Category: Visitors Centre

  • Cynhadledd CyDA 2025

    Cynhadledd CyDA 2025

    Rhwng 15 ac 17 Awst, daeth aelodau CyDA ynghyd yn CyDA am benwythnos arbennig o weithdai ymarferol, darlithoedd a theithiau.  Gwnaethom gysylltiadau newydd a chryfhau ein gallu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur gyda’n gilydd.

    Mae cynhadledd flynyddol CyDA yn croesawu cymysgedd fywiog o bobl sy’n teimlo’n angerddol am yr amgylchedd ac am gymryd camau ymarferol.  Mae’n ofod unigryw ar gyfer dysgu, creadigrwydd ac ysbrydoliaeth.  Roedd digwyddiad eleni yn ein hatgoffa o’r hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn dod ynghyd.

    “Mae rheswm da dros fod yn obeithiol!  Mae gwaith gwych yn cael ei wneud ac mae pobl rhyfeddol yn ei wneud.”

    “Rydw i wedi dysgu cymaint gan CyDA a phawb sydd wedi mynychu.”

    “Wrth i’n hargyfyngau fynd yn fwy enbyd, mae popeth a oedd yn ystyried y ffordd yr ydym yn parhau i ymateb yn werthfawr, nid y lleiaf o’r rhain y ffordd yr ydym yn meddwl am obaith ac optimistiaeth.”

    “Nifer o sgiliau a dirnadaeth ddefnyddiol ac ymarferol, megis rheoli coetir, adeiladu cynaliadwy a bioamrywiaeth, ond yn fwy cyffredinol na hyn – ‘ail-ddysgu’r’ angen i ganolbwyntio ar realiti diriaethol ac ar raddfa fach yr hyn sydd o’m blaen i.”

    Jonathon Porritt talking at the CAT Conference 2025

    Uchafbwyntiau’r gynhadledd

    Geiriau ysbrydoledig gan y prif siaradwr, Jonathon Porritt

    Un o’r sesiynau y bu cryn edrych ymlaen ati yn y gynhadledd oedd y prif anerchiad a roddwyd gan yr awdur a’r amgylcheddwr adnabyddus, Syr Jonathon Porritt.  Mae Jonathon wedi bod yn gyfaill, yn aelod ac yn gefnogwr CyDA ers amser hir.  Roedd hi’n fraint ei glywed yn rhannu straeon a myfyrdodau o’i lyfr trawiadol newydd, Love Anger & Betrayal, a gydysgrifennwyd gyda 26 o ymgyrchwyr ifanc, ac sy’n alwad brys am gyfiawnder hinsawdd sy’n pontio’r cenedlaethau.  Roedd yr egni yn y sesiwn hon yn drydanol ac roedd y sgwrs yn onest ac yn daer, wrth iddo sôn am yr hyn yr oedd wedi’i ddysgu wrth siarad gydag arweinwyr hinsawdd ifanc.

    Roedd Jean Boulton, awdur ac academydd, wedi cyfareddu ei chynulleidfa 

    Roeddem wrth ein bodd i groesawu Jean Boulton, cyfrannwr rheolaidd yn CyDA ac sy’n arbenigwr blaenllaw ym maes gwyddor cymhlethdod.  Roedd Jean wedi tywys yr aelodau i fyd damcaniaeth cymhlethdod a’i llyfr diweddaraf, The Dao of Complexity.  Yn ystod ei sesiwn, gofynnwyd i’r gynulleidfa fyfyrio am y ffordd y gallwn greu newid ystyrlon a chynaliadwy yn ystod cyfnodau cymhleth.  Roedd yr anerchiad wedi ein helpu i ddeall sut mae systemau byw a systemau cymdeithasol yn dod i’r amlwg, yn sefydlogi ac yn newid, gan amlygu pwysigrwydd cysylltiadau, perthnasoedd a chynhwysiant ar gyfer cydnerthedd.

    “I mi, bu hwn yn wirioneddol ysbrydoledig.  Mae Jean yn siaradwraig ragorol ac roedd ei hangerdd wedi fy nhywys gyda hi.  Ongl hynod ddiddorol.”

    “Sesiwn garlamus am y pwnc hwn, a oedd yn hynod ddiddorol ac a gyflwynwyd gan siaradwr angerddol iawn.  Llawer i’w gofio a’i ystyried, a llawer o waith darllen i ddilyn.”

    “Nid yw’r geiriau ‘Da iawn’ yn gwneud cyfiawnder gyda safon penigamp y sesiwn hon.  Hwn yw’r peth y bu ei angen arnaf er mwyn gwneud synnwyr o’r canfyddiadau ar gyfer fy noethuriaeth i (a’m bywyd).  Nid ydw i wedi stopio siarad amdano ers hynny.”

    Sesiynau dangos ac adrodd aelodau

    Mae sesiynau dangos ac adrodd yr aelodau yn gyfle gwych i aelodau CyDA rannu eu prosiectau nhw a’r hyn y maent yn teimlo’n angerddol amdano, gyda’i gilydd.  Fel erioed, cawsom wledd ar ffurf cymysgedd eclectig o bynciau diddorol, megis sefydlu grŵp ynni cymunedol lleol, cynnal astudiaethau gwyddonol am secwestriad carbon dolau blodau gwyllt, a defnyddio ysgrifennu creadigol i ymgysylltu â’r argyfwng hinsawdd a natur.  Soniodd Ben Wilding, graddedig CyDA a chyd-sylfaenydd Sun Bear Biofuture, am ei fusnes ef, sy’n defnyddio’r dechnoleg wyddonol ddiweddaraf er mwyn biobeiriannu brasterau ac olewau er mwyn lleihau’r effaith ddiwydiannol ar yr amgylchedd.  Diolch i’r aelodau a wnaeth wirfoddoli i gyflwyno sesiwn.

    Gweithdai ymarferol

    Roedd y sawl a fynychodd wedi cael y cyfle i archwilio amgylchedd dysgu CyDA yn yr awyr agored hefyd, a mwynhau’r llwybrau, y coetiroedd a’r mannau tyfu.  Roedd ein haelodau wedi mwynhau archwilio’r bywyd gwyllt a chlytwaith y gerddi hefyd, gan drin clai naturiol, a mynd o gwmpas Coed Gwen, coetir CyDA a reolir mewn ffordd gynaliadwy.  Wrth i ni gael ein hamgylchynu gan yr amgylchedd naturiol prydferth, cawsom ein hatgoffa pam ein bod yn gwneud y gwaith a wnawn.

    Profiad gwych o fynd am dro yn y coetir.”

    “Mae Dieter mor wybodus ac roedd wedi rhoi ei galon a’i enaid i’w addysgu.”

    “Mae gan Rob gymaint o ddyfnder o ran ei wybodaeth, ei amynedd a’i ofal yn ei waith a’i waith cyflwyno/ tywys.  Dirnadaeth ragorol sy’n procio’r meddwl.”

    Diolch yn fawr i bawb a fynychodd, gan gynnwys ein haelodau, ein myfyrwyr, ein hymddiriedolwyr a’n gwirfoddolwyr.  Chi sy’n creu’r ymdeimlad o gymuned, diben a rennir a gobaith sy’n gwneud cynhadledd CyDA yn uchafbwynt y flwyddyn.  Roedd hi’n arbennig o werth chweil cyfarfod cymaint o aelodau newydd eleni, ynghyd ag aelodau sydd wedi bod yn aelodau ers cryn amser, ac y mae eu hymroddiad wedi bod yno dros y blynyddoedd, a thros ddegawdau hyd yn oed.  Mawr obeithiwn eich gweld chi gyd eto flwyddyn nesaf!

  • Arweinwyr Cyngor yn Ymweld â CYDA i gael Diweddariad am Ddatblygiad Cynefin

    Arweinwyr Cyngor yn Ymweld â CYDA i gael Diweddariad am Ddatblygiad Cynefin

    Ddydd Gwener diwethaf, bu’n bleser gan CYDA groesawu Cynghorydd Bryan Davies a Chynghorydd Jake Berriman, arweinwyr Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys, ar ymweliad safle ac i gael diweddariad am y cynnydd ar ein prosiect datblygu cyfalaf blaengar, sef Cynefin: Calon Werdd Cymru.

    Gyda chymorth Bargen Twf Canolbarth Cymru, mae Cynefin yn fenter drawsnewidiol a fydd yn gwella cyfleusterau CYDA ac yn cryfhau ein rôl fel canolfan addysg cynaliadwyedd, arloesi a gweithredu cymunedol o arwyddocâd cenedlaethol.

    Gweledigaeth a Rennir ar gyfer Canolbarth Cymru

    Yn ystod eu hymweliad, cyfarfu arweinwyr y cynghorau gyda Chyd Brif Swyddog Gweithredol CYDA, Eileen Kinsman, i glywed am y cerrig milltir a gyflawnwyd gan brosiect Cynefin yn ddiweddar, ac i drafod ei effaith yn y dyfodol. Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o gwmpas y safle a chyflwyniad yn amlinellu cyflawniadau’r prosiect hyd yn hyn a’r camau cyffrous nesaf.


    “Roedd hi’n bleser croesawu arweinwyr y cynghorau a rhannu newyddion am y cynnydd cyffrous yr ydym yn ei sicrhau gyda Cynefin,” dywedodd Eileen. “Mae eu cefnogaeth barhaus nhw yn hanfodol wrth i ni weithio i gyflawni prosiect a fydd yn cynnig budd i gymunedau ar draws Canolbarth Cymru a thu hwnt.”

    Buddsoddi mewn Dyfodol Cynaliadwy

    Mae Cynefin yn rhan o’r Weledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, sef y rhaglen fuddsoddi dros y tymor hir a gynlluniwyd i gynorthwyo seilwaith economaidd o arwyddocâd rhanbarthol. Gyda £110 miliwn ar ffurf cyllid cyfunol gan Lywodraethau y DU a Chymru, nod Bargen Twf Canolbarth Cymry yw ysgogi buddsoddiad gan y sector preifat, creu swyddi hirdymor, a rhoi hwb i gynhyrchiant ar draws y rhanbarth.

    Trwy fuddsoddi yn natblygiad CYDA, bydd Cynefin yn helpu i greu canolfan fywiog ar gyfer dysgu, arloesi a gweithgarwch cymunedol, wedi’i hymwreiddio mewn tirlun a diwylliant Cymreig – gan gynorthwyo pontio cyfiawn i ddyfodol di-garbon.

    Cadw mewn Cysylltiad

    Rydym yn teimlo’n gyffrous i barhau i rannu diweddariadau wrth i brosiect Cynefin symud yn ei flaen. I gael gwybod mwy am Fargen Twf Canolbarth Cymru, trowch at Tyfu Canolbarth Cymru, neu cofrestrwch i gael eu cylchlythyr trwy anfon e-bost at: growingmidwales@ceredigion.gov.uk.