Category: Events

  • Cynhadledd CyDA – Ymadael a dewrder a gobaith ymarferol

    Cynhadledd CyDA – Ymadael a dewrder a gobaith ymarferol

    Ar ôl penwythnos yn archwilio sut gallwn ysbrydoli gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yng Nghynhadledd CyDA, gadawodd mynychwyr y penwythnos wedi’u ysbrydoli a’n teimlo’n egnïol.

    Mae tymereddau uchel yr haf hwn a’r tywydd sych cyson wedi darparu atgoffhad llym o’r peryglon sy’n ein hwynebu os nad ydym yn cymryd camau radical i ostwng allyriadau,a lleihau effeithiau’r hinsawdd sydd eisoes yn newid yn gyflym. Ar ôl cyfnod hir iawn o sychder, roedd CyDA yn ddigon ffodus i gael haenen dda o law yn yr wythnos a arweiniodd at y gynhadledd, gan helpu i greu awyrgylch wedi’u hadnewyddi i fynychwyr y gynhadledd.

    Looking-down-on-the-Peoples-emergency-briefing-at-CAT.

    Cysylltiad, Dewrder a Gobaith Ymarferol

    Thema’r gynhadledd blwyddyn yma oedd dewrder, cysylltiad â gobaith ymarferol ac i helpu dod a’r thema yma yn fyw dyma ni’n siapio’r rhaglen o gwmpas troellen Joanna Macy ar y gwaith sy’n ailgysylltu.

    1. Mae Dod o Ddiolchgarwch yn dechrau trwy sylfeini pobl mewn beth sy’n rhoi bywyd, mae’n llonyddu ein sylw, ac agor presenoldeb; dyma’r cam cychwynnol sy’nhelpu cyfranogwyr i gyrraedd yn fwy llwyr ac mewn modd llai amddiffynnol.
    2. Mae Anrhydeddu ein Poen dros y Byd yn creu gofod ar gyfer galar, ofn, dicter, neu deimladau o orlethu, gan drin yr ymatebion hyn nid fel problemau i’w trwsio ond fel mynegiant o ofalaeth a charedigrwydd tuag at y byd byw.
    3. Mae Gweld gyda Llygaid Newydd/Hynafol yn gwahodd golwg ehangach, ble mae ymgysylltiad yn dod yn gliriach a gall bobl dechrau sylwi ar bosibiliadau newydd, a ffynonellau o asiantaeth.
    4. Gan Fynd Ymlaen – dyma egwyddor sy’n ffocysu ar droi mewnwelediad yn weithrediad, gan annog pobl i gymryd y camau nesaf sy’n gymwys a’u dawn, cyd-destun, a’u cyfyngiadau, gan ddysgu o beth a gaiff ei datgelu ar hyd y ffordd.

    Dyma strwythuro’r gynhadledd yn y modd yma yn ein galluogi i gymryd yr amser i wynebu maint y broblem, mewn blwyddyn ble mae newid hinsawdd yn edrych yn enbyd, tra hefyd yn creu gofod i brosesu heb i ni deimlo ein bod wedi’n gorlethu, gan helpu mynychwyr a’n hunain i ailddatgan ein hymrwymiad i weithredu.

    Hand drawn spiral that reconnects

    Briffio Argyfwng y Bobl

    Dyma’r brif sesiwn gyntaf, sgrinio o ‘Briffio Argyfwng y Bobl’, yn darparu man cychwyn ddefnyddiol, ond sobreiddiol ar gyfer y penwythnos, gan ddod â mynychwyr y gynhadledd ynghyd ag aelodau o gymuned leol CyDA.

    Wedi’i ffilmio ym mis Tachwedd 2025, mae’r ffilm yn dilyn digwyddiadau’r Briffio Argyfwng Cenedlaethol yn San Steffan, lle daeth 9 gwyddonydd ac arbenigwr blaenllaw at ei gilydd i friffio 1200 o wleidyddion, ynghyd ag arweinwyr o’r bydoedd busnes, ffydd, a thu hwnt ar yr hyn y mae chwaliad yr hinsawdd a natur yn ei olygu i iechyd, systemau bwyd, diogelwch cenedlaethol a’r economi. 

    Dyma Mike Berners-Lee, yr awdur ac ymchwilydd ôl troed carbon clodfawr, a gadeiriodd y Briffio Argyfwng Cenedlaethol, yn cyflwyno’r ffilm ac arweiniodd drafodaethau. Roedd Mike  hefyd yn siaradwr gyweirnod ar gyfer ein Cynhadledd y bore canlynol.

    Roedd yn wych bod yn rhan o un o oddeutu 3000 o sesiynau briffio sydd naill ai wedi’u cynllunio neu sydd eisoes wedi’u cymryd lle. Os hoffech chi ddysgu mwy neu ddarganfod mwy ynghylch cynnal eich sgrinio eich hun – ewch i https://www.nebriefing.org/peb

    Yn ystod Cynhadledd Flynyddol CyDA fe wnaethom ddal i fyny â Mike Berners-Lee i siarad am Briffio Argyfwng y Bobl a’r hyn y gallwn ei wneud am yr argyfwng hinsawdd a natur.

    Cyfleoedd ar gyfer gobaith a gweithredu ar y cyd

    Gan adeiladu ar y sgrinio y noson gynt, dyma prif ddarlith Mike yn archwilio sut y gallwn greu llwybr trwy’r polygreisis yng ngwyneb newidiadau byd-eang sy’n cyflymu. 

    Gwyddom beth sydd angen newid – mae yna wahanol fodelau ar gyfer trawsnewid i ddyfodol mwy cynaliadwy, ond dim ond wrth i ni leihau ein defnydd o ynni y gall egni adnewyddadwy obeithio gwneud gwahaniaeth i’n hallyriadau.

    Felly pam nad ydyn ni’n cyrraedd yno?

    Mae Mike yn dadlau ein bod “angen y rhesymau tu ôl i’r rhesymau tu ôl i’r rhesymau.” Fe bwysleisia nad newid hinsawdd yn unig yw’r argyfwng, mae’r argyfwng sy’n ein hwynebu yn argyfwng gwleidyddol, argyfwng yn sut rydyn ni’n rhedeg ein heconomi, argyfwng y cyfryngau (sy’n methu dweud y gwir wrthym), mewn byd o anghydraddoldeb enfawr, lle mae pobl gyfoethog a dylanwad gormodol. Yng ngwyneb hyn, dadleuodd Mike fod angen i ni fynnu ar dri pheth:

    1. Cydraddoldeb – mae angen i ni fynnu ar werth cyfartal pawb
    2. Parch at yr amgylchedd – nid yn unig fel rhywbeth sydd ar wahân i ni ein hunain gan ein bod ni’n rhan o’r amgylchedd.
    3. Parch at y gwir – mae angen golwg gliriach ar realiti, ac os na allwn fynnu safonau uwch o onestrwydd, ni fyddwn yn cyrraedd unrhyw le.
    Mike Berners-Lee giving a talk. On screen is a quote from James Baldwin - "Not everything that is faced can be changed. But nothing can be changed until it is faced".

    Dyma pethau allweddol eraill a gymerwyd o’r prif anerchiad yn cynnwys ein bod ni, fel cymdeithas, yn tueddu i fod eisiau mynd at broblemau’n unigol, gan fethu â chydnabod pa mor gydgysylltiedig yw’r systemau yr ydym yn byw ynddynt mewn gwirionedd. Yn hytrach na mynd at bob problem yn unigol a theimlo bod angen i ni newid y byd ar ein pennau ein hunain, dylem ofyn sut y gallwn ni helpu i newid y byd ar y cyd.

    Gweld â llygaid newydd

    Gan adeiladu ar y sesiwn hon, arweiniodd Rachel Tucket a Ruth Stevenson o Labordy Arloesi CyDA sesiwn fyfyriol, wedi’i hwyluso, gyda mynychwyr y gynhadledd yn edrych ar sut y gallwn weld y byd â llygaid newydd a meithrin ein hasiantaeth ar y cyd.

    Fel rhan o hyn, rhannwyd y mynychwyr mewn i grwpiau a gofynnwyd iddynt:

    • Sut allwn ni ddatblygu ymdeimlad ehangach o’r hunan?
    • Sut fyddai profiad cyfoethocach o gymuned yn teimlo?
    • Sut gall dealltwriaeth wahanol o bŵer gefnogi ein hasiantaeth ar y cyd?

    Gweithredodd y sesiwn hon fel blas o’n proses Labordy Arloesi, sy’n dod â phobl ynghyd o wahanol sectorau, gydag ystod amrywiol o wybodaeth i helpu i adnabod datrysiadau sy’n gweithio ar draws ystod o feysydd cymhleth a rhyngweithiol. Arweiniodd y sesiwn at lu o sgyrsiau meddylgar, cynhyrchiol, ac o bryd i’w gilydd, heriol, ymhlith y gwahanol grwpiau

    Group of Conference attendees in discussion around a table

    Amser i adlewyrchu

    Yn dilyn bore dan do, daeth prynhawn Dydd Sadwrn ag ychydig o newid, gyda’r cyfle i fynychwyr ymestyn eu coesau â gweld cynaliadwyedd ar waith ar draws safle CyDA. Dyma sesiynau yn cynnwys:

    • Taith gerdded ymdrochol yng Nghoed Gwern dan arweiniad Gwirfoddolwyr CyDA – Beth Irving a Corran Mccallum, gyda’r cyfle i ddysgu am dechnegau rheoli coetiroedd yn gynaliadwy a chadwraeth.
    • Amser yng ngerddi CyDA gyda Garddwr CyDA Veronica Henry, yn dysgu sut i ddylunio ac adeiladu gerddi bach sy’n hinsawdd-wydn.
    • Taith o amgylch systemau ynni a dŵr CyDA wedi’i arwain gan Tim Brewer, ymddiriedolwr CyDA, gwirfoddolwr ac arbenigwr mewn ynni adnewyddadwy.
    • Y cyfle i archwilio adeiladu cylchol a chael profiad o ddefnyddio clai a ffibrau naturiol a dyfir yn lleol gyda’r Ceidwad Ymgysylltu Adeiladu Cynaliadwy a thiwtor cwrs byr Dieter Brandstatter.
    Earth and Fibre Workshop during the CAT Conference

    Ar ddiwrnod prydferth o heulwen, oedd wedi’u gwella o lawer gan wythnos o law, dyma hyn yn rhoi’r cyfle ar gyfer ymlacio, gan obeithio y cafodd y mynychwyr cynhadledd arall eu hysbrydoli gymaint â Zoë Binning:

    “Un o’r pethau roeddwn i wrth fy modd ag oedd o gwmpas yr ardd a’r gerddi micro gan fod gen i ardd fach iawn ac rydw i eisiau cael y gorau allan ohoni – i ni fel teulu ar gyfer bwyd, ond hefyd ar gyfer planhigion, pryfed ac adar. Roedd yn sesiwn hyfryd oherwydd fe wnaeth i mi feddwl am yr hyn y gallwn wneud mewn lle bach iawn – mewn ychydig o botiau yn unig, a allai dicio cryn dipyn o’r blychau hyn tra’n ei wneud yn wydn hefyd!”

    Conference attendees in the garden with CAT Gardener Veronica

    Straeon o Gymuned y CyDA

    Ym mhob Cynhadledd, rydym yn hoffi creu gofod ble gall aelodau a myfyrwyr CyDA arddangos eu gwaith, eu profiadau a’u harbenigedd eu hunain. Mae hyn bob amser yn rhoi ysbrydoliaeth, wrth i ni glywed am y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn gweithredu yn eu cymunedau a’u gweithleoedd.

    Roedd sesiwn eleni yn cynnwys cyflwyniadau ar nifer o bynciau, o adrodd straeon a barddoniaeth i archwilio pynciau fel sut y gallwn ddyfnhau ymgysylltiad cymunedol, rheoli llifogydd naturiol, newid hinsawdd, iechyd a gofal iechyd cynaliadwy, a gwaith y Greener Golf Network.

    Ochr yn ochr a’r sesiynau ffurfiol hyn roedd llu o sgyrsiau yn ystod egwyliau cinio a the lle cawsom gyfle i ddysgu am yr holl ffyrdd eraill y mae mynychwyr allan yna yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

    Conference attendee doing a presentation

    Y diwrnod olaf

    Dechreuodd dydd Sul Cynhadledd CyDA gyda sesiwn Holi ac Ateb gyda’n hymddiriedolwyr Rhiannon Turner, Tim Brewer a Jordan Hau, gan arwain at sesiynau yn archwilio gwahanol agweddau gweithredu cynaliadwy!

    Yr argyfwng hinsawdd, ar hanesion trefedigaethol a dychmygion dyfodol Du

    Arweiniodd Michael Lomotey, ymchwilydd doethurol sy’n raddedig o CyDA sesiwn mewn dwy ran.

    Mae’r Geiriau’n Rhoi Rhybudd: yn dilyn yr argyfwng hinsawdd, myfyrio ar hanes gwladychol a dychmygion dyfodol Du.

    Gan drafod hanes ei deulu ei hun, yn cynnwys y cysylltiad rhwng cymuned bysgota o Ghana â theulu morwrol o Hull, defnyddiodd Michael brofiadau ei deulu ei hun i fyfyrio ar gynrychiolaeth, cynhwysiant a llais, profiadau a gwneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, pobl a dŵr.

    Bod yn erbyn pobl ddu fel Maen Tramgwydd ar gyfer Newid Radical, Trawsnewidiol a Gobeithiol.

    Gan fyfyrio ar thema’r penwythnos, Cysylltiad, Dewrder a Gobaith Ymarferol, gofynnodd Michael i’r mynychwyr ystyried a yw gweithredu hinsawdd heb gyfiawnder yn oruchafiaeth wen mewn dillad gwyrdd? A chan dynnu ar brofiadau pobl ddu o lifogydd yng nghanol yr ymerodraeth (DU), fe gwestiynodd y polisi a’r arfer sy’n mynd i’r afael â phrosesau lleihau risg trychinebau ac archwiliodd sut y gallwn greu dyfodol ar y cyd sy’n rhyddhaol, yn rhyddfreiniol ac yn fwy teg.

    Michael Lomotey giving a talk at the CAT conference

    Enillion ynni ar Ynni a Buddsoddir

    Dyma Dr Alan Owen, sy’n dysgu yn Ysgol Raddedig CyDA yn archwilio’r hyn y mae’n ei ystyried yn amryfusedd mewn trafodaethau ynghylch ynni adnewyddadwy, yr enillion ynni ar yr ynni a fuddsoddwyd (EROEI), a’r goblygiadau i gymdeithasau sy’n defnyddio cyfanswm uchel iawn o ynni.

    Mae’r cysyniad sylfaenol yn syml – faint o ynni y mae technoleg yn ei gynhyrchu yn ystod ei hoes o’i gymharu â faint o ynni yr oedd wedi ei gymryd i greu, defnyddio a gwaredu’r ddyfais. Ond wrth i ni ystyried yr  

    EROEI yng nghyd-destun sut rydym yn defnyddio ynni a chwestiynau ehangach ynghylch y grid trydan a storio ynni, yna gall pethau ddod yn fwy cymhleth yn gyflym.

    Dr Alan Own giving a presentation in our rammed earth lecture theatre at the CAT Conference

    Cymuned Raddedig CyDA– panel

    Dechreuodd Jordan Hau, Ymddiriedolwr newydd CyDA a raddiodd yn ddiweddar o CyDA, y sesiwn drwy gyflwyno’r panel a gofyn i bob panelydd fyfyrio ar y tywydd diweddar cyn cyflwyno eu hunain a gofyn beth maen nhw wedi bod yn ei wneud ers gadael CyDA.

    Roedd y panelwyr yn cynnwys:

    Michael Lomotey – sy’n raddedig o’n MSc mewn Cynaliadwyedd ac Addasu ac bellach yn ymchwilydd doethurol yn Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddor Amgylcheddol Prifysgol Southampton. Mae gan Michael ddiddordeb mewn Traddodiadau Radical Du, gan ddefnyddio fframio yn erbyn pobl ddu fel dull damcaniaethol, ontolegol a chysyniadol er mwyn cwestiynu a cheisio datgelu gwirioneddau yn y drafodaeth ynghylch newid hinsawdd.

    Dr Alice Breeveld – tra’n gweithio yn y sector prifysgolion, astudiodd Alice ar ein cwrs MSc mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol rhan amser. Fe raddiodd yn 2023. Yn wreiddiol roedd hi wedi cynllunio newid gyrfa ond dewisiodd aros yn ei gweithle presennol i wneud gwahaniaeth yno. Bellach, mae’n arwain dau grŵp bach, ond ymroddedig, ac sy’n tyfu, gydag un yn dilyn rhaglen Effaith Werdd y brifysgol ac sy’n ysgrifennu cynllun cynaliadwyedd adrannol, a’r llall yn ceisio sicrhau bod y safle yn fwy bioamrywiol wrth ailgysylltu staff a myfyrwyr gyda byd natur.

    Fran Graham – a raddiodd o’n MSc mewn Cynaladwyedd a Newid Ymddygiad sydd bellach yn defnyddio ei sgiliau mewn rôl arwain ranbarthol gyda Choed Cadw.

    Raddon Stephenson – a raddiodd o’n MSc mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol sydd bellach yn rheoli rhandir cymunedol a phantri bwyd yng ngogledd Manceinion, sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd a dod â phobl yn agosach at natur trwy arddwriaeth organig. Mae hefyd yn gerddor dawnus, a ddiddanodd gyd-fynychwyr y gynhadledd yn gynharach yn y gynhadledd.

    David Nugent – pensaer drwy hyfforddiant, ar ôl graddio o CyDA gyda MSc mewn Cynaliadwyedd ac Addasu, symudodd David i Leeds i ddod yn Brif Weithredwr ar gyfer Canopy Housing, sydd wedi ennill Gwobr Habitat y Cenhedloedd Unedig. Maent yn gweithio gyda thimau amrywiol o wirfoddolwyr lleol i ailwampio tai teras Fictoraidd gan gyda bio-ddeunyddiau. Maent yn cartrefu teuluoedd digartref, yn dysgu sgiliau adeiladu gwyrdd, yn helpu cymdogaethau amrywiol i ffynnu, ac yn cefnogi sefydliadau eraill a hoffai efelychu eu model llwyddiannus.

    Diolch yn fawr iawn i’r holl banelwyr am gymryd rhan, ac i’r rhai a fynychodd am eu holl gwestiynau craff.

    Cliciwch yma os hoffech ddysgu mwy am ein Hysgol Raddedig.

    Graduate Panel at the CAT conference

    Mynd Ymlaen

    Un o’n hamcanion ar gyfer y Gynhadledd oedd helpu’r mynychwyr i adael gyda synnwyr realistig o’r heriau yr ydym yn eu hwynebu o ganlyniad I’r argyfwng  hinsawdd a bioamrywiaeth, ond hefyd i fynd ymlaen â dewrder, wedi’u hysbrydoli nid yn unig gan ein siaradwyr anhygoel, ond hefyd gan waith anhygoel eu cyd-fynychwyr.

    Yn sesiwn gloi ein Cynhadledd, helpodd Rachel Tuckett a Ruth Stevenson o Labordy Arloesi CyDA mynychwyr i fyfyrio ar eu mewnwelediadau o’r gynhadledd, ar eu doniau a’u galluoedd, ac ystyried sut y gallwn fynd ymlaen ar y cyd a chymryd camau tuag at weithredu.

    Yn unigol, mae ein heffaith yn fan, ond drwy gydweithio a gweithredu ar y cyd, gallwn ysgogi pobl i weithredu a chreu’r newid sydd ei angen arnom yn daer.

    Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd, ein siaradwyr, gan gynnwys Mike Berners-Lee, Graddedigion CyDA, Staff a Darlithwyr, ac i’r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i wneud y penwythnos hwn mor arbennig!

    Eisiau mynychu Cynhadledd y flwyddyn nesaf?

    Mae’r Gynhadledd yn rhedeg o 20 i 22 Awst 2027. Defnyddiwch y cod CONF2027 cyn diwedd mis Medi i gael 10% oddi ar y pris.

    https://cy.cat.org.uk/event/cynhadledd-flynyddol-cyda

    Looking across the CAT site
  • Cynhadledd CyDA 2026

    Cynhadledd CyDA 2026

    O ddydd Gwener 21 i ddydd Sul 23 Awst, bydd CyDA yn agor ei drysau unwaith eto ar gyfer ein Cynhadledd CyDA flynyddol, sef penwythnos o sgyrsiau, teithiau a gweithdai yn archwilio sut y gallwn ymateb i heriau ein hoes.

    “Nid breuddwyd gwrach yw Gobaith Gweithredol. Nid aros i gael ein hachub yw Gobaith Gweithredol…mae’n golygu parodrwydd i ddarganfod ein cryfderau ni a chryfderau eraill; cadernid ein diben, ein hawdurdod ni, bywiogrwydd ein chwilfrydedd a’n capasiti i arwain. Ni ellir darganfod unrhyw un o’r rhain mewn cadair freichiau neu heb risg. Rydym wedi cyflawni llawer ac rydym yma i gyflawni ein rhan.”

    Geiriau Joanna Macey yw’r rhain, yr ysgolor a’r awdur diweddar, ac maent yn taro tant wrth i ni edrych ymlaen at gynhadledd eleni.

    Members at the CAT Conference

    Cysylltiad, Dewrder a Gobaith Ymarferol

    Ar adeg pan fo’r argyfyngau hinsawdd a natur yn gallu teimlo’n llethol, a phan fo’r wybodaeth y byddwn yn ei chael yn aml yn dameidiog neu’n bolareiddiedig, mae’r weithred o ddod ynghyd yn teimlo’n hanfodol.

    Mae angen lleoedd arnom lle y gall pobl ddod ynghyd mewn ffordd onest, gan fynd i’r afael â chymhlethdod a gweithredu datrysiadau sy’n radical, yn gynhwysol ac sy’n seiliedig ar realaeth a gofal. Felly mae thema cynhadledd eleni, “Cysylltiad, Dewrder a Gobaith Ymarferol” yn cyfeirio at ffordd ymlaen: nid yw datrysiadau technegol yn ddigon ar eu pen eu hunain.

    Trwy gydol y gynhadledd, bydd cyfranogwyr yn archwilio sut y gall gweithredu ymarferol, sgyrsiau dewr a meddwl ar ffurf systemau gyfuno i siapio dyfodol mwy cynaliadwy. O sgiliau adeiladu ymarferol ym maes adeiladu cylchol, i drafodaethau sy’n procio’r meddwl am ynni, gwydnwch cymunedol a chyfiawnder hinsawdd, byddwn yn treulio penwythnos yn cysylltu syniadau gyda gweithredoedd.

    Bydd ein haelodau yn dangos enghreifftiau ysbrydoledig ar draws cymuned CyDA, o deithiau ym maes adeiladu cynaliadwy i brosiectau ynni cymunedol, adrodd straeon a chanlyniadau ymchwil. Mae’r straeon hyn yn bwysig. Maent yn ein hatgoffa bod newid eisoes yn digwydd a’i fod yn cael ei ysgogi gan bobl sy’n fodlon arbrofi, cydweithio a chymryd camau hyderus yn lleol. O’r fan hon, cawn ein hatgoffa o ddoethineb pellach y diweddar Joanna Macey: “byddwch yn hael gyda’ch cryfderau a’ch sgiliau. Nid eich eiddo preifat chi yw’r rhain, a byddant yn tyfu o gael eu rhannu.”

    Woodland tour CAT Conference 2025

    Bob blwyddyn, mae cynhadledd CyDA yn bywiogi ein hymdeimlad o berthyn yn y byd, sy’n helpu i ddatblygu gwydnwch rhag gorflino neu besimistiaeth.

    Gall y cyfle i rannu arbenigedd a straeon ar draws cenedlaethau, disgyblaethau a phersbectifau, ac i fod yn bresennol a gwrando, fod yn bwerus. Mae’n ein hatgoffa, er bod ein profiadau a’n safbwyntiau yn wahanol efallai, yn aml, bydd gennym lawer yn fwy yn gyffredin nag yr ydym yn sylweddoli. Er enghraifft, mae sesiwn Labordy Arloesi CyDA yn defnyddio delweddu cyfunol er mwyn helpu i ddatgloi ffyrdd newydd o feddwl, bod a gwneud. A hyd yn oed gyda chymaint o elfennau cyffredin a gwerthoedd tebyg ymhlith ein cymuned, mae’n arfer y gallwn fynd ag ef allan i’r byd.

    Briff Argyfwng y Bobl

    Bydd y prif siaradwr eleni, Mike Berners-Lee, yn archwilio “Llwybrau trwy’r Polygreisis”, gan fanteisio ar syniadau o’i lyfr, A Climate of Truth.

    Mae ei waith yn ein herio i wyneb maint y problemau sydd o’n blaenau, oherwydd mae’n cydnabod mai dim ond o’r dewrder hwn wrth ystyried y gwir y gallwn sicrhau newid. Mae’n nodi mai un o’r rhwystrau mwyaf y mae’n rhaid i ni eu goresgyn yw gonestrwydd ac atebolrwydd yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth a sgwrs gyhoeddus.

    Mae hon yn un o’r egwyddorion sydd wedi arwain at y Briff Argyfwng Cenedlaethol ynghylch Hinsawdd a Natur, a gadeiriwyd gan Mike yn y Neuadd Ganolog yn San Steffan ym mis Tachwedd 2025. Gallwch ddarllen am ei brofiad yn y digwyddiad ym mlog Mike yma.

    Fel y mae wedi myfyrio, roedd y Briff Argyfwng Cenedlaethol ynghylch Hinsawdd a Natur yn dangos pwysigrwydd cyfleu’r gwirioneddau hyn, ac mae’r momentwm bellach yn datblygu trwy gyfrwng sesiynau Briffio Argyfwng y Bobl a gynhelir ar draws y DU, a chynhelir un o’r rhain yn y Gynhadledd ymhen ychydig wythnosau.

    People's Emergency Briefing at CAT

    Bydd y Gynhadledd yn cychwyn trwy sgrinio Briff Argyfwng y Bobl, sef rhaglen ddogfen a ffilm ymgyrchu gymunedol sy’n para 50 munud, ac sy’n nodi bygythiadau rhyng-gysylltiedig yr argyfyngau hinsawdd a natur. Gan fanteisio ar dystiolaeth gan arbenigwyr blaenllaw o Brydain ym maes gwyddor hinsawdd, economeg, iechyd ac ecoleg, mae’n amlygu’r cyfleoedd cadarnhaol a fyddai’n dilyn gweithredu cyflym go iawn wrth ymateb i’r argyfwng. Yn dilyn y ffilm, estynnir gwahoddiad i’r sawl a fydd yn bresennol i ymuno mewn trafodaeth strwythuredig, gan greu lle ar gyfer sgwrs agored ac adeiladol am yr hyn y bydd y materion a godir yn eu golygu yn lleol.

    Paul Allen, Cydlynydd Gwybodaeth ac Allgymorth

    “Mae pawb wedi sylwi ar y tywydd poeth eithafol yr ydym wedi ei gael hyd yn hyn eleni. Ar yr un pryd, mae cannoedd o sesiynau gwylio ‘Briff Argyfwng y Bobl’ wedi bod yn digwydd ar draws y DU. Nawr yw’r amser i gynyddu gweithredu prif ffrwd er mwyn sicrhau newid. Nid yn unig y mae’n rhaid i ni wneud hyn, ond os byddwn yn gwneud hyn yn iawn, mae’n gyfle i gynnig budd i gymaint o sectorau. Y chwyldro ynni glân yw un o rannau’r economi sy’n tyfu gyflymaf’; mae darpariaeth solar yn perfformio’n well na hyd yn oed yr amcanestyniadau mwyaf gobeithiol o ran creu swyddi ac incwm i gymunedau. Mae diet gwell a chyflenwadau bwyd lleol yn dda i bobl ac i’r blaned. Gadewch i ni ddod ynghyd i archwilio’r ffordd y gallwn sicrhau bod hwn yn gychwyn newid go iawn.

    Mae’r weithred o dreulio amser yng nghwmni ein gilydd yn esgor ar ddulliau a ffyrdd o feddwl newydd. Yn yr un modd ag y mae natur yn rhannu maeth yn y pridd, mae ‘ecosystem’ yr aelodau, y myfyrwyr, y staff a’r cyn fyfyrwyr yn dod ynghyd yn CyDA i groes-ffrwythloni ffyrdd y gallwn ymateb i’r heriau yr ydym yn eu hwynebu, ac mae’n hanfodol wrth helpu i ehangu datrysiadau. Mae anerchiadau, teithiau, gweithdai a sgyrsiau yn ymgysylltu â’r dychymyg er mwyn gwireddu gwahanol ddyfodol sy’n herio’r sefyllfa fel ag y mae. Wrth i ni ollwng gafael ar y straeon sy’n ein dal yn ôl, a dychmygu posibiliadau newydd gyda’n gilydd, rydym yn creu gweledigaeth ar y cyd o’r hyn sy’n bosibl.

    Mae syniadau wedi’u gwreiddio mewn safbwyntiau byd ein bod yn rhan o fyd natur, yn rhan hanfodol o’r trawsnewidiad angenrheidiol. Maent yn meithrin gwerthoedd fel gonestrwydd, cyfrifoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a defnyddioldeb, sy’n cryfhau ymrwymiad y cyhoedd i weithredu ynghylch yr hinsawdd a natur, yn hytrach na gwerthoedd sy’n seiliedig ar gyfoeth, statws a grym, sy’n ei wanhau.

    Trwy ddod ynghyd, rydym yn cydnabod nad yw hyn i gyd i’w gyflawni gennym fel unigolion, rydym yn gweld ein bod yn gelloedd mewn ‘organeb’ sy’n esblygu ac sy’n tyfu, gan ymateb i’r polygreisis a chydnabod yr angen am ddigonolrwydd i bawb, fel rhan o natur sy’n ffynnu.”

    Ymunwch â Chynhadledd CyDA eleni

    Os ydych chi’n ymwneud gryn dipyn â chynaliadwyedd neu’n dechrau archwilio eich rôl wrth siapio dyfodol cadarnhaol, estynnir croeso cynnes i chi i Gynhadledd CyDA eleni.

    Gallwch gael gwybod mwy am y gynhadledd, gan gynnwys tocynnau a llety, ar ein tudalen archebu y gynhadledd, ynghyd â rhaglen ein cynhadledd. Os nad ydych yn aelod o CyDA eto, gallwch ymuno pan fyddwch yn archebu lle.

    Mawr obeithiwn eich croesawu i CyDA ym mis Awst eleni.

    Looking across the CAT site
  • ‘Next Generation Earth’: Grymuso Lleisiau Ifanc

    ‘Next Generation Earth’: Grymuso Lleisiau Ifanc

    Mae prosiect ‘Next Generation Earth’ CyDA yn cychwyn gydag ymgysylltu o fewn ysgolion a digwyddiad yn CyDA yn archwilio gyrfaoedd STEM a datrysiadau hinsawdd.

    Yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), credwn fod byd gwell nid yn unig yn bosibl ond ei fod eisoes yn cael ei adeiladu gan y genhedlaeth nesaf. Dyna pam rydym yn falch o fod yn rhan o ‘Next Generation Earth’ menter dan arweiniad ieuenctid ledled y DU a gefnogir gan Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac a gydlynir gan yr Association for Science and Discovery Centres (ASDC).

    Mae’r rhaglen hon wedi’i deilwra i ddymchwel y rhwystrau i wyddoniaeth amgylcheddol a grymuso dysgwyr heb gynrychiolaeth ddigonol i lunio dyfodol mwy cynaliadwy. Mae CyDA yn un o naw canolfan gwyddoniaeth a darganfod a ddewiswyd i gyflwyno mentrau dan arweiniad ieuenctid sy’n adlewyrchu nodweddion unigryw eu rhanbarthau.

    Beth yw ‘Next Generation Earth’?

    Mae Next Generation Earth yn raglen sy’n seiliedig ar ymchwil ac mae’n archwilio pam fod llai o bobl ifanc yn dewis astudio neu weithio mewn meysydd gwyddoniaeth amgylcheddol a beth y gellir ei wneud i newid hynny. Yn hytrach na gofyn pam yn unig, mae’r prosiect yn ymgysylltu â phobl ifanc trwy lens newid hinsawdd, pwnc sy’n cyseinio’n ddwfn â’u pryderon a’u dyheadau.

    Mae’r ffocws ar ddysgwyr 12–14 oed sydd wedi’i dan-gynrychioli, gan gynnwys yr rheini sydd o ardaloedd a amddifadedd lluosog. Gan weithio gyda dwy ysgol yng Nghymru a’n partner cymunedol Ymestyn yn Ehangach, rydym yn creu gofod lle gall y bobl ifanc hyn archwilio eu diddordebau, gwneud ei lleisiau’n hyglyw, a chyd-greu rhaglen sy’n adlewyrchu eu hanghenion a’u huchelgeisiau.

    Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

    Mae’r cyfnod darparu eisoes wedi dechrau gyda Thîm Addysg CyDA yn ymweld â’r ysgolion dan sylw i gwrdd â myfyrwyr a dechrau sgyrsiau. Gofynnwyd iddynt:

    · Beth ydych chi’n ei wybod am newid hinsawdd?

    · Sut ydych chi’n meddwl ei fod yn effeithio arnoch chi’n lleol?

    · Pa newidiadau hoffech chi eu gweld?

    Roedd yr ymatebion yn ddiddorol iawn. Mae llawer o fyfyrwyr yn dal i weld newid hinsawdd fel rhywbeth pellenig fel llifogydd mewn gwledydd eraill neu capanau iâ yn dadmer yn hytrach na rhywbeth sy’n effeithio ar eu cymunedau eu hunain. Trwy drafodaeth, fe wnaethom eu helpu i gydnabod effeithiau lleol a meddwl am yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol.

    Archwiliwyd gyrfaoedd gwyddoniaeth amgylcheddol hefyd a darganfyddwyd nad oedd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr fawr o syniad o ba rolau sy’n bodoli neu sut mae’r rhain yn cysylltu â’r newidiadau y maent yn awyddus i’w gweld yn y byd. Nid ydynt eto wedi gwneud y cysylltiad rhwng eu gyrfaoedd yn y dyfodol a chreu newid amgylcheddol bositif. Fel rhan o’r gwerthusiad cychwynnol, cymerodd myfyrwyr ran mewn gweithgaredd cerdyn post, gan rannu eu meddyliau a’u haddewidion. Roedd themâu cyffredin yn cynnwys ansawdd aer a sbwriel, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gweithrediad lleol.

    Shocking responses about if environmental science is for them

    Beth nesaf?

    Ar 12 Ionawr, bydd y myfyrwyr yn ymweld â CyDA am ddiwrnod ymarferol o weithgareddau a gweledigaethau ar gyfer y dyfodol. Ym mis Chwefror, byddant yn trafeulio i adran Astudiaethau Cefnforoedd Prifysgol Bangor i gwrdd ag athro ac archwilio llwybrau addysg uwch. Nod y profiadau hyn yw dangos nad yw gwyddoniaeth amgylcheddol yn berthnasol yn unig ond yn llawn cyfleoedd cyffrous.

    Bydd myfyrwyr ôl-raddedig CyDA a myfyrwyr Prifysgol Bangor hefyd wedi’i hymrwymo yn y brosiect fel esiamplau perthnasol a mewnwelediad i yrfaoedd gwyrdd.

    Pam fod hyn yn bwysig?

    Mae pryder ynghylch a’r hinsawdd yn cynyddu ymhlith pobl ifanc, yn enwedig yn ystod eu harddegau cynnar, cyfnod ffurfiannol pan fyddant yn dechrau llunio eu diddordebau bywyd a’u dyheadau gyrfa. Nod ‘Next Generation Earth’ yw troi’r naratif hwnnw ar ei ben, gan ddarparu’r offer, yr hyder a’r gefnogaeth i bobl ifanc i weithredu o fewn eu cymunedau.

    Drwy gysylltu gwyddoniaeth amgylcheddol â pherthnasedd byd go iawn a grymusiad personol, mae CyDA yn gobeithio ysbrydoli cyfranogwyr i gymryd rhan actif wrth gyflawni gweledigaeth Cymru a’i ymgorfforir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Edrych ymlaen

    Bydd y rhaglen yn cyrraedd uchafbwynt gyda digwyddiad ymgysylltu cymunedol yn y dyfodol lle bydd pobl ifanc yn rhannu eu syniadau a’u haddewidion gyda theuluoedd, addysgwyr a rhanddeiliaid lleol. Bydd hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer panel ieuenctid hir-dymor, gan alluogi cyfranogwyr i barhau â’u cyfranogiad a dylanwadu ar raglenni yn y dyfodol yn CyDA.

    Wrth ei wraidd, mae’r prosiect hwn yn ymwneud â llais y dysgwr yn ymhelaethu ar safbwyntiau a’i hanwybyddir yn rhy aml gan helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau a’r hyder i lunio eu dyfodol eu hunain.

    Cadwch lygad ar ein gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol CyDA am ddiweddariadau a straeon ar draws daith ‘Next Generation Earth.’

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Ymweliadau Ysgol

    Dysgwch fwy am waith CyDA gydag ysgolion a gwnewch ymholiad ynglŷn â dod â’ch dosbarth i CyDA.

  • Diwrnod Diogelu Ein Planed 2025:  Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn CyDA

    Diwrnod Diogelu Ein Planed 2025:  Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf yn CyDA

    Yn ystod Wythnos Genedlaethol y Goeden, bydd CyDA yn cynnal POP25, digwyddiad blynyddol ysbrydoledig i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw, ac a gyflwynir gan Swyddfa Addysg y Gofod y DU (ESERO-UK) yn STEM Learning ac ar y cyd ag Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Ofod y DU.

    Ar 27 Tachwedd, wnaeth miloedd o bobl ifanc o bob cwr o’r DU dod ynghyd mewn ffordd rith ar gyfer Diwrnod Diogelu Ein Planed (POP25), sef digwyddiad neilltuol i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw ac a gynlluniwyd i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y gwyddonwyr, y peirianwyr a’r rhai a fydd yn sicrhau newid.  Eleni, rydym yn falch o’r ffaith mai Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) fydd y lleoliad ffisegol ar gyfer cynnal y digwyddiad blynyddol hollbwysig hwn.

    Beth yw POP25?

    Mae cenhadaeth POP25 yn syml, ond yn bwerus: ymgysylltu ysgolion gyda gwyddoniaeth a datrysiadau sy’n helpu i ddiogelu ein planed.  Mae angen pobl ifanc medrus arnom ar fyrder i gychwyn ar yrfaoedd, sy’n meddu ar yr arweinyddiaeth a’r sgiliau i barhau i archwilio a gweithredu datrysiadau ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.  Trwy gyfrwng sesiynau byw, gweithgareddau rhyngweithiol, a chysylltiadau uniongyrchol gyda gorsafoedd ymchwil ar draws y byd, bydd myfyrwyr yn archwilio sut y caiff newid hinsawdd ei fonitro a’i liniaru – o deithiau i’r gofod i waith cadwraeth bioamrywiaeth.

    Mae rhaglen eleni yn llawn cynnwys ysbrydoledig, gan gynnwys:

    • Cyswllt byw â Gorsaf Reoli ESA er mwyn dysgu sut y mae lloerennau arsylwi y ddaear yn olrhain newid hinsawdd.
    • Golwg fanwl ar ddiogelu bioamrywiaeth, a fydd yn cynnwys cynhyrchwyr cyfres Kingdom y BBC, a ddarlledir cyn bo hir, a phrosiectau cadwraeth yn Zambia.
    • Diweddariadau byw o long ymchwil Syr David Attenborough wrth iddi deithio rhwng Yr Ynys Las a’r Arctig.
    • Cysylltiadau â gorsaf ymchwil yr Antarctig Halley VI a gwyddonwyr sy’n astudio llenni iâ yn Norwy a Northymbria.

    A’r dechrau yn unig yw hynny.  Cynlluniwyd pob sesiwn i ddangos i bobl ifanc nad yw gwyddoniaeth yn ymwneud â deall problemau yn unig, ond hefyd, mae’n ymwneud â chreu datrysiadau.

    CAT Biodiversity Engagement Ranger Sven Verbelen chatting to POP25 presenters.
    Sven Verbelen, Ceidwad Ymgysylltu Bioamrywiaeth CyDA, yn sgwrsio â chyflwynwyr POP25 yn fyw o CyDA.

    Pam CyDA?

    Mae cynnal POP25 yn CyDA yn gyfuniad perffaith.  Am dros 50 mlynedd, mae CyDA wedi bod ar flaen y gad o ran addysg amgylcheddol a datrysiadau ymarferol i newid hinsawdd.  Mae ein lleoliad unigryw yng nghalon Cymru, wedi ein hamgylchynu â choedwigoedd a systemau ynni adnewyddadwy, yn cynnig cefndir ysbrydoledig ar gyfer diwrnod a gaiff ei neilltuo i ddiogelu’r blaned.

    Mae rôl CyDA yn mynd y tu hwnt i ddarparu lleoliad.  Rydym yn rhannu cenhadaeth graidd y digwyddiad:  grymuso pobl gyda gwybodaeth a sgiliau er mwyn creu dyfodol cynaliadwy. O’n cyrsiau ôl-raddedig i ymweliadau ysgol a gweithdai ymarferol, mae CyDA wedi ymrwymo i feithrin cenhedlaeth nesaf yr arweinwyr amgylcheddol.  Mae POP25 yn amlygu’r effaith hon trwy gysylltu ein gwaith gydag ymdrechion byd-eang, gan gynnwys y dechnoleg ddiweddaraf yn y gofod.

    Cymru Fyw yn POP25

    Rydym wrth ein bodd fod Athro Richard Lucas wedi bod yn rhan o’r rhaglen, gan gyflwyno ei Brosiect Cymru Fyw.  Mae’r fenter arloesol hon yn defnyddio data arsylwi y Ddaear er mwyn monitro a deall newidiadau yn nhirluniau Cymru – enghraifft berffaith o’r ffordd y mae gwyddor y gofod a gweithredu lleol yn dod ynghyd i ddiogelu ecosystemau.

    Professor Richard Lucas presenting from the CAT viewing platform with Professor Suzie Imber
    Yr Athro Richard Lucas o Cymru Fyw yn sgwrsio â chyflwynydd POP25, yr Athro Suzie Imber

    Wythnos Genedlaethol y Goeden

    Mae POP25 yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol y Goeden, sef y dathliad blynyddol mwyaf o goed yn y DU, a gynhelir gan y Cyngor Coed.  Mae coedwigoedd yn cyflawni rôl hanfodol wrth amsugno carbon, cynorthwyo bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid hinsawdd.  Mae lleoliad CyDA mewn coetir a’n hymrwymiad i ddefnydd tir cynaliadwy yn golygu ein bod yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal diwrnod sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r blaned.  Trwy gysylltu gwaith monitro yn y gofod gyda gwaith cadwraeth ymarferol, mae POP25 yn amlygu sut y mae technoleg ac ecoleg yn gweithio law yn llaw i ddiogelu ein dyfodol.

    Ysbrydoli Gyrfaoedd a’r Dyfodol

    Nid yw POP25 yn ymwneud â gwyddoniaeth yn unig;  mae’n ymwneud â phosibiliadau gyrfa ar gyfer pobl ifanc.  Bydd sesiynau yn y prynhawn yn arddangos 16 o lwybrau gyrfa gwahanol ym maes cynaliadwyedd a gweithredu ar gyfer yr hinsawdd, gan helpu myfyrwyr i weld nad yw diogelu’r blaned wedi’i gyfyngu i un disgyblaeth yn unig.  Boed hynny trwy beirianneg, gwyddor data, cadwraeth, neu’r cyfryngau creadigol, mae rôl i bawb.

    Gyda bron i 200,000 o fyfyrwyr a dros 10,000 o addysgwyr wedi cofrestru, mae’r POP25 yma wedi bod y mwyaf hyd yn hyn!

    Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

    Ymweliadau Ysgol

    Dysgwch fwy am waith CyDA gydag ysgolion a gwnewch ymholiad ynglŷn â dod â’ch dosbarth i CyDA.

  • Cynhadledd CyDA 2025

    Cynhadledd CyDA 2025

    Rhwng 15 ac 17 Awst, daeth aelodau CyDA ynghyd yn CyDA am benwythnos arbennig o weithdai ymarferol, darlithoedd a theithiau.  Gwnaethom gysylltiadau newydd a chryfhau ein gallu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur gyda’n gilydd.

    Mae cynhadledd flynyddol CyDA yn croesawu cymysgedd fywiog o bobl sy’n teimlo’n angerddol am yr amgylchedd ac am gymryd camau ymarferol.  Mae’n ofod unigryw ar gyfer dysgu, creadigrwydd ac ysbrydoliaeth.  Roedd digwyddiad eleni yn ein hatgoffa o’r hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn dod ynghyd.

    “Mae rheswm da dros fod yn obeithiol!  Mae gwaith gwych yn cael ei wneud ac mae pobl rhyfeddol yn ei wneud.”

    “Rydw i wedi dysgu cymaint gan CyDA a phawb sydd wedi mynychu.”

    “Wrth i’n hargyfyngau fynd yn fwy enbyd, mae popeth a oedd yn ystyried y ffordd yr ydym yn parhau i ymateb yn werthfawr, nid y lleiaf o’r rhain y ffordd yr ydym yn meddwl am obaith ac optimistiaeth.”

    “Nifer o sgiliau a dirnadaeth ddefnyddiol ac ymarferol, megis rheoli coetir, adeiladu cynaliadwy a bioamrywiaeth, ond yn fwy cyffredinol na hyn – ‘ail-ddysgu’r’ angen i ganolbwyntio ar realiti diriaethol ac ar raddfa fach yr hyn sydd o’m blaen i.”

    Jonathon Porritt talking at the CAT Conference 2025

    Uchafbwyntiau’r gynhadledd

    Geiriau ysbrydoledig gan y prif siaradwr, Jonathon Porritt

    Un o’r sesiynau y bu cryn edrych ymlaen ati yn y gynhadledd oedd y prif anerchiad a roddwyd gan yr awdur a’r amgylcheddwr adnabyddus, Syr Jonathon Porritt.  Mae Jonathon wedi bod yn gyfaill, yn aelod ac yn gefnogwr CyDA ers amser hir.  Roedd hi’n fraint ei glywed yn rhannu straeon a myfyrdodau o’i lyfr trawiadol newydd, Love Anger & Betrayal, a gydysgrifennwyd gyda 26 o ymgyrchwyr ifanc, ac sy’n alwad brys am gyfiawnder hinsawdd sy’n pontio’r cenedlaethau.  Roedd yr egni yn y sesiwn hon yn drydanol ac roedd y sgwrs yn onest ac yn daer, wrth iddo sôn am yr hyn yr oedd wedi’i ddysgu wrth siarad gydag arweinwyr hinsawdd ifanc.

    Roedd Jean Boulton, awdur ac academydd, wedi cyfareddu ei chynulleidfa 

    Roeddem wrth ein bodd i groesawu Jean Boulton, cyfrannwr rheolaidd yn CyDA ac sy’n arbenigwr blaenllaw ym maes gwyddor cymhlethdod.  Roedd Jean wedi tywys yr aelodau i fyd damcaniaeth cymhlethdod a’i llyfr diweddaraf, The Dao of Complexity.  Yn ystod ei sesiwn, gofynnwyd i’r gynulleidfa fyfyrio am y ffordd y gallwn greu newid ystyrlon a chynaliadwy yn ystod cyfnodau cymhleth.  Roedd yr anerchiad wedi ein helpu i ddeall sut mae systemau byw a systemau cymdeithasol yn dod i’r amlwg, yn sefydlogi ac yn newid, gan amlygu pwysigrwydd cysylltiadau, perthnasoedd a chynhwysiant ar gyfer cydnerthedd.

    “I mi, bu hwn yn wirioneddol ysbrydoledig.  Mae Jean yn siaradwraig ragorol ac roedd ei hangerdd wedi fy nhywys gyda hi.  Ongl hynod ddiddorol.”

    “Sesiwn garlamus am y pwnc hwn, a oedd yn hynod ddiddorol ac a gyflwynwyd gan siaradwr angerddol iawn.  Llawer i’w gofio a’i ystyried, a llawer o waith darllen i ddilyn.”

    “Nid yw’r geiriau ‘Da iawn’ yn gwneud cyfiawnder gyda safon penigamp y sesiwn hon.  Hwn yw’r peth y bu ei angen arnaf er mwyn gwneud synnwyr o’r canfyddiadau ar gyfer fy noethuriaeth i (a’m bywyd).  Nid ydw i wedi stopio siarad amdano ers hynny.”

    Sesiynau dangos ac adrodd aelodau

    Mae sesiynau dangos ac adrodd yr aelodau yn gyfle gwych i aelodau CyDA rannu eu prosiectau nhw a’r hyn y maent yn teimlo’n angerddol amdano, gyda’i gilydd.  Fel erioed, cawsom wledd ar ffurf cymysgedd eclectig o bynciau diddorol, megis sefydlu grŵp ynni cymunedol lleol, cynnal astudiaethau gwyddonol am secwestriad carbon dolau blodau gwyllt, a defnyddio ysgrifennu creadigol i ymgysylltu â’r argyfwng hinsawdd a natur.  Soniodd Ben Wilding, graddedig CyDA a chyd-sylfaenydd Sun Bear Biofuture, am ei fusnes ef, sy’n defnyddio’r dechnoleg wyddonol ddiweddaraf er mwyn biobeiriannu brasterau ac olewau er mwyn lleihau’r effaith ddiwydiannol ar yr amgylchedd.  Diolch i’r aelodau a wnaeth wirfoddoli i gyflwyno sesiwn.

    Gweithdai ymarferol

    Roedd y sawl a fynychodd wedi cael y cyfle i archwilio amgylchedd dysgu CyDA yn yr awyr agored hefyd, a mwynhau’r llwybrau, y coetiroedd a’r mannau tyfu.  Roedd ein haelodau wedi mwynhau archwilio’r bywyd gwyllt a chlytwaith y gerddi hefyd, gan drin clai naturiol, a mynd o gwmpas Coed Gwen, coetir CyDA a reolir mewn ffordd gynaliadwy.  Wrth i ni gael ein hamgylchynu gan yr amgylchedd naturiol prydferth, cawsom ein hatgoffa pam ein bod yn gwneud y gwaith a wnawn.

    “Profiad gwych o fynd am dro yn y coetir.”

    “Mae Dieter mor wybodus ac roedd wedi rhoi ei galon a’i enaid i’w addysgu.”

    “Mae gan Rob gymaint o ddyfnder o ran ei wybodaeth, ei amynedd a’i ofal yn ei waith a’i waith cyflwyno/ tywys.  Dirnadaeth ragorol sy’n procio’r meddwl.”

    Diolch yn fawr i bawb a fynychodd, gan gynnwys ein haelodau, ein myfyrwyr, ein hymddiriedolwyr a’n gwirfoddolwyr.  Chi sy’n creu’r ymdeimlad o gymuned, diben a rennir a gobaith sy’n gwneud cynhadledd CyDA yn uchafbwynt y flwyddyn.  Roedd hi’n arbennig o werth chweil cyfarfod cymaint o aelodau newydd eleni, ynghyd ag aelodau sydd wedi bod yn aelodau ers cryn amser, ac y mae eu hymroddiad wedi bod yno dros y blynyddoedd, a thros ddegawdau hyd yn oed.  Mawr obeithiwn eich gweld chi gyd eto flwyddyn nesaf!