Category: Education

  • Lansio prosiect gweithredu hinsawdd newydd ledled Cymru “Troi’r Llanw / Turning the Tide”

    Lansio prosiect gweithredu hinsawdd newydd ledled Cymru “Troi’r Llanw / Turning the Tide”

    Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn falch o gyhoeddi lansiad prosiect gweithredu hinsawdd tair blynedd newydd, Troi’r Llanw/Turning the Tide.

    Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Troi’r Llanw/Turning the Tide wedi derbyn £1,499,800 dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU. Nod y prosiect yw normaleiddio gwaith hinsawdd dan arweiniad y gymuned, sicrhau bod lleisiau sydd wedi’i ymyleiddio yn llunio penderfyniadau amgylcheddol, a helpu pobl i deimlo’n gryfach yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) ochr yn ochr â Cwmpas, Youth Cymru, Mentrau Iaith Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST).

    Grŵp o fyfyrwyr prifysgol yn cerdded at y tyrbin gwynt sy'n eiddo i'r gymuned yn y bryniau uwchben CAT

    Gweithredu hinsawdd dan arweiniad cymunedol ledled Cymru

    Nod y prosiect, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â thema Diwrnod Amgylchedd y Byd eleni (Galwad Fyd-eang am Weithredu Hinsawdd), yw dylanwadu ar weithredu hinsawdd dan arweiniad cymunedol trwy gyflwyno rhaglen (ddwyieithog) ledled Cymru i hyrwyddo gweithredu hinsawdd. Bydd yn cysylltu mentrau cymunedol i rannu arloesiadau ac arferion da, creu a chefnogi rhwydwaith o gyfoedion a hyrwyddwyr amgylcheddol, a lledaenu canlyniadau i lywio polisi ac arferion Cymru a’r DU.

    I gyflawni hyn, bydd partneriaid yn cyflwyno rhaglen integredig o godi ymwybyddiaeth, meithrin gallu, cyd-gynhyrchu, a dulliau newid systemau. Bydd hefyd yn darparu cyngor technegol a chymorth wedi’i deilwra, cymorth ymarferol ar gyfer mentrau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, a hwb chyngor a gwybodaeth, wrth feithrin hyrwyddwyr amgylcheddol a rhwydwaith dysgu, cynnal cynhadledd flynyddol i gasglu a dysgu, a gyrru ymchwil werthusol ac ymgysylltu â pholisi.

    Myfyrwyr CyDA yn edrych ar ddogfennau hanesyddol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Yn y pen draw, nod y prosiect yw cryfhau llythrennedd ac ymwybyddiaeth o’r hinsawdd, meithrin gallu ar gyfer gweithredu a chefnogi prosiectau dan arweiniad cymunedol wrth hyrwyddo trosglwyddiad cyfiawn a theg i ddyfodol mwy cynaliadwy. Drwy rannu straeon am weithredu lleol llwyddiannus, ac annog deialog polisi, bydd yn gweithio i sicrhau bod safbwyntiau cymunedol yn dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau. Nod y fenter yw tynnu ar gryfderau a rhwydweithiau ei phartneriaid cyflawni i gyrraedd y cymunedau byddant yn targedu, ac arwain pobl o sgyrsiau bob dydd i weithredu cynaliadwy ar yr hinsawdd ac effaith polisi ehangach.

    Daw hyn o’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, ymrwymiad hirdymor i gefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

    Dros y tair blynedd nesaf, bydd y prosiect yn ymgysylltu’n uniongyrchol â miloedd o bobl ledled Cymru, gan gefnogi cymunedau mewn ardaloedd gwledig, trefol ac arfordirol, gyda ffocws penodol ar y rhai sy’n wynebu anfantais gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gan eu galluogi i droi syniadau’n atebion ymarferol – o brosiectau ynni a bwyd cymunedol i ddatblygu sgiliau, adfer natur ac arloesi carbon isel.

    Grŵp cymunedol Civic Square ar daith o amgylch safle CyDA. Llun gan Dan Griffiths
    Grŵp cymunedol Civic Square ar daith o amgylch safle CyDA. Llun gan Dan Griffiths

    Partneriaeth cryf sy’n cyrraedd cymunedau amrywiol

    Dywedodd Amanda Smith, Pennaeth Dysgu ac Addysg CyDA ac Arweinydd y Prosiect:

    “Mae Troi’r Llanw / Turning the Tide, diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn dwyn ynghyd gryfderau sefydliadau ledled Cymru i wneud gweithredu ar yr hinsawdd yn fwy hygyrch, perthnasol a chyflawnadwy i bawb. Yn CyDA, rydym mewn sefyllfa unigryw i arwain y rhaglen uchelgeisiol hon gan ein bod â dros 50 mlynedd o brofiad mewn addysg hinsawdd, ymgysylltu cymunedol ac atebion ymarferol, ond rydym yn gwybod bod newid go iawn yn digwydd pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth. Trwy gyfuno ein harbenigedd â chysylltiadau cymunedol dwfn ein partneriaid, gallwn gyrraedd ystod ehangach a mwy amrywiol o bobl, gan gefnogi cymunedau i feithrin y wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i droi syniadau yn weithredu lleol parhaol.”

    Trwy’r prosiect hwn, bydd CyDA yn darparu arweinyddiaeth strategol, arbenigedd hinsawdd, hyfforddiant a chymorth technegol — gan helpu cymunedau i symud o ymgysylltu cychwynnol i weithredu ymarferol cynaliadwy.

    Ymweliad grŵp Preswylfa Cwmni Ifanc i CyDA. Llun gan Mohamed Hassan
    Llun gan Mohamed Hassan

    Bydd gweithio mewn partneriaeth ochr yn ochr â Cwmpas, Youth Cymru, Mentrau Iaith Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) yn galluogi’r prosiect i gyrraedd cymunedau ledled Cymru, gan eu hysbrydoli a’u galluogi i gymryd camau ymarferol, dan arweiniad lleol, ar newid hinsawdd – gan sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan effeithiau hinsawdd wrth wraidd yr ymateb.

    Dywedodd Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru:

    “Mae Mentrau Iaith Cymru’n gyffrous i gael bod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn i ymbweru cymunedau i weithredu dros yr hinsawdd.  Mae sbarduno trafodaethau cyfrwng Cymraeg yn ein cymunedau yn rhywbeth mae’r mentrau iaith yn angerddol yn ei gylch.  Edrychwn ymlaen i feithrin partneriaethau newydd drwy’r prosiect er budd ein cymunedau.”

    Dywedodd Bethan Webber, Prif Weithredwr Cwmpas:

    “Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide, gan weithio gyda’n partneriaid i gyrraedd cymunedau ledled Cymru a’u hysbrydoli i gymryd camau ymarferol, dan arweiniad lleol, ar newid hinsawdd.

    Yng Nghwmpas, credwn y gall pawb yng Nghymru helpu i adeiladu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal. Dyna pam ei bod mor bwysig bod cymunedau’n teimlo eu bod wedi’u grymuso i gymryd rhan, gwneud penderfyniadau sy’n adlewyrchu eu blaenoriaethau lleol, a chymryd camau ymarferol, yn enwedig mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r angen i leihau ein heffaith carbon. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn ac yn edrych ymlaen at gefnogi cymunedau Cymru i droi eu syniadau arloesol yn gamau gweithredu ystyrlon.”

    Dywedodd Helal Uddin o Dîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST).

    “Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac i CyDA am y cyfle pwysig hwn i fod yn rhan o bartneriaeth Troi’r Llanw / Turning the Tide.

    Yn EYST, rydym yn gweld bob dydd sut mae newid hinsawdd a heriau amgylcheddol yn croestorri ag anghydraddoldebau ehangach sy’n wynebu ein cymunedau. Trwy’r prosiect hwn, byddwn yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc, teuluoedd a grwpiau cymunedol ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth, meithrin sgiliau ac ysbrydoli gweithredu sydd wedi’i wreiddio mewn gwerthoedd diwylliannol a chryfderau cymunedol. Drwy greu mannau diogel ar gyfer deialog, cyflwyno dysgu ymarferol a chefnogi hyrwyddwyr amgylcheddol lleol, ein nod yw sicrhau bod y rhai sydd yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn sgyrsiau hinsawdd nid yn unig yn cael eu cynnwys, ond eu grymuso i arwain newid yn eu cymunedau. Credwn mai ein cyfrifoldeb ni i gyd yw gadael ôl troed amgylcheddol cadarnhaol ac etifeddiaeth barhaol i genedlaethau’r dyfodol.”

    Gyda’i gilydd, mae’r partneriaid hyn yn dod â rhwydweithiau llawr gwlad helaeth, cysylltiadau dibynadwy ac arbenigedd dwfn mewn gweithio gyda chymunedau sydd yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn sgyrsiau hinsawdd i’r prosiect. Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau y gall y prosiect gwrdd â phobl lle maen nhw, gan gysylltu gweithredu ar yr hinsawdd â phryderon bob dydd fel swyddi, costau ynni, iechyd a lles cymunedol.

    Logo's y rhai sy'n ymwneud â Phrosiect Troi'r Llanw. Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Canolfan y Dechnoleg Amgen. Cwmpas. Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST). Mentrau Iaith Cymru. Youth Cymru.
    Looking across the CAT site
  • Dylunio dyfodol adfywiol i’r Biosffer

    Dylunio dyfodol adfywiol i’r Biosffer

    Y llynedd, ar ôl ein Hysgol Haf Pensaernïaeth – Dyfodol Adfywiol gyntaf erioed, myfyriodd Dr Carl Meddings ar sut yr aeth a sut aeth myfyrwyr ati i ddychmygu dyfodol adfywiol ar gyfer Biosffer Dyfi.

    Ym mis Gorffennaf, cynhalion ein Hysgol Haf Pensaernïaeth gyntaf yn canolbwyntio ar y thema o dyfodol adfywiol, gan ddewis Biosffer Dyfi fel ein ffocws.

    Fel canolfan addysg amgylcheddol sy’n ymroddedig i ymchwilio a chyfleu atebion cadarnhaol ar gyfer newid amgylcheddol, rydym yn darparu addysg lefel Meistr mewn ystod eang o bynciau sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd, gan gynnwys Meistr mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy (M.Arch) i fyfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn benseiri.

    Gan adeiladu ar lwyddiant y cwrs hwnnw, roedd yr Ysgol Haf llynedd wedi’i hanelu at fyfyrwyr pensaernïaeth israddedig a oedd am ehangu eu dealltwriaeth o arferion adfywiol, lleoliaeth, arwyddocâd treftadaeth, gwydnwch cymunedol, bioamrywiaeth ac amrywiaeth cynefinoedd, a chydgysylltedd sylfaenol systemau dynol a mwy-na-dynol. Pa le gwell i archwilio’r syniadau hyn na Biosffer Dyfi?

    Yn y diwedd, roedd gennym fwy na myfyrwyr pensaernïaeth yn bresennol. O’r pedwar ar ddeg o bobl a ymunodd â’r cwrs, roedd dau newydd wneud eu Lefel A ac roedd dau arall wedi teithio o Donegal yng Ngweriniaeth Iwerddon, lle maen nhw’n meithrin eu fferm adfywiol eu hunain ar hyn o bryd.

    Summer School Attendees walking across the CAT site

    Bod yno

    Teithiodd y grŵp o amgylch y Biosffer, gan ddechrau yn CyDA yn y Fforest Law Geltaidd (lawog iawn) a gorffen yn Borth (gwyntog iawn). Gyda’n gilydd, ymwelsom â Hwb Cymunedol y Taj Mahal ym Machynlleth lle gwnaethom gyfarfod â Sandra Bendelow a chlywed popeth am yr ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd cymunedol y maen nhw’n eu cefnogi.

    Teithion ni, trwy brosiect Bywyd Gwyllt Dyfi (i weld y Gweilch y Pysgod a’u cywion) i Coetir Anian lle gwnaethon ni gyfarfod â Cian Llywelyn a oedd yn gallu dweud wrthym am y gwaith tyner, gofalus maen nhw’n ei wneud a dangos yr adeiladau ym Mwlch Corog i ni, sydd eu hunain yn astudiaeth wirioneddol hyfryd a diddorol mewn cynaliadwyedd, o ystyried eu bod wedi’u hadeiladu’n bennaf o ddeunyddiau a geir o fewn y safle ei hun. Ein cyrchfan olaf oedd Borth ac Ynyslas, lle archwiliodd mynychwyr yr ysgol haf y dref a’i chysylltiad ansicr â’r môr a’r tir.

    CAT Summer School attendees on a trip

    Bod yn dyner

    Ar ôl dychwelyd i CyDA, trafodwyd syniadau ar gyfer dyfodol Biosffer Dyfi trwy weithdy Tair Gorwel a ddatblygwyd gan Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-Garbon CyDA. Mae hyn wedi’i gynllunio i wella ac ysgogi meddwl cadarnhaol a beirniadol am y dyfodol, a gwahoddwyd myfyrwyr i fyfyrio ar ddyfodol lle ‘Erbyn 2050 bydd Biosffer Dyfi yn ardal lle mae ymyriadau ysgafn wedi arwain cymuned leol lewyrchus ac ecosystem iach’.

    Dilynwyd hyn gan ymarfer Mapio Dwfn a gynhaliwyd gan diwtoriaid ar y cwrs M.Arch Pensaernïaeth Gynaliadwy, gan archwilio mynegiadau creadigol y dyfodol trwy ofyn i gyfranogwyr ddatblygu ‘catalyddion ysgafn ar gyfer gwydnwch’ ar gyfer trigolion dynol a mwy na dynol yn yr ardal.

    Roedd allbynnau terfynol y cyfranogwyr yn cynnwys cynigion ar gyfer:

    • Ryseitiau ar gyfer bwyd lleol, wedi’i gaffael, ei goginio a’i weini’n hyfryd i bawb ei rannu,
    • Canolfan gymunedol symudol mewn bws wedi’i drawsnewid, wedi’i threfnu i deithio o le i le yn ôl anghenion y gymuned
    • Digwyddiad a gynhelir yn 2050 – sef pen-blwydd dychmygol yn 25 oed gŵyl o’r enw Cymorth Borth, sy’n dathlu gwydnwch cymunedol a chefnogaeth gydfuddiannol trigolion Borth a Thu Hwnt yn wyneb effeithiau newid hinsawdd,
    • Prototeip ar gyfer lloches gymunedol ac ystafell fyw (yn seiliedig ar fwth ffôn estynedig) wedi’i gynllunio i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad iechyd meddwl cadarnhaol,
    • Llyfrgell fwyd i hyrwyddo casglu cymunedol, cynhyrchu bwyd, addysg, rhannu a maeth
    • Methodoleg ar gyfer ymgysylltu cymunedol sy’n tynnu ar straeon a phrofiadau, hanesion a naratifau a rennir – sydd bob amser yn gyfoethocach nag y gall unrhyw fap eu cynnwys.

    “Roedd pawb yn groesawgar ac yn garedig, ac roedd yn anhygoel cael sgyrsiau mor ddiddorol a gwneud gwaith mor ddiddorol o ganlyniad i hynny. Roedd natur ddathlu’r cynnyrch ar y diwedd, sydd, gan fod y ‘catalydd’ wedi’i wreiddio mewn gofal, hefyd yn wirioneddol adfywiol.” Ashleigh Rizza – cyfranogwr

    Mae CyDA yn cynnig yr unig gwrs pensaernïaeth gwledig sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd yn y DU. Rydym yn diffinio pensaernïaeth gynaliadwy trwy gydnabod yn llawn effaith dynoliaeth ar ein planed a’r angen i weithredu nawr. Rydym yn darparu’r offer i’n myfyrwyr greu pensaernïaeth a lleoedd iach sy’n briodol ar gyfer byd lle mae gwerthoedd eco-ganolog yn cael eu hystyried yn gyfartal â rhai anthropocentrig.

    Rhaid diolch i’r nifer o bobl a helpodd i wneud yr wythnos mor arbennig, gan gynnwys Jane Powell, Cydlynydd Biosffer Dyfi, Sandra Bendelow, Cydlynydd Taj Mahal Community Hub, Cian Llywelyn, Coetir Anian, Rachel Tuckett, Ruth Stevenson a Paul Allen o CyDA, Owen Griffiths, artist, arweinydd gweithdai a hwylusydd, Alice Briggs, rheolwr prosiect Tir Canol, Becca Thomas New Practice, rhan o Civic wedi’i lleoli yn Glasgow a Zoe Quick, pensaer a darlithydd gwadd yn CyDA.

    Yn dilyn llwyddiant Ysgol Haf Pensaernïaeth y llynedd, rydym yn gyffrous i groesawu cyfranogwyr eleni i’r safle am wythnos o ddysgu creadigol a chydweithredol sy’n archwilio lle.

    CAT summer school attendee looking at attendees work

    Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Biosffer Dyfi.

    Dr Carl Meddings yw Arweinydd y Rhaglen ar gyfer cwrs MArch: Pensaernïaeth Gynaliadwy CyDA. Mae’n bensaer ac addysgwr sydd â brwdfrydedd dros addysgu penseiri mewn amgylchedd diwylliannol a phroffesiynol sy’n newid yn gyflym. Mae ei ethos dylunio wedi’i wreiddio mewn rhanbartholdeb beirniadol; archwilio pensaernïaeth briodol sy’n ymatebol yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Mae wedi addysgu ar bob lefel o israddedig blwyddyn gyntaf i lefel meistr blwyddyn olaf a thu hwnt.

    Delweddau: Myfi Fenwick, Ashleigh Rizza.

  • Cyfoethogi dysgu drwy ymweliadau maes preswyl

    Cyfoethogi dysgu drwy ymweliadau maes preswyl

    Yn ddiweddar dyma ni’n sgwrsio a’r Darlithydd Nick Hughes, a ddaeth â fyfyrwyr o UCL ar ymweliad i CyDA ym mis Tachwedd. Roedd beth ddywedodd yn atgof gwych o’r gwaith pwysig y mae ein tîm addysg yn ei wneud yn ysbrydoli ymwelwyr i weithredu dros ddyfodol mwy cynaliadwy.

    Yma yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, rydym wastad yn falch i groesawu Grwpiau Prifysgol sy’n ymweld a’n cartref yng nghalon Canolbarth Cymru.

    Mae myfyrwyr sy’n ymweld yn dod â’u cefndiroedd a’u diddordebau eu hunain gyda nhw, boed yn beirianwyr y dyfodol, yn wyddonwyr naturiol darpar, yn ymarferwyr creadigol neu unrhyw le rhyngddynt. I’n tîm yma yn CyDA, y gallu i rannu’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu am gynaliadwyedd ac ysbrydoli gweithrediad yw’r rheswm yr ydym yn gwneud yr hyn a wnawn, ac rydym yn trysori’r cyfle i wneud cynaliadwyedd yn rhan o daith ddysgu’r myfyrwyr hyn.

    Mae Nick Hughes, darlithydd o UCL wedi ymweld â CyDA yn gyson dros y blynyddoedd, ac yn ddiweddar daeth â rhai myfyrwyr Meistr ar drip maes preswyl fel y gallent ategu eu hastudiaethau a gweld enghreifftiau holistaidd o gynaliadwyedd ar waith, yn agos ac mewn amser real.

    UCL Students on a tour of the CAT Gardens

    Dull Holistaidd o Gynaliadwyedd

    “Mewn dim ond ychydig ddyddiau, mae’r myfyrwyr yn gweld ac yn profi technegau adeiladu naturiol cynaliadwy, rheolaeth ecolegol, amaethyddiaeth gadwraethol, rheoli dŵr a gwastraff cynaliadwy, a gwahanol fathau o dechnolegau ynni adnewyddadwy. Mae’n brofiad ysbrydoledig ac ysgogol.” 

    Mae dysgu cyfoethogol yn arwain at atebion cyfoethogol ac mae bod yn safle lle gall myfyrwyr adeiladu ar eu gwybodaeth eu hunain a gwneud cynnydd yn eu taith addysgol yn brofiad calonogol i ni i gyd yn CyDA. Ac mae gallu cynnig y mewnwelediadau holistaidd ac ymarferol hyn i agweddau niferus cynaliadwyedd yn golygu y gallwn roi pwyslais ar y dull integredig sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

    Profiadau ymarferol sy’n ategu dysgu

    “Mae dull holisatidd CyDA o gynaliadwyedd yn ategu amcanion dysgu allweddol ein rhaglen yn uniongyrchol ond mae hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiadau ymarferol. Roedden ni eisiau lle ble byddai myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus ac yn mwynhau bod gyda’i gilydd ond hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ymarferol o berthnasedd uniongyrchol, ond hefyd yn ategu’r modiwlau rydyn ni’n eu addysgu fel rhan o’n rhaglen ein hunain.”

    Mae safle CyDA yn gartref i lu o atebion cynaliadwy ar waith, o ynni adnewyddadwy i adeiladau cynaliadwy, ymchwil Prydain Di-Garbon, rheoli adnoddau’n gynaliadwy a thu hwnt. Mae gan amrywiaeth yr enghreifftiau hyn y gallu i apelio at wahanol ddiddordebau myfyrwyr a dal eu dychymyg wrth iddynt symud ymlaen yn eu hastudiaethau.

    “Mae’r myfyrwyr yn rhoi adborth rhagorol i ni’n gyson ar y daith breswyl. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r gweithgareddau, yr arweiniad arbenigol a’r awyrgylch croesawgar yn fawr, sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n gwbl gartrefol.”

    Mae cael bod yn rhan o daith ddysgu gwneuthurwyr newid y dyfodol yn fraint wirioneddol dim ots pa mor fawr neu fach ydyw, ac mae bob amser yn bleser clywed yn ôl gan y rhai sy’n ymweld! 

    Os oes gennych chi stori CyDA yr hoffech chi ei rhannu, byddem wrth ein bodd yn ei chlywed…rhannwch eich stori heddiw.

    Dewch a’ch Prifysgol i CyDA 

    I ddysgu mwy am gynnig ymweliadau grŵp CyDA ac i wneud ymholiad, ewch i cy.cat.org.uk/dewch-i-cyda/grwpiau-a-dysgu/ neu anfonwch e-bost at education@cat.org.uk

    Tour of the CAT site
    Looking across the CAT site
  • Arwain gyda Natur:  Arweinyddiaeth Adfywiol i Fenywod 

    Arwain gyda Natur:  Arweinyddiaeth Adfywiol i Fenywod 

    Yn ddiweddar dyma ni’n sgwrsio a’r tiwtor Rhian Sherrington am gwrs drochol newydd sydd wedi’i gynllunio yn CyDA sy’n anelu i rymuso menywod i arwain mewn creu newid.

    Ym mis Gorffennaf eleni, bydd CyDA yn cynnal Arwain gyda Natur: Arweinyddiaeth Adfywiol i Fenywod, cwrs drochol tair diwrnod newydd a grëwyd mewn partneriaeth â’r hyfforddwr arweinyddiaeth a’r hyfforddwr gweithredol Rhian Sherrington, sylfaenydd y Rhwydwaith ‘Women in Sustainability.’ 

    Ar adeg pan fo’r byd mewn angen taer am arweinwyr a all lywio cymhlethdod gydag empathi, eglurder a dewrder, mae llawer o fenywod sy’n gweithio mewn rolau cynaliadwyedd sy’n canolbwyntio ar effaith yn teimlo’r straen. Mae eu gwaith yn ystyrlon iawn, ond mae’r systemau o’u cwmpas yn aml yn gwneud y gwaith hwnnw’n llawer anoddach nag y dylai fod. 

    Rhian Sherrington sitting on a log in the woods

    C: Sut daeth y cwrs yma o gwmpas?

    Ers dros ddeuddeg mlynedd, rydw i wedi gweithio’n agos gyda menywod sy’n ymroi eu gyrfaoedd i gynaliadwyedd, gweithredu ar yr hinsawdd, diogelu’r amgylchedd a dylanwad gymdeithasol. Yn ystod yr amser hwnnw, rydw i wedi gweld rhywbeth trawiadol, mae menywod yn cael eu cymell yn ddwfn i greu newid, ond mae’r systemau y maent yn gweithio ynddynt yn aml yn gwneud y newid hwnnw’n llawer anoddach nag sydd angen iddo fod.

    Mae arweinyddiaeth, er gwaethaf cynnydd, yn dal i fod yn brofiad rhyweddol. Mae menywod yn wynebu rhwystrau sy’n weladwy ac yn anweledig, o gydbwyso llwyth gwaith a gofynion gofalu i lywio rhagfarn anymwybodol a bwlch awdurdod parhaus. Yr hyn rwy’n ei weld, dro ar ôl tro, yw bod menywod sy’n gweithio i hyrwyddo cynaliadwyedd yn aml yn gwneud hynny gyda chyllidebau isel, adnoddau cyfyngedig a disgwyliadau uchel. Daw llawer o’u dylanwad nid o rym safle ond o berswadio, adeiladu perthnasoedd a llafur emosiynol.

    Ar yr un pryd, mae’r menywod hyn yn cario ymwybyddiaeth ddwfn o’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth sy’n datblygu o’n cwmpas. Maent yn deall y brys. Maent yn teimlo pwysau hynny. Mae’r cyfuniad hwn o gyfrifoldeb, brys ac adnoddau cyfyngedig yn creu straen unigryw, un sy’n aml yn mynd heb ei gydnabod.

    Participants of a Women in Sustainability Network event

    C: Sut allwn ni newid ein dealltwriaeth o beth mae arweinyddiaeth yn edrych fel?

    Mae llawer o’r anawsterau y mae menywod mewn arweinyddiaeth yn eu hwynebu yn deillio o’r modelau arweinyddiaeth yr ydym wedi’u hetifeddu. Mae llawer o’n dulliau amlwg o arweinyddiaeth wedi’u llunio gan feddwl yn echdynnol, gyda phwyslais ar gystadleuaeth, hierarchaeth, cyflymder a rheolaeth. Mae’r dulliau hyn yn gynyddol anghydnaws â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu nawr.

    Mae ymchwil yn dangos yr hyn y mae llawer ohonom ni’n ei ddeall yn reddfol, sef bod y rhinweddau arweinyddiaeth sydd eu hangen ar gyfer dyfodol ffyniannus a gwydn yn cynnwys empathi, tosturi, ystwythder, gwrando’n ddwfn a meddwl systemau. Sgiliau dynol yw’r rhain, nid rhai sy’n seiliedig ar ryw, ond mae llawer o fenywod wedi’u datblygu trwy brofiad byw a chymdeithasu.

    Yn rhy aml, mae’r cryfderau hyn wedi cael eu diystyru fel ‘sgiliau meddal’ neu eu gweld yn llai gwerthfawr na dulliau gorchymyn-a-rheoli mwy traddodiadol. Eto fyth, dyma’r union sgiliau sydd eu hangen i lywio ansicrwydd, meithrin ymddiriedaeth, ac arwain newid trawsnewidiol.

    Pan fydd menywod yn gallu arwain fel eu hunain, nid gwasgu i fowld nad oedd erioed wedi’i gynllunio ar eu cyfer, a phan fydd timau arweinyddiaeth yn wirioneddol amrywiol, mae sefydliadau’n gwrando’n well, yn cydweithio’n well ac yn osgoi peryglon meddwl grŵp.

    Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi menywod yn erbyn dynion. Mae’n ymwneud â chydnabod bod ein strwythurau presennol wedi’u cynllunio o dan safbwynt cul ar y byd, a bod angen arweinyddiaeth arnom nawr sy’n adlewyrchu cymhlethdod y systemau rydym yn gweithio i’w trawsnewid.

    Participants of a Women in Sustainability Network event in Bristol eating together

    C: Pam Arweinyddiaeth Adfywiol?

    I symud ymlaen, mae angen i ni symud i ffwrdd o arweinyddiaeth echdynnol i arweinyddiaeth adfywiol – arweinyddiaeth sy’n adnewyddu yn hytrach na disbyddu, sy’n cefnogi effaith hirdymor yn hytrach na buddugoliaethau tymor byr. 

    Mae arweinyddiaeth adfywiol yn gofyn inni gydnabod ein hunain fel rhan o systemau byw. Mae’n ein gwahodd i roi sylw i batrymau, perthnasoedd a rhyngddibyniaeth. Mae’n ein hannog i arwain mewn ffyrdd sy’n gynaliadwy nid yn unig i’n sefydliadau ond i ni ein hunain. 

    Un o’r chwedlau arweinyddiaeth mwyaf niweidiol yr ydym yn dal i’w cario yw’r syniad bod natur yn gystadleuol yn y pen draw. Ond pan edrychwn yn ofalus ar systemau ecolegol, rydym yn gweld mai dim ond rhan fach o’r stori yw cystadleuaeth, ac yn fwyaf gweladwy yng nghyfnodau cynnar olyniaeth. Diffinnir ecosystemau iach gan gydweithio, amrywiaeth a chysylltedd.  

    Trees

    C: Pam mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fenywod yn unig?

    Ni fydd newid systemig yn cael ei yrru gan fenywod yn unig. Mae trawsnewidiad ystyrlon yn gofyn am arweinyddiaeth gan bob rhyw. Ond mae mannau i fenywod yn unig yn parhau i fod yn hanfodol oherwydd eu bod yn creu diogelwch seicolegol. Maent yn caniatáu i fenywod archwilio profiadau byw, archwilio patrymau mewnol, meithrin hyder a datblygu iaith newydd ar gyfer eu harweinyddiaeth, yn rhydd rhag feirniadaeth.

    Dros y deuddeg mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld pa mor drawsnewidiol y gall hyn fod. Pan fydd menywod yn dod at ei gilydd mewn amgylcheddau cefnogol a phwrpasol, maent yn gadael gyda theimlad cryfach o eglurder, dewrder a chyfeiriad. Maent yn dychwelyd i’w gweithleoedd wedi’u cyfarparu’n well i ddylanwadu ar ddiwylliant, dod o hyd i gynghreiriaid a chreu newid o’r tu mewn.

    Nid yw coedwig yn ffynnu oherwydd bod un goeden yn dominyddu; mae’n ffynnu oherwydd bod pob coeden yn dod o hyd i’w chilfach o fewn gwe ehangach o berthnasoedd.

    Dyma’r ysbrydoliaeth y tu ôl i Arwain gyda Natur. Mae’n wahoddiad i ailddychmygu arweinyddiaeth trwy ddysgu o ddeallusrwydd adfywiol natur ei hun.

    Beth i’w Ddisgwyl o’r Cwrs

    Mae Arwain gyda Natur: Arweinyddiaeth Adfywiol i Fenywod, a ddatblygwyd gyda CyDA, wedi’i gynllunio ar gyfer menywod ar lefel sy’n gweithio ar lefel canol-uwch ac uwch ym meysydd cynaliadwyedd, hinsawdd, amgylchedd ac effaith gymdeithasol.

    Dros dri diwrnod byddwn yn:

    • trochi ein hunain yn natur i ailgysylltu âc adnoddau mewnol ein hunain
    • archwilio beth mae arweinyddiaeth adfywiol yn edrych fel drwy ffyrdd ymarferol
    • datgelu heriau sy’n ymwneud ag awdurdod, brys, llafur anweledig a gor-gyfrifoldeb
    • defnyddio offer meddwl systemau fel TetraMap i ddeall patrymau ynom ni ein hunain a’n timau
    • gweithio gyda sefyllfaoedd go iawn a gyflwynir gan gyfranogwyr
    • adeiladu cymuned gyda chyfoedion sy’n rhannu pwysau a phwrpas tebyg

    Y bwriad yw i bob menyw adael gydag egni newydd, mwy o eglurder, ac offer ymarferol i ddylanwadu ar eu diwylliannau sefydliadol yn fwy effeithiol, wrth ddarparu adnoddau i’w hunain yn fwy cynaliadwy. 

    Mae’r cwrs hwn yn dwyn ynghyd fwy na degawd o fewnwelediadau gan y ‘Women in Sustainability Network’ ochr yn ochr â dulliau busnes adfywiol gan fy nhiwtor cyfrannol, Janine Barron. Gyda’n gilydd byddwn yn archwilio beth mae’n ei olygu i greu arweinyddiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol, wedi’i gwreiddio yn y natur, ac sy’n cyd-fynd â phwy ydym ni mewn gwirionedd. 

    Mae hwn yn gwrs cynhwysol, sy’n agored i unrhyw un sy’n uniaethu fel menyw.

    Ymunwch â Ni

    Os ydych chi’n fenyw sy’n gweithio ym maes cynaliadwyedd, hinsawdd, yr amgylchedd neu effaith gymdeithasol, ac yn teimlo’r straen o arwain o fewn systemau nad ydynt wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol sydd ei angen arnom, y cwrs hwn yw’r un i chi.

    Mae’r cwrs yn rhedeg o 3 i 5 Gorffennaf ac mae opsiwn cynllun talu misol ar gael.

    Cliciwch yma am fwy o fanylion

    Looking across the CAT site
  • Grymuso’r genhedlaeth nesaf

    Grymuso’r genhedlaeth nesaf

    Mae Amanda Smith, Pennaeth Dysgu ac Addysg, yn archwilio rhai o’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, a sut y mae CyDA yn gweithredu.

    Yng Nghymru, rydym yn ffodus i gael ymrwymiad cenedlaethol i feddwl dros y tymor hir. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi anghenion yfory wrth wraidd y penderfyniadau a wneir heddiw. Mae’n ffordd bwerus o’n hatgoffa mai’r byd yr ydym yn ei siapio nawr, yn amgylcheddol, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, yw’r un y bydd pobl ifanc yn ei etifeddu.

    Yn CyDA, credwn bod y genhedlaeth nesaf yn haeddu mwy na sedd wrth y bwrdd. Maent yn haeddu cael eu clywed, eu cefnogi a chael yr offerynnau er mwyn helpu i siapio’r dyfodol eu hunain.

    Realiti i bobl ifanc heddiw

    Mae pobl ifanc heddiw yn tyfu i fyny mewn cyfnod o ansicrwydd a newid cyflym. Teimlir effeithiau yr hinsawdd yn methu ar draws y byd, a disgwylir i bethau waethygu gryn dipyn.

    Bellach, caiff gorbryder am yr hinsawdd ei gydnabod yn eang fel mater difrifol. Mae nifer gynyddol o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yn adrodd am y ffaith bod maint y problemau amgylcheddol, a’r ffaith na allant wneud gwahaniaeth, yn eu llethu. Gall y faich emosiynol hon effeithio ar eu hiechyd meddwl, eu haddysg, a hyd yn oed ar eu dewisiadau gyrfa.

    Ond law yn llaw â’r gofid a’r gwrthdyniad, ceir egni, angerdd a dymuniad cryf i wneud gwahaniaeth hefyd. Yn fwy nag erioed, mae pobl ifanc yn ymgysylltu’n fawr. Maent yn gofyn cwestiynau, yn mynnu bod gweithredu yn digwydd, ac yn dychmygu ffyrdd newydd o fyw. O streiciau hinsawdd mewn ysgolion i brosiectau cymunedol, maent yn dangos eu bod yn ymboeni a’u bod yn barod i arwain y sgwrs.

    Ond ni all pobl ifanc wneud hyn ar eu pen eu hunain. Mae angen cymorth arnynt er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd a’u bywydau yn y dyfodol.

    Cynorthwyo pobl ifanc yn CyDA

    Mae CyDA wastad wedi bod am ddatrysiadau ymarferol a newid cadarnhaol.  Mae ein gwaith gyda phobl ifanc yn datblygu’r sylfaen honno, ac yn eu helpu i archwilio syniadau, meithrin sgiliau a chanfod gobaith wrth weithredu. 

    Bob blwyddyn, mae CyDA yn croesawu myfyrwyr ysgol a phrifysgol i’n Canolfan Ymwelwyr yng Nghanolbarth Cymru.  Mae’r ymweliadau hyn yn brofiadau dysgu ymdrochol sy’n dangos datrysiadau ymarferol ar waith.  Mae myfyrwyr yn archwilio systemau ynni adnewyddadwy, adeiladau gwyrdd, gerddi organig a choetir a reolir mewn ffordd gynaliadwy.  Maent yn dysgu am wyddor hinsawdd, technolegau carbon isel a dylunio sy’n ymwybodol o ecoleg.  Mae’r holl ddysgu hwn yn digwydd mewn ecosystem fyw, lle y cânt eu hamgylchynu â natur, enghreifftiau ymarferol o ddatrysiadau cynaliadwy, a thystiolaeth 50 mlynedd o arloesi amgylcheddol.

    I nifer, mae’n brofiad trawsnewidiol.  Byddant yn gadael gyda gwybodaeth newydd, syniadau ffres ac ymdeimlad o obaith o’r newydd.  Byddant yn gweld bod datrysiadau yn bodoli ac y gallant fod yn rhan o sicrhau eu bod yn digwydd. Disgrifiodd un athro a oedd wedi ymweld o Ysgol Solefield yng Nghaint sut yr oedd “Un myfyriwr wedi dychwelyd ataf flynyddoedd ar ôl y daith hon i ddweud ei fod wedi ei ysbrydoli i ganlyn peirianneg gynaliadwy.”  Ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i astudio Peirianneg Gynaliadwy yn y brifysgol ac mae bellach wedi cymhwyso ac yn gwneud yn dda yn y maes.

    Getting creative on a CAT workshop

    Dyfodol Mentrus: Dychmygu yr hyn sy’n bosibl

    Un o raglenni mwyaf trawiadol CyDA ar gyfer pobl ifanc yw Dyfodol Mentrus, sef gweithdy a gynlluniwyd er mwyn helpu cyfranogwyr i ddychmygu dyfodol cynaliadwy a deall y rôl y gallant ei chyflawni wrth wireddu hynny.

    Mae’r gweithdy yn tywys pobl ifanc trwy broses greadigol a myfyriol. Byddant yn archwilio sut y gallai byd di-garbon edrych, gan ystyried y newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn cyrraedd y fan honno, a nodi’r sgiliau a’r camau y gallent helpu i’w wneud yn realiti.

    Mae’n wych gweld plant yn llawn gobaith am ddyfodol eu cartrefi, eu hysgolion a’u cymunedau. Maent yn dychmygu mannau gwyrdd, yn llawn chwarae ac sy’n ffynnu gyda byd natur.

    Nid rhaglen sy’n dweud wrth bobl ifanc yr hyn i’w feddwl yw Dyfodol Mentrus, mae’n ymwneud â rhoi lle iddynt feddwl dros eu hunain. Rhoddir y pwyslais ar alluogedd, dychymyg a phosibilrwydd. Yn aml, bydd cyfranogwyr yn gadael wedi cael eu grymuso yn fwy, yn fwy cysylltiedig ac yn meddu ar fwy o gymhelliant i weithredu yn eu bywydau a’u cymunedau.

    POP25: Cyrraedd cynulleidfa ehangach

    Ym mis Tachwedd, cynhaliodd CyDA POP25 (Diwrnod Diogelu Ein Planed), digwyddiad partneriaeth mawr gyda Dysgu STEM, asiantaethau y gofod y DU ac Ewropeaidd a sefydliadau eraill. Darlledwyd y digwyddiad hwn yn fyw o CyDA i dros 200,000 o fyfyrwyr ysgol ac athrawon ar draws y DU, gan arddangos datrysiadau ymarferol i newid hinsawdd a dathlu rôl pobl ifanc yn y dasg o greu dyfodol gwell.

    Roedd POP25 wedi dwyn ynghyd addysgwyr, gwyddonwyr, ymgyrchwyr a myfyrwyr i rannu syniadau, tanio sgyrsiau ac ysbrydoli gweithredu. Law yn llaw â darllediad byw o CyDA, aeth y digwyddiad yn fyw i long ymchwil amgylcheddol yn yr Arctig hefyd, ac i feysydd anhygoel eraill lle y gwneir y gwaith ymchwil diweddaraf. Roedd yn enghraifft hyfryd o’r hyn sy’n gallu digwydd pan fydd sefydliadau yn cydweithio i gefnogi addysg yr hinsawdd ac ymgysylltu â phobl ifanc.

    Bu cynnal POP25 yn gyfle i ymhelaethu neges CyDA, gan gyrraedd cynulleidfa ehangach wrth fod yn rhan o rywbeth gwirioneddol ysbrydoledig i bobl ifanc.

    Sgiliau ar gyfer y dyfodol

    Wrth i’r byd symud tuag at ddyfodol di-garbon, mae’r galw am sgiliau gwyrdd yn cynyddu. Bydd angen i bobl ifanc feddu ar wybodaeth, ond hefyd, ar allu ymarferol, o adeiladu cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy i ddylunio ecolegol a meddwl ar ffurf systemau. Mae CyDA yn cyflawni rôl bwysig yn y pontio hwn. Trwy ein rhaglenni ôl-raddedig, ein cyrsiau byr, ein rhaglenni gwirfoddoli preswyl a’n partneriaethau gydag ysgolion a cholegau, rydym yn helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnynt er mwyn ffynnu mewn byd sy’n newid.

    Nid rhywbeth sy’n ymwneud â swyddi yn unig yw hwn, mae’n ymwneud â diben. Mae nifer o bobl ifanc yn dymuno gweithio mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd a chyfrannu at newid cadarnhaol. Mae rhaglenni addysg CyDA yn eu helpu i wneud hynny.

    Mae cyfuniad unigryw CyDA o addysgu ac enghreifftiau ffisegol o ddatrysiadau ar waith yn cynnig profiad dysgu ysbrydoledig. Mae Dr Dai Morgan yn dod â’i fyfyrwyr o Brifysgol Caergrawnt i CyDA bob blwyddyn er mwyn eu hysbrydoli ac mae’n nodi bod “CyDA yn cynnig rhywbeth unigryw. Mae’n ymdrochol ac yn integreiddiol – yn esiampl go iawn o gynaliadwyedd ar waith yn y fan a’r lle. Mae bod yn yr amgylchedd hwnnw, o gwmpas pobl sy’n gwneud pethau mewn ffordd wahanol a dangos yr hyn sy’n bosibl, yn creu lle i fyfyrio ac i ailgysylltu â’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.”

    Gwrando a dysgu gyda’n gilydd

    Credwn bod lleisiau pobl ifanc yn bwysig. Nid ydym yma i addysgu yn unig, ond i wrando, dysgu a chael ein hysbrydoli gan y bobl ifanc y byddwn yn eu croesawu i CyDA.

    Boed hynny trwy weithdai, ymweliadau safle, paneli ieuenctid neu ddigwyddiadau cenedlaethol, rydym wedi ymrwymo i greu mannau lle y gall pobl ifanc archwilio, cysylltu a thyfu. Rydym yn gwybod bod dyfodol gwell yn bosibl. Ac rydym yn gwybod bod pobl ifanc yn allweddol er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd.

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Sut y gallwch chi helpu

    Mae’r argyfwng hinsawdd yn fater cenedliadol sy’n effeithio ar bob un ohonom. Trwy gefnogi CyDA, rydych chi’n helpu i roi gobaith, cysylltiad a chyfeiriad i bobl ifanc, fel y gallant sicrhau bod newid yn digwydd heddiw ac yfory. Rydych chi’n buddsoddi mewn addysg, grymuso a dyfodol gwell i bawb.

    Os ydych chi’n rhan o ysgol neu grŵp ieuenctid, a fyddech chi’n gallu dod â nhw i CyDA am brofiad ymdrochol a thrawiadol? Dysgwch fwy am ymweliadau grŵp â CyDA trwy droi at
    cat.org.uk/groupslearning.

    Am yr awdur

    Mae Amanda Smith – Pennaeth Dysgu ac Addysg yn teimlo’n angerddol am rym addysg i newid bywydau a chanlyniadau plant ac oedolion, trwy eu hannog i ddeall y dewisiadau y maent yn eu gwneud yn eu bywydau bob dydd, fel unigolion, fel llunwyr polisi neu bobl fusnes.

    Mae gan Amanda dros 20 mlynedd o brofiad addysgu, arwain ysgolion, hyfforddi oedolion a gwella sefydliadau. Mae’n addysgwr profiadol a chymwys iawn, sy’n meddu ar statws Athro Cymwys a’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol i Benaethiaid ac mae’n Arweinydd Addysg Arbenigol. Mae ei harbenigedd yn cynnwys dylunio a datblygu deunyddiau addysg o ansawdd uchel, asesu’r effaith ar ddysgwyr, a darparu amgylchedd i gynorthwyo dysgu a chadw sgiliau allweddol, yn ogystal â monitro a sicrhau ansawdd rhaglenni.

    Amanda Smith
  • ‘Next Generation Earth’: Grymuso Lleisiau Ifanc

    ‘Next Generation Earth’: Grymuso Lleisiau Ifanc

    Mae prosiect ‘Next Generation Earth’ CyDA yn cychwyn gydag ymgysylltu o fewn ysgolion a digwyddiad yn CyDA yn archwilio gyrfaoedd STEM a datrysiadau hinsawdd.

    Yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), credwn fod byd gwell nid yn unig yn bosibl ond ei fod eisoes yn cael ei adeiladu gan y genhedlaeth nesaf. Dyna pam rydym yn falch o fod yn rhan o ‘Next Generation Earth’ menter dan arweiniad ieuenctid ledled y DU a gefnogir gan Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac a gydlynir gan yr Association for Science and Discovery Centres (ASDC).

    Mae’r rhaglen hon wedi’i deilwra i ddymchwel y rhwystrau i wyddoniaeth amgylcheddol a grymuso dysgwyr heb gynrychiolaeth ddigonol i lunio dyfodol mwy cynaliadwy. Mae CyDA yn un o naw canolfan gwyddoniaeth a darganfod a ddewiswyd i gyflwyno mentrau dan arweiniad ieuenctid sy’n adlewyrchu nodweddion unigryw eu rhanbarthau.

    Beth yw ‘Next Generation Earth’?

    Mae Next Generation Earth yn raglen sy’n seiliedig ar ymchwil ac mae’n archwilio pam fod llai o bobl ifanc yn dewis astudio neu weithio mewn meysydd gwyddoniaeth amgylcheddol a beth y gellir ei wneud i newid hynny. Yn hytrach na gofyn pam yn unig, mae’r prosiect yn ymgysylltu â phobl ifanc trwy lens newid hinsawdd, pwnc sy’n cyseinio’n ddwfn â’u pryderon a’u dyheadau.

    Mae’r ffocws ar ddysgwyr 12–14 oed sydd wedi’i dan-gynrychioli, gan gynnwys yr rheini sydd o ardaloedd a amddifadedd lluosog. Gan weithio gyda dwy ysgol yng Nghymru a’n partner cymunedol Ymestyn yn Ehangach, rydym yn creu gofod lle gall y bobl ifanc hyn archwilio eu diddordebau, gwneud ei lleisiau’n hyglyw, a chyd-greu rhaglen sy’n adlewyrchu eu hanghenion a’u huchelgeisiau.

    Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

    Mae’r cyfnod darparu eisoes wedi dechrau gyda Thîm Addysg CyDA yn ymweld â’r ysgolion dan sylw i gwrdd â myfyrwyr a dechrau sgyrsiau. Gofynnwyd iddynt:

    · Beth ydych chi’n ei wybod am newid hinsawdd?

    · Sut ydych chi’n meddwl ei fod yn effeithio arnoch chi’n lleol?

    · Pa newidiadau hoffech chi eu gweld?

    Roedd yr ymatebion yn ddiddorol iawn. Mae llawer o fyfyrwyr yn dal i weld newid hinsawdd fel rhywbeth pellenig fel llifogydd mewn gwledydd eraill neu capanau iâ yn dadmer yn hytrach na rhywbeth sy’n effeithio ar eu cymunedau eu hunain. Trwy drafodaeth, fe wnaethom eu helpu i gydnabod effeithiau lleol a meddwl am yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol.

    Archwiliwyd gyrfaoedd gwyddoniaeth amgylcheddol hefyd a darganfyddwyd nad oedd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr fawr o syniad o ba rolau sy’n bodoli neu sut mae’r rhain yn cysylltu â’r newidiadau y maent yn awyddus i’w gweld yn y byd. Nid ydynt eto wedi gwneud y cysylltiad rhwng eu gyrfaoedd yn y dyfodol a chreu newid amgylcheddol bositif. Fel rhan o’r gwerthusiad cychwynnol, cymerodd myfyrwyr ran mewn gweithgaredd cerdyn post, gan rannu eu meddyliau a’u haddewidion. Roedd themâu cyffredin yn cynnwys ansawdd aer a sbwriel, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gweithrediad lleol.

    Shocking responses about if environmental science is for them

    Beth nesaf?

    Ar 12 Ionawr, bydd y myfyrwyr yn ymweld â CyDA am ddiwrnod ymarferol o weithgareddau a gweledigaethau ar gyfer y dyfodol. Ym mis Chwefror, byddant yn trafeulio i adran Astudiaethau Cefnforoedd Prifysgol Bangor i gwrdd ag athro ac archwilio llwybrau addysg uwch. Nod y profiadau hyn yw dangos nad yw gwyddoniaeth amgylcheddol yn berthnasol yn unig ond yn llawn cyfleoedd cyffrous.

    Bydd myfyrwyr ôl-raddedig CyDA a myfyrwyr Prifysgol Bangor hefyd wedi’i hymrwymo yn y brosiect fel esiamplau perthnasol a mewnwelediad i yrfaoedd gwyrdd.

    Pam fod hyn yn bwysig?

    Mae pryder ynghylch a’r hinsawdd yn cynyddu ymhlith pobl ifanc, yn enwedig yn ystod eu harddegau cynnar, cyfnod ffurfiannol pan fyddant yn dechrau llunio eu diddordebau bywyd a’u dyheadau gyrfa. Nod ‘Next Generation Earth’ yw troi’r naratif hwnnw ar ei ben, gan ddarparu’r offer, yr hyder a’r gefnogaeth i bobl ifanc i weithredu o fewn eu cymunedau.

    Drwy gysylltu gwyddoniaeth amgylcheddol â pherthnasedd byd go iawn a grymusiad personol, mae CyDA yn gobeithio ysbrydoli cyfranogwyr i gymryd rhan actif wrth gyflawni gweledigaeth Cymru a’i ymgorfforir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Edrych ymlaen

    Bydd y rhaglen yn cyrraedd uchafbwynt gyda digwyddiad ymgysylltu cymunedol yn y dyfodol lle bydd pobl ifanc yn rhannu eu syniadau a’u haddewidion gyda theuluoedd, addysgwyr a rhanddeiliaid lleol. Bydd hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer panel ieuenctid hir-dymor, gan alluogi cyfranogwyr i barhau â’u cyfranogiad a dylanwadu ar raglenni yn y dyfodol yn CyDA.

    Wrth ei wraidd, mae’r prosiect hwn yn ymwneud â llais y dysgwr yn ymhelaethu ar safbwyntiau a’i hanwybyddir yn rhy aml gan helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau a’r hyder i lunio eu dyfodol eu hunain.

    Cadwch lygad ar ein gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol CyDA am ddiweddariadau a straeon ar draws daith ‘Next Generation Earth.’

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Ymweliadau Ysgol

    Dysgwch fwy am waith CyDA gydag ysgolion a gwnewch ymholiad ynglŷn â dod â’ch dosbarth i CyDA.

  • Sut y mae stori yn creu ac yn newid y byd

    Sut y mae stori yn creu ac yn newid y byd

    Yn ddiweddar, rhoddodd Sarah Woods ddarlith i’n myfyrwyr ôl-raddedig ac i aelodau’r cyhoedd, lle y bu’n archwilio grym straeon – sut y maent yn cyfrannu at y ffordd yr ydym yn cyfathrebu a hefyd, y ffordd yr ydym yn meddwl yn ein byd sy’n gynyddol gymhleth. Yma, mae hi’n ein gwahodd i ystyried rôl y stori yn ddyfnach yn ein bywydau ni, ac fel offeryn trawsnewidiol ar gyfer cymdeithas.

    Mae’r athronydd Ffrengig, Roland Barthes, yn dweud bod naratif ‘yn bresennol bob amser, ym mhob man, ym mhob cymdeithas… ni fu unrhyw le nac unrhyw bobl heb naratif; mae gan bob dosbarth, pob grŵp dynol, eu straeon’.

    Rydym yn gwneud synnwyr o’r byd trwy gyfrwng stori. Rydym yn ei ddefnyddio i fodelu a wynebu’r wybodaeth amrywiol ac anghyson sy’n ffurfio ein bywydau. Mae stori yn ein helpu i uniaethu a chysylltu â’r byd a gyda’n gilydd, delio â chymhlethdod, cynnal ein hunaniaeth, ymarfer ffyrdd newydd o fod, rheoli newid, rhoi ein hunain mewn amser, a symud trwyddo. Gall stori fod yn thermomedr, gan gymryd tymheredd diwylliannol amser neu grŵp. Byddwn yn dadlau nad yw stori yn rhywbeth yr ydym yn ei darllen neu’n gwrando arni yn unig, mae’n ffordd o feddwl, yn iaith yr ydym yn rhugl ynddi. Fel unrhyw iaith, nid yw stori yn dda neu’n ddrwg ynddi ei hun – mae hynny yn dibynnu ar y stori unigol a’r sawl sy’n ei hadrodd.

    Rydym yn byw mewn oes gymhleth, ac yn wynebu’r hyn a elwir yn ‘broblemau enbyd’ yn aml, fel yr argyfwng hinsawdd a thlodi ac anghydraddoldeb byd-eang, sy’n systemig, sy’n gwrthod datrysiadau llinol ac sy’n gofyn i ni feddwl a gweithredu mewn ffordd wahanol.

    Dylai stori fod yn gallu ein helpu i weithio ein ffordd drwyddynt, ond er hyn, mae’n teimlo fel pe bai stori yn offeryn di-awch ar gyfer ymosod ac amddiffyn. Gall sylwi mewn ffordd weithredol ar y straeon yr ydym yn eu hadrodd ac sy’n cael eu hadrodd i ni, ac archwilio ein perthynas gyda nhw, helpu.

    Deall straeon

    Rydym yn tueddu i feddwl am stori fel rhywbeth unigol, fel rhywbeth yr ydym yn ei gwylio neu’n ei darllen, ond daw stori o nifer fawr o wahanol leoedd yn ein bywydau, felly ar unrhyw adeg, ceir sawl naratif gwahanol yn gweithredu ac yn croestorri ar ein cyfer ni.  Fodd bynnag, gan eu bod gymaint yn rhan o ffabrig ein bywydau, rydym yn aml yn llai ymwybodol ohonynt – a’u grym – nag y gallem fod efallai.  Gall cael dealltwriaeth well ohonynt ein galluogi i wneud dewisiadau mwy clir, i ddadfachu ein hunain o naratifau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a phersonol blaenllaw.  Y cam cyntaf y gallwn ei gymryd tuag at hynny yw nodi topograffeg stori ynom ac o’n cwmpas, y credaf bod modd eu rhannu yn bum math o stori (gweler y blwch drosodd).

    Fel y dywedodd yr athronydd o’r Alban, Alasdair MacIntyre:

    Yr unig ffordd y gallaf ateb y cwestiwn “Beth wyf yn mynd i’w wneud?” yw os byddaf yn ateb y cwestiwn “Pa stori neu straeon yr wyf yn rhan ohonynt?”’

    Credaf bod cyfres o gwestiynau y tu ôl i’r ail gwestiwn hwn, sy’n gallu ein helpu i sicrhau ateb i’r cyntaf, er mwyn ein dwyn yn ôl i berthynas gyda’r straeon yr ydym yn nofio ynddynt.

    • Pwy sy’n adrodd y stori hon?
    • Pwy y maent yn dymuno iddynt wrando arni?
    • Pam eu bod yn ei hadrodd?
    • A yw’r stori hon yn ceisio rhannu neu gysylltu?  A beth neu bwy y mae’n dymuno eu rhannu neu eu cysylltu?
    • A yw’n dymuno gwneud gelynion neu ffrindiau?  Pwy?
    • A beth mae’r stori hon yn dymuno i mi ei feddwl neu ei wneud, a pham?

    Wrth fynd ar y daith hon gyda stori, rydym yn creu lle a’r posibilrwydd ar gyfer straeon newydd a mathau newydd o stori. Fel y mae David Loy, yr athro a’r awdur o America yn ein hatgoffa: ‘Nid trwy drosesgyn y byd hwn yr ydym yn cael ein trawsnewid, ond trwy ei adrodd fel stori mewn ffordd newydd.’

    People and Patterns map

    Topograffeg stori

    Straeon yr ydym yn eu hadrodd i’n hunain

    Rydym oll yn cario tirlun mewnol o straeon gyda ni, straeon yr ydym yn eu hadrodd i’n hunain i wneud synnwyr o’n bywydau, am bwy ydym ni a beth yw ein profiadau. Caiff yr hyn sy’n bosibl i ni ei siapio gan y stori bywyd yr ydym yn ei chreu ar gyfer ein hunain a’r sgyrsiau yr ydym yn eu cael gyda’n lleisiau mewnol, ond yn aml, nid ydym yn ymwybodol o’r ddau.

    Straeon yr ydym yn eu rhannu

    Rydym yn rhannu straeon gyda’n ffrindiau, ein teulu a’n cymunedau (os ydynt yn rhai go iawn neu’n rhai ar-lein). O’r bydoedd byrlymol hyn, gall fod yn anodd gweld amrediad y safbwyntiau a’r safleoedd y gallent ein helpu i ddeall cymhellion a phrofiadau eraill yn well, a darganfod ffyrdd allan o begynedd.

    Straeon a adroddir i ni

    Daw naratifau blaenllaw o bob math o asiantaeth, gan gynnwys corfforaethau a phleidiau gwleidyddol. Maent yn ein hamgylchynu ac fel arfer, cânt eu normaleiddio i’r pwynt lle y byddant yn anweledig, ac yn rhan o ffabrig disgwyliedig ein bywydau.

    Straeon yr ydym yn eu gwybod

    Rydym oll yn cario straeon gyda ni o’n magwraeth ddiwylliannol: mythau, chwedlau, straeon crefyddol a chwedlau gwerin, fersiynau o hanes ein gwlad a’r byd. Yn aml, mae’r rhain yn tywys ein fframwaith moesol a diwylliannol ac maent yn sylfaenol ar gyfer y straeon y byddwn yn eu hadrodd nesaf.

    Straeon i’n tywys

    Ar wahanol adegau mewn hanes, rydym wedi adrodd gwahanol straeon am ein dyfodol. Am genhedlaeth, mae ein gweledigaeth am y dyfodol wedi cael ei rheoli gan ddystopiâu a thrychinebau, sy’n gallu ei gwneud yn anos i ni ddychmygu’r byd gwell y mae angen i ni symud ymlaen iddo.

    Sarah Woods
    Sarah Wood yn darlithio yn CyDA

    Am yr awdur

    Mae Sarah Woods yn awdur ac yn feddylwraig sydd wedi ennill gwobrau. Roedd hi’n rhan o’r Hwb Prydain Di-garbon cynnar yn CyDA ac mae bellach yn ddarlithydd gwadd rheolaidd ar ein modiwl ôl-raddedig Cyfathrebu Newid Cymdeithasol Trawsnewidiol. Mae Sarah yn gydymaith ymchwil yn Stofnun Árna Magnússonar, Sefydliad Árni Magnússon ar gyfer Astudiaethau Gwlad yr Iâ yn Reykjavik.

    Ar hyn o bryd, mae hi’n ysgrifennu llyfr a chyfres podlediadau o’r enw The Story Crisis: how story makes and changes the world. Darlledir ei dramodiad o The Origin of Species Charles Darwin, Origin, ar BBC Radio 4 ar 24 Awst.

  • Diwrnod Diogelu Ein Planed 2025:  Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn CyDA

    Diwrnod Diogelu Ein Planed 2025:  Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn CyDA

    Yn ystod Wythnos Genedlaethol y Goeden, bydd CyDA yn cynnal POP25, digwyddiad blynyddol ysbrydoledig i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw, ac a gyflwynir gan Swyddfa Addysg y Gofod y DU (ESERO-UK) yn STEM Learning ac ar y cyd ag Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Ofod y DU.

    Ar 27 Tachwedd, wnaeth miloedd o bobl ifanc o bob cwr o’r DU dod ynghyd mewn ffordd rith ar gyfer Diwrnod Diogelu Ein Planed (POP25), sef digwyddiad neilltuol i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw ac a gynlluniwyd i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y gwyddonwyr, y peirianwyr a’r rhai a fydd yn sicrhau newid.  Eleni, rydym yn falch o’r ffaith mai Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) fydd y lleoliad ffisegol ar gyfer cynnal y digwyddiad blynyddol hollbwysig hwn.

    Beth yw POP25?

    Mae cenhadaeth POP25 yn syml, ond yn bwerus: ymgysylltu ysgolion gyda gwyddoniaeth a datrysiadau sy’n helpu i ddiogelu ein planed.  Mae angen pobl ifanc medrus arnom ar fyrder i gychwyn ar yrfaoedd, sy’n meddu ar yr arweinyddiaeth a’r sgiliau i barhau i archwilio a gweithredu datrysiadau ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.  Trwy gyfrwng sesiynau byw, gweithgareddau rhyngweithiol, a chysylltiadau uniongyrchol gyda gorsafoedd ymchwil ar draws y byd, bydd myfyrwyr yn archwilio sut y caiff newid hinsawdd ei fonitro a’i liniaru – o deithiau i’r gofod i waith cadwraeth bioamrywiaeth.

    Mae rhaglen eleni yn llawn cynnwys ysbrydoledig, gan gynnwys:

    • Cyswllt byw â Gorsaf Reoli ESA er mwyn dysgu sut y mae lloerennau arsylwi y ddaear yn olrhain newid hinsawdd.
    • Golwg fanwl ar ddiogelu bioamrywiaeth, a fydd yn cynnwys cynhyrchwyr cyfres Kingdom y BBC, a ddarlledir cyn bo hir, a phrosiectau cadwraeth yn Zambia.
    • Diweddariadau byw o long ymchwil Syr David Attenborough wrth iddi deithio rhwng Yr Ynys Las a’r Arctig.
    • Cysylltiadau â gorsaf ymchwil yr Antarctig Halley VI a gwyddonwyr sy’n astudio llenni iâ yn Norwy a Northymbria.

    A’r dechrau yn unig yw hynny.  Cynlluniwyd pob sesiwn i ddangos i bobl ifanc nad yw gwyddoniaeth yn ymwneud â deall problemau yn unig, ond hefyd, mae’n ymwneud â chreu datrysiadau.

    CAT Biodiversity Engagement Ranger Sven Verbelen chatting to POP25 presenters.
    Sven Verbelen, Ceidwad Ymgysylltu Bioamrywiaeth CyDA, yn sgwrsio â chyflwynwyr POP25 yn fyw o CyDA.

    Pam CyDA?

    Mae cynnal POP25 yn CyDA yn gyfuniad perffaith.  Am dros 50 mlynedd, mae CyDA wedi bod ar flaen y gad o ran addysg amgylcheddol a datrysiadau ymarferol i newid hinsawdd.  Mae ein lleoliad unigryw yng nghalon Cymru, wedi ein hamgylchynu â choedwigoedd a systemau ynni adnewyddadwy, yn cynnig cefndir ysbrydoledig ar gyfer diwrnod a gaiff ei neilltuo i ddiogelu’r blaned.

    Mae rôl CyDA yn mynd y tu hwnt i ddarparu lleoliad.  Rydym yn rhannu cenhadaeth graidd y digwyddiad:  grymuso pobl gyda gwybodaeth a sgiliau er mwyn creu dyfodol cynaliadwy. O’n cyrsiau ôl-raddedig i ymweliadau ysgol a gweithdai ymarferol, mae CyDA wedi ymrwymo i feithrin cenhedlaeth nesaf yr arweinwyr amgylcheddol.  Mae POP25 yn amlygu’r effaith hon trwy gysylltu ein gwaith gydag ymdrechion byd-eang, gan gynnwys y dechnoleg ddiweddaraf yn y gofod.

    Cymru Fyw yn POP25

    Rydym wrth ein bodd fod Athro Richard Lucas wedi bod yn rhan o’r rhaglen, gan gyflwyno ei Brosiect Cymru Fyw.  Mae’r fenter arloesol hon yn defnyddio data arsylwi y Ddaear er mwyn monitro a deall newidiadau yn nhirluniau Cymru – enghraifft berffaith o’r ffordd y mae gwyddor y gofod a gweithredu lleol yn dod ynghyd i ddiogelu ecosystemau.

    Professor Richard Lucas presenting from the CAT viewing platform with Professor Suzie Imber
    Yr Athro Richard Lucas o Cymru Fyw yn sgwrsio â chyflwynydd POP25, yr Athro Suzie Imber

    Wythnos Genedlaethol y Goeden

    Mae POP25 yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol y Goeden, sef y dathliad blynyddol mwyaf o goed yn y DU, a gynhelir gan y Cyngor Coed.  Mae coedwigoedd yn cyflawni rôl hanfodol wrth amsugno carbon, cynorthwyo bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid hinsawdd.  Mae lleoliad CyDA mewn coetir a’n hymrwymiad i ddefnydd tir cynaliadwy yn golygu ein bod yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal diwrnod sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r blaned.  Trwy gysylltu gwaith monitro yn y gofod gyda gwaith cadwraeth ymarferol, mae POP25 yn amlygu sut y mae technoleg ac ecoleg yn gweithio law yn llaw i ddiogelu ein dyfodol.

    Ysbrydoli Gyrfaoedd a’r Dyfodol

    Nid yw POP25 yn ymwneud â gwyddoniaeth yn unig;  mae’n ymwneud â phosibiliadau gyrfa ar gyfer pobl ifanc.  Bydd sesiynau yn y prynhawn yn arddangos 16 o lwybrau gyrfa gwahanol ym maes cynaliadwyedd a gweithredu ar gyfer yr hinsawdd, gan helpu myfyrwyr i weld nad yw diogelu’r blaned wedi’i gyfyngu i un disgyblaeth yn unig.  Boed hynny trwy beirianneg, gwyddor data, cadwraeth, neu’r cyfryngau creadigol, mae rôl i bawb.

    Gyda bron i 200,000 o fyfyrwyr a dros 10,000 o addysgwyr wedi cofrestru, mae’r POP25 yma wedi bod y mwyaf hyd yn hyn!

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Ymweliadau Ysgol

    Dysgwch fwy am waith CyDA gydag ysgolion a gwnewch ymholiad ynglŷn â dod â’ch dosbarth i CyDA.

  • Ysbrydoli, hysbysu a galluogi Gyrfaoedd Gwyrdd yn CyDA

    Ysbrydoli, hysbysu a galluogi Gyrfaoedd Gwyrdd yn CyDA

    I ddynodi’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yma, rydym yn dathlu sut mae CyDA yn ysbrydoli, hysbysu a galluogi gyrfaoedd gwyrdd dylanwadol.

    Wrth i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth barhau i lunio ein byd, mae’r galw am bobl fedrus ac angerddol mewn gyrfaoedd gwyrdd eisoes yn fwy nag erioed. Yn ystod Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd, rydym yn archwilio sut mae CyDA yn helpu pobl i ddod o hyd i’w llwybr hwy tuag at waith ystyrlon sy’n cefnogi dyfodol cynaliadwy.

    O danio ysbrydoliaeth mewn meddyliau ifanc i gyfarparu gweithwyr proffesiynol gyda sgiliau arloesol, mae gwaith CyDA wedi’i wreiddio yn y genhadaeth bwerus o ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Ers dros bum degawd, mae CyDA wedi bod yn lleoliad i bobl ymgynnull i archwilio syniadau mentrus, lansio gyrfaoedd ystyrlon, a chysylltu ag eraill sy’n gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

    Aerial Footage of the CAT site in winter

    Ysbrydoli: Plannu Hadau a Syniadau Newydd

    Yn aml, ysbrydoliaeth yw’r cam cyntaf tuag at yrfa werdd. Yn CyDA mae’n dechrau’r eiliad y mae rhywun yn camu ar y safle. Wedi’i nythu yng Ngwarchodfa UNESCO Biosffer  Dyfi ym mryniau Canolbarth Cymru, mae lleoliad naturiol CyDA yn enghraifft  byw o gynaliadwyedd ar waith mewn dyffryn coediog prydferth.

    Mae’r profiad yn aml yn cael ei ddisgrifio gan ymwelwyr fel un trawsnewidiol. Fel eglura’r athro John Ridler o Ysgol Ramadeg Queen Mary’s yn Walsall, er bod llawer o fyfyrwyr yn cyrraedd gydag uchelgeisiau i ddilyn meddygaeth, mae ymweliadau â CyDA yn aml yn ehangu eu gorwelion.

    “Mae llawer o’n disgyblion yn dod i mewn gan feddwl mai meddygaeth yw eu llwybr fwyaf tebygol. Ond mae profiadau fel hyn yn eu hysbrydoli i ystyried peirianneg – rhywbeth efallai na fyddent byth wedi meddwl oedd ar eu cyfer.”

    John Ridler, athro yn Ysgol Ramadeg Queen Mary’s

    Mae Queen Mary’s bellach yn gweld 15–20 o fyfyrwyr y flwyddyn yn cael eu hysbrydoli i fynd ymlaen i astudio peirianneg yn y brifysgol.

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Mae Dr Dai Morgan, darlithydd hirdymor ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn dod â’i grŵp i CyDA bob blwyddyn. Mae Dai yn credu bod y profiad yn CyDA yn eiliad o ysbrydoliaeth dyngedfennol i’w fyfyrwyr..  

    “Mae CyDA yn cynnig rhywbeth unigryw. “Mae’n trochi ac yn integreiddio – yn enghraifft wirioneddol o gynaliadwyedd yn cael ei weithio allan mewn amser go iawn. Mae bod yn yr amgylchedd hwnnw, o gwmpas pobl sy’n gwneud pethau’n wahanol ac yn dangos beth sy’n bosib, yn creu gofod i adlewyrchu ac ailgysylltu gyda’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.” 

    Dr Dai Morgan, Darlithydd ym Mhrifysgol Caergrawnt

    Mae’r ymdeimlad hwn o gysylltiad â natur, â chymuned, a phwrpas, yn cael ei adleisio yn yr adborth a’i derbynnir o ymweliadau llawer o bobl ifanc. Maent yn disgrifio’r teimlad o fod yn “rhan o natur” yn ystod eu hamser yn CyDA. Mae’r teimlad hwnnw yn ysgogi’r chwant i’w warchod.

    Mae CyDA yn fwy na chanolfan ddysgu – mae’n ganolfan gymunedol, Mae’n ferw a gweithrediad ac yn le ble y gall pobl o bob cefndir dod ynghyd i ddychmygu a chreu dyfodol cynaliadwy. Boed yn grŵp ysgol yn archwilio ynni adnewyddadwy, panel ieuenctid yn llunio gweithrediad ar yr argyfwng hinsawdd, neu’n wirfoddolwr yn darganfod eu hangerdd, mae CyDA yn helpu pobl i weld eu hunain fel rhan o’r ateb.

    Hysbysu: Datblygu Sgiliau ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy

    Mae ysbrydoliaeth yn bwerus ond eginiad dechreuol ydyw. I droi angerdd yn ddylanwad, mae angen gwybodaeth, sgiliau a hyder ar bobl. A dyna ble mae rhaglenni addysgol CyDA yn dod mewn.

    Mae Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd CyDA yn cynnig graddau ôl-raddedig sy’n cyfuno academia â dysgu ymarferol. Mae astudio ar un o’r saith gradd ôl-raddedig a’i cynigir gan CyDA yn helpu myfyrwyr ennill y wybodaeth a’r rhwydweithiau maent ei angen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu harbenigeddau dewisol wrth iddynt barhau i mewn i yrfaoedd gwyrdd hir ac effeithiol.

    Hyd yn hyn mae dros 2500 o bobl wedi derbyn cymhwyster ôl-raddedig yn CyDA. Mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy amrywiaeth eang o yrfaoedd a chyfleoedd, o bensaernïaeth a rheoli ynni i lunio polisïau amgylcheddol a rheoli tir.

    Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i lansio cwmnïau arloesol, arwain mentrau cynaliadwyedd, a llunio polisi ledled y DU a thu hwnt. Mae eu straeon o lwyddiant yn dyst i bŵer addysg sydd wedi’i wreiddio mewn gweithrediad yn y byd go iawn.

    Daeth Clara Humphries i CyDA i astudio sut y gallai integreiddio priodweddau adeiladu gwyrdd i mewn i brosiectau byd go-iawn. Mae hi nawr yn gweithio i Retrofit West fel Rheolwr Prosiectau Ôl-osod ble mae hi’n gweithredu’r wybodaeth y enillodd drwy astudio yn CyDA yn ddyddiol.

    Dyma CyDA yn rhoi’r gobaith ac ysgogiad i fynd i’r afael a heriau hinsoddol cymhleth.

    Rheolwr Prosiectau Ôl-osod a raddiodd o’n MSc mewn Adeiladu Gwyrdd

    Kevin Anderson giving a talk to new CAT students

    Ond mae ymrwymiad CyDA i yrfaoedd gwyrdd yn ehangu ymhellach nag addysg uwch. Trwy ein cyrsiau byr, mae CyDA yn darparu hyfforddiant ymarferol ym mhopeth o adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy i reoli coetiroedd a garddio organig. Mae’r cyrsiau hyn ar agor i ddysgwyr 16 oed a hŷn ac yn integreiddio mwy a mwy â modiwlau academaidd yr Ysgol Raddedig, gan greu llwybr o ddiddordeb tuag at arbenigedd.

    Mae CyDA hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr, ac mae llawer ohonynt yn disgrifio eu hamser yn CyDA fel un a newidiodd eu bywydau. Nid gweithio mewn rolau ymarferol yn rheoli gerddi a choetiroedd CyDA yn unig y gwna ein carfannau o wirfoddolwyr preswyl 6 mis, maent hefyd yn ymgymryd â chyrsiau hyfforddi amrywiol i’w cyfarparu â’r sgiliau hanfodol sydd ei angen ar gyfer gyrfaoedd mewn rheoli tir. Trwy’r hyfforddiant, mentora a’r profiad gwerthfawr a’i henillir yn ystod eu hamser yn byw ac yn gweithio gyda chymuned CyDA mae gwirfoddolwyr yn magu’r hyder a’r sgiliau i ddechrau gyrfaoedd gwyrdd, gan ddarganfod angerdd newydd ar hyd y ffordd.

    Yn ddiweddar mae Ella Catherall, sydd newydd orffen ei chyfnod gwirfoddoli 6-mis gyda’r tîm gerddi, wedi gallu cymryd ei chamau nesaf tuag at Yrfa Wyrdd drwy’r sgiliau y dysgodd yn CyDA. Mae hi nawr ar ddechrau ei lleoliad gyda’r Adam Greathead Trust, ble y bydd yn treulio blwyddyn yn hyfforddi mewn dwy ardd adnabyddus yn y DU.

    Gall pobl mewn gyrfaoedd na cheir eu hystyried yn draddodiadol ‘wyrdd’ hefyd dod yn arweinwyr hinsawdd! Un o gynigion mwyaf effeithiol CyDA yw Hyfforddiant Llythrennedd Carbon, sy’n rhoi’r cyfarpar i unigolion ddod yn arweinwyr hinsawdd yn eu gweithleoedd a’u cymunedau. P’un a ydych chi’n athro, adeiladwr, lluniwr polisi neu’n fyfyriwr, mae CyDA yn eich helpu i ddeall y wyddoniaeth, cyfleu’r brys, a chymryd camau ystyrlon.

    Mae ymgysylltu â phobl ifanc yn parhau i fod yn ganolog i genhadaeth CyDA. Mae’r sefydliad yn darparu gweithdai sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, ymweliadau dydd a phreswyl, a sesiynau cynaliadwyedd ymarferol ar gyfer ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid. O fewn prosiect newydd yn CyDA a’i hariennir – “Next Generation Earth”, mae Panel Ieuenctid newydd yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod lleisiau ifanc wedi’u hymgorffori yng ngwaith CyDA ac mewn gweithrediad cymunedol ar newid hinsawdd.

    Galluogi: Cefnogi gweithrediad pellach ar draws rhwydweithiau

    Unwaith mae pobl wedi’u hysbrydoli a’u hysbysu, y cam nesaf yw eu galluogi i wneud gwahaniaeth. Nid mewn addysg y daw gwaith CyDA i ben, mae’n ymestyn i arloesi, cydweithio ac arweinyddiaeth strategol.

    Enghraifft berffaith o hyn yw Labordy Arloesi Prydain Di-Garbon CyDA. Mae’n darparu prosesau arloesi wedi’u hwyluso sy’n helpu sefydliadau, cynghorau a sectorau i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Gan dynnu ar feddwl trwy systemau a dylunio dyfodol, mae’r Labordy yn galluogi cydweithrediad ar draws terfynau ac yn trosi uchelgeisiau cynaliadwyedd yn weithrediad ymarferol.

    Hyd yn hyn, mae dros 70 o sefydliadau a bron i 200 o gynghorau wedi elwa o gefnogaeth arloesi CyDA. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys:

    • Tyfu i’r Dyfodol: Cefnogi twf sector garddwriaeth gwydn a chynaliadwy yn economaidd yng Nghymru trwy brosiect LPIP
    • Lab Senarios Gwydnwch Bwyd Dyfed Powys: Cyd-ddatblygu ymatebion lleol i heriau’r system fwyd ar draws y rhanbarth.

    Mae rhwydwaith aelodaeth CyDA yn alluogwr pwerus arall. Mae’n cynnwys pobl sydd ym mhob cam o’u gyrfaoedd gwyrdd – o’r rhai sydd newydd ddechrau i weithwyr proffesiynol profiadol a’r rheini sydd wedi ymddeol. Mae ein Cynhadledd Aelodau blynyddol yn lle i rannu profiadau, dysgu oddi wrth ei gilydd, ac adeiladu momentwm ar y cyd.

    Fel arweinydd strategol mewn addysg gynaliadwyedd, mae CyDA yn chwarae rhan allweddol wrth lunio datblygiad sgiliau gwyrdd rhanbarthol, gan weithio’n agos gyda’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod Canolbarth Cymru ar flaen gad y trawsnewid gwyrdd.

    CAT Conference

    Man Dechrau ar gyfer Gyrfaoedd Gwyrdd

    Yr Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd hon, rydym yn dathlu’r nifer eang o bobl sydd wedi darganfod ei llwybrau tuag at yrfaoedd gwyrdd drwy CyDA – myfyrwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr proffesiynol, a gwneuthurwyr newid. Mae eu straeon yn dangos mae nid yn ymwneud â swyddi yn unig ydyw gyrfaeoedd gwyrdd, maen nhw’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth, dod o hyd i bwrpas, a helpu llunio dyfodol gwell.

    Pe bai ond dechrau yr ydych neu’n edrych i gymryd y cam nesaf, mae CyDA yma i’ch cynorthwyo. O ddysgu ymarferol i arloesedd strategol, rydym yn falch o gael bod yn rhan o’r siwrnai.

    Yn awyddus i ddysgu mwy am CyDA?

    Archwiliwch ein cyrsiau ôl radd, cyfleoedd wirfoddoli, neu arwyddwch lan i dderbyn ein he-byst i gadw fyny a’r diweddaraf o CyDA.

  • Ysbrydoli Datrysiadau Byd-eang trwy Astudio’n Rhyngwladol

    Ysbrydoli Datrysiadau Byd-eang trwy Astudio’n Rhyngwladol

    Yma yn CyDA, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig mewn cynaliadwyedd ac mae ein hopsiynau dysgu hyblyg yn caniatáu i fyfyrwyr astudio gyda ni yn rhyngwladol. O Ganada i Bermuda, yr Iseldiroedd i Lithwania, mae ein myfyrwyr yn dod o bob cwr o’r byd ac yn ffurfio rhan hanfodol o rwydwaith ymledol o weithredwyr newid.

    Mae myfyrwyr rhyngwladol ein Hysgol Raddedig yn dod a chyfoeth ei hunain o wybodaeth a phrofiad i’n cyrsiau. Boed hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth neu bolisi, ecosystemau, yr amgylchedd adeiledig neu unrhyw beth rhyngddynt, pan gaiff y wybodaeth yma eu baru â’r sgiliau a’r ddealltwriaeth caiff ei ennill yn CyDA, maent yn mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled y byd.

    Os ydych chi’n ystyried astudio cwrs ôl-raddedig yn CyDA ac yn byw dramor, darllenwch ymlaen i ddarganfod pam y gall astudio gyda ni fod yn brofiad addysgol unigryw a chyfoethog.

    Gweithredu datrysiadau positif mewn amser cyfredol

    Mae astudio’n rhyngwladol wedi caniatáu i nifer eang o fyfyrwyr CyDA weithio ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mewn llawer o achosion mae hyn yn golygu y gallant ddechrau gweithredu’r cysyniadau a’r technegau maen nhw’n dysgu amdan mewn amser cyfredol. I Ananya Jauhari, sydd wedi bod yn astudio ein MSc mewn Adeiladu Gwyrdd ochr yn ochr â’i gwaith fel pensaer yn India, mae hyn wedi bod yn un o nifer o’r agweddau cadarnhaol a daw gydag astudio o bell.

    “Gan fy mod i’n astudio drwy ddysgu o bell, rydw i wedi gallu gweithio ochr yn ochr â fy astudiaethau. Mae hynny wedi bod yn fantais anhygoel gan fy mod wedi bod yn ceisio rhoi’r cysyniadau rydw i wedi bod yn eu dysgu ar waith mewn prosiectau byd go iawn yn fy swydd. Gan fy mod i o India, rydw i’n gweld bod llawer o le a photensial ar gyfer newid yn yr amgylchedd adeiledig, ac rydw i’n ceisio cyfunioni fy ngyrfa mewn ffordd sy’n fy ngalluogi i wneud cyfraniaeth ystyrlon drwy brosiectau byd go iawn i gyflawni cynaliadwyedd yn yr amgylchedd adeiledig.”

    Ananya Jauhari

    Dewch yn ran o gymuned Byd-eang

    Mae ymuno ag Ysgol Raddedig CyDA fel myfyriwr rhyngwladol yn eich rhoi wrth wraidd rhwydwaith byd-eang sy’n gweithio i weithredu newid ar wahanol raddfeydd mewn amrywiaeth o ffyrdd, ar draws sectorau lluosog. Mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i fyfyrwyr greu dyfodol gwell. I Gemma Young a astudiodd ein MSc mewn Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad o dramor, rhoddodd ei hastudiaethau yn CyDA brofiad calonogol a gadarnhaodd ei lle o fewn rhwydwaith ehangach o weithredwyr newid.

    ““Cyfunodd CyDA theori gyda gweithrediad yn y byd go iawn, gan fy nghysylltu â chymuned fyd-eang a rhoi’r hyder – a’r offer i mi droi syniadau uchelgeisiol ynghylch a chynaliadwyedd mewn i ymarferiad. Ar lefel bersonol, ail-egnïodd y profiad fy synnwyr o bwrpas: yn hytrach na theimlo fy mod yn gwthio yn erbyn y llanw, rwyf bellach yn gweld rhwydwaith rhyngwladol sy’n tyfu ac wedi’i ymrwymo i ddiwygiad systemig ac rwy’n teimlo fy mod wedi fy nghyfarparu i gyfrannu’n ystyrlon ato.”

    Gemma Young

    Gemma Young

    Mae cymuned fyd-eang CyDA hefyd yn amlochrog ac mae’n cynnwys nid yn unig ein myfyrwyr rhyngwladol gwych ond hefyd staff, busnesau deilliedig a graddedigion. Sefydlwyd y cwmni Dulas Ltd yn CyDA ac mae bellach yn cyflenwi oergelloedd solar brechlynnau i leoliadau anghysbell ledled y byd, gan ddarparu meddyginiaethau sy’n achub bywydau i gymunedau. Yn ogystal, fe raddiodd Cyfarwyddwr Rheoli Gweithredol y cwmni, Ruth Chapman, o CyDA.

    Mae darlithwyr a siaradwyr gwadd hefyd yn ymuno â ni o dros y môr, gan gynnwys yr Uwch Ddarlithydd Bryce Gilroy-Scott sydd wedi’i leoli yn British Columbia, Canada. Mae ei leoliad a’i wybodaeth arbenigol fel ymgynghorydd ac addysgwr ym meysydd cymunedau cynaliadwy, adeiladu ac ynni yn dod â phersbectif unigryw a chyfoethog i’n cyrsiau. Mae graddedigion CyDA hefyd yn mynd ymlaen i weithio mewn cymunedau ledled y byd, gan gynnwys Peter O’Toole sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect arferion cynaliadwy yng Nghenia gyda chymuned Maasai.

    Opsiynau Dysgu Hyblyg

    Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol yn astudio gyda ni drwy ddysgu o bell, a gyda mynediad 24 awr i’r holl adnoddau addysgu drwy Microsoft Teams, gall myfyrwyr ymuno â ni o ble bynnag y maent wedi’u lleoli. Mae oriau addysgu hyblyg ac argaeledd staff fel Bryce sy’n gweithio o’r parth amser Golau Pasiffig, yn golygu y gall myfyrwyr gyfarfod â staff yr ysgol raddedig ar amser sy’n addas iddynt. Mae gweithgareddau ymarferol wedi’u teilwra ar gyfer dysgwyr o bell yn ogystal â’r rheini sydd ar y safle fel y gall y rhai sy’n dysgu o bell hefyd ymgolli mewn gweithgareddau addysgu ymarferol. Gyda chefnogaeth gan ddarlithwyr gan gynnwys Bryce, gellir myfyrwyr derbyn cymorth ar amseroedd sy’n addas iddynt.

    “Wrth astudio yn CyDA miloedd o filltiroedd i ffwrdd ym Muscat… dydw i erioed wedi bod i ffwrdd o’r tiwtoriaid, ac mae seminarau rheolaidd yn caniatáu i mi gael eglurder ar faterion ar unwaith. Mae seminarau a gynllunnir ar wahanol adegau yn caniatáu i mi ddewis amser sy’n addas i mi. Mae astudio o bell yn fy helpu i barhau i weithio ac astudio ar yr un pryd. Rwy’n gryf-argymell astudio o bell yn CyDA.”

    Sarath Muscat

    Sarath

    Ysbrydoli datrysiadau byd-eang trwy ymchwil traethodau-hir

    Astudiodd Anna Hartley, a raddiodd yn ddiweddar, gyda ni o’i chartref yn Ffrainc ac fel rhan o’i thraethawd hir, datblygodd raglen ddigidol o’r enw CELESTE. Mae’r prototeip yn rhoi’r wybodaeth benodol sydd ei hangen ar ddinasyddion yn Ffrainc i ddelweddu sut y gallai ynni adnewyddadwy ar raddfa fach weithio ar gyfer eu rhanbarthau eu hunain.

    Mae’r rhaglen yn gweithio trwy harneisio data sydd ar gael yn gyhoeddus fel y boblogaeth gyfredol, y galw am drydan o fewn rhanbarth, pa mor ymarferol y gallai gwahanol dechnolegau adnewyddadwy fod ar gyfer lleoliad daearyddol, argymhellion ar gyfer ymgynghorwyr a llawer mwy. Yna mae’n casglu ac yn cyfleu’r data hwn gan roi mynediad i ddefnyddwyr at y wybodaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt i ddychmygu sut y gallai ynni adnewyddadwy ar raddfa fach weithio yn eu cymunedau.

    Ers hynny mae Anna wedi mynd ymlaen i roi CELESTE o dan drwydded ‘Creative Commons’ sy’n golygu y gellid ei addasu ar gyfer cymunedau ledled y byd; atgoffhad calonogol o sut y gall astudio’n rhyngwladol yn CyDA arwain at ddatrysiadau byd-eang.

    Cynnydd yn y galwad am yrfaoedd gwyrdd rhyngwladol

    Mae ffactorau fel targedau cynaliadwyedd byd-eang, newidiadau polisi a thrawsnewidiadau tuag at ynni adnewyddadwy yn golygu bod twf ar hyn o bryd yn y galw rhyngwladol am weithlu gwyrddach. Mae astudio yn CyDA yn caniatáu myfyrwyr i ennill sgiliau hynod ddymunol a datblygu eu gyrfaoedd wrth wneud newidiadau ystyrlon. Mae dealltwriaeth gynyddol o’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth hefyd yn ysgogi’r rhai sydd eisoes yn gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau i ailystyried sut maen nhw’n gweithredu, fel yr oedd yn wir i Roshan Nageena Sabeer, a raddiodd o CyDA ac sy’n Brif Bensaer yn Ávása Architects yn Kerela, India:

    “Cyn ymuno â CyDA, roeddwn i’n cael trafferth rhedeg fy nghwmni gan fy mod i’n teimlo fy mod i’n gwneud mwy o ddifrod i’r blaned heb ddeall ffyrdd o newid meddylfrydau poblogaidd am y defnydd anwahaniaethol o ynni mewn adeiladau. Dyma fy angerdd dros ddylanwadu ar ffyrdd

    mwy cynaliadwy o fyw a chwilio am ddatrysiadau yn fy arwain i CyDA. Rwyf nawr yn bwriadu defnyddio’r wybodaeth a dderbyniais i symud fy nghwmni ymhellach tuag at fodel mwy cynaliadwy, i rannu’r syniadau hyn ac i ddylanwadu ar eraill trwy waith ymgynghori cynaliadwy yn y dyfodol.”

    Roshan Nageena Sabeer

    Roshan Nageen Sabeer CAT Graduate

    Ymunwch a ni: Astudiwch gynaliadwyedd yn CyDA

    Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol darpar sydd wedi’ch ysbrydoli i ymuno ag ystafell ddosbarth fyd-eang sy’n gweithredu ar newid hinsawdd, beth am archwilio ein hamrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig, ymuno â ni ar-lein ar un o’n diwrnodau agored neu gysylltu â’n Tîm Derbyniadau i wneud ymholiad heddiw.

    Nodyn: Os byddai angen fisa myfyriwr arnoch fel arfer i astudio yn y DU, gallwch astudio ein cyrsiau trwy ddysgu o bell (gan eithrio’r cwrs M.Arch – Pensaernïaeth Gynaliadwy) Fel arall, gallwch ddewis cymysgedd o ddysgu preswyl (fel arfer o dan 6 mis) a dysgu o bell os ydych chi’n gymwys. Gwiriwch wefan Llywodraeth y DU i weld a ydych chi’n gymwys i astudio yma yn y DU.

    Ar hyn o bryd nid oes gennym drwydded i noddi myfyrwyr a fyddai fel arfer angen fisa, yn anffodus fe olygir hyn na allwn gofrestru myfyrwyr o du allan i’r DU ar gyfer astudiaeth breswyl llawn amser. O fis Medi 2021 ymlaen, bydd myfyrwyr newydd a fyddai wedi cael eu hystyried yn fyfyrwyr AEE yn flaenorol yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr Tramor ac ni fyddant yn gallu astudio yn llawn amser fel myfyrwyr preswyl yn CyDA a bydd angen iddynt astudio trwy ddysgu o bell neu drwy’r cymysgedd o ddysgu preswyl a dysgu o bell y gwelir uchod os ydynt yn gymwys.