Category: Graduate School

  • Ffermio mewn argyfwng: prosiect ymchwil PhD yn archwilio datrysiadau

    Ffermio mewn argyfwng: prosiect ymchwil PhD yn archwilio datrysiadau

    Mae’r ymchwilydd PhD Bethan John yn gwahodd ffermwyr ledled Gorllewin Cymru i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil wedi’i arwain gan y gymuned sy’n mynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n wynebu cymunedau gwledig heddiw – o ansicrwydd economaidd a diogelwch bwyd i newid hinsawdd.

    Trwy weithdai creu ffilmiau ac adrodd straeon yn greadigol, nod Bethan yw dod â ffermwyr ac amgylcheddwyr ynghyd i rannu profiadau bywyd a chyd-greu atebion sy’n adlewyrchu gwirionedd ffermio mewn cyfnod o argyfyngau sy’n gorgyffwrdd.

    Wrth gynnal y gweithdai, nod Bethan yw creu lle ac amser i archwilio amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau, gan adeiladu ar dir cyffredin a datrys problemau ar y cyd.

    Canlyniad y prosiect fydd ffilm neu gyfres o ffilmiau wedi’i chyd-greu gan y gymuned, bydd yn giplun o leisiau a gweledigaethau ffermwyr ac amgylcheddwyr, yn sgil y naws, cyfoeth a chymhlethdod, sy’n perthyn i brofiadau bywyd go iawn.

    Mynd i’r afael â Gydnerthedd Gwledig drwy Gydweithredu

    Mae’r prosiect ymchwil, sydd a’r bwriad i archwilio’r materion sy’n effeithio ar gymunedau gwledig yng Ngorllewin Cymru, yn bartneriaeth rhwng Ysgol Raddedig CyDA, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd, ac fe’i hariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

    Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau creadigol a chyd-gynhyrchiol i ddwyn cipolwg o’r materion sydd fwyaf perthnasol i’r cyfranogwyr, gyda’r nod o greu effaith polisi.

    Bydd elfen gydweithredol y prosiect hwn yn dechrau’r hydref lenni, pan fydd Bethan yn cynnal cyfres o weithdai adrodd straeon a chreu ffilmiau gyda ffermwyr yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

    Adrodd Straeon a Chreu Ffilmiau: Twls er Newid

    Mae cyfoeth o ymchwil academaidd sy’n cyfleu pwysigrwydd adrodd straeon a mynegiant creadigol fel ffyrdd o fyfyrio ar faterion cymhleth a helpu datrys problemau byd go iawn.

    Mae Dr Cathy Cole, Uwch Ddarlithydd a goruchwyliwr prosiect CyDA yn dweud: “gall adrodd straeon ar y cyd weithredu fel pont i alluogi atebion cydweithredol i ddod i’r amlwg. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun ffermio, ble mae naratifau’r cyfryngau yn aml yn ddadunol. Mae cyfranogwyr yn yr astudiaeth hon yn poeni’n fawr am y tir, ac mae hyn yn dir cyffredin pwerus.”

    Bydd y gweithdai adrodd straeon a gwneud ffilmiau yn cynnwys grŵp bach a byddant yn cael eu hwyluso yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y grŵp yn cael ei arwain trwy amrywiaeth o weithgareddau er mwyn cynhyrchu syniadau a thrafodaethau, tra’n darparu hyfforddiant mewn sgiliau adrodd straeon a gwneud ffilmiau. Nid oes angen profiad blaenorol oherwydd bydd cyfranogwyr yn derbyn hyfforddiant lawn yn ystod y gweithdai.

    Y set gyntaf o weithdai fydd:

    • Neuadd Bentref Bancyfelin, dydd Mercher 1af Hydref 2025, 5.30-8.30yp
    • Neuadd Farchnad Crymych, dydd Iau 2il Hydref 2025, 5.30-8.30yp

    Mae manteision ymuno â’r gweithdai yn cynnwys:

    • Hyfforddiant am ddim mewn gwneud ffilmiau fel y gallwch chi adrodd eich stori
    • Cyfle i gwrdd â ffermwyr eraill i drafod syniadau
    • Lle ac amser i rannu eich barn, gwybodaeth a phrofiadau ar faterion sy’n bwysig i chi

    Mae Bethan yn chwilio am bobl o gefndiroedd ffermio i gymryd rhan yn y gweithdai ac mae’n casglu diddordeb trwy’r ffurflen fer ar lein yma.

    Bethan Jones

    A’i wreiddiau yng Nghefn Gwlad Cymru

    Fe dyfodd Bethan fyny mewn cymuned ffermio wledig ger Caerfyrddin, ac mae hi eisoes yn byw yng Ngogledd Sir Benfro. Mae hi wedi treulio ei gyrfa yn cofnodi straeon cymunedau gan archwilio’r materion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol cymhleth y maent yn eu hwynebu wrth lywio ac addasu i’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Mae ganddi ddiddordeb yn y ffordd y gall gwybodaeth gymunedol a gweithredu ar lawr gwlad ysgogi newid.

    “Mae cyfoeth o arbenigedd i’w gael yn y cymunedau gwledig rwy’n byw ynddynt. Un o amcanion y prosiect hwn yw casglu a gwerthfawrogi’r wybodaeth yma, gan archwilio amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau bywyd i weld os ddaw datrysiadau i’r amlwg” eglura Bethan.

    Hyd yn hyn, mae hi wedi cwblhau cyfres o gyfweliadau gyda ffermwyr ac amgylcheddwyr i archwilio cyfleoedd, heriau a thensiynau, yn enwedig mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

    Rhoddodd y cyfweliadau gyfle i gyfranogwyr rannu eu barn ar y materion yn ddienw ac mewn lleoliad preifat un-i-un. Mae’r themâu a ddaeth i’r amlwg o’r cyfweliadau yn llywio datblygiad gwaith grŵp y gweithdai ac maent yn rhan o fodd aml-ddull y prosiect, gyda’r pwrpas o ddefnyddio triongliant i gryfhau dilysrwydd honiadau ac i oresgyn gwendidau trwy beidio dibynnu ar un dull.

    Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect ond methu dod i’r gweithdai, cysylltwch â Bethan (e-bost bsj3@aber.ac.uk neu ffoniwch 07495999579) i drafod opsiynau eraill a fyddai’n addas i chi.

    Filming in a field

    Dysgwch fwy am Ysgol Raddedig CyDA

    Mae Ysgol Raddedig CyDA yn un o’r prif ddarparwyr addysg ôl-raddedig mewn cynaliadwyedd ac mae’n cynnig nifer o gyrsiau lefel Meistr sy’n caniatáu i fyfyrwyr ennill y wybodaeth, ysbrydoliaeth a’r rhwydweithiau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

    Dysgwch fwy am astudio cwrs ôl-raddedig yn CyDA drwy ymuno â diwrnod agored neu cysylltwch â’n Tîm Derbyniadau drwy e-bostio study@cat.org.uk neu ffonio 01654 70597.

  • Sgwrs gydag Andy Baylis, un o raddedigion CyDA 

    Sgwrs gydag Andy Baylis, un o raddedigion CyDA 

    Mae Andy Baylis yn raddedig o gwrs Feistr Adeiladu Gwyrdd CyDA, yn gyfarwyddwr sefydlol Jengo Sustainable Design ac fe benodwyd yn ddiweddar fel ymddiriedolwr CyDA.

    Rydym wrth ein bodd i fod yn sgwrsio ag ef am arferion adeiladu cynaliadwy arloesol ei gwmni a pha ddylanwad gafodd ei astudiaethau ôl-raddedig yn CyDA ar ei ymagwedd at ddylunio cynaliadwy.

    Andy Bayliss

    C: Hyfryd cael sgwrsio gyda chi Andy. Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich cefndir a’r hyn a arweiniodd at eich gyrfa mewn dylunio a pheirianneg gynaliadwy? 

    Rwy’n beiriannydd adeiladu sifil siartredig ac rwyf wedi gweithio ym maes adeiladu ers bron i 30 mlynedd, yn bennaf i gwmnïau ymgynghori peirianneg prif ffrwd mewn uwch-rolau cyflawni prosiectau, rheoli pobl a datblygu busnesau. Rwyf wedi bod yn angerddol am gynaliadwyedd ers degawdau ond, ar wahân i’m prosiect hunan-adeiladu gwellt, nid oeddwn wedi llwyddo i berswadio fy nghyflogwyr i weithio mewn modd cynaliadwy, felly penderfynais wneud y radd Feistr mewn Adeiladu Gwyrdd i archwilio gyrfa newydd mewn dylunio a pheirianneg gynaliadwy. 

    C: Sut mae eich Gradd Feistr mewn Adeiladu Gwyrdd o CyDA wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydych chi’n mynd i’r afael a dylunio cynaliadwy? 

    Er fy mod yn Beiriannydd Adeiladu profiadol, dyma’r hyn a ddysgais yn CyDA yn trawsnewid fy hyder wrth gyflawni prosiectau dylunio isel eu heffaith. Caniataodd astudiaeth ôl-raddedig i mi gymhwyso fy ngwybodaeth am effeithiau hinsawdd ac amgylcheddol ar yr amgylchedd adeiledig i’m hymgynghoriaeth newydd. 

    Roedd yn brofiad anhygoel astudio ar safle CyDA yn ystod yr wythnosau addysgu, cwrdd â chyd-fyfyrwyr gwych a dysgu gan staff ysbrydoledig a gwybodus. Roedd yn newid rhyddhaol ar ôl gweithio mewn proffesiwn adeiladu prif ffrwd hynod straenus. 

    C: A allwch chi ddisgrifio rhai o’r prosiectau allweddol y mae Jengo wedi’u gwneud, a’r deunyddiau a’r dulliau cynaliadwy a ddefnyddiwyd? 

    Dros y pedair blynedd diwethaf, rwyf wedi symud ymlaen o adeiladu preswyl safonol i ddylunio prosiectau ffrâm bren ac ôl-osod ar y mwyafrif. Mae prosiectau allweddol yn cynnwys cartref Passivhaus ar gyfer Janna Lann Lomas a bu raddio o CyDA hefyd, ochr yn ochr â sawl adeilad ffrâm bren Passivhaus arall. Rwyf hefyd yn ymgymryd â’r rhan fwyaf o waith dylunio ffrâmiau pren ar gyfer Broadaxe Timber Frames. Rhan gynyddol arall o fy ngwaith yw prosiectau ôl-osod ac addasu mewn adeiladau hanesyddol cerrig. 

    C: Beth yw rhai o’r heriau mwyaf rydych chi wedi’u hwynebu wrth hyrwyddo arferion adeiladu cynaliadwy? 

    Nid oes gan rai penseiri, cleientiaid a chontractwyr ddiddordeb mewn deunyddiau anghonfensiynol ac maent yn anwybyddu neu’n gwrthsefyll atebion amgen is-garbon. Yn gynyddol, rwyf bellach yn gwrthod ymgymryd â phrosiectau yr wyf yn eu hystyried yn wastraffus neu sydd uchel eu heffaith. Fodd bynnag, mae gwelliant graddol i’w gael mewn gwybodaeth trwy waith sefydliadau fel IStructE ac ACAN ac rwy’n credu fod gan  gyrsiau Meistr CyDA y gallu i drawsnewid dulliau llawer o ddylunwyr ac ymgynghorwyr. 

    C: Sut ydych chi’n gweld y diwydiant adeiladu yn esblygu i ymdopi â heriau newid hinsawdd, bioamrywiaeth a llygredd? 

    Er bod yr atebion yn bodoli, mae rhwystrau enfawr i newid fel y disgrifir yn fy nhraethawd hir ar Ddylunio Sylfeini a Lloriau Gwaelod Cynaliadwy. Mae’r rhain yn amrywio o sgiliau, cadwyni cyflenwi, materion caffael, cydymffurfio â deddfwriaethau a rheoliadau, yswiriant, diffyg dulliau cylchol a diffyg cymhelliant ac amharodrwydd cyffredinol i newid neu reoli risgiau’n wahanol. Er mwyn ymateb i’r heriau hyn, rwy’n gobeithio parhau i ddarparu atebion adeiladu is eu heffaith, addysgu mwy o fewn y diwydiant a gwneud gwahaniaeth fel ymddiriedolwr CyDA. 

    C: Fe wnaethoch chi ailymuno â ni’n ddiweddar fel ymddiriedolwr CyDA; sut ydych chi’n rhagweld eich rôl yn CyDA yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy? 

    Rwyf bellach yn cael gweithio gyda dylunwyr a chleientiaid o’r un anian ar brosiectau carbon isel blaengar, a gobeithio y gall fy ngwybodaeth am ddylunio a datblygu cynorthwyo’r datblygiad sydd ar ddod yn CyDA, cynlluniau ôl-osod a’r Ysgol Raddedig ar lefel strategol. 

    C: Ac yn olaf, pa gyngor fyddech chi’n ei roi i beirianwyr a dylunwyr uchelgeisiol sydd eisiau canolbwyntio ar gynaliadwyedd? 

    Roedd astudio yn CyDA yn brofiad rhyddhaol ac ysbrydoledig sydd wedi arwain at drawsnewidiad yn fy ngyrfa a’m ffordd o fyw. Gwnewch Radd Feistr mewn Adeiladu Gwyrdd yn CyDA! 

    Wedi’ch ysbrydoli gan stori Andy? 

    Mae amser o hyd i wneud cais i astudio yn CyDA ym mis Medi. Dysgwch fwy am ein Gradd Feistr mewn Adeiladu Gwyrdd ac astudio yn CyDA drwy gysylltu â’n Tîm Derbyniadau: study@cat.org.uk 01654 705974.