Category: Climate Change

  • Datblygu Cydnerthedd Bwyd Sifil:  Sut y mae Cymru yn Arwain Dull Newydd

    Datblygu Cydnerthedd Bwyd Sifil:  Sut y mae Cymru yn Arwain Dull Newydd

    Pa mor gydnerth yw ein cyflenwad bwyd?  Pa gamau ymarferol y gallwn ni eu cymryd er mwyn bod yn fwy cydnerth wrth ymdopi ag amhariadau i’r cyflenwad bwyd?  Mae Rachel Tuckett yn sôn wrthym am y ffordd y mae Prosiect Cydnerthedd Bwyd Sifil Dyfed Powys yn cydweithio gyda phobl ar draws y rhanbarth er mwyn ateb y cwestiynau hyn.

    Beth yw Cydnerthedd Bwyd?

    Am ddegawdau, mae cwestiynau ynghylch y cyflenwad wedi llywio dealltwriaeth y DU o gydnerthedd bwyd. Mae ystyriaethau ar lefel y Llywodraeth wedi tueddu i ganolbwyntio ar y cwestiwn ynghylch a yw cadwyni cyflenwi yn gadarn, sut y mae modd lleddfu meysydd cyfyng o ran logisteg ac a fydd mewnforion yn parhau i gyrraedd ar amser.

    Ond yn gynyddol, caiff y ffocws hwn ar yr ochr gyflenwi ei gydnabod fel rhan o’r stori yn unig. Yn ystod pandemig COVID-19, gwelsom yn glir bod cydnerthedd bwyd yn ymwneud â’r galw hefyd: efallai nad oes amhariad o ran y cyflenwad bwyd, ond gallai mynediad i’r bwyd hwnnw gael ei beryglu gan y ffaith na ellir teithio ‘y filltir olaf’ i’r bwyd hwnnw, gweithgarwch prynu mewn panig, neu wrth i brisiau bwyd newid yn gyflym. Mae gwaith a gyflawnwyd yn ddiweddar gan Athro Tim Lang yn herio’r ffocws ar yr ochr gyflenwi yn uniongyrchol. Mae ei adroddiad yn 2025 i Gomisiwn Parodrwydd Cenedlaethol y DU yn cyflwyno’r achos dros gael ‘cydnerthedd bwyd sifil’, sef cydnerthedd sy’n ymwneud â phobl yn bennaf. Mae’n archwilio cwestiynau ynghylch mynediad, dosbarthiad, a gallu cymunedau eu hunain i wrthsefyll siociau bwyd.

    Mewn geiriau eraill, mae cydnerthedd bwyd yn systemig ac yn sifil. Mae’n cynnwys:

    • Cadwyni cyflenwi – sut y caiff bwyd ei dyfu, ei brosesu, ei gludo a’i stocio.
    • Dosbarthu a logisteg – sut y mae bwyd yn cyrraedd siopau, ysgolion, ysbytai, banciau bwyd, ac aelwydydd.
    • Pobl a chymunedau – pa mor barod ydym ni, yn unigol ac ar y cyd, i addasu pan fydd siociau yn digwydd.

    Mae’r newid hwn o ran meddylfryd yn newid cydnerthedd bwyd i fod yn her system gyfan sy’n cynnwys pawb – y llywodraeth, cynhyrchwyr, cyflenwyr, grwpiau cymunedol, ac aelwydydd.

    Cyflwr Presennol Cydnerthedd Bwyd yn y DU

    Mae system fwyd y DU yn seiliedig ar fodel bregus mewn-union-bryd. Ar unrhyw adeg, amcangyfrifir bod canolfannau trefol mawr fel Llundain yn dal cyn lleied â gwerth 24 awr o fwyd. Er y gallai rhanbarthau gwledig edrych yn wahanol, maent yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar gadwyni cyflenwi canoledig, hir.

    Fel rheol, mae’r DU yn mewnforio tua 60% o’i bwyd, ac mae cryn dipyn ohono yn dod o ranbarthau sydd eisoes yn profi amhariad i’w hinsawdd. Mae’r ddibyniaeth hon yn golygu bod cyfnodau o sychder, llifogydd, plâu ac amseroedd tymhorau tyfu sy’n newid, yn trosi yn gyflym i fod yn fylchau ar ein silffoedd a chodiadau mewn prisiau gartref.

    Ac un math o risg yn unig yw newid hinsawdd. Mae ein system fwyd yn wynebu nifer o elfennau sy’n ei gwneud yn agored i niwed:

    • Ymosodiadau seiber ar rwydweithiau logisteg
    • Prinder llafur, fel a ddangoswyd yn glir yn ystod pandemig COVID-19
    • Amhariadau ynni sy’n effeithio ar oeri, cludiant a phrosesu
    • Effeithiau tywydd eithafol ar gnydau, llwybrau cludiant a mynediad
    • Digwyddiadau diogelwch bwyd y mae gofyn ymateb iddynt yn gyflym

    Mae gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn disgrifio’r system yn gyson fel un “sy’n fwy bregus nag yr ydym yn cyfaddef”. Mae ymchwil Tim Lang, sy’n seiliedig ar gyfweliadau ar draws y sector bwyd, yn amlygu sut y mae ymwybyddiaeth o’r breuder hwnnw wedi tyfu, ond bod y gweithredu yn ei gylch ymhell ar ei hôl hi.

    Pa Risgiau y mae Systemau Bwyd Heddiw yn eu Hwynebu?

    Nid rhywbeth damcaniaethol yw risg mwyach. Mae pobl ar draws y DU eisoes wedi profi:

    • Llifogydd yn rhwystro llwybrau trafnidiaeth
    • Toriadau pŵer o ganlyniad i stormydd yn amharu ar brosesau oeri a mynediad
    • Cadwyni cyflenwi yn methu oherwydd pandemig  
    • Dylanwad y cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol yn cynyddu’r tebygolrwydd bod pobl yn prynu mewn panig
    • Anwadalrwydd prisiau o ganlyniad i densiwn gwleidyddol ac effeithiau hinsawdd

    Nid yw’r rhain yn ddigwyddiadau eithafol nac yn ddigwyddiadau annhebygol.  Maent yn digwydd dro ar ôl tro, gan ddwysáu weithiau, ac maent wedi’u dosbarthu mewn ffordd anghyson ar draws rhanbarthau.  Yr hyn nad yw’n hysbys o hyd yw nid a fydd siociau pellach yn dod, ond ble, pryd a sut y byddant yn croestorri.

    Felly, rhaid bod system fwyd gydnerth yn gallu ymdopi ag elfennau o straen lluosog sy’n gorgyffwrdd – nid digwyddiadau unigol yn unig.

    Floods in Crickhowell caused by Storm Dennis, 2020 – climate change is causing increased flooding and storm damage across the UK. Credit: Peter Rhys Williams / Shutterstock.
    Llifogydd yng Nghrucywel a achoswyd gan Storm Dennis, 2020 – mae newid hinsawdd yn achosi mwy o lifogydd a difrod o stormydd ledled y DU. Gyda chydnabyddiaeth i: Peter Rhys Williams / Shutterstock.

    Y Sefyllfa Leol: Cydnerthedd Bwyd yn ardal Dyfed-Powys

    Mae rhanbarth Dyfed-Powys (Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin) yn dangos hunaniaeth ddwbl unigryw yn y system fwyd. Rydym ar ddechrau ac ar ddiwedd y gadwyn gyflenwi.

    Ar un llaw, mae cymunedau ym Mhowys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn eistedd ar ddiwedd cadwyni cyflenwi hir iawn. Rhaid i fwyd ddod i mewn i’r DU, cyrraedd canolfannau dosbarthu cenedlaethol, ymdopi â rhwydweithiau logisteg rhanbarthol, ac yna, teithio pellteroedd sylweddol i gyrraedd siopau gwledig – ac ar ôl hyn, bydd yn rhaid i nifer o breswylwyr deithio gryn bellter i’w gasglu hefyd.

    Ar y llaw arall, mae’r rhanbarth yn ardal gyfoethog o ran cynhyrchu bwyd, o dda byw i arddwriaeth. Ond mae cryn dipyn o’r bwyd hwn a gynhyrchir yn lleol, yn enwedig cig a chynnyrch llaeth, yn cael ei allforio, a dim ond ychydig bach sy’n cael ei gadw ar gyfer defnyddwyr lleol. Mae hyn yn dechrau ysgogi trafodaethau difrifol o fewn Llywodraeth Cymru a phartneriaethau lleol ynghylch byrhau cadwyni cyflenwi a chadw mwy o fwyd a gynhyrchir yn lleol a sicrhau ei fod ar gael i bobl leol.

    Yn ystod y pandemig, gwelwyd grwpiau cydgymorth yn cael eu sefydlu ar draws y rhanbarth. Aeth cymunedau ati i symud cyflenwadau bwyd, gan gynorthwyo cymdogion agored i niwed a dyfeisio sianelau dosbarthu newydd. Roedd y profiadau hyn yn dangos gwendidau’r system bresennol a grym gweithredu sifil a gaiff ei drefnu.

    Cyfle i Gymru: Partneriaethau Bwyd Rhanbarthol a Buddsoddiad Newydd gan y Llywodraeth

    Mae Cymru mewn sefyllfa dda ac unigryw i arwain trawsnewidiad o ran cydnerthedd bwyd. Mae gan bob sir, 22 ohonynt, bartneriaeth fwyd leol, sef strwythurau ffurfiol sy’n dwyn tyfwyr, dosbarthwyr, mudiadau cymunedol, cynghorau a dinasyddion ynghyd i gydweithio ar newid y system fwyd.

    Yn 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Fwyd Gymunedol Cymru, gan nodi gweledigaeth ar gyfer system fwyd sy’n decach, sy’n fwy cydnerth ac sy’n fwy cynaliadwy. I gynorthwyo ei gweithrediad, lansiodd y Cynllun Grant Cydweithredol ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol, gan alluogi partneriaethau i gydweithio ar heriau a chyfleoedd ar y cyd.

    Er bod y cyllid wedi deillio o danwariant yn rhannol, mae ei effaith wedi bod yn arwyddocaol. Yn hanfodol, mae wedi grymuso rhanbarthau i:

    • Ddatblygu prosiectau cydweithredol
    • Rhannu dysgu ac arloesedd
    • Cryfhau seilwaith lleol
    • Archwilio modelau newydd cydnerthedd bwyd lleol

    Manteisiodd rhanbarth Dyfed-Powys ar y cyfle hwn, gan ffurfio trefniant ar cyd rhwng Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro. Wedi’u hysbrydoli gan waith Tim Lang, holont ‘Sut allwn ni droi’r canfyddiadau cenedlaethol hyn yn weithredu ymarferol ar lefel ranbarthol?’. 

    Prosiect Cydnerthedd Bwyd Sifil Dyfed Powys

    Comisiynwyd dau linyn ymchwil mawr gan y trefniant cydweithio rhanbarthol:

    1. Ymchwil gan Miller Research – dadansoddiad cyflym, ond eang, o gydnerthedd bwyd ar draws y rhanbarth.
    2. Proses arloesi cyfranogol dan arweiniad Labordy Arloesi CyDA – casglu lleisiau amrywiol ar draws y system fwyd er mwyn profi, herio, a dyfnhau canlyniadau’r gwaith ymchwil.

    Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd yn CyDA wrth wraidd y dull gweithredu cyfranogol hwn. Roedd tua 70 o gyfranogwyr wedi mynychu dau weithdy (un ar-lein ac un wyneb yn wyneb), gan gynrychioli’r system fwyd gyfan:

    • Tyfwyr a ffermwyr
    • Cyfanwerthwyr a gweithwyr logisteg proffesiynol
    • Manwerthwyr
    • Banciau bwyd a grwpiau bwyd cymunedol
    • Llunwyr polisi ac awdurdodau lleol
    • Ymchwilwyr ac addysgwyr 

    Roedd dau nod i hyn:

    1. Deall y Cyflwr Presennol

    Bu cyfranogwyr yn archwilio canfyddiadau Miller Research, gan drafod lle y mae’r mannau agored i niwed heddiw a pha grwpiau y byddent yn cael eu heffeithio fwyaf.

    2. Archwilio Sefyllfaoedd yn y Dyfodol

    Gan ddefnyddio methodoleg Labordy Arloesi CyDA, bu’r cyfranogwyr yn gweithio trwy sefyllfaoedd o sioc credadwy – y pŵer yn methu, tywydd eithafol, amhariadau i’r cyflenwad, prinder llafur – gan asesu sut y mae parodrwydd (neu ddiffyg parodrwydd) yn edrych ar lawr gwlad.

    Roedd yr egni yn yr ystafell yn bwerus. Dywedodd nifer o gyfranogwyr mai hwn oedd y tro cyntaf yr oeddent wedi gallu siarad yn agored am y risgiau go iawn y mae’r system fwyd yn eu hwynebu. Roedd y broses wedi dangos: 

    • Lefelau uchel o arbenigedd lleol
    • Pryderon a rennir ar draws sectorau
    • Gwir ddymuniad i weld gweithredu rhanbarthol wedi’i gydlynu
    • Enghreifftiau o gyfleoedd a gollwyd i gysylltu gweithgarwch cynhyrchu lleol gyda’r angen lleol
    • Rhwystrau gwirioneddol y mae cymunedau yn eu hwynebu wrth fanteisio ar fwyd yn ystod siociau

    Yn bwysicaf oll efallai, roedd yn amlygu potensial aruthrol o ran cydnerthedd bwyd sifil – y capasiti sydd eisoes yn bodoli mewn cymunedau, os caiff ei gynorthwyo a’i gysylltu.

    Attendees of the Dfyed Powys Food Resilience Innovation Lab in CAT's rammed earth lecture theatre

    Yr hyn a ddigwyddodd yn dilyn y gweithdy yn CyDA

    Ar 16 Mawrth, cyfarfu y bedair partneriaeth fwy leol mewn Uwchgynhadledd Diogelwch Bwyd yn Aberystwyth i rannu canfyddiadau’r gwaith ymchwil a gweithdai’r labordy cyfranogi, casglu mewnbwn ehangach, a dechrau siapio llwybr ar gyfer gweithredu rhanbarthol.

    Er y bydd y prosiect presennol yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ceir uchelgais gref i sicrhau buddsoddiad ychwanegol. Y gobaith yw:

    • Gweithredu argymhellion o’r gwaith ymchwil
    • Cryfhau rhwydweithiau dosbarthu bwyd lleol
    • Meithrin cydweithio dros y tymor hir rhwng siroedd
    • Profi dulliau cydnerthedd newydd ar draws mwy o ranbarthau
    • Datblygu strategaethau parodrwydd dan arweiniad sifil
    • Parhau gweithgarwch cynllunio ac arloesi ar sail sefyllfaoedd

    Pam oedd CyDA mewn sefyllfa mor dda i gynorthwyo gyda’r gwaith hwn?

    Roedd ein cyfuniad unigryw o arbenigedd yn golygu bod CyDA yn gynullydd delfrydol.

    1. Methodoleg y Labordy Arloesi

    Mae gan CyDA brofiad dwfn o gynllunio prosesau cyfranogol ar draws systemau cyfan, sy’n helpu grwpiau amrywiol i ddelio â chymhlethdod. Hwn oedd y prif reswm pam bod y partneriaid wedi troi at CyDA: am y gallu i ddwyn pobl ynghyd mewn ffordd adeiladol a strwythuredig, ac sy’n grymuso.

    Cliciwch yma i ddysgu mwy am Labordy Arloesi CyDA

    2. Hanes o Fwyd yng Ngweledigaeth CyDA ynghylch Cynaliadwyedd 

    Ers amser hir, mae bwyd wedi cyflawni rôl yn y ffordd y mae CyDA yn meddwl – o’r gymuned gynnar a oedd yn byw ac yn tyfu bwyd ar y safle, i ddatblygu rhaglenni ôl-raddedig mewn systemau bwyd a chynaliadwyedd.

    Dysgwch fwy am raglen MSc CyDA mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol

    3. Lle Ffisegol a Gynlluniwyd ar gyfer Cydweithio

    Mae safle CyDA yn cynnig amgylchedd lle y gall pobl feddwl mewn ffordd wahanol, camu allan o bwysau dydd i ddydd, a chydweithio ar heriau dros y tymor hir.

    Dysgwch fwy am y cynnig addysgol ar safle CyDA

    Looking across the CAT site
  • Sut yr oedd CyDA wedi Helpu Lyreco i Ymwreiddio Cynaliadwyedd ar draws ei Weithrediadau

    Sut yr oedd CyDA wedi Helpu Lyreco i Ymwreiddio Cynaliadwyedd ar draws ei Weithrediadau

    Gwaith CyDA gyda Lyreco i gynorthwyo gweithredu Cynaliadwy

    Yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), credwn y dylai hyfforddiant cynaliadwyedd fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth – dylai rymuso pobl i weithredu mewn ffordd ystyrlon. Pan gysylltodd Lyreco, cwmni cenedlaethol cyflenwi swyddfeydd, â CyDA i gynorthwyo datblygiad dealltwriaeth o gynaliadwyedd o fewn ei dîm cadwyn cyflenwi, roedd y nod yn glir: ymwreiddio cynaliadwyedd mewn gweithrediadau a phenderfyniadau dyddiol.

    Trwy gyfrwng profiad hyfforddiant ymarferol ac ymdrochol, helpodd CyDA y cyfranogwyr i symud o wybodaeth ar lefel arwynebol i weithrediad hyderus ac ymarferol, gan arwain at newidiadau go iawn ar draws safleoedd, systemau, ac arweinyddiaeth.

    Cawsom sgwrs gyda Jake Jones, Cydlynydd Ansawdd Diogelwch a Chynaliadwyedd Lyreco, i glywed sut yr oedd dull CyDA wedi helpu i ysgogi trawsnewid, grymuso unigolion a dylanwadu ar y strategaeth ar gyfer y tymor hir.

    Creu Sylfeini ar gyfer Newid

    Roedd nifer o’r rhai a oedd wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant wedi cael gyrfaoedd hir yn y cwmni, ac roeddent yn aml wedi cychwyn yno mewn rolau iau a symud i fyny dros ddegawdau. Fel yr esboniodd Jake Jones:

    “Mae gennym nifer fawr o gyflogeion a ddechreuodd weithio yma pan oeddent yn 16 oed… ac fel rhan o’r dilyniant gyrfa hwnnw, mae angen i bobl gael hyfforddiant ar lefel uwch.”

    Roedd y sefydliad yn cydnabod bod angen i gynaliadwyedd fod yn fwy na gwerth corfforaethol – roedd yn rhaid ei ymwreiddio yn y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn gweithio. Roedd hyfforddiant CyDA yn cynnig ffordd ymarferol a strwythuredig o wneud hynny.

    “[Rydym yn] deall cynaliadwyedd fel prif ddarn – nid yn unig oherwydd bod cwsmeriaid yn dymuno hyn, ond hefyd, dylem fod yn gwneud hyn.”

    Mae hyfforddiant CyDA yn cyfuno meddwl ar ffurf systemau, gweithdai ymarferol, ac enghreifftiau o’r byd go iawn er mwyn helpu cyfranogwyr i ddeall dimensiynau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cynaliadwyedd. Mae’r dull gweithredu hwn yn helpu pobl i gysylltu cysyniadau haniaethol gyda’u gwaith a’u cyfrifoldebau nhw

    Dewis y Bobl Gywir i Arwain Newid

    Bu’r sefydliad yn strategol wrth ddewis cyfranogwyr, gan ddewis unigolion yr oeddent naill ai’n cyflawni rolau dylanwadol ar hyn o bryd neu a oedd wedi dangos dymuniad i dyfu ac arwain.

    “Dewiswyd yr unigolion gan ystyried yr effaith… eu hongl newid. Mae rhai pobl yn hapus i beidio gwneud unrhyw newid… mae eraill yn dymuno gweld dilyniant.”

    Mae’r dull gweithredu hwn yn cyd-fynd ag athroniaeth CyDA bod hyrwyddwyr cynaliadwyedd o fewn sefydliadau yn gallu bod yn asiantau dros newid pwerus. Trwy roi gwybodaeth a hyder i’r bobl gywir, gall yr hyfforddiant raeadru allan, gan effeithio ar dimau, adrannau, a pholisi.

    O Ymwybyddiaeth i Ddealltwriaeth

    Un o ganlyniadau mwyaf trawiadol yr hyfforddiant oedd y symud o ymwybyddiaeth oddefol i ddealltwriaeth weithredol. Fel y disgrifiodd Jake:

    “Gallent ddweud wrthych bod newid hinsawdd yn wael. Ni allent ddweud pam wrthych… rhoddodd CyDA y sylfeini iddynt ar gyfer yr egwyddorion hynny, a roddodd ystyr i’r holl bwynt wedyn.”

    Mae hwn yn un o nodau craidd hyfforddiant CyDA – helpu cyfranogwyr i ddeall y gwyddor, y systemau a’r cyd-destunau cymdeithasol y tu ôl i heriau cynaliadwyedd.

    Roedd yr hyfforddiant yn defnyddio technegau hwyluso cynhwysol hefyd er mwyn sicrhau y gallai pawb gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon:

    “Roedd rhannu grwpiau yn caniatáu i’r rhai mwy tawel yn y grŵp i gael mwy o lais ac i ymgysylltu yn fwy… Yn gyffredinol, roedd eich arddulliau addysgu wedi helpu pobl i gyfleu’r neges.”

    Trwy gyfuno gwaith grŵp, teithiau safle, a sesiynau rhyngweithiol, roedd CyDA wedi creu amgylchedd lle y gallai cyfranogwyr archwilio syniadau, holi cwestiynau, a chysylltu dysgu gyda’u rolau nhw.

    Trosi Dysgu yn Weithredu

    Roedd effaith yr hyfforddiant i’w weld yn glir ac yn gyflym ar ffurf newidiadau gweithredol. Daeth cynaliadwyedd yn rhan reolaidd o gyfarfodydd mewnol a phrosesau gwella parhaus:

    “Bellach, mae cynaliadwyedd yn elfen o gyfarfodydd PD… Arferem wneud pethau o’r enw troeon Gemba… nawr, ystyrir cynaliadwyedd ac ymgysylltu cymunedol ac iechyd a diogelwch, ar yr un pryd.”

    Roedd un enghraifft yn ymwneud â lleihau deunydd pacio plastig dianghenraid:

    “Os byddwn yn gwaredu’r leinin plastig ar y paled hwn… nid ydym yn cynhyrchu cymaint o wastraff plastig. Nid oed angen bod leinin plastig yno.”

    Er bod y newidiadau yn fach, maent yn dangos sut y gall cynaliadwyedd gael ei ymwreiddio mewn penderfyniadau bob dydd, nid mewn strategaeth ar lefel uchel yn unig.

    Mae’n bwysig nodi bod yr hyfforddiant wedi helpu i ddyrchafu cynaliadwyedd o fewn arweinyddiaeth hefyd:

    “Mae rhai o’r unigolion eisoes wedi cael eu dyrchafu i rolau rheoli ar lefel uwch nawr… Bellach, mae gennych chi unigolion sydd â’r cynaliadwyedd hwnnw mewn swyddi uwch nag o’r blaen.”

    Mae hwn yn ddangosydd llwyddiant allweddol: pan fydd staff sydd wedi cael hyfforddiant cynaliadwyedd yn symud i rolau lle y gallant ddylanwadu ar bolisi, cyllidebau a diwylliant.

    Effeithlonrwydd Ynni

    Roedd un cyfranogydd wedi defnyddio’r hyfforddiant gyda defnydd ynni ar draws safleoedd y sefydliad yn uniongyrchol. Yn hytrach na chynnal archwiliadau hir, penderfynodd weithredu mewn ffordd bendant:

    “Yn hytrach nag archwilio pa adnoddau sydd gennym, mae wedi mynd â gwaredu nwy os oes angen… Nid oes angen tanwydd ffosil, iawn? Dyna’r rhesymeg.”

    Arweiniodd hyn at newidiadau ymarferol, megis newid i wresogi trydanol a theilwra defnydd ynni yn unol â’r angen go iawn:

    “Dim ond dau unigolion sydd ar y safle am y diwrnod cyfan… felly maent wedi cael gwresogydd trydan rhwng y ddau ohonynt.”

    Llwyddodd y sefydliad i sicrhau tystysgrif ISO 50001 am reoli ynni hefyd:

    “Ers hynny, rydym wedi sicrhau tystysgrif ISO 50001 hefyd… mae hynny yn gyrru’r newid yn y math hwn o brosiect hefyd.”

    Mae’r canlyniadau hyn yn dangos sut y gall hyfforddiant CyDA gynorthwyo dysgu unigol a newid strategol ar draws sefydliad.

    Cynnal y Momentwm

    Mae’r sefydliad yn bwriadu parhau gyda’r rhaglen hyfforddiant, gan ddefnyddio model CyDA er mwyn cynorthwyo carfannau yn y dyfodol:

    “Y nod yw gwneud hyn bob rhyw ychydig flynyddoedd… gydag unigolion sydd wedi dangos addewid, sy’n dymuno gwneud mwy, ac sy’n ymwneud â rhoi sgiliau iddynt, rhoi’r sgiliau cynaliadwyedd hynny iddynt.”

    Mae’r math hwn o feddwl ar gyfer y tymor hir yn hanfodol. Nid ymyrraeth untro yw cynaliadwyedd, mae’n broses barhaus o ddysgu, myfyrio a gwella. Cynlluniwyd hyfforddiant CyDA i gynorthwyo’r daith honno.

    Roedd hyfforddiant CyDA wedi helpu cyfranogwyr i symud i ffwrdd o ymwybyddiaeth oddefol i ymgysylltu gweithredol – gan ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu rolau, dylanwadu ar benderfyniadau gweithredol, a siapio arweinyddiaeth y dyfodol. Fel y mae Jake Jones yn myfyrio:

    “Mae’n eistedd yng nghefn eu meddyliau nawr… mae’n dod allan ac mae’n cael ei weld ac yn cael ei ddangos o bryd i’w gilydd mewn gwahanol brosiectau.”

    Mae gwaith CyDA gyda Lyreco yn dangos sut y gall hyfforddiant ysgogi newid parhaus – gan helpu sefydliadau i droi cynaliadwyedd o fod yn werth i fod yn arfer.

    Dysgu mwy

    I gael gwybod mwy am gynnig hyfforddiant CyDA neu i wneud ymholiad am archebu ychydig hyfforddiant gan y tîm, trowch at cy.cat.org.uk.

  • ‘Next Generation Earth’: Grymuso Lleisiau Ifanc

    ‘Next Generation Earth’: Grymuso Lleisiau Ifanc

    Mae prosiect ‘Next Generation Earth’ CyDA yn cychwyn gydag ymgysylltu o fewn ysgolion a digwyddiad yn CyDA yn archwilio gyrfaoedd STEM a datrysiadau hinsawdd.

    Yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), credwn fod byd gwell nid yn unig yn bosibl ond ei fod eisoes yn cael ei adeiladu gan y genhedlaeth nesaf. Dyna pam rydym yn falch o fod yn rhan o ‘Next Generation Earth’ menter dan arweiniad ieuenctid ledled y DU a gefnogir gan Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac a gydlynir gan yr Association for Science and Discovery Centres (ASDC).

    Mae’r rhaglen hon wedi’i deilwra i ddymchwel y rhwystrau i wyddoniaeth amgylcheddol a grymuso dysgwyr heb gynrychiolaeth ddigonol i lunio dyfodol mwy cynaliadwy. Mae CyDA yn un o naw canolfan gwyddoniaeth a darganfod a ddewiswyd i gyflwyno mentrau dan arweiniad ieuenctid sy’n adlewyrchu nodweddion unigryw eu rhanbarthau.

    Beth yw ‘Next Generation Earth’?

    Mae Next Generation Earth yn raglen sy’n seiliedig ar ymchwil ac mae’n archwilio pam fod llai o bobl ifanc yn dewis astudio neu weithio mewn meysydd gwyddoniaeth amgylcheddol a beth y gellir ei wneud i newid hynny. Yn hytrach na gofyn pam yn unig, mae’r prosiect yn ymgysylltu â phobl ifanc trwy lens newid hinsawdd, pwnc sy’n cyseinio’n ddwfn â’u pryderon a’u dyheadau.

    Mae’r ffocws ar ddysgwyr 12–14 oed sydd wedi’i dan-gynrychioli, gan gynnwys yr rheini sydd o ardaloedd a amddifadedd lluosog. Gan weithio gyda dwy ysgol yng Nghymru a’n partner cymunedol Ymestyn yn Ehangach, rydym yn creu gofod lle gall y bobl ifanc hyn archwilio eu diddordebau, gwneud ei lleisiau’n hyglyw, a chyd-greu rhaglen sy’n adlewyrchu eu hanghenion a’u huchelgeisiau.

    Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

    Mae’r cyfnod darparu eisoes wedi dechrau gyda Thîm Addysg CyDA yn ymweld â’r ysgolion dan sylw i gwrdd â myfyrwyr a dechrau sgyrsiau. Gofynnwyd iddynt:

    · Beth ydych chi’n ei wybod am newid hinsawdd?

    · Sut ydych chi’n meddwl ei fod yn effeithio arnoch chi’n lleol?

    · Pa newidiadau hoffech chi eu gweld?

    Roedd yr ymatebion yn ddiddorol iawn. Mae llawer o fyfyrwyr yn dal i weld newid hinsawdd fel rhywbeth pellenig fel llifogydd mewn gwledydd eraill neu capanau iâ yn dadmer yn hytrach na rhywbeth sy’n effeithio ar eu cymunedau eu hunain. Trwy drafodaeth, fe wnaethom eu helpu i gydnabod effeithiau lleol a meddwl am yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol.

    Archwiliwyd gyrfaoedd gwyddoniaeth amgylcheddol hefyd a darganfyddwyd nad oedd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr fawr o syniad o ba rolau sy’n bodoli neu sut mae’r rhain yn cysylltu â’r newidiadau y maent yn awyddus i’w gweld yn y byd. Nid ydynt eto wedi gwneud y cysylltiad rhwng eu gyrfaoedd yn y dyfodol a chreu newid amgylcheddol bositif. Fel rhan o’r gwerthusiad cychwynnol, cymerodd myfyrwyr ran mewn gweithgaredd cerdyn post, gan rannu eu meddyliau a’u haddewidion. Roedd themâu cyffredin yn cynnwys ansawdd aer a sbwriel, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gweithrediad lleol.

    Shocking responses about if environmental science is for them

    Beth nesaf?

    Ar 12 Ionawr, bydd y myfyrwyr yn ymweld â CyDA am ddiwrnod ymarferol o weithgareddau a gweledigaethau ar gyfer y dyfodol. Ym mis Chwefror, byddant yn trafeulio i adran Astudiaethau Cefnforoedd Prifysgol Bangor i gwrdd ag athro ac archwilio llwybrau addysg uwch. Nod y profiadau hyn yw dangos nad yw gwyddoniaeth amgylcheddol yn berthnasol yn unig ond yn llawn cyfleoedd cyffrous.

    Bydd myfyrwyr ôl-raddedig CyDA a myfyrwyr Prifysgol Bangor hefyd wedi’i hymrwymo yn y brosiect fel esiamplau perthnasol a mewnwelediad i yrfaoedd gwyrdd.

    Pam fod hyn yn bwysig?

    Mae pryder ynghylch a’r hinsawdd yn cynyddu ymhlith pobl ifanc, yn enwedig yn ystod eu harddegau cynnar, cyfnod ffurfiannol pan fyddant yn dechrau llunio eu diddordebau bywyd a’u dyheadau gyrfa. Nod ‘Next Generation Earth’ yw troi’r naratif hwnnw ar ei ben, gan ddarparu’r offer, yr hyder a’r gefnogaeth i bobl ifanc i weithredu o fewn eu cymunedau.

    Drwy gysylltu gwyddoniaeth amgylcheddol â pherthnasedd byd go iawn a grymusiad personol, mae CyDA yn gobeithio ysbrydoli cyfranogwyr i gymryd rhan actif wrth gyflawni gweledigaeth Cymru a’i ymgorfforir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Edrych ymlaen

    Bydd y rhaglen yn cyrraedd uchafbwynt gyda digwyddiad ymgysylltu cymunedol yn y dyfodol lle bydd pobl ifanc yn rhannu eu syniadau a’u haddewidion gyda theuluoedd, addysgwyr a rhanddeiliaid lleol. Bydd hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer panel ieuenctid hir-dymor, gan alluogi cyfranogwyr i barhau â’u cyfranogiad a dylanwadu ar raglenni yn y dyfodol yn CyDA.

    Wrth ei wraidd, mae’r prosiect hwn yn ymwneud â llais y dysgwr yn ymhelaethu ar safbwyntiau a’i hanwybyddir yn rhy aml gan helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau a’r hyder i lunio eu dyfodol eu hunain.

    Cadwch lygad ar ein gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol CyDA am ddiweddariadau a straeon ar draws daith ‘Next Generation Earth.’

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Ymweliadau Ysgol

    Dysgwch fwy am waith CyDA gydag ysgolion a gwnewch ymholiad ynglŷn â dod â’ch dosbarth i CyDA.

  • Pam Ydym yn Addysgu: Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd yn CyDA

    Pam Ydym yn Addysgu: Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd yn CyDA

    Mae Dr Alan Owen, Uwch-Ddarlithydd CyDA a Thiwtor Cyrsiau Byr yn archwilio sut y gall ein cyrsiau byr Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd helpu pobl i arbed amser, arian a rhwystredigaeth wrth ddarganfod pa ddewisiadau ynni adnewyddadwy fydd yn gweithio iddyn nhw.

    (more…)
  • Diwrnod Diogelu Ein Planed 2025:  Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn CyDA

    Diwrnod Diogelu Ein Planed 2025:  Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn CyDA

    Yn ystod Wythnos Genedlaethol y Goeden, bydd CyDA yn cynnal POP25, digwyddiad blynyddol ysbrydoledig i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw, ac a gyflwynir gan Swyddfa Addysg y Gofod y DU (ESERO-UK) yn STEM Learning ac ar y cyd ag Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Ofod y DU.

    Ar 27 Tachwedd, wnaeth miloedd o bobl ifanc o bob cwr o’r DU dod ynghyd mewn ffordd rith ar gyfer Diwrnod Diogelu Ein Planed (POP25), sef digwyddiad neilltuol i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw ac a gynlluniwyd i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y gwyddonwyr, y peirianwyr a’r rhai a fydd yn sicrhau newid.  Eleni, rydym yn falch o’r ffaith mai Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) fydd y lleoliad ffisegol ar gyfer cynnal y digwyddiad blynyddol hollbwysig hwn.

    Beth yw POP25?

    Mae cenhadaeth POP25 yn syml, ond yn bwerus: ymgysylltu ysgolion gyda gwyddoniaeth a datrysiadau sy’n helpu i ddiogelu ein planed.  Mae angen pobl ifanc medrus arnom ar fyrder i gychwyn ar yrfaoedd, sy’n meddu ar yr arweinyddiaeth a’r sgiliau i barhau i archwilio a gweithredu datrysiadau ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.  Trwy gyfrwng sesiynau byw, gweithgareddau rhyngweithiol, a chysylltiadau uniongyrchol gyda gorsafoedd ymchwil ar draws y byd, bydd myfyrwyr yn archwilio sut y caiff newid hinsawdd ei fonitro a’i liniaru – o deithiau i’r gofod i waith cadwraeth bioamrywiaeth.

    Mae rhaglen eleni yn llawn cynnwys ysbrydoledig, gan gynnwys:

    • Cyswllt byw â Gorsaf Reoli ESA er mwyn dysgu sut y mae lloerennau arsylwi y ddaear yn olrhain newid hinsawdd.
    • Golwg fanwl ar ddiogelu bioamrywiaeth, a fydd yn cynnwys cynhyrchwyr cyfres Kingdom y BBC, a ddarlledir cyn bo hir, a phrosiectau cadwraeth yn Zambia.
    • Diweddariadau byw o long ymchwil Syr David Attenborough wrth iddi deithio rhwng Yr Ynys Las a’r Arctig.
    • Cysylltiadau â gorsaf ymchwil yr Antarctig Halley VI a gwyddonwyr sy’n astudio llenni iâ yn Norwy a Northymbria.

    A’r dechrau yn unig yw hynny.  Cynlluniwyd pob sesiwn i ddangos i bobl ifanc nad yw gwyddoniaeth yn ymwneud â deall problemau yn unig, ond hefyd, mae’n ymwneud â chreu datrysiadau.

    CAT Biodiversity Engagement Ranger Sven Verbelen chatting to POP25 presenters.
    Sven Verbelen, Ceidwad Ymgysylltu Bioamrywiaeth CyDA, yn sgwrsio â chyflwynwyr POP25 yn fyw o CyDA.

    Pam CyDA?

    Mae cynnal POP25 yn CyDA yn gyfuniad perffaith.  Am dros 50 mlynedd, mae CyDA wedi bod ar flaen y gad o ran addysg amgylcheddol a datrysiadau ymarferol i newid hinsawdd.  Mae ein lleoliad unigryw yng nghalon Cymru, wedi ein hamgylchynu â choedwigoedd a systemau ynni adnewyddadwy, yn cynnig cefndir ysbrydoledig ar gyfer diwrnod a gaiff ei neilltuo i ddiogelu’r blaned.

    Mae rôl CyDA yn mynd y tu hwnt i ddarparu lleoliad.  Rydym yn rhannu cenhadaeth graidd y digwyddiad:  grymuso pobl gyda gwybodaeth a sgiliau er mwyn creu dyfodol cynaliadwy. O’n cyrsiau ôl-raddedig i ymweliadau ysgol a gweithdai ymarferol, mae CyDA wedi ymrwymo i feithrin cenhedlaeth nesaf yr arweinwyr amgylcheddol.  Mae POP25 yn amlygu’r effaith hon trwy gysylltu ein gwaith gydag ymdrechion byd-eang, gan gynnwys y dechnoleg ddiweddaraf yn y gofod.

    Cymru Fyw yn POP25

    Rydym wrth ein bodd fod Athro Richard Lucas wedi bod yn rhan o’r rhaglen, gan gyflwyno ei Brosiect Cymru Fyw.  Mae’r fenter arloesol hon yn defnyddio data arsylwi y Ddaear er mwyn monitro a deall newidiadau yn nhirluniau Cymru – enghraifft berffaith o’r ffordd y mae gwyddor y gofod a gweithredu lleol yn dod ynghyd i ddiogelu ecosystemau.

    Professor Richard Lucas presenting from the CAT viewing platform with Professor Suzie Imber
    Yr Athro Richard Lucas o Cymru Fyw yn sgwrsio â chyflwynydd POP25, yr Athro Suzie Imber

    Wythnos Genedlaethol y Goeden

    Mae POP25 yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol y Goeden, sef y dathliad blynyddol mwyaf o goed yn y DU, a gynhelir gan y Cyngor Coed.  Mae coedwigoedd yn cyflawni rôl hanfodol wrth amsugno carbon, cynorthwyo bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid hinsawdd.  Mae lleoliad CyDA mewn coetir a’n hymrwymiad i ddefnydd tir cynaliadwy yn golygu ein bod yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal diwrnod sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r blaned.  Trwy gysylltu gwaith monitro yn y gofod gyda gwaith cadwraeth ymarferol, mae POP25 yn amlygu sut y mae technoleg ac ecoleg yn gweithio law yn llaw i ddiogelu ein dyfodol.

    Ysbrydoli Gyrfaoedd a’r Dyfodol

    Nid yw POP25 yn ymwneud â gwyddoniaeth yn unig;  mae’n ymwneud â phosibiliadau gyrfa ar gyfer pobl ifanc.  Bydd sesiynau yn y prynhawn yn arddangos 16 o lwybrau gyrfa gwahanol ym maes cynaliadwyedd a gweithredu ar gyfer yr hinsawdd, gan helpu myfyrwyr i weld nad yw diogelu’r blaned wedi’i gyfyngu i un disgyblaeth yn unig.  Boed hynny trwy beirianneg, gwyddor data, cadwraeth, neu’r cyfryngau creadigol, mae rôl i bawb.

    Gyda bron i 200,000 o fyfyrwyr a dros 10,000 o addysgwyr wedi cofrestru, mae’r POP25 yma wedi bod y mwyaf hyd yn hyn!

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Ymweliadau Ysgol

    Dysgwch fwy am waith CyDA gydag ysgolion a gwnewch ymholiad ynglŷn â dod â’ch dosbarth i CyDA.

  • COP30 – Y COP Gweithrediad?  

    COP30 – Y COP Gweithrediad?  

    Nid oedd y cytundeb a gyrhaeddwyd yn COP30 yn ddigonol, ond nid oedd yn drychineb llwyr. Rhanna Paul Allen o’n Tîm Prydain Di-garbon ei fyfyrdodau ar faterion allweddol COP30 a’r hyn sydd ei angen nesaf.

    Gan ymuno ar-lein fel arsylwr swyddogol, dilynais y trafodaethau a’r ystod eang o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan y gwledydd, y rhwydweithiau a’r grwpiau a ymgynnullodd yn Belém, Brasil dros bythefnos ym mis Tachwedd. 

    COP30 - Brasil
    COP30 Brasil – DOERS/Shutterstock.com

    Cefndir COP30

    Mae Cynhadledd y Partïon neu trafodaethau COP wedi’u gwreiddio yn Uwchgynhadledd y Ddaear Rio, ac am y tair degawd diwethaf maent wedi dod â gwledydd o bob cwr o’r byd ynghyd i geisio datrys heriau daearol sydd wedi’i achosi gan fodau dynol ac ymdrin â’u heffeithiau. Pob blwyddyn, erbyn diwedd y trafodaethau, dylir gyrraedd consensws ar y testunau terfynol, gyda phob parti yn llofnodi – ac mae hyn yn elfen allweddol o’r broses. Ar ôl blynyddoedd maeth o dangyflawni, cytunodd y COP21 nodedig ym Mharis y byddai’r byd yn anelu at gyfyngu cynhesu byd-eang i lefalau llawer is na 2°C o lefelau cyn-ddiwydiannol gan anelu at 1.5°C. 

    O dan Gytundeb Paris, rhaid i bob un o’r 195 gwlad gynyddu eu cyfraniadau cenedlaethol penodedig – nationally determined contributions (NDC’s),) i leihau allyriadau ar fecanwaith ratchet 5 mlynedd. Gan fod COP30 yn nodi’r ail ratchet, erbyn yr agoriad roedd 118 allan o 195 o wledydd wedi cynnig cyfraniad cenedlaethol penodedig newydd, ond gyda’i gilydd nid oedd yr hyn oedd ar gynig yn agos at ddigon. (NDC Tracker, Climate Watch) 

    Elfen allweddol arall o COP30 oedd y cyfrif stoc byd-eang. Roedd hyn yn cydnabod bod Cytundeb Paris wedi sbarduno cynnydd mewn gweithrediad ar yr argyfwng hinsawdd, ond nid digon eto i roi’r byd ar y trywydd iawn i aros ymhell o dan 2°C, neu i gyflawni’r lefelau hanfodol o wydnwch a symud ac aleinio’r llifau ariannol angenrheidiol. (NDC 3.0, UNFCC)  

    Felly, wrth i’r byd ddod ynghyd yn Belem, y dasg allweddol i gyflawni amcanion Paris oedd gwella uchelgeisiau a  niferoedd y cyfraniadau cenedlaethol penodedig,tra hefyd yn cynyddu adnoddau i helpu gwledydd i ymdopi ag effeithiau cynyddol tywydd eithafol trwy addasu a thrwy’r gronfa colledion a difrod byd-eang. 

    President Lula of Brazil speaking at COP30
    Llywydd Lula o Brasil yn siarad yn COP30 – Antonio Scorza/Shutterstock.com

    Beth gyflawnodd COP 30? 

    Yn y cyfnod cyn pob COP mae UNEP yn rhyddhau Adroddiad blynyddol ar y Bwlch Allyriadau “Emissions Gap Report”. Eleni, ei deitl oedd ‘Off Target’ gan ei wneud yn glir ein bod ar lwybr pendant tuag at gynyddiad mewn risgiau a difrod hinsawdd. (Emission Gap Report 2025, UNEP)  

    Elfen allweddol o COP30 oedd cynnydd mewn lleisiau pobl gynhenid. Trwy brotestiadau, gorymdeithiau a phroffil uwch yn narllediad y cyfryngau, fe wnaethant hi’n glir y dylent gael llais yn y trafodaethau, ac bod llawer ohonynt heb hawl fynedu’r neuaddau trafod. Ar hyn o bryd, mae tir Cynhenid yn ffurfio ​​tua 13.8% o Frasil, fodd bynnag, yn dilyn y protestiadau yn ystod COP30, fe wnaethant gyhoeddi 10 tiriogaeth gynhenid ​​newydd yn dilyn yr 11 a gyhoeddwyd llynedd. (BBC News) 

    Gan dynnu ar eu diwylliant, gwahoddodd arlywyddiaeth Brasil y byd i ymuno â “Mutirão”. Dull parhaol o symudiad bydd yn parhau i fod ar weithred tu hwnt i COP30. Cynnigiad i drawsnewid y gynhadledd yn garreg filltir wirioneddol ar gyfer tro gwareiddiadol: sefydliad gofodau ar gyfer gwrando’n weithredol, cryfhau’r cysylltiadau rhwng y lleol a’r byd-eang, a gwerthfawrogi’r amrywiaeth o leisiau a gwybodaeth. Cyfanwaith cryfach na chyfanswm yr holl rannau. 

    Protest at COP30
    Protest yn COP30 – Antonio Scorza/Shutterstock.com

    Elfen bwysig o COP30 oedd lansiad y Datganiad ar Uniondeb Gwybodaeth ar Newid Hinsawdd ‘The Declaration on Information Integrity on Climate Change’; mae hyn yn cynnig ymrwymiadau rhyngwladol i frwydro yn erbyn camwybodaeth hinsawdd a hyrwyddo gwybodaeth hinsawdd gywrain. Yn y lansiad, cafodd y datganiad ei gymeradwyo gan ddeuddeg gwlad, gan gynnwys Brasil, Canada, Chile, Denmarc, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Sbaen, Sweden, Wrwgwái, yr Iseldiroedd, a Gwlad Belg. 

    Yn ol yr arfer, daeth COP30 i ben gyda gor-rediad a barhaoodd drwy’r nos hyd at fore Sadwrn, wedi’i yrru gan ddadl ynghylch y geiriad a ddefnyddiwyd. Dyma’r trafodaethau yn osgoi chwaliad, ac or diwedd, cytunodd 194 o wledydd ar gytundeb i gadw’r broses yn fyw. Cynigiodd gwefan y Cenhedloedd Unedig yr ymrwymiadau hyn: 

    • Cyllid ar raddfa: Symud $1.3 triliwn yn flynyddol erbyn 2035 ar gyfer gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd. 
    • Hybu addasiad: Dyblu’r cyllid addasu erbyn 2025 a’i dreblu erbyn 2035. 
    • Cronfa colled a difrod: Cadarnhad ar y gylchred gweithredoli ac ailgyflenwi  
    • Mentrau newydd: Lansio’r ‘Global Implementation Accelerator’ a Chenhadaeth Belém i 1.5°C i yrru uchelgeisau a gweithrediad. 
    • Damwybodaeth hinsawdd: Ymrwymiad i hyrwyddo uniondeb gwybodaeth a gwrthweithio naratifau ffug. 

    Roedd disgwyliadau uchel y byddai penderfyniad terfynol COP30 yn cynnwys cyfeiriad penodol at ddileu tanwydd ffosil yn raddol. Cefnogodd mwy nag 80 o wledydd gynnig Brasil ar gyfer ‘map’ ffurfiol. Roedd testun drafft wedi’i gynnwys – tan oriau olaf y trafodaethau. Mae’r canlyniad a fabwysiadwyd yn cyfeirio at Gonsensws y UAE yn unig, sef y benderfyniad o COP28 yn galw am “drawsnewidiad i ffwrdd o danwydd ffosil.” 

    Nid oedd COP30 yn agos at ddigonol, ond nid oedd yn drychineb llwyr. Bydd yn cyflymu pethau, ond mae’n amlwg bod amser yn rhedeg allan. 

    Beth sydd angen digwydd ar ôl COP30?

    Rydym ar groesffordd o argyfwng a chyfle, a bydd yr hyn a wnawn nesaf yn diffinio’r dyfodol a wynebwn. Fel peiriannydd hyfforddedig, mae’n amlwg i mi, os nad yw system yn gweithio, rhaid i ni ei thrwsio. Mae angen i’r UNFCCC (Confensiwn Fframwaith Y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd) gydnabod nad yw’r proses o’r top lawr yn gweithio a chychwyn gweithdai byd-eang i drawsnewid y ‘broses negodi’ cyn COP31. Rhaid i hyn gynnwys: 

    • lleisiau cynhenid ​​o bob gwlad wedi’i gynnwys yn bwrpasol 
    • ei gwneud yn glir pwy yw’r negodwyr a phwy yw’r lobïwyr
    • ail-drefnu’r rhaglen fel nad yw penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud yn ystod cyfnod gor-redeg 
    • cysylltu trafodaethau’n well ar draws seilos i helpu i ddatrys y newid o danwydd ffosil mewn sawl ffordd, wrth adfer systemau naturiol a pharatoi ar gyfer effeithiau hinsawdd

    Belém oedd y gynhadledd hinsawdd gyntaf i ddigwydd ers i’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol gadarnhau bod gan lywodraethau a chorfforaethau ddyletswyddau cyfreithiol i amddiffyn pobl a’r blaned rhag niwed hinsawdd. Mae ClientEarth yn archwilio sut y gall pŵer cyfreithiol ymladd yn erbyn gwyrdd-olchi a gwthio am gyfreithiau hinsawdd cryfach a gorfodadwy.

    Dylai trafodaethau yn y dyfodol hefyd ddechrau wedi’u gwreiddio mewn cydnabyddiaeth onest o’r niferoedd ar yr hyn sydd angen ei gyflawni ac erbyn pryd, gyda lles byd-eang wrth wraidd y trawsnewidiad angenrheidiol. Yn ei lyfr A Climate of Truth, a gyflwynwyd mewn darlith gyhoeddus ddiweddar yn CyDA, mae Mike Berners-Lee yn gwneud dadl glir mai’r cam pwysicaf yw codi gonestrwydd yn ein gwleidyddiaeth leol, genedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys y broses COP. Mae Mike yn tynnu sylw at yr angen am onestrwydd “Gall pob un ohonom gael effaith fwy radical ar y materion yr ydym yn poeni amdanynt trwy droi ein sylw at yr egwyddor syml hon”. Cyhoeddodd y Pafiliwn Gwyddoniaeth Planedau yn COP30 ddatganiad gonest bod y gyllideb garbon sy’n weddill bellach yn cyfateb i 3-4 blynedd o allyriadau byd-eang ar y gyfradd bresennol. Dylai hyn fod yn neges allweddol wrth agor trafodaethau yn COP31.

    Mae angen i broses y Cenhedloedd Unedig gynnig llawer mwy o gefnogaeth i gamau gweithredu gan gymunedau ledled y byd. Mae gennym yr offer, y technolegau, y modelau busnes cyfrifol, yr ymchwil a’r cymhelliant. Gan adeiladu ar y model Mutirão, mae angen i ni alluogi grwpiau gweithredol i rannu syniadau ledled y byd, gan gataleiddio cyflymiad camau gweithredu a ysgogir gan ddinasyddion. 

    Mae gennym ni’r atebion, ond mae angen sgiliau a hyfforddiant i gefnogi’r newid. Mae CyDA yn falch o fod yn rhan o ecosystem sy’n tyfu o sefydliadau sy’n cynnig cyfleoedd hyfforddi a’r cyrsiau sydd eu hangen i gyflymu’r trawsnewidiad hwn.

    Am yr awdur

    Paul yw Cydlynydd Gwybodaeth ac Allgymorth Prydain Di-garbon CyDA. Mae wedi bod yn ymwneud â’n gwaith ymchwil ynghylch sefyllfaoedd di-garbon ers y dechrau, gan gydlynu datblygiad adroddiadau ymchwil a chael cyswllt uniongyrchol gyda’r llywodraeth, diwydiant, cyrff anllywodraethol a’r celfyddydau er mwyn rhannu canfyddiadau.

    People working together

    Hyfforddiant Prydain Ddi-Garbon

    Archwiliwch ddatrysiadau hinsawdd, gan feithrin y sgiliau i wneud gwahaniaeth yn eich gweithle neu’ch cymuned ar gyrsiau hyfforddiant llythrennedd pwrpasol neu y mae modd archebu lle arnynt.

  • Ysbrydoli, hysbysu a galluogi Gyrfaoedd Gwyrdd yn CyDA

    Ysbrydoli, hysbysu a galluogi Gyrfaoedd Gwyrdd yn CyDA

    I ddynodi’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yma, rydym yn dathlu sut mae CyDA yn ysbrydoli, hysbysu a galluogi gyrfaoedd gwyrdd dylanwadol.

    Wrth i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth barhau i lunio ein byd, mae’r galw am bobl fedrus ac angerddol mewn gyrfaoedd gwyrdd eisoes yn fwy nag erioed. Yn ystod Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd, rydym yn archwilio sut mae CyDA yn helpu pobl i ddod o hyd i’w llwybr hwy tuag at waith ystyrlon sy’n cefnogi dyfodol cynaliadwy.

    O danio ysbrydoliaeth mewn meddyliau ifanc i gyfarparu gweithwyr proffesiynol gyda sgiliau arloesol, mae gwaith CyDA wedi’i wreiddio yn y genhadaeth bwerus o ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Ers dros bum degawd, mae CyDA wedi bod yn lleoliad i bobl ymgynnull i archwilio syniadau mentrus, lansio gyrfaoedd ystyrlon, a chysylltu ag eraill sy’n gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

    Aerial Footage of the CAT site in winter

    Ysbrydoli: Plannu Hadau a Syniadau Newydd

    Yn aml, ysbrydoliaeth yw’r cam cyntaf tuag at yrfa werdd. Yn CyDA mae’n dechrau’r eiliad y mae rhywun yn camu ar y safle. Wedi’i nythu yng Ngwarchodfa UNESCO Biosffer  Dyfi ym mryniau Canolbarth Cymru, mae lleoliad naturiol CyDA yn enghraifft  byw o gynaliadwyedd ar waith mewn dyffryn coediog prydferth.

    Mae’r profiad yn aml yn cael ei ddisgrifio gan ymwelwyr fel un trawsnewidiol. Fel eglura’r athro John Ridler o Ysgol Ramadeg Queen Mary’s yn Walsall, er bod llawer o fyfyrwyr yn cyrraedd gydag uchelgeisiau i ddilyn meddygaeth, mae ymweliadau â CyDA yn aml yn ehangu eu gorwelion.

    “Mae llawer o’n disgyblion yn dod i mewn gan feddwl mai meddygaeth yw eu llwybr fwyaf tebygol. Ond mae profiadau fel hyn yn eu hysbrydoli i ystyried peirianneg – rhywbeth efallai na fyddent byth wedi meddwl oedd ar eu cyfer.”

    John Ridler, athro yn Ysgol Ramadeg Queen Mary’s

    Mae Queen Mary’s bellach yn gweld 15–20 o fyfyrwyr y flwyddyn yn cael eu hysbrydoli i fynd ymlaen i astudio peirianneg yn y brifysgol.

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Mae Dr Dai Morgan, darlithydd hirdymor ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn dod â’i grŵp i CyDA bob blwyddyn. Mae Dai yn credu bod y profiad yn CyDA yn eiliad o ysbrydoliaeth dyngedfennol i’w fyfyrwyr..  

    “Mae CyDA yn cynnig rhywbeth unigryw. “Mae’n trochi ac yn integreiddio – yn enghraifft wirioneddol o gynaliadwyedd yn cael ei weithio allan mewn amser go iawn. Mae bod yn yr amgylchedd hwnnw, o gwmpas pobl sy’n gwneud pethau’n wahanol ac yn dangos beth sy’n bosib, yn creu gofod i adlewyrchu ac ailgysylltu gyda’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.” 

    Dr Dai Morgan, Darlithydd ym Mhrifysgol Caergrawnt

    Mae’r ymdeimlad hwn o gysylltiad â natur, â chymuned, a phwrpas, yn cael ei adleisio yn yr adborth a’i derbynnir o ymweliadau llawer o bobl ifanc. Maent yn disgrifio’r teimlad o fod yn “rhan o natur” yn ystod eu hamser yn CyDA. Mae’r teimlad hwnnw yn ysgogi’r chwant i’w warchod.

    Mae CyDA yn fwy na chanolfan ddysgu – mae’n ganolfan gymunedol, Mae’n ferw a gweithrediad ac yn le ble y gall pobl o bob cefndir dod ynghyd i ddychmygu a chreu dyfodol cynaliadwy. Boed yn grŵp ysgol yn archwilio ynni adnewyddadwy, panel ieuenctid yn llunio gweithrediad ar yr argyfwng hinsawdd, neu’n wirfoddolwr yn darganfod eu hangerdd, mae CyDA yn helpu pobl i weld eu hunain fel rhan o’r ateb.

    Hysbysu: Datblygu Sgiliau ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy

    Mae ysbrydoliaeth yn bwerus ond eginiad dechreuol ydyw. I droi angerdd yn ddylanwad, mae angen gwybodaeth, sgiliau a hyder ar bobl. A dyna ble mae rhaglenni addysgol CyDA yn dod mewn.

    Mae Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd CyDA yn cynnig graddau ôl-raddedig sy’n cyfuno academia â dysgu ymarferol. Mae astudio ar un o’r saith gradd ôl-raddedig a’i cynigir gan CyDA yn helpu myfyrwyr ennill y wybodaeth a’r rhwydweithiau maent ei angen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu harbenigeddau dewisol wrth iddynt barhau i mewn i yrfaoedd gwyrdd hir ac effeithiol.

    Hyd yn hyn mae dros 2500 o bobl wedi derbyn cymhwyster ôl-raddedig yn CyDA. Mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy amrywiaeth eang o yrfaoedd a chyfleoedd, o bensaernïaeth a rheoli ynni i lunio polisïau amgylcheddol a rheoli tir.

    Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i lansio cwmnïau arloesol, arwain mentrau cynaliadwyedd, a llunio polisi ledled y DU a thu hwnt. Mae eu straeon o lwyddiant yn dyst i bŵer addysg sydd wedi’i wreiddio mewn gweithrediad yn y byd go iawn.

    Daeth Clara Humphries i CyDA i astudio sut y gallai integreiddio priodweddau adeiladu gwyrdd i mewn i brosiectau byd go-iawn. Mae hi nawr yn gweithio i Retrofit West fel Rheolwr Prosiectau Ôl-osod ble mae hi’n gweithredu’r wybodaeth y enillodd drwy astudio yn CyDA yn ddyddiol.

    Dyma CyDA yn rhoi’r gobaith ac ysgogiad i fynd i’r afael a heriau hinsoddol cymhleth.

    Rheolwr Prosiectau Ôl-osod a raddiodd o’n MSc mewn Adeiladu Gwyrdd

    Kevin Anderson giving a talk to new CAT students

    Ond mae ymrwymiad CyDA i yrfaoedd gwyrdd yn ehangu ymhellach nag addysg uwch. Trwy ein cyrsiau byr, mae CyDA yn darparu hyfforddiant ymarferol ym mhopeth o adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy i reoli coetiroedd a garddio organig. Mae’r cyrsiau hyn ar agor i ddysgwyr 16 oed a hŷn ac yn integreiddio mwy a mwy â modiwlau academaidd yr Ysgol Raddedig, gan greu llwybr o ddiddordeb tuag at arbenigedd.

    Mae CyDA hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr, ac mae llawer ohonynt yn disgrifio eu hamser yn CyDA fel un a newidiodd eu bywydau. Nid gweithio mewn rolau ymarferol yn rheoli gerddi a choetiroedd CyDA yn unig y gwna ein carfannau o wirfoddolwyr preswyl 6 mis, maent hefyd yn ymgymryd â chyrsiau hyfforddi amrywiol i’w cyfarparu â’r sgiliau hanfodol sydd ei angen ar gyfer gyrfaoedd mewn rheoli tir. Trwy’r hyfforddiant, mentora a’r profiad gwerthfawr a’i henillir yn ystod eu hamser yn byw ac yn gweithio gyda chymuned CyDA mae gwirfoddolwyr yn magu’r hyder a’r sgiliau i ddechrau gyrfaoedd gwyrdd, gan ddarganfod angerdd newydd ar hyd y ffordd.

    Yn ddiweddar mae Ella Catherall, sydd newydd orffen ei chyfnod gwirfoddoli 6-mis gyda’r tîm gerddi, wedi gallu cymryd ei chamau nesaf tuag at Yrfa Wyrdd drwy’r sgiliau y dysgodd yn CyDA. Mae hi nawr ar ddechrau ei lleoliad gyda’r Adam Greathead Trust, ble y bydd yn treulio blwyddyn yn hyfforddi mewn dwy ardd adnabyddus yn y DU.

    Gall pobl mewn gyrfaoedd na cheir eu hystyried yn draddodiadol ‘wyrdd’ hefyd dod yn arweinwyr hinsawdd! Un o gynigion mwyaf effeithiol CyDA yw Hyfforddiant Llythrennedd Carbon, sy’n rhoi’r cyfarpar i unigolion ddod yn arweinwyr hinsawdd yn eu gweithleoedd a’u cymunedau. P’un a ydych chi’n athro, adeiladwr, lluniwr polisi neu’n fyfyriwr, mae CyDA yn eich helpu i ddeall y wyddoniaeth, cyfleu’r brys, a chymryd camau ystyrlon.

    Mae ymgysylltu â phobl ifanc yn parhau i fod yn ganolog i genhadaeth CyDA. Mae’r sefydliad yn darparu gweithdai sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, ymweliadau dydd a phreswyl, a sesiynau cynaliadwyedd ymarferol ar gyfer ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid. O fewn prosiect newydd yn CyDA a’i hariennir – “Next Generation Earth”, mae Panel Ieuenctid newydd yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod lleisiau ifanc wedi’u hymgorffori yng ngwaith CyDA ac mewn gweithrediad cymunedol ar newid hinsawdd.

    Galluogi: Cefnogi gweithrediad pellach ar draws rhwydweithiau

    Unwaith mae pobl wedi’u hysbrydoli a’u hysbysu, y cam nesaf yw eu galluogi i wneud gwahaniaeth. Nid mewn addysg y daw gwaith CyDA i ben, mae’n ymestyn i arloesi, cydweithio ac arweinyddiaeth strategol.

    Enghraifft berffaith o hyn yw Labordy Arloesi Prydain Di-Garbon CyDA. Mae’n darparu prosesau arloesi wedi’u hwyluso sy’n helpu sefydliadau, cynghorau a sectorau i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Gan dynnu ar feddwl trwy systemau a dylunio dyfodol, mae’r Labordy yn galluogi cydweithrediad ar draws terfynau ac yn trosi uchelgeisiau cynaliadwyedd yn weithrediad ymarferol.

    Hyd yn hyn, mae dros 70 o sefydliadau a bron i 200 o gynghorau wedi elwa o gefnogaeth arloesi CyDA. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys:

    • Tyfu i’r Dyfodol: Cefnogi twf sector garddwriaeth gwydn a chynaliadwy yn economaidd yng Nghymru trwy brosiect LPIP
    • Lab Senarios Gwydnwch Bwyd Dyfed Powys: Cyd-ddatblygu ymatebion lleol i heriau’r system fwyd ar draws y rhanbarth.

    Mae rhwydwaith aelodaeth CyDA yn alluogwr pwerus arall. Mae’n cynnwys pobl sydd ym mhob cam o’u gyrfaoedd gwyrdd – o’r rhai sydd newydd ddechrau i weithwyr proffesiynol profiadol a’r rheini sydd wedi ymddeol. Mae ein Cynhadledd Aelodau blynyddol yn lle i rannu profiadau, dysgu oddi wrth ei gilydd, ac adeiladu momentwm ar y cyd.

    Fel arweinydd strategol mewn addysg gynaliadwyedd, mae CyDA yn chwarae rhan allweddol wrth lunio datblygiad sgiliau gwyrdd rhanbarthol, gan weithio’n agos gyda’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod Canolbarth Cymru ar flaen gad y trawsnewid gwyrdd.

    CAT Conference

    Man Dechrau ar gyfer Gyrfaoedd Gwyrdd

    Yr Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd hon, rydym yn dathlu’r nifer eang o bobl sydd wedi darganfod ei llwybrau tuag at yrfaoedd gwyrdd drwy CyDA – myfyrwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr proffesiynol, a gwneuthurwyr newid. Mae eu straeon yn dangos mae nid yn ymwneud â swyddi yn unig ydyw gyrfaeoedd gwyrdd, maen nhw’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth, dod o hyd i bwrpas, a helpu llunio dyfodol gwell.

    Pe bai ond dechrau yr ydych neu’n edrych i gymryd y cam nesaf, mae CyDA yma i’ch cynorthwyo. O ddysgu ymarferol i arloesedd strategol, rydym yn falch o gael bod yn rhan o’r siwrnai.

    Yn awyddus i ddysgu mwy am CyDA?

    Archwiliwch ein cyrsiau ôl radd, cyfleoedd wirfoddoli, neu arwyddwch lan i dderbyn ein he-byst i gadw fyny a’r diweddaraf o CyDA.

  • O aelwyd gyffredin i gartref arbennig sero net

    O aelwyd gyffredin i gartref arbennig sero net

    Mae Paul Martin, graddedig CyDA, yn rhannu ei daith tuag at sicrhau statws sero net yn ei dŷ pâr tair ystafell wely a adeiladwyd yn y 1960au, gan ddangos bod ffordd o fyw modern sy’n cael effaith fach yn bosibl i aelwyd gyffredin yn y DU.

    Paul Martin's house and car

    Yn 2010, ar ôl cael fy nghymell gan fy ymweliadau a’m hastudiaethau yn CyDA, penderfynais ei bod hi’n bryd i mi gymryd camau i leihau fy nghyfraniad personol i newid hinsawdd. Yn ystod fy nghwrs BSc, rydw i’n cofio gweld astudiaeth achos o dŷ yn y DU a oedd yn cael ei bweru gan baneli ffotofoltaidd (PV) solar, gyda’r pŵer dros ben yn gwefru cerbyd trydan (EV), a meddyliais, “Hoffwn i wneud hynny!”

    Cymryd y cam cyntaf

    Y cam cyntaf oedd deall fy nefnydd o ynni. Gwneuthum hyn trwy roi mwy o sylw i’m biliau cyfleustodau a chymryd darlleniadau mesurydd ar gyfer trydan, nwy a dŵr. Euthum ati i gyfrifo faint o danwydd yr oeddwn yn ei ddefnyddio a faint o filltiroedd yr oeddwn yn eu teithio yn fy nghar bob blwyddyn. Gyda chymorth cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon, amcangyfrifais gyfanswm yr allyriadau CO2 yr oedd modd eu priodoli i’m ffordd o fyw (e.e. fy niet a’r pethau yr oeddwn yn eu prynu) a hefyd, fy nghyfran o seilwaith y DU (gwasanaethau, ffyrdd, ysbytai ac ati). Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, dechreuais amcangyfrif fy ôl bys CO2 – dadansoddiad manwl o’m hallyriadau ar draws gwahanol gategorïau (Ffig.1) – a chyfanswm fy ôl troed (Ffig.2), a oedd wedi fy nghaniatáu i olrhain fy nghynnydd tuag at sero net dros y blynyddoedd.

    Prynais fy nhŷ ym 1995. Roedd gennyf set lawn o ddata ar gyfer 1998 cyn i mi wneud unrhyw newidiadau i’r eiddo, felly dewisais hon fel y flwyddyn a fyddai’n waelodlin er mwyn mesur gwelliannau yn ei herbyn. Ym 1998, ôl troed carbon fy aelwyd oedd 10.7 tunnell o CO2e y flwyddyn.

    Newidiadau ffordd o fyw

    Yn gyntaf, dechreuais ystyried effaith fy newisiadau ffordd o fyw, gan bod y rhain yn gallu cynnig y ffordd gyflymaf o sicrhau newid. Gan ddefnyddio’r cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon, cefais ffigwr gwaelodlin o 1tCO2e y flwyddyn.

    Er mwyn lleihau allyriadau ffordd y fyw, roedd angen i mi wneud rhai newidiadau. Newidiais fy niet i fod yn ddiet llysieuol (a newidiais i ddiet figan yn nes ymlaen) a phrynais fwyd organig, ffres a thymhorol o siopau fferm lleol pan oedd modd. Symudais fy nghyfrifon ariannol i fanciau moesegol, sy’n cael eu cefnogi gan elusennau amgylcheddol (gan gynnwys CyDA) a dechreuais fyw yn unol â thair egwyddor – lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

    Roedd y dewisiadau hyn wedi lleihau fy allyriadau ffordd o fyw gymaint â 50% neu 0.5tCO2e y flwyddyn. Yn gyffredinol, gwelais y newidiadau hyn yn hawdd i’w gweithredu, heb fawr o effaith o ran y gost.

    View from the house

    Defnydd fy aelwyd o drydan

    Gan feddwl am leihau fy allyriadau yn y cartref, dechreuais gyda fy nefnydd o drydan. Tan 2012, darparwyd yr holl drydan ar gyfer fy nghartref gan y Grid Cenedlaethol.

    • Yn 2012, gosodais aráe PV solar 1.8kWp (cilowat brig) ar fy nho sy’n wynebu y de-ddwyrain.  Manteisiais ar gynllun Tariff Cyflenwi Trydan (FiT) llywodraeth y DU ar y pryd (a ddisodlwyd erbyn hyn gan y Gwarant Allforio Clyfar (SEG)).
    • Yn 2018, gosodais fatri storio trydan plwm-asid 4kWh i gynyddu cyfran y pŵer solar yr oeddwn yn ei ddefnyddio yn bersonol o 25% i 75% a lleihau’r swm yr oeddwn yn ei allforio i’r grid (ar ôl y rhychwant oes disgwyliedig o chwe blynedd, penderfynais uwchraddio i un lithiwm-ion 13.5kWh).
    • Yn 2022, ychwanegais aráe solar eilradd 1kWp ar do fy ngarej sy’n wynebu’r de-orllewin.  Ychwanegais fwy o allu cynhyrchu pŵer adnewyddadwy o gyfran ym Mhrosiect Tyrbin Gwynt Graig Fatha.

    Talais am yr holl fesurau hyn fy hun. Ond roedd yr hyn a gefais yn ôl ar ffurf arbedion mewn costau ynni a refeniw gan FiT a’r tyrbin wedi rhoi arian ar gyfer mwy o fesurau.

    Graph of Paul Martin's annual CO2 emissions

    O ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae defnydd ynni trydan blynyddol fy aelwyd o’r grid wedi lleihau 34%, ac mae allyriadau fy nhŷ wedi lleihau gymaint â 0.8tCO2e y flwyddyn.

    Gwresogi

    Ym 1998, roedd y gwres ar gyfer fy nhŷ a’r dŵr yn cael ei ddarparu gan foeler nwy aneffeithlon o’r 1970au a chan reiddiaduron.  Nid oedd unrhyw ddeunydd inswleiddio yn y llofft na’r waliau ceudod.  Roedd gen i ffenestri gwydr dwbl a drysau patio o’r 1980au a drysau pren allanol a oedd yn gollwng dŵr.

    Yn 2005, cyn i mi ddechrau gwneud ymdrech ymwybodol i leihau fy ôl troed carbon, euthum ati i wneud rhai gwelliannau i’r cartref.  Gosodais ddrws ffrynt a drysau patio newydd a llenwais ddrws ochr â brics.  Disodlais do gwastad.  Gosodais ddeunydd inswleiddio ffeibr gwlân 150mm yn y prif llofft.  A gosodais foeler cyddwyso nwy a oedd yn 90% o ran ei effeithlonrwydd yn lle’r hen foeler, ynghyd â phibellau a rheiddiaduron newydd.

    Yn nes ymlaen, gan fanteisio ar grant gan Lywodraeth Cymru, euthum ati i sicrhau gwelliant o ran y gwres a oedd yn cael ei golli o ffabrig yr adeilad a thrwy ymdreiddiad, trwy osod deunydd inswleiddio yn y waliau ceudod, ychwanegu at y deunydd inswleiddio yn y llofft i 300mm, a selio mannau lle’r oedd aer yn dianc.  Disodlais y ffenestri gydag unedau gwydr dwbl allyriadau isel, wedi’u llenwi ag Argon ac a oedd yn sicrhau safon A, gan ddal gwres i mewn a manteisio i’r eithaf ar ynni haul goddefol.

    Yna yn 2023, disodlais y boeler nwy a oedd yn 18 oed gyda phwmp gwres o’r aer 5kW, a oedd yn golygu bod fy ngofod a’m dŵr yn cael eu gwresogi gan drydan.  Er mwyn gwneud hyn, manteisiais ar grant* o £7,500 gan Lywodraeth y DU.  Yn ystod y flwyddyn gyntaf, roedd hwn wedi rhoi cyfernod perfformiad (COP) o 4.01.  Yn ei hanfod, mae pob uned o fewnbwn trydanol yn darparu pedair uned o wres, effeithlonrwydd o 400%, o’i gymharu â 90% ar gyfer boeler nwy newydd.

    Roedd y mesurau hyn wedi lleihau fy nefnydd o ynni blynyddol er mwyn gwresogi’r gofod a’r dŵr gymaint ag 84%, a lleihau fy allyriadau gymaint â 2.7tCO2e y flwyddyn.

    Teithio

    Fel defnyddiwr cadair olwyn, byddaf yn gwneud fy holl deithio personol mewn car.  Ar ddiwedd 2011, newidiais fy nghar petrol i gar hybrid ysgafn, gan arbed 1.4tCO2e y flwyddyn.  Dair blynedd yn ddiweddarach, llwyddais i uwchraddio unwaith eto, gan brynu cerbyd trydan batri 100%, gan arbed 0.5tCO2e pellach y flwyddyn.

    Yn 2024, gan bod cyfran uwch o drydan y grid yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, sef gwynt yn arbennig, lleihawyd fy allyriadau blynyddol trwy deithio mewn car gymaint â 79% neu 2.2tCO2e y flwyddyn.  Mae hyn er gwaethaf y ffaith fy mod wedi teithio 4,000 o filltiroedd yn fwy yn ystod y flwyddyn.

    Mae modd gwefru’r cerbyd trydan gan bŵer solar yn gyfan gwbl yn ystod yr haf hefyd gan fy mod wedi ychwanegu’r aráe solar eilradd – dim cost, dim allyriadau.

    Defnydd dŵr

    Rydw i wedi lleihau cyfanswm y dŵr yr wyf yn ei ddefnyddio trwy gynaeafu dŵr, gosod teclynnau llif isel ar arllwysfeydd, defnyddio amserydd ar y gawod, cael cawod yn lle bath, a defnyddio peiriant golchi llestri yn hytrach na llenwi’r sinc. Mae cyfanswm y dŵr yr wyf yn ei ddefnyddio bob blwyddyn wedi gostwng 80%, gan arwain at ostyngiadau o
    0.04tCO2e y flwyddyn o ran allyriadau.

    Seilwaith

    Caiff allyriadau eu priodoli i’r seilwaith yr ydym yn ei ddefnyddio, fel gwasanaethau, ffyrdd, ysbytai ac ati. Nid oes modd rheoli’r rhain yn bersonol, felly maent wedi aros yr un fath yn ystod y cyfnod.

    Cefais y ffigwr o’r cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon a ddefnyddiais – 2.75tCO2e y flwyddyn ar gyfer pob dinesydd yn y DU.

    Er mwyn gwrthbwyso rhai o’r allyriadau hyn, defnyddiais secwestriad naturiol trwy roi rhodd flynyddol i Goed Cadw i blannu gwerth 25m2 o goetir. Plannais 14 o goed brodorol ar y safle, creais ddau bwll, tyfais wal werdd a rhoddais do gwyrdd bywlys helaeth ar fy estyniad sydd â tho gwastad. Rydw i’n ffodus bod gennyf ardd fawr, sy’n caniatáu i mi wneud y pethau hyn.

    Effaith gyffredinol

    O ganlyniad i’r mesurau a ddisgrifiwyd uchod, erbyn 2024, roedd cyfanswm fy allyriadau carbon wedi lleihau 79% neu 8.5tCO2e y flwyddyn o’i gymharu â gwaelodlin 1998, o 10.7tCO2e i 2.2tCO2e.

    Ymhellach, roedd fy allyriadau i y gallwn eu rheoli yn bersonol, heb gynnwys y seilwaith, wedi creu ffigwr negyddol o
    -0.5tCO2 e yn 2024. Mae Ffig. 2 yn dangos y gostyngiad o ran allyriadau carbon yn ystod y cyfnod, gan gymharu cyfanswm fy ôl troed, allyriadau y gallaf eu rheoli yn bersonol, a’r targed y pen ar gyfer y DU.

    Graph of Paul Martin's Personal Carbon Footprint
    Ffig.2 Fy allyriadau CO2e blynyddol o 2011 i 2024, gan gynnwys gwaelodlin 1998

    Bellach, mae fy nghartref a’m ffordd o fyw yn rhydd rhag tanwydd ffosil, ac mae’r tŷ yn un o’r SuperHomes, rhwydwaith o gartrefi effeithlon o ran ynni ac y gwnaethpwyd gwaith ôl-osod arnynt, a aseswyd gan y Sefydliad Ynni Cenedlaethol. Erbyn hyn, mae gennyf dŷ sy’n cael ei bweru gan ynni solar ac mae’r ynni dros ben yn gwefru cerbyd trydan – rydw i wedi llwyddo i gyrraedd y nod!

    Am yr Awdur

    Ar ôl astudio gradd BSc mewn Astudiaethau Amgylcheddol a Diploma mewn Polisi Amgylcheddol, yna gradd MSc mewn Cynaliadwyedd mewn Darpariaeth Ynni a Rheoli’r Galw yn CyDA, mae Paul bellach yn ysgrifennu erthyglau a blog ar ecofuturist.net ynghylch sicrhau ei ffordd o fyw net sero o ran carbon. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr EVA Cymru, corff cynrychioliadol cenedlaethol Cymru ar gyfer perchnogion a gyrwyr cerbydau trydan.

  • Ymweliad i CyDA gan yr AS Steve Witherden

    Ymweliad i CyDA gan yr AS Steve Witherden

    Ymwelodd Steve Witherden, Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, a Chanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) heddiw i ddysgu mwy am waith yr elusen yn rhannu datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth a phrosiect ailddatblygu uchelgeisiol CyDA, ‘Cynefin: Calon Werdd Cymru’ – menter blaenllaw o fewn Bargen Dwf Canolbarth Cymru sydd â’r nod o hybu sgiliau gwyrdd, arloesedd a chynaliadwyedd ar draws y rhanbarth. 

    Roedd yn bleser croesawu Mr Witherden i CyDA a dysgu am ei gysylltiad hir dymor â’r elusen. Roedd ei dad yn arloeswr cynnar CyDA a symudodd i’r safle ar ddechrau’r 1970au. 

    Steve Witherden MP visiting CAT and meeting Pat Borer and Co-CEO Eileen Kinsman

    Yn ystod yr ymweliad, clywodd Mr Witherden am sut bydd y prosiect Cynefin yn creu profiad o gynaliadwyedd o’r radd flaenaf i ymwelwyr ochr yn ochr â chyfleusterau newydd ar gyfer addysg ôl-raddedig, hyfforddiant proffesiynol, a datblygu sgiliau hanfodol. Nod y cynlluniau hyn yw gosod Canolbarth Cymru fel arweinydd mewn arloesedd carbon isel, gan helpu cymunedau a busnesau i addasu i heriau hinsoddol wrth greu swyddi o ansawdd uchel yn yr economi werdd.

    Steve Witherden MP at CAT

    Dyma Cyd-Brif Swyddog Gweithredol CyDA, Eileen Kinsman, hefyd yn tynnu sylw at ymgyrch yr ASDC yr ‘Association for Science and Discovery Centres’ – ‘Science Centres for Our Future’, sy’n galw am fynediad tecach i gyllid ar gyfer canolfannau gwyddoniaeth a darganfod ledled y DU. Mae’r canolfannau hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn ysbrydoli pobl o bob oed i ymgysylltu â gwyddoniaeth, technoleg ac arloesedd – ond maent yn parhau i fod wedi’u heithrio o lawer o ffrydiau cyllido’r llywodraeth sydd ar gael i sefydliadau diwylliannol tebyg. 

    Dywedodd Eileen Kinsman, Cyd Brif Swyddog Gweithredo CyDA: 

    “Mae canolfannau fel CyDA yn hanfodol ar gyfer ysbrydoli gweithrediad a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol di-garbon. Drwy fuddsoddi mewn ysbrydoliaeth ac arloesedd, gallwn ddarparu manteision gwirioneddol i gymunedau, yr economi a’r amgylchedd. Roedd yn bleser rhannu’r weledigaeth hon gyda Steve Witherden AS ac archwilio sut y gallwn gydweithio i’w weithredu.” 

    CO-CEO Eileen presenting during Steve Witherden MP's visit to CAT

    Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i drafod sut mae gwaith CyDA yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ehangach Bargen Dwf Canolbarth Cymru a phwysigrwydd cefnogaeth barhaus y Llywodraeth i sicrhau llwyddiant y prosiect. 

    Dywedodd yr AS Steve Witherden: 

    “Roeddwn wrth fy modd i fod yn ôl yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen eto. 

    “Ni allaf bwysleisio dyfnder fy nghysylltiad â’r lle anhygoel hwn. Symudodd fy nhad, economydd amaethyddol, yma i fod yn aelod sefydlol yn y 70au. Dyna’r union reswm pam rwy’n Gymro ac, o ganlyniad, yn Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. 

    “Rwyf mor falch o gynrychioli ardal sy’n cynnal un o’r sefydliadau mwyaf blaengar – bob amser ar flaen y gad – yng Nghymru. Wrth gynnig cymwysterau a chyrsiau hefyd, dyma’r peth agosaf sydd gan yr etholaeth at brifysgol. 

    “Mae angen i’n rhywogaeth ddysgu parchu’r byd naturiol. I’r diben hwnnw, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn parhau i arwain y ffordd. Mae o werth enfawr i’r etholaeth, y rhanbarth, a’r byd.” 

    Mae CyDA yn elusen addysgol amgylcheddol gofrestredig ac mae’n parhau i fod yn niwtral o ran pleidiau gwleidyddol.  

    Am ragor o wybodaeth am waith CyDA a’r prosiect Cynefin, ewch i:   cy.cat.org.uk/  

  • Ffermio mewn argyfwng: prosiect ymchwil PhD yn archwilio datrysiadau

    Ffermio mewn argyfwng: prosiect ymchwil PhD yn archwilio datrysiadau

    Mae’r ymchwilydd PhD Bethan John yn gwahodd ffermwyr ledled Gorllewin Cymru i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil wedi’i arwain gan y gymuned sy’n mynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n wynebu cymunedau gwledig heddiw – o ansicrwydd economaidd a diogelwch bwyd i newid hinsawdd.

    Trwy weithdai creu ffilmiau ac adrodd straeon yn greadigol, nod Bethan yw dod â ffermwyr ac amgylcheddwyr ynghyd i rannu profiadau bywyd a chyd-greu atebion sy’n adlewyrchu gwirionedd ffermio mewn cyfnod o argyfyngau sy’n gorgyffwrdd.

    Wrth gynnal y gweithdai, nod Bethan yw creu lle ac amser i archwilio amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau, gan adeiladu ar dir cyffredin a datrys problemau ar y cyd.

    Canlyniad y prosiect fydd ffilm neu gyfres o ffilmiau wedi’i chyd-greu gan y gymuned, bydd yn giplun o leisiau a gweledigaethau ffermwyr ac amgylcheddwyr, yn sgil y naws, cyfoeth a chymhlethdod, sy’n perthyn i brofiadau bywyd go iawn.

    Mynd i’r afael â Gydnerthedd Gwledig drwy Gydweithredu

    Mae’r prosiect ymchwil, sydd a’r bwriad i archwilio’r materion sy’n effeithio ar gymunedau gwledig yng Ngorllewin Cymru, yn bartneriaeth rhwng Ysgol Raddedig CyDA, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd, ac fe’i hariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

    Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau creadigol a chyd-gynhyrchiol i ddwyn cipolwg o’r materion sydd fwyaf perthnasol i’r cyfranogwyr, gyda’r nod o greu effaith polisi.

    Bydd elfen gydweithredol y prosiect hwn yn dechrau’r hydref lenni, pan fydd Bethan yn cynnal cyfres o weithdai adrodd straeon a chreu ffilmiau gyda ffermwyr yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

    Adrodd Straeon a Chreu Ffilmiau: Twls er Newid

    Mae cyfoeth o ymchwil academaidd sy’n cyfleu pwysigrwydd adrodd straeon a mynegiant creadigol fel ffyrdd o fyfyrio ar faterion cymhleth a helpu datrys problemau byd go iawn.

    Mae Dr Cathy Cole, Uwch Ddarlithydd a goruchwyliwr prosiect CyDA yn dweud: “gall adrodd straeon ar y cyd weithredu fel pont i alluogi atebion cydweithredol i ddod i’r amlwg. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun ffermio, ble mae naratifau’r cyfryngau yn aml yn ddadunol. Mae cyfranogwyr yn yr astudiaeth hon yn poeni’n fawr am y tir, ac mae hyn yn dir cyffredin pwerus.”

    Bydd y gweithdai adrodd straeon a gwneud ffilmiau yn cynnwys grŵp bach a byddant yn cael eu hwyluso yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y grŵp yn cael ei arwain trwy amrywiaeth o weithgareddau er mwyn cynhyrchu syniadau a thrafodaethau, tra’n darparu hyfforddiant mewn sgiliau adrodd straeon a gwneud ffilmiau. Nid oes angen profiad blaenorol oherwydd bydd cyfranogwyr yn derbyn hyfforddiant lawn yn ystod y gweithdai.

    Y set gyntaf o weithdai fydd:

    • Neuadd Bentref Bancyfelin, dydd Mercher 1af Hydref 2025, 5.30-8.30yp
    • Neuadd Farchnad Crymych, dydd Iau 2il Hydref 2025, 5.30-8.30yp

    Mae manteision ymuno â’r gweithdai yn cynnwys:

    • Hyfforddiant am ddim mewn gwneud ffilmiau fel y gallwch chi adrodd eich stori
    • Cyfle i gwrdd â ffermwyr eraill i drafod syniadau
    • Lle ac amser i rannu eich barn, gwybodaeth a phrofiadau ar faterion sy’n bwysig i chi

    Mae Bethan yn chwilio am bobl o gefndiroedd ffermio i gymryd rhan yn y gweithdai ac mae’n casglu diddordeb trwy’r ffurflen fer ar lein yma.

    Bethan Jones

    A’i wreiddiau yng Nghefn Gwlad Cymru

    Fe dyfodd Bethan fyny mewn cymuned ffermio wledig ger Caerfyrddin, ac mae hi eisoes yn byw yng Ngogledd Sir Benfro. Mae hi wedi treulio ei gyrfa yn cofnodi straeon cymunedau gan archwilio’r materion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol cymhleth y maent yn eu hwynebu wrth lywio ac addasu i’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Mae ganddi ddiddordeb yn y ffordd y gall gwybodaeth gymunedol a gweithredu ar lawr gwlad ysgogi newid.

    “Mae cyfoeth o arbenigedd i’w gael yn y cymunedau gwledig rwy’n byw ynddynt. Un o amcanion y prosiect hwn yw casglu a gwerthfawrogi’r wybodaeth yma, gan archwilio amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau bywyd i weld os ddaw datrysiadau i’r amlwg” eglura Bethan.

    Hyd yn hyn, mae hi wedi cwblhau cyfres o gyfweliadau gyda ffermwyr ac amgylcheddwyr i archwilio cyfleoedd, heriau a thensiynau, yn enwedig mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

    Rhoddodd y cyfweliadau gyfle i gyfranogwyr rannu eu barn ar y materion yn ddienw ac mewn lleoliad preifat un-i-un. Mae’r themâu a ddaeth i’r amlwg o’r cyfweliadau yn llywio datblygiad gwaith grŵp y gweithdai ac maent yn rhan o fodd aml-ddull y prosiect, gyda’r pwrpas o ddefnyddio triongliant i gryfhau dilysrwydd honiadau ac i oresgyn gwendidau trwy beidio dibynnu ar un dull.

    Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect ond methu dod i’r gweithdai, cysylltwch â Bethan (e-bost bsj3@aber.ac.uk neu ffoniwch 07495999579) i drafod opsiynau eraill a fyddai’n addas i chi.

    Filming in a field

    Dysgwch fwy am Ysgol Raddedig CyDA

    Mae Ysgol Raddedig CyDA yn un o’r prif ddarparwyr addysg ôl-raddedig mewn cynaliadwyedd ac mae’n cynnig nifer o gyrsiau lefel Meistr sy’n caniatáu i fyfyrwyr ennill y wybodaeth, ysbrydoliaeth a’r rhwydweithiau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

    Dysgwch fwy am astudio cwrs ôl-raddedig yn CyDA drwy ymuno â diwrnod agored neu cysylltwch â’n Tîm Derbyniadau drwy e-bostio study@cat.org.uk neu ffonio 01654 70597.