Category: Food

  • Tyfu ar y Cyd: Blwyddyn o Ddysgu, Meithrin a Chadwraeth yn CyDA

    Tyfu ar y Cyd: Blwyddyn o Ddysgu, Meithrin a Chadwraeth yn CyDA

    Mae gwirfoddolwyr wedi bod wrth wraidd CyDA ers dros 50 mlynedd, gan ddod ag egni a brwdfrydedd gyda nhw i helpu i ofalu am ein safle, wrth iddynt ennill profiad ymarferol mewn byw’n gynaliadwy, tyfu a rheoli tir. Wrth i nifer o’n gwirfoddolwyr preswyl baratoi i symud ymlaen i’w hanturiaethau nesaf, dyma ni’n gofyn i Charlie Whale ac Emma Eberhardt fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a rhannu rhai uchafbwyntiau o’r timau Gerddi ac Adnoddau Naturiol.

    Edrych Yn Ôl Ar Flwyddyn Brysur – Charlie

    Wrth i’n profiadau gwirfoddoli preswyl ein hunain ddod i ben, ac wrth i ni baratoi i symud ymlaen i anturiaethau newydd, roeddwn i eisiau myfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd, y sgiliau rydyn ni wedi’u dysgu a’r bobl sydd wedi gwneud ein hamser yn CyDA mor werthfawr.

    Pan gyrhaeddon ni (Charlie, Jem, Radhika a Hannah), roedd yn rhaid i ni ddechrau arni ar unwaith. Roedd tîm Gerddi CyDA, Nick, Kait a Veronica, wedi bod heb wirfoddolwyr preswyl gaeaf ers peth amser, ac roedd uchelgeisiau mawr ar gyfer tymor tyfu 2026. Rydyn ni’n falch o ddweud ein bod ni wedi helpu i droi llawer o’r cynlluniau hynny’n realiti.

    Garden and day volunteers in a polytunnel at CAT

    Adfywio’r Gofodau Tyfu

    Seeing those tunnels produce such beautiful and productive displays this year made every wheelbarrow load worthwhile.

    Un o’n prosiectau mwyaf oedd ailadeiladu ac adnewyddu’r gwlâu planhigion yn Big Poly ac adeiladu gwlâu newydd yn Small Poly. Roedd yn waith caled, wnaeth cynnwys cyfanswm enfawr o gompost gwastraff bwyd CyDA, llwydni dail a chompost gardd i fwydo’r pridd ar gyfer cnydau eleni. Yr hyn a deimlai’n arbennig oedd pa mor gylchol oedd y broses. Llai gwych oedd faint o hidlo llechi allan o’r pridd oedd ei angen, ond rydym mewn chwarel diddefnydd felly beth allwn ni ddisgwyl!

    Roedd yn werth chweil cael gweld y twneli hynny’n cynhyrchu arddangosfeydd mor brydferth a chynhyrchiol ac mi wnaeth pob llwyth berfa yn werth chweil. 

    Grapes and tomatoes and other plants growing in a polytunnel

    Dod a Cae Roger yn fyw

    Gan weithio ochr yn ochr â Nick a Veronica, dyma ni’n helpu adfer Rhandir y Cartref Cyfan a Chae Roger gan ei baratoi ar gyfer tyfu eto, gan gynnwys y ddau dwnnel poly ychwanegol. 

    Mae’r ehangiadau yma wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i faint o gynnyrch sy’n mynd i gegin CyDA ac felly i blatiau gwirfoddolwyr, ymwelwyr a myfyrwyr. Dyma rhai llwyddiannau nodedig eleni yn cynnwys grawnwin, sgwoshiau, ciwcymbrau, pupurau, afalau, ffa borlotti a llawer iawn o ysgallddeilen. 

    Diolch yn fawr iawn hefyd i fyfyrwyr CyDA a ymunodd a ni ar benwythnosau gwirfoddoli gan roi ymdrechion enfawr tuag at helpu i adfer Cae Roger. Ni fyddai wedi digwydd hebddyn nhw. Rydym yn arbennig o gyffrous i weld gwirfoddolwyr y dyfodol yn mwynhau gwobrau’r prosiectau yr ydym wedi helpu i’w sefydlu, gan gynnwys ffos asbaragws 12m newydd a 30 o blanhigion marchysgallen a ddylai ddarparu cynaeafau am flynyddoedd i ddod. 

    Prosiect gwerthfawr arall oedd arbed hadau. Trwy gasglu a storio hadau o gnydau eleni, rydym yn helpu i wella gwydnwch, lleihau costau a sicrhau y gall gwirfoddolwyr y dyfodol barhau i dyfu llawer o’r amrywiaethau hyn. Mae ein detholiad lliwgar o domatos wedi bod yn arbennig o hwyl i’w harbed. 

    Volunteer working in the Whole home Garden

    Dysgu Sgiliau Traddodiadol

    Os ydych chi wedi gweld strwythurau wedi’u gwehyddu yn ymddangos o amgylch y safle eleni, mae’n debyg ein bod ni wedi cael rhywbeth i’w wneud â nhw. O dan arweiniad brwdfrydig Nick, dysgon ni sut i ddefnyddio coed cyll a helyg wedi’u coedlannu i greu strwythurau i gynnal planhigion, clwydi, basgedi, ffensys a strwythurau gwehyddu o bob siâp a maint.

    Roedd yna adegau’n bendant pan fyddai ein brwdfrydedd dros wehyddu cymhleth yn pylu -yn hwyr ar brynhawn Gwener, ond roedd yn wych dysgu sut i ddefnyddio ein rhywogaethau brodorol, i greu ffannau enfawr, a ffensys pric pys uchel. Mae’r rhain yn sgiliau gwerthfawr y byddaf yn eu cymryd i’r dyfodol gyda mi ac ni fyddaf byth yn prynu ffon bambŵ arall eto! Diolch i’r Gwirfoddolwyr Coetir am ddarparu deunyddiau wedi’u coedlannu o’r gystal ansawdd i ni!

    Y Swyddi Hanfodol Tu Hwnt i’r Llen

    Ochr yn ochr â’r prosiectau mawr, dyma llawer o’n hamser yn cael ei dreulio ar y gwaith parhaus sy’n cadw’r gerddi’n gynhyrchiol ac yn groesawgar.

    Dyma hynny yn cynnwys:

    • Prosesu gwastraff bwyd trwy’r Compostiwr Ridan a systemau compostio eraill ddwywaith yr wythnos.
    • Chwynnu, tocio, chwyngeibio a chynnal a chadw cyffredinol ar draws y safle gan geisio cadw ffiniau, llwybrau ac arddangosfeydd yn brydferth.
    • Creu arddangosfeydd blodau a threfniadau byrddau ar gyfer y caffi a digwyddiadau.
    • Dyfrio cnydau yn ystod cyfnodau sych heriol.

    Efallai bod y swyddi hyn yn llai gweladwy, ond nhw sy’n sicrhau bod y gerddi yn gweithredu o ddydd i ddydd. Diolch yn fawr i’r gwirfoddolwyr rheolaidd dydd Mawrth yr ydym wedi bod yn ffodus i weithio gydag a dysgu o yn wythnosol. I Nick, Veronica a Kait am eu haddysgu, eu hamynedd a’u cefnogaeth a diolch yn arbennig i’r Rheolwr Gwirfoddolwyr Holly am ofalu amdanom ni yn ystod ein hamser yn CyDA!

    CAT staff and volunteers with fruit and veg harvested from the CAT gardens

    Gofalu am Goetir ac Adnoddau Naturiol CyDA – Emma

    Ochr yn ochr â’n cyd-wirfoddolwyr yn nhîm y Gerddi, mae’r rheini ohonom sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn yr adran Coetiroedd ac Adnoddau Naturiol, (Emma, ​​Corran, Beth ac Adam) wedi bod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan bawb yn CyDA. Mae wedi bod yn fraint cyfrannu at reoli a datblygu’r safle, ac i deimlo’n rhan o gymuned o wirfoddolwyr sy’n ymestyn yn ôl dros 50 mlynedd. Mae gwybod bod cenedlaethau o wirfoddolwyr wedi helpu llunio CyDA i’r hyn ydyw heddiw wedi gwneud i’n cyfraniadau ein hunain deimlo’n arbennig o ystyrlon.

    Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn rhan o amrywiaeth mawr o brosiectau ar draws coetiroedd, ystâd ac ardaloedd cadwraeth CyDA, gan ennill sgiliau ymarferol wrth helpu i ofalu am y safle a’i wella ar gyfer gwirfoddolwyr, ymwelwyr a bywyd gwyllt y dyfodol.

    Volunteer learning hedge laying

    Adfer y Ceulan Coed Cyll

    Un o’r cyflawniadau rydym mwyaf balch ohono yw dod â’r Ceulan Coed Cyll yn ôl i mewn i reolaeth actif. Nid oedd yr ardal goedlan hon wedi cael ei rheoli’n actif ers peth amser, ac mae ein gwaith wedi cynnwys adfer mynediad trwy lwybrau a clwydi newydd wrth ailsefydlu rheolaeth gynaliadwy o’n coed cyll. Bydd manteision y gwaith hwn yn parhau ymhell ar ôl i ni adael, gan ddarparu coed cyll ar gyfer y gerddi a choed tân, cynefin ar gyfer mwsoglau a chen, a chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer prosiectau pathewod a blychau tylluanod y bydd y gwirfoddolwyr nesaf yn helpu i’w sefydlu.

    Rydym hefyd wedi parhau â’r gwaith adfer coetir a ddechreuwyd gan staff Coetiroedd CyDA, Rob a Sven, yng Nghoed Gwern, gan deneuo conwydd, cael gwared ar rhododendron ymledol ac adeiladu argaeau gollyngol i wella ansawdd cynefinoedd a rheoli dŵr ar draws y coetir.

    Cadwraeth, Bioamrywiaeth a Phrosiectau Ystad

    Un o’r agweddau mwyaf gwerthfawr o wirfoddoli yn yr adran Adnoddau Naturiol fu’r amrywiaeth o waith. O gadwraeth coetiroedd i gynnal a chadw’r ystad, daeth pob wythnos â heriau a chyfleoedd newydd i ddysgu.

    Mae rhai o’r prosiectau rydym wedi gweithio arnynt eleni yn cynnwys:

    • Arolygu coed fel rhan o gais am drwydded torri coed a diweddaru gwiriadau diogelwch ac argymhellion ar draws y safle.
    • Dechrau gwaith clirio o amgylch yr adeiladau sy’n rhan o’r ailddatblygiad sydd ar ddod ar gyfer CyDA.
    • Cwblhau cwrs byr Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy i ddatblygu ein dealltwriaeth ymarferol ac ecolegol o stiwardiaeth coetiroedd.
    • Gweithio gyda Dave o’r RSPB i arolygu blychau adar yn ystod y gwanwyn a’r haf a helpu i adeiladu blychau nythu newydd.
    • Adeiladu ffensys o amgylch y berllan i gefnogi pori geifr.
    • Cefnogi gwaith rheoli dŵr, gan gynnwys mynd i’r afael â blodeuo algâu.
    • Cynnal ystod eang o dasgau cynnal a chadw ystad, gan gynnwys atgyweiriadau i’r ‘Pole Barn’ gwelliannau i’r decio yn adeilad WISE, a datgymalu hen offer maes chwarae.
    Volunteer building a bird box

    Gofalu am CyDA ar gyfer y Dyfodol

    Ochr yn ochr â’r prosiectau yma, rydym hefyd wedi bod yn ymwneud â gwaith parhaus a fydd yn parhau yn y dyfodol.

    Mae hyn yn cynnwys datblygu prosiect gwneud siarcol CyDA gan ddefnyddio deunydd pentyrrau llosg, uwchraddio system ddŵr WISE, ac atgyweirio darnau o ffensys perimedr i atal defaid rhag mynd i ardaloedd cadwraeth a thyfu sensitif.

    Mae llawer o’r swyddi hyn yn digwydd yn dawel yn y cefndir, ond maent yn gwneud cyfraniad pwysig at sut mae’r safle’n gweithredu o ddydd i ddydd ac at amcanion amgylcheddol hirdymor CyDA.

    Mwy na Gwirfoddoli yn Unig

    Er ein bod yn falch o bopeth rydym wedi’i gyflawni, yr hyn y byddwn yn ei gofio fwyaf yw’r bobl rydym wedi’u cyfarfod ar hyd y ffordd.

    Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Sven, Chris a Rob am rannu eu gwybodaeth am reoli coetiroedd, crefftau traddodiadol a’r ardal leol, yn ogystal ag am eu hiwmor, eu hamynedd a’u cwmni da drwy gydol y flwyddyn. Hoffem hefyd ddiolch i bawb ar draws CyDA sydd wedi gwneud i ni deimlo’n gartrefol ac wedi ein cynnwys o’r diwrnod cyntaf.

    Mae byw a gweithio gyda’n gilydd wedi rhoi’r cyfle inni nid yn unig i ddysgu sgiliau ymarferol gwerthfawr, ond hefyd i feithrin cyfeillgarwch parhaol a dod yn rhan o gymuned sydd â hanes nodedig. Mae wedi bod yn ysbrydoledig dilyn ôl troed y nifer o wirfoddolwyr sydd wedi helpu i lunio CyDA dros y pum degawd diwethaf, ac rydym yn falch o fod wedi ychwanegu ein pennod fach ein hunain at y stori honno.

    Volunteers learning woodworking skills

    Beth y Ddaw Nesaf?

    Wrth i ni symud ymlaen o Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) rydym yn mynd â sgiliau, profiadau a hyder newydd gyda ni a fydd yn llunio ein camau nesaf.

    O’n tîm Gerddi, bydd Hannah yn aros yn CyDA am chwe mis arall. Mae Radhika am dreulio peth amser yn archwilio mwy o’r DU cyn dychwelyd i India i ddilyn gyrfa mewn pensaernïaeth gynaliadwy. Mae Jem yn dychwelyd i Fryste i chwilio am gyfleoedd newydd, a bydd Charlie yn cwblhau cwrs amaethyddiaeth adfywiol ac yn chwilio am leoliadau Gwaith ar ffermydd adfywiol.

    Yn y cyfamser, ymhlith y tîm Adnoddau Naturiol, mae Beth eisoes wedi symud ymlaen i hyfforddiant coedlannu yn Leeds, mae Corran yn dechrau gradd Meistr yn CyDA mewn Cynaliadwyedd ac Addasiad, mae Adam yn ymuno â phrosiect WWOOFing yng Nghymru, a bydd Emma yn aros yn lleol i weithio mewn coedwigaeth o amgylch ardal Machynlleth.

    Ar ran pob un ohonom, diolch i bawb yn CyDA am groeso mor gynnes. Mae wedi bod yn fraint cyfrannu at y lle arbennig hwn, ac rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan fach yn ei stori barhaus.

    Volunteers planting asparagus

    Eisiau Gwirfoddoli Yn CyDA?

    Gwirfoddolwyr helpodd i greu CyDA yn y 70au cynnar, a hyd at heddiw, maent yn parhau i fod yn rhan amhrisiadwy o deulu CyDA. Os oes gyda chi neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod diddordeb mewn bod yn rhan o’r rhwydwaith llewyrchus o wneuthurwyr newid hyn, mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallwch wirfoddoli gyda ni yn CyDA.

    O ddod atom fel gwirfoddolwr dydd neu wythnos i ymuno fel gwirfoddolwr preswyl 6 mis yn ein gerddi neu’n timoedd coetiroedd ac adnoddau naturiol, beth bynnag y ffafriwch… byddem wrth ein bodd pe baech yn cysylltu.

    Dysgwch fwy 

    Looking across the CAT site