Mae Llywodraeth y DU wedi creu ymrwymiad i gyrraedd sero-net erbyn 2050; i gyflawni hyn, mae angen gweithredu’n gyflymach ac mewn modd fwy uchelgeisiol. Ar hynny, mae uwchsgilio gweithwyr a chreu mwy o lwybrau mewn i yrfaoedd gwyrdd yn hanfodol.
Mae gwneud newidiadau ar draws pob sector yn hanfodol i greu’r newid hyn, gan olygu y bydd rhaid hyfforddi’r rhai a fydd yn adeiladu’r seilwaith hanfodol, ymchwilio’r datrysiadau anghenrheidiol , a defnyddio eu sgiliau cyfathrebu i ysbrydoli gweithredu.
Am dros 50 mlynedd, mae CyDA wedi bod yn le ble mae pobl wedi dod i ennill sgiliau, gwybodaeth a hyfforddiant ar amrywiaeth eang o bynciau’n ymwneud a chynaliadwyedd – ac mae siwrne pawb yn wahanol. Yr wythnos gyrfaoedd gwyrdd yma, rydym ni’n dathlu’r niferoedd o bobl sydd wedi darganfod ei ffyrdd mewn i yrfaoedd gwyrdd trwy CyDA.
Y sgiliau ymarferol i alluogi trawsnewidiad
Yn CyDA, rydym wedi cael yr anrhydedd i wylio niferoedd aneirif o raddedigion a chyn-wirfoddolwyr yn mynd ymlaen i yrfaoedd gwyrdd, dau ohonynt yw Elliot ac Ella. O helpu adeiladu’r seilwaith carbon-isel rydym ni mor daer ei angen, i arloesi datrysiadau ar sail natur drwy arddwriaeth, mae’r ddau nawr yn gweithio i greu newid ystyriol.
Elliot Harker Dempsey:
Mae Elliot Harker Dempsey yn Ymgynghorydd Ynni, a dechreuodd ei lwybr i’r yrfa hon ar ôl iddo adael ei waith fel Rheolwr Cyfrif Gwerthiant i astudio yn CyDA.
“Pan ddes i o hyd i’r hyn oedd gan CyDA i’w gynnig, roeddwn i mor gyffrous o weld bod gan eu cyrsiau MSc ofynion mynediad hyblyg a oedd mewn mannau eraill yn fy atal rhag mynd i mewn i faes astudiaethau ynni, cynaliadwyedd a gweithredu hinsawdd. Gwnaeth strwythur y cwrs hi’n ymarferol i mi astudio. Gyda wythnosau addysgu dwys iawn ar y safle ynghyd ag astudio o bell, gallwn ffitio fy astudiaethau o amgylch rhianta, tra’n dal i allu ymgolli yn safle unigryw CyDA, gan dynnu ysbrydoliaeth ohono, a dod o hyd i gyfeillion agos yno.”

Mae Elliot bellach yn gweithio i ymgynghoriaeth beirianneg o’r enw Elevate Everywhere, sy’n darparu arbenigedd dylunio, a modelu systemau ynni ar gyfer cynlluniau datgarboneiddio gwres a datblygadau rhwydweithiau gwres yn yr amgylchedd adeiledig. O fewn y tîm Dadansoddi mae Elliot yn ymwneud â dichonoldeb, a modeli ynni a charbon, yn ogystal â phrosiectau dylunio cysyniadau ar gyfer cleientiaid mewn gofal iechyd, awdurdodau lleol, addysg, tai a’r trydydd sector.
Stori Ella:
Ar gyfer pobl ifanc sy’n edrych i ganlyn gyrfa wyrdd, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Ar gyfer Ella Catherall, dyma ei siwrne yn deillio o wirfoddoli yng ngerddi CyDA. Yn ystod ei hamser gyda ni, dyma hi’n ennill y sgiliau garddwriaeth yn ogystal â’r hyder i fynd amdani a gwireddi ei hangerdd. Ers hynny, mae hi wedi treulio blwyddyn ar leoliad gyda’r Adam Greathead Trust, yn hyfforddi mewn dwy ardd nodedig yn y DU.
Tirwedd academaidd i lywio trawsnewid
I weithredu ar y raddfa sydd angen, mae hefyd angen tirwedd academaidd sy’n gallu hyrwyddo trawsnewidiad cynaliadwy. Mae angen gwyddonwyr, ymchwilwyr ac academyddion ar draws disgyblaethau i barhau i’n hysbysu am y newidiadau sy’n digwydd, a’r newidiadau sydd angen digwydd.
Mae llawer o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Raddedig yn mynd ymlaen i ddal swyddi ymchwil sy’n amrywio ar draws disgyblaethau, gan brofi fod angen trin y problemau a’r datrysiadau mewn modd amlochrog os ydym am fyw o fewn ffiniau planedol.
Michael Lomotey
Mae Michael Lomotey yn Ymchwilydd Doethurol a raddiodd o CyDA. Yn ddiweddar, fe ddaeth yn ol i ddarlithio yn ystod ein Cynhadledd flynyddol. Bellach wedi’i leoli ym Mhrifysgol Southampton, mae ei ymchwil yn archwilio Traddodiadau Radical Du, gan ddefnyddio fframio yn erbyn pobl ddu fel dull damcaniaethol, ontolegol a chysyniadol er mwyn cwestiynu a cheisio datgelu gwirioneddau yn y drafodaeth ynghylch newid hinsawdd.
Fel academydd-actifydd, mae ymchwil Michael yn helpu i greu trawsnewidiad sy’n rhyddfreiniol, yn deg, yn gynhwysol ac yn fwy effeithlon. Mae ei waith yn ymestyn o’r creadigol-critigol i’r academaidd. O archwiliadau myfyriol a barddonol o gynrychiolaeth, cynhwysiant, a phenderfyniadau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, pobl a dŵr, i bapurau sy’n cwestiynu sut mae cyllid natur yn cael ei gyflwyno o fewn fframwaith ariannol byd-eang sy’n neo-wladychol ac yn hiliol-anghyfiawn, mae’r hyn mae ei ymchwil yn archwilio yn eang.
Mae’r ymchwil y mae Michael yn ei wneud yn dyst i fwy na chymhlethdod yr argyfwng hinsawdd yn unig – mae’n uwcholeuo’r rhagfarnau ac anfanteision sydd wedi’i yrru, ac sy’n parhau i’w yrru.

Ffion Thomas
Yn 2019, graddiodd Ffion Thomas fel un o’r myfyrwyr cyntaf ar ein MSc mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol.
Yn ystod ei hastudiaethau, roedd Ffion yn rhan o’r tîm a oedd yn edrych ar y newidiadau i reoliadau plaladdwyr yn y cyfnod cyn Brexit. Cyrhaeddodd y gwaith pwysig yr oedd Ffion a’r tîm yn ei wneud y wasg genedlaethol a dyfynnwyd Ffion yn y Guardian. Tynnodd ei dadansoddiad sylw at y ffaith y gallai’r newidiadau wanhau trylwyredd y broses y mae plaladdwyr yn mynd trwy i cael eu derbyn a’u monitro yn y DU.
Yn dilyn hyn a’r gwaith a wnaeth yn ei thraethawd hir, cwblhaodd Ffion ei PhD y llynedd, gan ganolbwyntio ar ddulliau agroecolegol o reoli clefyd coed ynn yng Nghanolfan Agroecoleg, Dŵr a Chydnerthedd Prifysgol Coventry. Ymchwil hanfodol ynghylch cydnerthedd coetiroedd y DU.
“Dyma astudio yn CyDA yn newid fy mywyd ac mae wedi fy ngalluogi i ymgymryd â gyrfa newydd mewn maes rwy’n ei garu – ni feddyliais erioed y byddwn mewn gyrfa ymarferol, o ystyried nad oedd gennyf gefndir gwyddonol.”

Cyfathrebu i ysbrydoli newid
Bydd y broses drawsnewid hefyd angen cyfathrebwyr a all ysbrydoli gweithredu systemig, gwleidyddol a chymdeithasol a chreu cysylltiadau ystyrlon. Ar ben hynny, mae cyfathrebu’n effeithiol â phobl yn gofyn am lawer mwy na ‘dweud’ – mae’n ymwneud cymaint â gwrando, fel y mae Sandy Stevens, un o raddedigion CyDA, yn ei ddweud:
“Nid yw newid ymddygiad yn ymwneud â rhoi gwybodaeth i bobl i’w darbwyllo i wneud rhywbeth yn unig (mewn gwirionedd mae ymchwil yn dangos nad yw hyn o reidrwydd yn newid ymddygiad). Yn hytrach, mae ganddo lawer i’w wneud â deall beth yw gwerthoedd pobl, beth sy’n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth iddynt (ymysg agweddau eraill) a gall hyn yn ei dro ddylanwadu ar agweddau a all yn ei dro ffurfio’r bwriad i weithredu ar rywbeth.”
Sandy Stevens
Graddiodd Sandy Stevens o CyDA gyda rhagoriaeth yn ein MSc mewn Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad yn 2021. Ar ôl pedair blynedd o waith caled ac ymroddiad cwblhaodd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth y llynedd, ymchwil gyda’r teitl ‘Pryderon, Hinsawdd a Gobaith ar gyfer y dyfodol: safbwyntiau a meddyliau ffermwyr Cymru ar drawsnewidiad cyfiawn.’
Archwiliodd ei hymchwil farn ffermwyr Cymru ar faterion hinsawdd a thrawsnewidiad cyfiawn a daeth â’u lleisiau i’r amlwg. Gan ddefnyddio ymchwil sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ymddygiad, archwiliodd lefel y wybodaeth sydd gan ffermwyr ar y materion hyn, beth yw eu pryderon, a pha agweddau sy’n rhoi ymdeimlad o obaith iddynt ar gyfer dyfodol ffermio Cymru.
“Fe ddysgodd y rhaglen MSc i mi’r bwysigrwydd o cael moeseg astudio gadarn ac felly, yn dilyn traethawd hir llwyddiannus, diolch i mewnwelediadau craff iawn o diwtoriaid CyDA, roedd gen i’r hyder i wynebu’r her o draethawd doethurol. Fe wnaethon nhw roi’r hyder i mi ddilyn gyrfa pellach mewn ymchwil ac fe ddysgodd i mi foeseg ymchwil iach o ran arfer da.”

Liam Rickard
Mae Liam Rickard yn raddedig o CyDA ac yn gweithio fel artist a cherddor llawrydd. Fel rhan o’i waith, mae’n cyflwyno gweithdai creadigol i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Drwy annog mynegiant artistig ac ymatebion creadigol, mae Liam yn creu mannau lle gall pobl ifanc deimlo’n rymus yn wyneb heriau amgylcheddol anodd.
Yn ddiweddar, mae Liam wedi bod yn gweithio gyda GwyrddNi, rhwydwaith gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd yng Ngogledd Cymru. Fel rhan o hyn, ymunodd Liam yn ddiweddar â disgyblion o Ysgol Gynradd Llanrug ar gyfer sesiynau a gyfunodd gerddoriaeth, celf ac ymgyrchu i archwilio eu perthnasoedd â Mannau Gwyrdd. Y canlyniad oedd rap a chân tair pennill, yn galw ar y cyngor lleol i drosglwyddo darn o dir di-ddefnydd i’r ysgol ei ddefnyddio fel man gwyrdd ar gyfer dysgu. Mae’r ymdrech hon wedi bod yn llwyddiannus ers hynny, ac mae’r cyngor lleol wedi caniatáu iddynt gael rhan o’r tir di-ddefnydd – tystiolaeth o bŵer creadigrwydd a lleisiau ifanc!

Helpu Llunio Dyfodol Gwell
Mae’r llwybrau amrywiol mewn i yrfaeoedd gwyrdd y mae’r rheini sydd wedi pasio trwy CyDA wedi’u dilyn yn dyst i’r ffaith bod yr argyfwng hinsawdd yn croestorri â phob agwedd o’n cymdeithas. Mae’r straeon hyn yn dangos nad yw gyrfaoedd gwyrdd yn ymwneud â swyddi yn unig, maent yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth a helpu i lunio dyfodol gwell, rhywbeth na all ddigwydd heblaw am drwy weithredu ar y cyd.
Eisiau cychwyn ar eich Gyrfa Werdd?
P’un a ydych chi newydd ddechrau mewn gyrfa newydd neu’n edrych i gymryd y cam nesaf, mae CyDA yma i’ch cefnogi. O ddysgu ymarferol i arloesi strategol, byddem yn falch o fod yn rhan o’r daith.
Archwiliwch ein cyrsiau ôl-raddedig, cyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch i dderbyn ein negeseuon e-bost i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan CyDA.







