Category: Energy

  • Pam Ydym yn Addysgu: Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd yn CyDA

    Pam Ydym yn Addysgu: Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd yn CyDA

    Mae Dr Alan Owen, Uwch-Ddarlithydd CyDA a Thiwtor Cyrsiau Byr yn archwilio sut y gall ein cyrsiau byr Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd helpu pobl i arbed amser, arian a rhwystredigaeth wrth ddarganfod pa ddewisiadau ynni adnewyddadwy fydd yn gweithio iddyn nhw.

    (more…)
  • Trawsnewid penderfyniadau a wneir am ynni cymunedol

    Trawsnewid penderfyniadau a wneir am ynni cymunedol

    Er mwyn defnyddio ynni adnewyddadwy lleol yn lle tanwydd ffosil, mae angen i gymunedau gael y wybodaeth, y sgiliau a’r offerynnau cywir.  Mae graddedig CyDA, Anna Hartley, yn cyflwyno CELESTE, system newydd sy’n galluogi unrhyw un i archwilio’r potensial ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yn eu hardal leol.

    Cydnabyddir yn eang bod yn rhaid disodli tanwydd ffosil gydag ynni adnewyddadwy gymaint ag y bo modd, er mwyn cyflawni nodau carbon net sero byd-eang a lleddfu effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.  Er ein bod yn clywed gryn dipyn am ffermydd gwynt a solar mawr sydd wedi costio miliynau o ddoleri ac sy’n eiddo i wladwriaethau a chorfforaethau, nodwyd bod cymunedau ynni adnewyddadwy (RECs) ar raddfa fach, lle y mae dinasyddion yn dod ynghyd i gynhyrchu, cyfnewid a defnyddio ynni adnewyddadwy, yn elfen allweddol yn y pontio hwn.

    Nid oes dau REC yn union yr un fath, ond mae’r UE yn eu disgrifio fel endidau cyfreithiol sy’n cyfuno nodau economaidd anfasnachol gyda nodau cymunedol amgylcheddol a chymdeithasol.  Maent yn rhannu gweithgarwch llywodraethu agored a gwirfoddol, cyd-berchnogaeth a rheolaeth gan aelodau (sy’n ddefnyddwyr hefyd), ac mae creu buddion cymdeithasol ac amgylcheddol yn hytrach nag elw ariannol yn brif ddiben iddynt.

    Onid yw hyn yn swnio’n wych?  Ond yn Ffrainc, lle’r wyf yn byw, nid yw RECs yn rhywbeth y mae pobl yn ymwybodol iawn ohonynt nac yn rhywbeth y mae pobl yn eu deall.  Beth pe bai rhaglen yn bodoli a fyddai’n gallu cyflymu datblygiad RECs wrth godi ymwybyddiaeth o systemau ynni yn ehangach?  Ystyriais y cwestiwn hwn yn ystod fy nghyfnod yn ysgrifennu’r traethawd estynedig ar gyfer fy nghwrs MSc Cynaliadwyedd mewn Darparu Ynni a Rheoli’r Galw yn CyDA.

    Pontio’r bwlch o ran gwybodaeth

    Nid yw asesu safle o ran ei addasrwydd ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy yn rhywbeth cymhleth iawn, ond mae’n gofyn am rywfaint o wybodaeth arbenigol.  Os ydym yn dymuno gweld miloedd o gymunedau bychain ar draws y byd yn dechrau eu hadeiladu, mae’n ymddangos yn amlwg y dylai fod mwy o offerynnau ar gael sy’n gallu darparu hyn.

    Trwy ddwyn ynghyd amrediad o setiau data ar-lein sydd ar gael, roeddwn yn teimlo’n siŵr y gallwn greu rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn arbenigwyr, y byddai’n cynnal asesiadau dichonolrwydd wedi’u symleiddio ar gyfer RECs.  Dim ond lleoliad daearyddol y defnyddwyr ddylai fod yn ofynnol ar gyfer hyn, ynghyd â’u parodrwydd i ymgysylltu â rhywfaint o waith ystyried ynni yn y dyfodol er mwyn gweithredu.

    Manteisio ar offerynnau digidol

    Wrth i’r gwaith ymchwil symud yn ei flaen, deuthum yn fwy argyhoeddedig bod offeryn o’r fath yn angenrheidiol ac yn ddefnyddiol.  Mae bron yr holl waith ymchwil a thrafodaeth ynghylch RECs yn canolbwyntio ar eu dimensiynau technegol, economaidd a pholisi, ac ni roddir fawr iawn o sylw i gynnwys y cyhoedd yn ehangach, sef yr union bobl sy’n gyfrifol am greu a rhedeg RECs.

    Yn ail, mae offerynnau digidol sy’n ymwneud â datblygu ynni adnewyddadwy yn rhai ar gyfer defnyddwyr arbenigol ar y cyfan, mae eu cwmpas yn gyfyngedig iawn, ac mae manteisio arnynt yn aml yn broses ddrud.

    Erbyn i gyfnod fy nhraethawd estynedig ddod i ben, roeddwn wedi creu rhaglen brototeip o’r enw System Cymorth Penderfynu CELESTE.  Ystyr CELESTE yw Créons des Énergies Locales, Écologiques, Solidaires et Transformatrices Ensemble (Creu Ynni Lleol, Ecolegol, Cefnogol a Thrawsnewidiol Gyda’n Gilydd).  Mae CELESTE yn gweithredu fel offeryn addysgol sy’n defnyddio cyfoeth y data sydd ar gael i’r cyhoedd, ei becynnu o’r newydd mewn ffordd ddefnyddiol, yn hytrach na datblygu systemau cymhleth newydd.  Mae hefyd yn rhywbeth modwlar ac y mae modd ei ehangu, sy’n golygu mai’r dechrau yn unig yw’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, ac nad oes cyfyngiad o ran niferoedd a mathau y modiwlau y byddai modd eu hychwanegu.

    Y defnyddiwr sy’n gyfrifol am benderfynu gweithredu ar ôl defnyddio CELESTE, ond mawr obeithiaf y byddant o leiaf yn teimlo’n fwy gwybodus ac yn ymgysylltu’n fwy â’r sgwrs ynghylch ynni adnewyddadwy.  Fel hyn, mae CELESTE yr un mor bwysig fel offeryn ymgysylltu ac addysgol ag y mae fel offeryn modelu systemau.

    Sut mae CELESTE yn gweithio?

    Mae gan CELESTE ryngwyneb syml ac fe’i gynlluniwyd i dywys y defnyddiwr trwy bedwar cam allweddol, yn debyg i gyfleuster cyfrifo ôl troed carbon.

    Celeste (beta) Architecture Diagram

    1. Cychwynnwch yma: Mae’r defnyddiwr yn nodi enw eu comiwn yn Ffrainc i weld data megis poblogaeth y comiwn, cyfanswm yr ynni y mae’r comiwn wedi ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael (2021 yn yr achos hwn), a chyfran y defnydd hwnnw sy’n cyfateb â’r sector preswyl.

    2. Newid newidynnau: Yma, mae’r defnyddiwr yn dechrau dychmygu eu dyfodol o ran ynni, gan doglo gwahanol newidynnau i weld sut y mae’r rhain yn effeithio ar alw y comiwn am drydan, megis y flwyddyn (tan 2060), rhagfynegiadau poblogaeth, sefyllfaoedd newid hinsawdd, a phatrymau defnydd fel cerbydau trydan a’r defnydd o systemau aerdymheru. Mae siart bar yn dangos y galw go iawn am drydan yn erbyn y galw yn y dyfodol yn glir, yn unol â’r hyn a nodwyd gan y defnyddiwr.

    Initial view of the Celeste Tool

    3. Beth sy’n bosibl?: ar yr adeg hon, bydd y defnyddiwr yn cael dechrau dylunio system ynni newydd. Cyflwynir asesiad dichonolrwydd sylfaenol iddynt ar gyfer fferm wynt ar y tir neu PV solar yn eu comiwn. Gall y defnyddiwr doglo maint y weithfa a gweld sut y mae hyn yn effeithio ar y maint ffisegol, pa ganran o angen y comiwn am drydan y byddai hyn yn ei fodloni, y gost a’r amser ad-dalu, a’r lleihad mewn allyriadau CO2.

    Celeste Tool - user can use variables to help design a new energy system

    4. Y camau nesaf: Yn olaf, dangosir argymhellion i’r defnyddiwr ynghylch ffyrdd o leihau eu defnydd o ynni, sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n cefnogi RECs, ymgynghorwyr EC sy’n gallu dechrau eu cynghori ar eu taith REC, a rhestr o RECs sydd eisoes yn gweithredu yn eu hardal ddaearyddol y gallant ymweld â nhw ac ymchwilio iddynt.

    A Solar Photovoltaic project - CELESTE example
    Successful renewable energy projects by regions

    Beth nesaf?

    Prototeip yw CELESTE o hyd, a luniwyd yn Google Sheets ac sy’n defnyddio setiau data a lawrlwythwyd ymlaen llaw ar gyfer nifer gyfyngedig o gomiwnau. Mae nifer o’r cyfrifiadau a wneir gyda’r data yn eithaf bras, gan ddefnyddio amcangyfrifon cyffredinol pan fydd data adolygu gan gymheiriaid ac y mae modd ymddiried ynddo, ar goll. Fodd bynnag, wrth i wybodaeth well ddod ar gael, mae modd integreiddio hwn yn hawdd, gan wella ansawdd yr allbynnau.

    Pwy sy’n gallu defnyddio CELESTE?

    Rydw i wedi cofrestru CELESTE dan drwydded Creative Commons fel bod modd ei rannu, ei addasu a’i ailgymysgu gan unrhyw endid anfasnachol sy’n dymuno mynd ag ef ymhellach.

    Er mai ystyried data ar gyfer Ffrainc yn unig y mae CELESTE ar hyn o bryd, nid oes rheswm pam na ellir ei addasu i unrhyw le yn y byd.  Gallai gwledydd nodi eu rhanbarthau gweinyddol eu hunain yn lle comiwnau, cynnwys eu setiau data trydanol a phoblogaeth lleol ac addasu’r cyfrifiadau – er enghraifft ynghylch y galw nodweddiadol am drydan ar gyfer cerbyd trydan mewn blwyddyn, a chost technolegau adnewyddadwy – yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer eu hardal.

    Ni fydd gan ddwy wlad yr un fath o ddata yn union, felly mae’n gyffrous ystyried amrediad y modiwlau ychwanegol y byddai modd eu cynllunio a’u cynnwys yn CELESTE.  Mae potensial hydrodrydanol, storio mewn batris a hyblygrwydd y grid, metrigau thermo-synwyrusrwydd, a mynediad i grantiau a chymorthdaliadau lleol yn llond dwrn o’r modiwlau y byddai modd eu hychwanegu, o gael y mynediad i’r data cywir ac wrth i’r bobl gywir ymgymryd â’r gwaith.

    At hynny, byddai modd i RECs presennol ddefnyddio CELESTE i weld sut y byddai eu gweithfeydd yn perfformio mewn gwahanol hinsawdd, amodau amserol ac ymddygiadol, neu gan ysgolion a sefydliadau fel offeryn addysgol er mwyn gwella dealltwriaeth o’r pwnc.

    Archwilio CELESTE

    Am yr awdur

    Mae Anna Hartley yn awdur o Awstralia sydd wedi byw ym Mharis a Beijing er 2011.  Cyhoeddwyd ei gwaith yn The Washington Post, France 24, Forbes Travel Guide, The Houston Chronicle, The New Zealand Herald, The Vancouver Sun, the Beijinger, a Chylchgrawn Babbel.  Graddiodd o gwrs Cynaliadwyedd mewn Darpariaeth Ynni a Rheoli’r Galw CyDA yn 2024.

  • CyDA yn Tanio Ysbrydoliaeth byd go-iawn ar gyfer Peirianwyr Cynaliadwy Byd-eang 

    CyDA yn Tanio Ysbrydoliaeth byd go-iawn ar gyfer Peirianwyr Cynaliadwy Byd-eang 

    Pob blwyddyn, mae grŵp o fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol o Brifysgol Caergrawnt yn cyfnewid eu theatrau darlithio am labordy byw Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA). Dyma ni’n sgwrsio â Dr Dai Morgan, Darlithydd yng Nghaergrawnt, am eu hymweliad diweddar. 

    Wedi’i amgylchynu gan goetiroedd, gerddi organig, systemau ynni adnewyddadwy, a phrosiectau adeiladu cynaliadwy, mae CyDA yn cynnig cyfle unigryw i ysgolion, prifysgolion a grwpiau eraill ymweld â chynaliadwyedd ar weithred, tu hwnt i’r hyn y gall yr ystafell ddosbarth ei gynnig. 

    I Dai Morgan, darlithydd hirdymor ar yr MPhil mewn Peirianneg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy, mae’r ymweliad blynyddol yma wedi dod yn gonglfaen o brofiad y myfyrwyr – gan gynnig nid yn unig mewnwelediad ymarferol i gynaliadwyedd ond hefyd ysbrydoliaeth a phersbectif ffres.

    Cambridge lecturer visiting CAT
    Dr Dai Morgan, darlithydd ar yr MPhil mewn Peirianneg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caergrawnt

    Cysylltu gydag arferion cynaliadwy byd go-iawn  

    “Mae’r ymweliad â CyDA yn dod ar amser perffaith,” medd Dai. “Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau dau dymor o ddarlithoedd dwys. Maen nhw ar fin dechrau eu traethodau hir, ac mae hwn yn amser i gamu i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth, cysylltu ag arferion cynaliadwyedd yn y byd go iawn, ac adlewyrchu ar eu dysgu.” 

    Mae’r cwrs un-blwyddyn yn denu grŵp amrywiol o beirianwyr sy’n gynnar yn eu gyrfeydd o bob cwr o’r byd, gyda myfyrwyr yn cynrychioli hyd at 20 o genhedloedd gwahanol. 

     Mae eu cefndiroedd academaidd a phroffesiynol yn amrywiol hefyd, gan ymestyn o beirianneg fecanyddol, sifil, trydanol, a chemegol, gan ddod a hwy arbenigeddau a phersbectifau eang.  

    “Fe gynigir CyDA rywbeth unigryw,” esbonia Dai. “Mae’n trochi ac yn integreiddio – yn enghraifft wirioneddol o gynaliadwyedd yn cael ei weithio allan mewn amser go iawn. Mae bod yn yr amgylchedd hwnnw, o gwmpas pobl sy’n gwneud pethau’n wahanol ac yn dangos beth sy’n bosib, yn creu gofod i adlewyrchu ac ailgysylltu gyda’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.” 

    Profi cynaliadwyedd ar waith  

    Yn ystod eu hymweliad, mae myfyrwyr yn archwilio safle a systemau CyDA, gosodiadau ynni adnewyddadwy, technegau adeiladu isel eu heffaith, rheolaeth goed, dŵr, a mwy. Maent yn dysgu gan arbenigwyr sydd wedi treulio degawdau yn arbrofi, addasu, a rhannu gwersi o flaen gad newid. 

    Yn bwysicaf, mae’r gwersi hynny’n cynnwys nid yn unig yr hyn sydd wedi gweithio ond hefyd yr hyn sydd heb weithio. 

    “Beth rwy’n ei werthfawrogi am CyDA yw’r gonestrwydd,” medd Dai. “Mae yna awydd i rannu’r pethau sydd ddim wedi gweithio yn ogystal â’r rhai sydd wedi – I ddweud, ‘roedd hwn yn anodd’ neu ‘ni weithiodd hyn fel y gobeithion y byddai.’ Mae’r math yna o agoredrwydd yn brin, ac mae’n hynod o werthfawr i fyfyrwyr sy’n mynd i mewn i wirionedd gwaith cynaliadwyedd.” 

    Mae nifer yn gadael y profiad nid yn unig yn fwy gwybodus ond wedi’u hysbrydoli o ddifrif. Fe ddychwela rhai i wirfoddoli ac mae eraill yn dod o hyd i bwrpas wedi’i adfywio yn eu gwaith neu eu hastudiaethau. 

    “Fe orffennodd un myfyriwr ei thraethawd hir yn gynnar er mwyn dychwelyd i CyDA fel gwirfoddolwr am ddwy wythnos ychwanegol,” cofia Dai. “Dywedodd un arall, a oedd yn arweinydd sgowtiaid, ei bod wedi newid y ffordd y bu’n gweithio gyda phobl ifanc yn ei chartref. Mae’n ysbrydoledig gweld sut mae’r profiadau hyn yn lledaenu, wrth i fyfyrwyr gymryd yr hyn maent wedi’i ddysgu a’i roi ar waith yn eu cymunedau.” 

    Cambridge University students learning about water filtration at CAT
    Myfyrwyr Caergrawnt yn edrych ar ein System Ddŵr 

    Ysbrydoli gobaith ar gyfer dyfodol cynaliadwy  

    Nawr yn aelod o CyDA ei hun, mae Dai’n bwriadu dychwelyd ar gyfer Cynhadledd CyDA. Iddo ef, fel llawer o rai eraill sy’n dod â grwpiau i CyDA, nid taith yn unig yw’r ymweliad – mae’n le sy’n tanio syniadau newydd, yn meithrin cysylltiadau, ac yn ysbrydoli gobaith ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

    Cambridge students on a tour of the CAT site
    Myfyrwyr Prifysgol Caergrawnt ar daith o safle CyDA 

    I ddysgu mwy am gynnig ymweliadau grŵp CyDA ac i wneud ymholiad, ymwelwch â cy.cat.org.uk/dewch-i-cyda/grwpiau-a-dysgu/ neu e-bostiwch education@cat.org.uk.