Category: Water and Waste

  • O Gae i Geg: Tyfu Dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer bwyd

    O Gae i Geg: Tyfu Dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer bwyd

    Bwyd yw un o’r ffyrdd mwyaf pwerus rydym yn cysylltu â’r amgylchedd. Mae pob pryd rydym yn ei fwyta yn cael dylanwad ar yr hinsawdd, bioamrywiaeth, deunydd tir a’n iechyd. Archwilia Dr Rebecca Kent hyn, a sut mae creu dyfodol mwy cynaliadwy yn golygu ail feddwl sut rydym yn tyfu, paratoi a mwynhau ein bwyd.

    Pam fod bwyd o bwys i’r Hinsawdd a Natur

    Mae rôl cynhyrchiad bwyd yn yr argyfwng hinsawdd yn sylweddol. Mae’r system fwyd yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys cynhyrchu, prosesu, trafnidiaeth a gwastraff, yn gyfrifol am bron i drydedd o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn fyd-eang, mae amaeth yn gyfrifol am bron i 78% o ewtroffigedd (gor-faethu) dŵr môr a croyw, a 75% o ddigoedwigo (gyda’r ddau o’r rhain yn ysgogi colled bioamrywiaeth).

    Mae amaeth anifeiliaid yn chwarae rôl sylweddol yn yr effeithiau hyn, gydag o gwmpas 40% o gynhyrchiad grawn yn cael ei benodi ar gyfer bwydo anifeiliaid a thrwy allyriadau methan anifeiliaid cnoi cil sy’n ffurfio’r ffynhonnell fwyaf o allyriadau da byw. Ar yr un pryd, mae cadwyni cyflenwi hir a chymhleth yn aml yn golygu bod bwyd yn teithio miloedd o filltiroedd cyn cyrraedd ein platiau.

    Y newyddion da yw bod y datrysiadau yn bodoli’n barod. Yn gynyddol, mae ymchwil yn dangos bod diet sy’n gyfoethog mewn llysiau, grawn cyflawn, codlysiau a phrotein o blanhigion yn gallu bod o fudd i iechyd amgylcheddol a dynol. Mae’r syniad hyn wrth graidd Cynnig Diet Iechyd Planedol Comisiwn, EAT Lancet (grŵp byd-eang o wyddonwyr clodfawr sy’n archwilio systemau bwyd cynaliadwy) a archwiliodd sut y gallai poblogaeth fyd-eang gynyddol fwyta diet iach wrth aros o fewn terfynau amgylcheddol y Ddaear.

    Mae’r Diet Iechyd Planedol yn pwysleisio pwysigrwydd protein o blanhigion, cymeriant uchel o lysiau, grawn cyflawn, lefelau isel o halen, siwgr, a braster a chyfanswm cyfyngedig o lysiau startshlyd. Dyma gwyddonwyr ar y comisiwn yn defnyddio modeli cyfrifiadurol i gyfrifo’r cydrannau ar gyfer diet iach y gellir ei chyflawni gan boblogaeth fyd-eang o 10 biliwn heb dorri terfynau amgylcheddol, er enghraifft mewn allyriadau nwyon, llygredd maetholion a cholled bioamrywiaeth.

    Tra bod y sialens yn fyd-eang, gall sefydliadau fel CyDA helpu cyfleu beth mae’r syniadau yma yn edrych fel ar waith.

    Hanes Hir o Fwyd Cynaliadwy yn CyDA

    Mae bwyd wastad wedi bod yn rhan o hanes CyDA. Am ddegawdau, mae CyDA wedi pledio’r achos dros bwysigrwydd bwyd a defnydd tir mewn creu cymdeithas fwy cynaliadwy.

    Dyma ni’n agor caffi llysieuol cyntaf Cymru a datblygu gofodau tyfu organig blaenllaw yn ein cartref yn Chwarel Llwyngwern, gan helpu cenhedloedd o ymwelwyr i ddeall y cysylltiadau rhwng bwyd, hinsawdd a’r byd naturiol. Dros y blynyddoedd mae CyDA hefyd wedi cynnal ymchwil mewn i ddylanwad bwyd a defnydd tir trwy ein hadroddiadau Prydain Di-garbon, gydag ein hadroddiad yn 2014, Pobl, Plât a Phlaned yn ffocysu ar hyn.

    CAT staff and volunteers with fruit and veg harvested from the CAT gardens

    Heddiw, wrth i sgyrsiau yng nghylch newid hinsawdd, colled bioamrywiaeth ac iechyd cyhoeddus dod yn fwy a mwy taer, rydym yn adeiladu ar yr etifeddiaeth hon trwy ein Gweithgor Bwyd a Thyfu.

    Uchelgais y grŵp yma yw datblygu cynnig bwyd sy’n flasus, isel ei garbon ac yn seiliedig ar blanhigion, monitro ein gweithredoedd arlwyaeth a chynyddu’r cyfanswm o fwyd a chaiff ei dyfu ar y safle. Er mae ar gychwyn y siwrnai yno yr ydym, mae cynnydd cyffroes eisoes ar waith i gryfhau’r cysylltiad rhwng ein gerddi a chaffi a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer ymwelwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr i fynd i’r afael a systemau bwyd cynaliadwy ar waith.

    Y Cyntaf yng Nghymru i Ymuno ‘Menus of Change’

    Er bod y Diet Iechyd Planedol o bosib i’w weld yn bell i ffwrdd o realiti presennol llawer ohonom a bod ei roi mewn i weithred yn cynrychioli sialens uchelgeisiol i aelwydydd ac arlwywr, gall ddarganfod un dull o’i roi ar waith yn ‘Menus for Change.’ Menter rhyngwladol yw ‘Menus for Change’ sy’n dod a phrifysgolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i greu systemau bwyd mwy iachus a chynaliadwy yng nghyd. Wedi’i arwain gan egwyddorion sydd wedi selio ar dystiolaeth, mae’r rhaglen yn helpu mudiadau i greu systemau bwyd sy’n fwy iachus ac yn is ei garbon trwy ddylunio bwydlenni a lleihau gwastraff.

    Yn gynharach blwyddyn yma, CyDA oedd yr unig fudiad a’r cyntaf yng Nghymru i ddod yn rhan o Ymchwil Gydweithredol ‘Menus of Change,’ a’r bedwerydd aelod yn y DU. Fel aelod mudiadol lleiaf y cydweithrediad, mae CyDA yn dod a mewnwelediad unigryw i’r rhwydwaith. Tra bod nifer o aelodau yn gweithredu gwasanaethau arlwyo prifysgolion mawr, mae CyDA yn cynnig cyfle i archwilio sut mae modd integreiddio egwyddorion bwyd cynaliadwy ar draws addysg, tyfu bwyd ac arlwyaeth o fewn mudiad llai.

    The menus of change

    Daeth CyDA yn rhan o’r rhaglen trwy ymchwil a gynhaliwyd gan Justina Raggett, un o raddedigion ein MSc mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol. Dyma ei thraethawd hir yn archwilio sut roedd prifysgolion yn y DU a’r Unol Daleithiau yn gweithredu egwyddorion Menus of Change, gan gynnwys cyfweliadau â rheolwyr arlwyo sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau bwyd mwy cynaliadwy. Cyflwynwyd ei gwaith yng Nghynhadledd Ymchwil flynyddol Menus of Change a helpodd i sefydlu cysylltiad CyDA â’r cydweithrediad. Mae hi bellach yn parhau â’r ymchwil yma trwy PhD ym Mhrifysgol Reading.

    Adnewyddu’r Linc rhwng Tyfu a Bwyta

    Efallai mai’r rhan fwyaf cyffrous o stori fwyd CyDA yw’r cysylltiad cynyddol rhwng ein gerddi a’n caffi. Am flynyddoedd lawer, dangosodd CyDA bwysigrwydd cynhyrchu bwyd lleol trwy ei ofodau tyfu cynhyrchiol. Yn fwy diweddar, mae brwdfrydedd o’r newydd dros adfer y cysylltiadau hynny a chynyddu faint o fwyd sy’n cael ei dyfu a’i fwyta ar y safle.

    Volunteers in Rogers Field

    Ffocws allweddol yw Cae Roger, prif ardal dyfu CyDA a enwyd ar ôl y diweddar Roger McLennan, Garddwr Arweiniol CyDA rhwng 1978 a 2023. Ers Hydref 2025, mae staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i baratoi’r cae ar gyfer cynhyrchu.

    Mae partïon gwaith gwirfoddol misol wedi trawsnewid y safle, gan helpu i baratoi ardaloedd tyfu a polytwneli ar gyfer y tymhorau i ddod. Mae’r ymdrechion hyn wedi cael eu cefnogi gan y Garddwr Arweiniol dros dro Nick Robinson, ac mae ei wybodaeth a’i frwdfrydedd wedi helpu i lywio’r gwaith ac ysbrydoli gwirfoddolwyr.

    Gellir defnyddio cynnyrch o Gae Roger a gerddi CyDA yn uniongyrchol yng nghegin y caffi, gan greu profiad cae-i-geg gwirioneddol i ymwelwyr, myfyrwyr a staff. Mae llysiau ffres sy’n cael eu tyfu ar y safle yn lleihau milltiroedd bwyd, yn dathlu bwyta’n dymhorol ac yn darparu arddangosiad pwerus o sut y gall system fwyd leol a gwydn edrych. Trwy ddefnyddio egwyddorion Menus for Change fel fframwaith, mae ein caffi hefyd wedi dechrau adolygu y bwydlenni sy’n bwydo ymwelwyr a staff ar y safle a sy’n arlwyo ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau a chyrsiau preswyl, i nodi pa cyfleoedd sydd i gynyddu proteinau o blanhigion, llysiau tymhorol a saladau ffres wrth gynnal y bwyd blasus y mae ymwelwyr yn ei adnabod a’i fwynhau.

    Mae’r tîm cegin hefyd yn archwilio ffyrdd o leihau gwastraff a gwneud gwell defnydd o gynhwysion dros ben. Gyda chefnogaeth y Rheolwr Arlwyo Cynaliadwy Briony Rigby, mae’r gwaith hwn yn helpu i ymgorffori cynaliadwyedd mewn dewisiadau bwyd bob dydd. Gall y rhain ymddangos fel newidiadau bach, ond gyda’i gilydd gallant gael effaith sylweddol ar ganlyniadau amgylcheddol a iechyd cyhoeddus.

    Dysgu Trwy Bwyd

    Mae’r manteision hefyd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r gegin. Mae gerddi CyDA yn darparu cyfleoedd dysgu gwerthfawr i grwpiau ysgol, myfyrwyr a gwirfoddolwyr, gan feithrin gwell dealltwriaeth o’r dewisiadau a’r systemau sy’n siapio ein dietau. Gall ymwelwyr weld o ble mae eu bwyd yn dod ac archwilio iechyd pridd, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a rheoli tir yn gynaliadwy tra gall myfyrwyr ôl-raddedig gysylltu dysgu academaidd gyda phrofiad ymarferol.

    Yn ystod wythnos addysgu gyntaf ein blwyddyn academaidd 2026/27, dyma myfyrwyr ôl-raddedig newydd yn mwynhau arddangosfa fwyd yn rhannu stori fwyd CyDA trwy’r prydau a gafodd ei gweini. Trwy fideos yn y caffi ac amlygu’r bwyd a gafodd ei cynhyrchu gan CyDA ar fwydlen y myfyrwyr, dathlwyd gwaith ein staff a’n gwirfoddolwyr Arlwyo a Gerddi.

    Mae llawer i’w wneud o hyd, ond trwy ailgysylltu pobl â ble mae eu bwyd yn dod a pha mor flasus, iach a chynaliadwy y gall dewisiadau fod, mae CyDA yn helpu i greu esiampl fyw i’r rhai sy’n ymweld a dysgu’r cyfleoedd a daw o gae i geg!

    Amdan yr Awdur

    Mae Dr Rebecca Kent yn Arweinydd Rhaglen ac yn Uwch Ddarlithydd yng Nghanofan y Dechnoleg Amgen. Mae ei gwaith yn archwilio systemau bwyd cynaliadwy, newid amgylcheddol a rôl cymunedau wrth greu dyfodol mwy gwydn. Mae hi’n aelod o Weithgor Bwyd a Thyfu CyDA ac mae’n angerddol am gysylltu ymchwil, addysg a gweithredu ymarferol i gefnogi perthynas iachach rhwng pobl, bwyd a’r amgylchedd.