoliaeth enfawr i mi, ac ar flaen y gad o ran technoleg werdd. Mae CyDA wedi trawsnewid mewn ffordd ryfeddol, nid i fod yn lle technoleg werdd yn unig, ond yn ganolfan sydd ar y blaen wrth feddwl am y dyfodol. Mae’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

Os ydych chi’n darllen yr erthygl hon, mae hyn oherwydd eich bod yn ymboeni am y pethau hyn. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, torchwch eich llewys i wynebu’r argyfwng.
Am yr awdur
Mae Mike Berners-Lee yn athro ym Mhrifysgol Caerhirfryn, mae’n sylfaenydd Small World Consulting ac yn awdur llyfrau gan gynnwys There is No Planet B a A Climate of Truth. Mae hefyd yn brif siaradwr yng Nghynhadledd 2026 CyDA.

Cofrestru ar gyfer E-bost
Cadwch lygad ar y gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru i dderbyn ein negeseuon e-bost a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelodau CyDA.



























