Wrth i’r argyfwng hinsawdd ddyfnhau, a all twf economaidd traddodiadol barhau i ddarparu cynnydd cymdeithasol? Yn y blog yma, mae Myfi Fenwick yn archwilio hyn, a chyfraniad Gemma Young, a raddiodd o CyDA, tuag at Fap Trywydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi Y Tu Hwnt i Dwf (Roadmap for Eradicating Poverty Beyond Growth) sydd â’r nod o helpu i lunio datrysiadau ymarferol ar gyfer dyfodol tecach a mwy adfywiol.
Yng Ngorffennaf 2024, cyhoeddodd Olivier De Schutter, Cyn-adroddwr Penodedig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Tlodi Eithafol a Hawliau Dynol, adroddiad cychwynnol yn manylu ar yr angen am ffyrdd o ddileu tlodi sydd ddim yn dibynnu ar dwf. Mae delwedd lanio’r adroddiad yn drawiadol, er ei bod yn nodedig ei fod wedi’i greu gan AI. Mae’n dangos bachgen ifanc yn erbyn gorwel aur-oren yn eistedd ar gopa tomen dirlenwad, o’i flaen mae tir diffaith yn ymestyn cyn belled a’r awyr. Atgof gweledol ein bod ni’n gwthio ar ffiniau ein planed.
Dros y ddwy flynedd nesaf, aeth De Schutter ati i gynhyrchu’r Map Trywydd ar gyfer Dileu Tlodi Y Tu Hwnt i Dwf – cronfa gymorth polisi a luniwyd gan gyfraniadau byd-eang o undebau llafur, mudiadau, asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig, academyddion a llunwyr polisi. Y canlyniad? Opsiynau polisi diriaethol a gweithredadwy ar gyfer y rheini sy’n llunio polisïau ar bob lefel, a phob un ohonynt yn symud i ffwrdd o’r model twf parhaus, tuag at strategaethau gwrthdlodi sy’n eistedd o fewn ffiniau ein planed.

O fewn Ffiniau -Am ba reswm?
Fel y nododd Will Steffen et al yn eu hymchwil arloesol, mae’r cyfnod Holosen yr ydym wedi bodoli ynddo dros y 11,700 o flynyddoedd diwethaf wedi caniatáu’r sefydlogrwydd i ni ganlyn twf; mae’r un twf hwnnw bellach yn dadsefydlogi’r amodau a’i caniataodd, ac yn wir, yr amodau y gallwn oroesi ynddynt. A chyda’r ansefydlogrwydd hwn daw amddifadedd pellach.
Fel y mae’r Map Trywydd yn nodi, ‘o’r 1.1 biliwn o bobl sy’n byw mewn tlodi acíwt, mae 887 miliwn yn agored i o leiaf un perygl nodweddiadol wedi’i achosi gan yr hinsawdd, gan gynnwys sychder, llifogydd, gwres eithafol neu lygredd aer.’ Mae’r neges yn glir; ni allwn fynd ati i ddileu tlodi heb fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd – rhaid i newid digwydd o fewn ffiniau ein planed.
Cyfraniad o Gyn-fyfyriwr CyDA
Un o’r cyfranwyr at y map drywydd oedd Gemma Young, a raddiodd o CyDA ar ôl astudio ar ein MSc mewn Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad. Mae cynnig Gemma wedi’i ysbrydoli gan ei thraethawd hir, ac yn archwilio sut y gellid ailgynllunio marchnadoedd ariannol i wneud buddsoddwyr yn fwy cyfrifol am ganlyniadau cymdeithasol ac ecolegol y gweithgareddau y maent yn eu hariannu.
Mae ei Hardoll Buddsoddi graddedig (Scaled Investment Levy) (SIL) yn ymyriad systemig sy’n cysylltu’r elw o fuddsoddiadau gyda’r effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol a achosir gan y gweithgaredd busnes. Mae model yr economegydd Kate Raworth – ‘Doughnut Economics’ yn darparu nod uchelgeisiol a fframwaith posibl ar gyfer sefydlu trothwyon cymdeithasol-ecolegol, y gallai asesu gweithgareddau busnes yn eu herbyn. (Gweler Ffigwr 1).
Ble mae’r trothwyon hynny’n cael eu torri, byddai ardoll yn cael ei gosod ar elw’r buddsoddwyr, wedi’i graddio yn gymwys a difrifoldeb yr effaith gymdeithasol-ecolegol. Yn hytrach na gosod cyfradd ardoll benodol a chyffredinol, mae’r cynnig yn archwilio sut y gallai canlyniadau ariannol sy’n mynd yn fwy llym yn raddol wneud gweithgareddau niweidiol yn llai deniadol i fuddsoddwyr gan ffafrio dewisiadau arall sy’n fwy adfywiol. Bwriad yr ymyrraeth yw dylanwadu ar ymddygiad yn ogystal ag ailddosbarthu cyfalaf. Trwy gyfuno canlyniadau cymdeithasol-ecolegol gweithgareddau’r busnes gyda’r enillion ar fuddsoddiad, mae’r Ardoll Buddsoddi graddedig (Scaled Investment Levy) yn ceisio annog buddsoddwyr i ystyried yr effeithiau hynny wrth iddynt ddyrannu cyfalaf. Yna gellid cyfeirio’r refeniw a gynhyrchir gan yr ardoll tuag at atgyweirio niwed cymdeithasol ac amgylcheddol. Gyda’i gilydd, mae’r mecanweithiau hyn yn anelu at ailgyfeirio buddsoddiad i ffwrdd o weithgareddau sy’n torri ffiniau cymdeithasol-ecolegol a thuag at y rhai sy’n cyfrannu at economi fwy teg ac adfywiol.

Cronfa Bolisi Mae’n Rhaid Defnyddio
Mae cynnig Gemma yn eistedd ochr yn ochr â chyfraniadau gan 400 o unigolion a mudiadau eraill sydd hefyd yn cynnig strategaethau gwrthdlodi sydd ddim yn dibynnu ar dwf diderfyn, ac un ohonynt yw’r economegydd Kate Raworth, a greoedd y fodel ‘Doughnut Economics.’ Yma yn CyDA, rydym wedi bod yn ffodus i groesawu Dr Raworth fel darlithydd gwadd ar fodiwlau ôl-raddedig fel Y Cyflwyniad i Wleidyddiaeth ac Economeg yr Amgylchedd, sy’n cyflwyno myfyrwyr i’r rhan y mae pŵer, polisi, asiantaeth a strwythurau economaidd yn eu chwarae mewn cynhyrchu’r argyfwng amgylcheddol. Yn sgil hyn, dyma ennyd sy’n dynodi cylch cyflawn, gan ystyried bod fframwaith economi adfywiol o fewn ffiniau planedol Raworth ar waith yng nghynnig Gemma. Mae hefyd yn foment sy’n ein hatgoffa yn CyDA mai dyma pam mae’r Ysgol Raddedig yn bodoli, i gefnogi pobl fel Gemma i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i wneud cyfraniad gwirioneddol a diriaethol at ddiogelu ein planed.
Ym mis Mehefin eleni, cyflwynwyd y map drywydd yn ffurfiol i’r Cyngor Hawliau Dynol yn Geneva gan Elena Díaz Galán, Adroddwr presennol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Tlodi Eithafol a Hawliau Dynol. Yn yr un mis, adroddodd asiantaeth dywydd cenedlaethol y Swistir fod y tymheredd wedi codi dros 37C am y tro cyntaf ym mis Mehefin, gan dorri record a osodwyd ym 1947. atgoffâd clir, bod y Map Drywydd yn gyflawniad sylweddol fel dogfen, ond wrth i’r argyfwng hinsawdd barhau a thlodi dyfnhau, ni all aros fel dogfen yn unig – rhaid i’r strategaethau hyn ddod yn gamau gweithredol.
Realiti Parhaus yr Argyfwng Hinsawdd
Yr haf yma’n benodol, mae’r arwyddion ein bod ni’n gyrru ansefydlogrwydd systemau’r ddaear wedi bod yn gyson, sy’n arwydd nad ydym ni bellach yn yr hyn y mae Will Steffen et al yn ei ddiffinio fel ‘gofod gweithredu diogel i ddynoliaeth.’ Mae effaith newid hinsawdd yn cael ei theimlo’n fyd-eang ar bob lefel ac i’r rhai sy’n byw mewn tlodi, mae’r effeithiau’n acíwt.
Gwres Eithafol, Tanau Gwyllt ac Ansefydlogrwydd Bwyd ac Ynni
- I wledydd sydd eisoes yn wynebu pwysau ychwanegol, mae’r effeithiau hyn yn drychinebus. Yn Somalia, mae sychder eithafol, gwrthdaro a dadleoliad wedi gadael y wlad mewn perygl o newyn, gyda’r World Food Programme yn adrodd ei bod yn rhagweld y bydd cyfanswm o ‘6.5 miliwn o bobl yn wynebu lefelau difrifol o newyn neu waeth, gan gynnwys 2 filiwn bydd yn ei wynebu ar lefelau argyfyngus.’
- Eleni yn Sbaen, ar yr adeg ysgrifennu, mae diffyg glaw, gorboethi a gwres wedi gadael 256,937 hectar wedi’u llosgi gan danau gwyllt – ardal bron yr un maint â Dorset.
- Yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Ewrop, mae Afon y Danube wedi rhedeg yn beryg o isel. Mae’r sychder parhaus wedi gorfodi adweithyddion niwclear i gau gan ei bod yn anniogel i’w weithredu heb yr afon fel oerydd, yn ogystal â thyrbinau gorsafoedd pŵer trydan dŵr, gan achosi ansicrwydd ynni.
- Ymhellach i lawr yr afon yn Ryahovo, Bwlgaria, fe wnaeth diffyg dŵr ddatgelu esgyrn mamoth oedd yn perthyn i’r cyfnod Pleistosen, atgof gweledol o gyfnod pan nad oedd hinsawdd y ddaear yn sefydlog, ac atgof dychrynllyd ein bod yn ei hansefydlogi unwaith eto.
Y Map Drywydd fel Cynnig o Obaith
Mae’r enghreifftiau uchod yn gipolwg bach iawn ar effeithiau dinistriol byd-eang yr argyfwng hinsawdd – os edrychwn ymhellach, mae enghreifftiau arall yn afrifed. Fe amlygir hyn pa mor bwysig yw hi fod pob un o 80 o Argymhellion Polisi’r Map Drywydd yn eistedd o fewn Ffiniau ein Planed.
Gan ystyried y sefyllfa bresennol, mae’n ffynhonnell o obaith – o argymhellion polisi sy’n cydnabod effeithiau echdynnu gwladychol, i fesurau a gynlluniwyd i leddfu pwysau cyllidol wedi’i achosi gan siociau hinsawdd, polisïau sy’n mynd i’r afael â mynediad at ynni glân, dŵr a gofal iechyd i systemau ynni datganoledig a thu hwnt. Yn wir, p’un a yw’r polisïau’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol neu’n gwneud hynny’n anuniongyrchol trwy fframwaith sy’n eistedd o fewn ffiniau’r blaned, yr hyn y maent i gyd yn ei gynnig yw gobaith y gall drawsnewidiad ddigwydd heb gyfateb cynnydd i dwf cyfalaf diderfyn.
Osgoi Anelu tuag at Anialwch
Yn y ddelwedd sy’n rhagflaenu adroddiad cychwynnol Olivier De Schutter mae’r bachgen ifanc yn eistedd ar gopa tomen dirlenwad, ni allwn weld y pridd, nid oes coed i’w weld, yr unig arwydd o unrhyw weithgaredd dynol arall yw tir diffaith y safle tirlenwi sy’n ymestyn o’i flaen. Mae’n lun sy’n dod â delweddaeth y bardd T.S Elliot yn y gerdd ‘The Wasteland’ i blaen y meddwl.
‘What are the roots that clutch, what branches grow
Out of this stony rubbish? Son of man,
You cannot say, or guess, for you know only
A heap of broken images, where the sun beats,
And the dead tree gives no shelter, the cricket no relief,
And the dry stone no sound of water.’
Cyfieithiad
‘Pa wreiddiau sy’n glynu, pa ganghennau sy’n tyfu
O’r ‘sbwriel caregog hyn? Mab Dyn,
Ni fedrid dweud, neu ddyfalu, gan mae i gyd y gwyddost
Yw’r domen o ddarluniau briwedig, ble mae’r haul yn curo,
A ni ro’r goeden farw cysgod, a daw dim rhyddhad o bryf y tân,
Ac o’r garreg sych mae sŵn y dŵr yn fud.’
Ni allwn echdynnu o’r garreg sych; ni all gwreiddiau dyfu o blaned sydd wedi’i hamddifadu o’i hadnoddau… ni all ddilyn trywydd twf diderfyn drwy arferion echdynnol ac ymelwol gynnal dynoliaeth.
Gall strategaethau’r Map Drywydd ar gyfer Dileu Tlodi Y Tu Hwnt i Dwf dim ond gyflawni’r addewid o obaith drwy ddod yn gamau gweithredol.

Cofrestru ar gyfer E-bost
Cadwch lygad ar y gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru i dderbyn ein negeseuon e-bost a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelodau CyDA.











































































