Yn ystod Wythnos Genedlaethol y Goeden, bydd CyDA yn cynnal POP25, digwyddiad blynyddol ysbrydoledig i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw, ac a gyflwynir gan Swyddfa Addysg y Gofod y DU (ESERO-UK) yn STEM Learning ac ar y cyd ag Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Ofod y DU.
Ar 27 Tachwedd, wnaeth miloedd o bobl ifanc o bob cwr o’r DU dod ynghyd mewn ffordd rith ar gyfer Diwrnod Diogelu Ein Planed (POP25), sef digwyddiad neilltuol i ysgolion, a gaiff ei ffrydio yn fyw ac a gynlluniwyd i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf y gwyddonwyr, y peirianwyr a’r rhai a fydd yn sicrhau newid. Eleni, rydym yn falch o’r ffaith mai Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) fydd y lleoliad ffisegol ar gyfer cynnal y digwyddiad blynyddol hollbwysig hwn.
Beth yw POP25?
Mae cenhadaeth POP25 yn syml, ond yn bwerus: ymgysylltu ysgolion gyda gwyddoniaeth a datrysiadau sy’n helpu i ddiogelu ein planed. Mae angen pobl ifanc medrus arnom ar fyrder i gychwyn ar yrfaoedd, sy’n meddu ar yr arweinyddiaeth a’r sgiliau i barhau i archwilio a gweithredu datrysiadau ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Trwy gyfrwng sesiynau byw, gweithgareddau rhyngweithiol, a chysylltiadau uniongyrchol gyda gorsafoedd ymchwil ar draws y byd, bydd myfyrwyr yn archwilio sut y caiff newid hinsawdd ei fonitro a’i liniaru – o deithiau i’r gofod i waith cadwraeth bioamrywiaeth.
Mae rhaglen eleni yn llawn cynnwys ysbrydoledig, gan gynnwys:
- Cyswllt byw â Gorsaf Reoli ESA er mwyn dysgu sut y mae lloerennau arsylwi y ddaear yn olrhain newid hinsawdd.
- Golwg fanwl ar ddiogelu bioamrywiaeth, a fydd yn cynnwys cynhyrchwyr cyfres Kingdom y BBC, a ddarlledir cyn bo hir, a phrosiectau cadwraeth yn Zambia.
- Diweddariadau byw o long ymchwil Syr David Attenborough wrth iddi deithio rhwng Yr Ynys Las a’r Arctig.
- Cysylltiadau â gorsaf ymchwil yr Antarctig Halley VI a gwyddonwyr sy’n astudio llenni iâ yn Norwy a Northymbria.
A’r dechrau yn unig yw hynny. Cynlluniwyd pob sesiwn i ddangos i bobl ifanc nad yw gwyddoniaeth yn ymwneud â deall problemau yn unig, ond hefyd, mae’n ymwneud â chreu datrysiadau.

Pam CyDA?
Mae cynnal POP25 yn CyDA yn gyfuniad perffaith. Am dros 50 mlynedd, mae CyDA wedi bod ar flaen y gad o ran addysg amgylcheddol a datrysiadau ymarferol i newid hinsawdd. Mae ein lleoliad unigryw yng nghalon Cymru, wedi ein hamgylchynu â choedwigoedd a systemau ynni adnewyddadwy, yn cynnig cefndir ysbrydoledig ar gyfer diwrnod a gaiff ei neilltuo i ddiogelu’r blaned.
Mae rôl CyDA yn mynd y tu hwnt i ddarparu lleoliad. Rydym yn rhannu cenhadaeth graidd y digwyddiad: grymuso pobl gyda gwybodaeth a sgiliau er mwyn creu dyfodol cynaliadwy. O’n cyrsiau ôl-raddedig i ymweliadau ysgol a gweithdai ymarferol, mae CyDA wedi ymrwymo i feithrin cenhedlaeth nesaf yr arweinwyr amgylcheddol. Mae POP25 yn amlygu’r effaith hon trwy gysylltu ein gwaith gydag ymdrechion byd-eang, gan gynnwys y dechnoleg ddiweddaraf yn y gofod.
Cymru Fyw yn POP25
Rydym wrth ein bodd fod Athro Richard Lucas wedi bod yn rhan o’r rhaglen, gan gyflwyno ei Brosiect Cymru Fyw. Mae’r fenter arloesol hon yn defnyddio data arsylwi y Ddaear er mwyn monitro a deall newidiadau yn nhirluniau Cymru – enghraifft berffaith o’r ffordd y mae gwyddor y gofod a gweithredu lleol yn dod ynghyd i ddiogelu ecosystemau.

Wythnos Genedlaethol y Goeden
Mae POP25 yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol y Goeden, sef y dathliad blynyddol mwyaf o goed yn y DU, a gynhelir gan y Cyngor Coed. Mae coedwigoedd yn cyflawni rôl hanfodol wrth amsugno carbon, cynorthwyo bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae lleoliad CyDA mewn coetir a’n hymrwymiad i ddefnydd tir cynaliadwy yn golygu ein bod yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal diwrnod sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r blaned. Trwy gysylltu gwaith monitro yn y gofod gyda gwaith cadwraeth ymarferol, mae POP25 yn amlygu sut y mae technoleg ac ecoleg yn gweithio law yn llaw i ddiogelu ein dyfodol.
Ysbrydoli Gyrfaoedd a’r Dyfodol
Nid yw POP25 yn ymwneud â gwyddoniaeth yn unig; mae’n ymwneud â phosibiliadau gyrfa ar gyfer pobl ifanc. Bydd sesiynau yn y prynhawn yn arddangos 16 o lwybrau gyrfa gwahanol ym maes cynaliadwyedd a gweithredu ar gyfer yr hinsawdd, gan helpu myfyrwyr i weld nad yw diogelu’r blaned wedi’i gyfyngu i un disgyblaeth yn unig. Boed hynny trwy beirianneg, gwyddor data, cadwraeth, neu’r cyfryngau creadigol, mae rôl i bawb.
Gyda bron i 200,000 o fyfyrwyr a dros 10,000 o addysgwyr wedi cofrestru, mae’r POP25 yma wedi bod y mwyaf hyd yn hyn!

Ymweliadau Ysgol
Dysgwch fwy am waith CyDA gydag ysgolion a gwnewch ymholiad ynglŷn â dod â’ch dosbarth i CyDA.

