Category: Zero Carbon Britain

  • Sut yr oedd CyDA wedi Helpu Lyreco i Ymwreiddio Cynaliadwyedd ar draws ei Weithrediadau

    Sut yr oedd CyDA wedi Helpu Lyreco i Ymwreiddio Cynaliadwyedd ar draws ei Weithrediadau

    Gwaith CyDA gyda Lyreco i gynorthwyo gweithredu Cynaliadwy

    Yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), credwn y dylai hyfforddiant cynaliadwyedd fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth – dylai rymuso pobl i weithredu mewn ffordd ystyrlon. Pan gysylltodd Lyreco, cwmni cenedlaethol cyflenwi swyddfeydd, â CyDA i gynorthwyo datblygiad dealltwriaeth o gynaliadwyedd o fewn ei dîm cadwyn cyflenwi, roedd y nod yn glir: ymwreiddio cynaliadwyedd mewn gweithrediadau a phenderfyniadau dyddiol.

    Trwy gyfrwng profiad hyfforddiant ymarferol ac ymdrochol, helpodd CyDA y cyfranogwyr i symud o wybodaeth ar lefel arwynebol i weithrediad hyderus ac ymarferol, gan arwain at newidiadau go iawn ar draws safleoedd, systemau, ac arweinyddiaeth.

    Cawsom sgwrs gyda Jake Jones, Cydlynydd Ansawdd Diogelwch a Chynaliadwyedd Lyreco, i glywed sut yr oedd dull CyDA wedi helpu i ysgogi trawsnewid, grymuso unigolion a dylanwadu ar y strategaeth ar gyfer y tymor hir.

    Creu Sylfeini ar gyfer Newid

    Roedd nifer o’r rhai a oedd wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant wedi cael gyrfaoedd hir yn y cwmni, ac roeddent yn aml wedi cychwyn yno mewn rolau iau a symud i fyny dros ddegawdau. Fel yr esboniodd Jake Jones:

    “Mae gennym nifer fawr o gyflogeion a ddechreuodd weithio yma pan oeddent yn 16 oed… ac fel rhan o’r dilyniant gyrfa hwnnw, mae angen i bobl gael hyfforddiant ar lefel uwch.”

    Roedd y sefydliad yn cydnabod bod angen i gynaliadwyedd fod yn fwy na gwerth corfforaethol – roedd yn rhaid ei ymwreiddio yn y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn gweithio. Roedd hyfforddiant CyDA yn cynnig ffordd ymarferol a strwythuredig o wneud hynny.

    “[Rydym yn] deall cynaliadwyedd fel prif ddarn – nid yn unig oherwydd bod cwsmeriaid yn dymuno hyn, ond hefyd, dylem fod yn gwneud hyn.”

    Mae hyfforddiant CyDA yn cyfuno meddwl ar ffurf systemau, gweithdai ymarferol, ac enghreifftiau o’r byd go iawn er mwyn helpu cyfranogwyr i ddeall dimensiynau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cynaliadwyedd. Mae’r dull gweithredu hwn yn helpu pobl i gysylltu cysyniadau haniaethol gyda’u gwaith a’u cyfrifoldebau nhw

    Dewis y Bobl Gywir i Arwain Newid

    Bu’r sefydliad yn strategol wrth ddewis cyfranogwyr, gan ddewis unigolion yr oeddent naill ai’n cyflawni rolau dylanwadol ar hyn o bryd neu a oedd wedi dangos dymuniad i dyfu ac arwain.

    “Dewiswyd yr unigolion gan ystyried yr effaith… eu hongl newid. Mae rhai pobl yn hapus i beidio gwneud unrhyw newid… mae eraill yn dymuno gweld dilyniant.”

    Mae’r dull gweithredu hwn yn cyd-fynd ag athroniaeth CyDA bod hyrwyddwyr cynaliadwyedd o fewn sefydliadau yn gallu bod yn asiantau dros newid pwerus. Trwy roi gwybodaeth a hyder i’r bobl gywir, gall yr hyfforddiant raeadru allan, gan effeithio ar dimau, adrannau, a pholisi.

    O Ymwybyddiaeth i Ddealltwriaeth

    Un o ganlyniadau mwyaf trawiadol yr hyfforddiant oedd y symud o ymwybyddiaeth oddefol i ddealltwriaeth weithredol. Fel y disgrifiodd Jake:

    “Gallent ddweud wrthych bod newid hinsawdd yn wael. Ni allent ddweud pam wrthych… rhoddodd CyDA y sylfeini iddynt ar gyfer yr egwyddorion hynny, a roddodd ystyr i’r holl bwynt wedyn.”

    Mae hwn yn un o nodau craidd hyfforddiant CyDA – helpu cyfranogwyr i ddeall y gwyddor, y systemau a’r cyd-destunau cymdeithasol y tu ôl i heriau cynaliadwyedd.

    Roedd yr hyfforddiant yn defnyddio technegau hwyluso cynhwysol hefyd er mwyn sicrhau y gallai pawb gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon:

    “Roedd rhannu grwpiau yn caniatáu i’r rhai mwy tawel yn y grŵp i gael mwy o lais ac i ymgysylltu yn fwy… Yn gyffredinol, roedd eich arddulliau addysgu wedi helpu pobl i gyfleu’r neges.”

    Trwy gyfuno gwaith grŵp, teithiau safle, a sesiynau rhyngweithiol, roedd CyDA wedi creu amgylchedd lle y gallai cyfranogwyr archwilio syniadau, holi cwestiynau, a chysylltu dysgu gyda’u rolau nhw.

    Trosi Dysgu yn Weithredu

    Roedd effaith yr hyfforddiant i’w weld yn glir ac yn gyflym ar ffurf newidiadau gweithredol. Daeth cynaliadwyedd yn rhan reolaidd o gyfarfodydd mewnol a phrosesau gwella parhaus:

    “Bellach, mae cynaliadwyedd yn elfen o gyfarfodydd PD… Arferem wneud pethau o’r enw troeon Gemba… nawr, ystyrir cynaliadwyedd ac ymgysylltu cymunedol ac iechyd a diogelwch, ar yr un pryd.”

    Roedd un enghraifft yn ymwneud â lleihau deunydd pacio plastig dianghenraid:

    “Os byddwn yn gwaredu’r leinin plastig ar y paled hwn… nid ydym yn cynhyrchu cymaint o wastraff plastig. Nid oed angen bod leinin plastig yno.”

    Er bod y newidiadau yn fach, maent yn dangos sut y gall cynaliadwyedd gael ei ymwreiddio mewn penderfyniadau bob dydd, nid mewn strategaeth ar lefel uchel yn unig.

    Mae’n bwysig nodi bod yr hyfforddiant wedi helpu i ddyrchafu cynaliadwyedd o fewn arweinyddiaeth hefyd:

    “Mae rhai o’r unigolion eisoes wedi cael eu dyrchafu i rolau rheoli ar lefel uwch nawr… Bellach, mae gennych chi unigolion sydd â’r cynaliadwyedd hwnnw mewn swyddi uwch nag o’r blaen.”

    Mae hwn yn ddangosydd llwyddiant allweddol: pan fydd staff sydd wedi cael hyfforddiant cynaliadwyedd yn symud i rolau lle y gallant ddylanwadu ar bolisi, cyllidebau a diwylliant.

    Effeithlonrwydd Ynni

    Roedd un cyfranogydd wedi defnyddio’r hyfforddiant gyda defnydd ynni ar draws safleoedd y sefydliad yn uniongyrchol. Yn hytrach na chynnal archwiliadau hir, penderfynodd weithredu mewn ffordd bendant:

    “Yn hytrach nag archwilio pa adnoddau sydd gennym, mae wedi mynd â gwaredu nwy os oes angen… Nid oes angen tanwydd ffosil, iawn? Dyna’r rhesymeg.”

    Arweiniodd hyn at newidiadau ymarferol, megis newid i wresogi trydanol a theilwra defnydd ynni yn unol â’r angen go iawn:

    “Dim ond dau unigolion sydd ar y safle am y diwrnod cyfan… felly maent wedi cael gwresogydd trydan rhwng y ddau ohonynt.”

    Llwyddodd y sefydliad i sicrhau tystysgrif ISO 50001 am reoli ynni hefyd:

    “Ers hynny, rydym wedi sicrhau tystysgrif ISO 50001 hefyd… mae hynny yn gyrru’r newid yn y math hwn o brosiect hefyd.”

    Mae’r canlyniadau hyn yn dangos sut y gall hyfforddiant CyDA gynorthwyo dysgu unigol a newid strategol ar draws sefydliad.

    Cynnal y Momentwm

    Mae’r sefydliad yn bwriadu parhau gyda’r rhaglen hyfforddiant, gan ddefnyddio model CyDA er mwyn cynorthwyo carfannau yn y dyfodol:

    “Y nod yw gwneud hyn bob rhyw ychydig flynyddoedd… gydag unigolion sydd wedi dangos addewid, sy’n dymuno gwneud mwy, ac sy’n ymwneud â rhoi sgiliau iddynt, rhoi’r sgiliau cynaliadwyedd hynny iddynt.”

    Mae’r math hwn o feddwl ar gyfer y tymor hir yn hanfodol. Nid ymyrraeth untro yw cynaliadwyedd, mae’n broses barhaus o ddysgu, myfyrio a gwella. Cynlluniwyd hyfforddiant CyDA i gynorthwyo’r daith honno.

    Roedd hyfforddiant CyDA wedi helpu cyfranogwyr i symud i ffwrdd o ymwybyddiaeth oddefol i ymgysylltu gweithredol – gan ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu rolau, dylanwadu ar benderfyniadau gweithredol, a siapio arweinyddiaeth y dyfodol. Fel y mae Jake Jones yn myfyrio:

    “Mae’n eistedd yng nghefn eu meddyliau nawr… mae’n dod allan ac mae’n cael ei weld ac yn cael ei ddangos o bryd i’w gilydd mewn gwahanol brosiectau.”

    Mae gwaith CyDA gyda Lyreco yn dangos sut y gall hyfforddiant ysgogi newid parhaus – gan helpu sefydliadau i droi cynaliadwyedd o fod yn werth i fod yn arfer.

    Dysgu mwy

    I gael gwybod mwy am gynnig hyfforddiant CyDA neu i wneud ymholiad am archebu ychydig hyfforddiant gan y tîm, trowch at cy.cat.org.uk.

  • COP30 – Y COP Gweithrediad?  

    COP30 – Y COP Gweithrediad?  

    Nid oedd y cytundeb a gyrhaeddwyd yn COP30 yn ddigonol, ond nid oedd yn drychineb llwyr. Rhanna Paul Allen o’n Tîm Prydain Di-garbon ei fyfyrdodau ar faterion allweddol COP30 a’r hyn sydd ei angen nesaf.

    Gan ymuno ar-lein fel arsylwr swyddogol, dilynais y trafodaethau a’r ystod eang o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan y gwledydd, y rhwydweithiau a’r grwpiau a ymgynnullodd yn Belém, Brasil dros bythefnos ym mis Tachwedd. 

    COP30 - Brasil
    COP30 Brasil – DOERS/Shutterstock.com

    Cefndir COP30

    Mae Cynhadledd y Partïon neu trafodaethau COP wedi’u gwreiddio yn Uwchgynhadledd y Ddaear Rio, ac am y tair degawd diwethaf maent wedi dod â gwledydd o bob cwr o’r byd ynghyd i geisio datrys heriau daearol sydd wedi’i achosi gan fodau dynol ac ymdrin â’u heffeithiau. Pob blwyddyn, erbyn diwedd y trafodaethau, dylir gyrraedd consensws ar y testunau terfynol, gyda phob parti yn llofnodi – ac mae hyn yn elfen allweddol o’r broses. Ar ôl blynyddoedd maeth o dangyflawni, cytunodd y COP21 nodedig ym Mharis y byddai’r byd yn anelu at gyfyngu cynhesu byd-eang i lefalau llawer is na 2°C o lefelau cyn-ddiwydiannol gan anelu at 1.5°C. 

    O dan Gytundeb Paris, rhaid i bob un o’r 195 gwlad gynyddu eu cyfraniadau cenedlaethol penodedig – nationally determined contributions (NDC’s),) i leihau allyriadau ar fecanwaith ratchet 5 mlynedd. Gan fod COP30 yn nodi’r ail ratchet, erbyn yr agoriad roedd 118 allan o 195 o wledydd wedi cynnig cyfraniad cenedlaethol penodedig newydd, ond gyda’i gilydd nid oedd yr hyn oedd ar gynig yn agos at ddigon. (NDC Tracker, Climate Watch) 

    Elfen allweddol arall o COP30 oedd y cyfrif stoc byd-eang. Roedd hyn yn cydnabod bod Cytundeb Paris wedi sbarduno cynnydd mewn gweithrediad ar yr argyfwng hinsawdd, ond nid digon eto i roi’r byd ar y trywydd iawn i aros ymhell o dan 2°C, neu i gyflawni’r lefelau hanfodol o wydnwch a symud ac aleinio’r llifau ariannol angenrheidiol. (NDC 3.0, UNFCC)  

    Felly, wrth i’r byd ddod ynghyd yn Belem, y dasg allweddol i gyflawni amcanion Paris oedd gwella uchelgeisiau a  niferoedd y cyfraniadau cenedlaethol penodedig,tra hefyd yn cynyddu adnoddau i helpu gwledydd i ymdopi ag effeithiau cynyddol tywydd eithafol trwy addasu a thrwy’r gronfa colledion a difrod byd-eang. 

    President Lula of Brazil speaking at COP30
    Llywydd Lula o Brasil yn siarad yn COP30 – Antonio Scorza/Shutterstock.com

    Beth gyflawnodd COP 30? 

    Yn y cyfnod cyn pob COP mae UNEP yn rhyddhau Adroddiad blynyddol ar y Bwlch Allyriadau “Emissions Gap Report”. Eleni, ei deitl oedd ‘Off Target’ gan ei wneud yn glir ein bod ar lwybr pendant tuag at gynyddiad mewn risgiau a difrod hinsawdd. (Emission Gap Report 2025, UNEP)  

    Elfen allweddol o COP30 oedd cynnydd mewn lleisiau pobl gynhenid. Trwy brotestiadau, gorymdeithiau a phroffil uwch yn narllediad y cyfryngau, fe wnaethant hi’n glir y dylent gael llais yn y trafodaethau, ac bod llawer ohonynt heb hawl fynedu’r neuaddau trafod. Ar hyn o bryd, mae tir Cynhenid yn ffurfio ​​tua 13.8% o Frasil, fodd bynnag, yn dilyn y protestiadau yn ystod COP30, fe wnaethant gyhoeddi 10 tiriogaeth gynhenid ​​newydd yn dilyn yr 11 a gyhoeddwyd llynedd. (BBC News) 

    Gan dynnu ar eu diwylliant, gwahoddodd arlywyddiaeth Brasil y byd i ymuno â “Mutirão”. Dull parhaol o symudiad bydd yn parhau i fod ar weithred tu hwnt i COP30. Cynnigiad i drawsnewid y gynhadledd yn garreg filltir wirioneddol ar gyfer tro gwareiddiadol: sefydliad gofodau ar gyfer gwrando’n weithredol, cryfhau’r cysylltiadau rhwng y lleol a’r byd-eang, a gwerthfawrogi’r amrywiaeth o leisiau a gwybodaeth. Cyfanwaith cryfach na chyfanswm yr holl rannau. 

    Protest at COP30
    Protest yn COP30 – Antonio Scorza/Shutterstock.com

    Elfen bwysig o COP30 oedd lansiad y Datganiad ar Uniondeb Gwybodaeth ar Newid Hinsawdd ‘The Declaration on Information Integrity on Climate Change’; mae hyn yn cynnig ymrwymiadau rhyngwladol i frwydro yn erbyn camwybodaeth hinsawdd a hyrwyddo gwybodaeth hinsawdd gywrain. Yn y lansiad, cafodd y datganiad ei gymeradwyo gan ddeuddeg gwlad, gan gynnwys Brasil, Canada, Chile, Denmarc, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Sbaen, Sweden, Wrwgwái, yr Iseldiroedd, a Gwlad Belg. 

    Yn ol yr arfer, daeth COP30 i ben gyda gor-rediad a barhaoodd drwy’r nos hyd at fore Sadwrn, wedi’i yrru gan ddadl ynghylch y geiriad a ddefnyddiwyd. Dyma’r trafodaethau yn osgoi chwaliad, ac or diwedd, cytunodd 194 o wledydd ar gytundeb i gadw’r broses yn fyw. Cynigiodd gwefan y Cenhedloedd Unedig yr ymrwymiadau hyn: 

    • Cyllid ar raddfa: Symud $1.3 triliwn yn flynyddol erbyn 2035 ar gyfer gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd. 
    • Hybu addasiad: Dyblu’r cyllid addasu erbyn 2025 a’i dreblu erbyn 2035. 
    • Cronfa colled a difrod: Cadarnhad ar y gylchred gweithredoli ac ailgyflenwi  
    • Mentrau newydd: Lansio’r ‘Global Implementation Accelerator’ a Chenhadaeth Belém i 1.5°C i yrru uchelgeisau a gweithrediad. 
    • Damwybodaeth hinsawdd: Ymrwymiad i hyrwyddo uniondeb gwybodaeth a gwrthweithio naratifau ffug. 

    Roedd disgwyliadau uchel y byddai penderfyniad terfynol COP30 yn cynnwys cyfeiriad penodol at ddileu tanwydd ffosil yn raddol. Cefnogodd mwy nag 80 o wledydd gynnig Brasil ar gyfer ‘map’ ffurfiol. Roedd testun drafft wedi’i gynnwys – tan oriau olaf y trafodaethau. Mae’r canlyniad a fabwysiadwyd yn cyfeirio at Gonsensws y UAE yn unig, sef y benderfyniad o COP28 yn galw am “drawsnewidiad i ffwrdd o danwydd ffosil.” 

    Nid oedd COP30 yn agos at ddigonol, ond nid oedd yn drychineb llwyr. Bydd yn cyflymu pethau, ond mae’n amlwg bod amser yn rhedeg allan. 

    Beth sydd angen digwydd ar ôl COP30?

    Rydym ar groesffordd o argyfwng a chyfle, a bydd yr hyn a wnawn nesaf yn diffinio’r dyfodol a wynebwn. Fel peiriannydd hyfforddedig, mae’n amlwg i mi, os nad yw system yn gweithio, rhaid i ni ei thrwsio. Mae angen i’r UNFCCC (Confensiwn Fframwaith Y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd) gydnabod nad yw’r proses o’r top lawr yn gweithio a chychwyn gweithdai byd-eang i drawsnewid y ‘broses negodi’ cyn COP31. Rhaid i hyn gynnwys: 

    • lleisiau cynhenid ​​o bob gwlad wedi’i gynnwys yn bwrpasol 
    • ei gwneud yn glir pwy yw’r negodwyr a phwy yw’r lobïwyr
    • ail-drefnu’r rhaglen fel nad yw penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud yn ystod cyfnod gor-redeg 
    • cysylltu trafodaethau’n well ar draws seilos i helpu i ddatrys y newid o danwydd ffosil mewn sawl ffordd, wrth adfer systemau naturiol a pharatoi ar gyfer effeithiau hinsawdd

    Belém oedd y gynhadledd hinsawdd gyntaf i ddigwydd ers i’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol gadarnhau bod gan lywodraethau a chorfforaethau ddyletswyddau cyfreithiol i amddiffyn pobl a’r blaned rhag niwed hinsawdd. Mae ClientEarth yn archwilio sut y gall pŵer cyfreithiol ymladd yn erbyn gwyrdd-olchi a gwthio am gyfreithiau hinsawdd cryfach a gorfodadwy.

    Dylai trafodaethau yn y dyfodol hefyd ddechrau wedi’u gwreiddio mewn cydnabyddiaeth onest o’r niferoedd ar yr hyn sydd angen ei gyflawni ac erbyn pryd, gyda lles byd-eang wrth wraidd y trawsnewidiad angenrheidiol. Yn ei lyfr A Climate of Truth, a gyflwynwyd mewn darlith gyhoeddus ddiweddar yn CyDA, mae Mike Berners-Lee yn gwneud dadl glir mai’r cam pwysicaf yw codi gonestrwydd yn ein gwleidyddiaeth leol, genedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys y broses COP. Mae Mike yn tynnu sylw at yr angen am onestrwydd “Gall pob un ohonom gael effaith fwy radical ar y materion yr ydym yn poeni amdanynt trwy droi ein sylw at yr egwyddor syml hon”. Cyhoeddodd y Pafiliwn Gwyddoniaeth Planedau yn COP30 ddatganiad gonest bod y gyllideb garbon sy’n weddill bellach yn cyfateb i 3-4 blynedd o allyriadau byd-eang ar y gyfradd bresennol. Dylai hyn fod yn neges allweddol wrth agor trafodaethau yn COP31.

    Mae angen i broses y Cenhedloedd Unedig gynnig llawer mwy o gefnogaeth i gamau gweithredu gan gymunedau ledled y byd. Mae gennym yr offer, y technolegau, y modelau busnes cyfrifol, yr ymchwil a’r cymhelliant. Gan adeiladu ar y model Mutirão, mae angen i ni alluogi grwpiau gweithredol i rannu syniadau ledled y byd, gan gataleiddio cyflymiad camau gweithredu a ysgogir gan ddinasyddion. 

    Mae gennym ni’r atebion, ond mae angen sgiliau a hyfforddiant i gefnogi’r newid. Mae CyDA yn falch o fod yn rhan o ecosystem sy’n tyfu o sefydliadau sy’n cynnig cyfleoedd hyfforddi a’r cyrsiau sydd eu hangen i gyflymu’r trawsnewidiad hwn.

    Am yr awdur

    Paul yw Cydlynydd Gwybodaeth ac Allgymorth Prydain Di-garbon CyDA. Mae wedi bod yn ymwneud â’n gwaith ymchwil ynghylch sefyllfaoedd di-garbon ers y dechrau, gan gydlynu datblygiad adroddiadau ymchwil a chael cyswllt uniongyrchol gyda’r llywodraeth, diwydiant, cyrff anllywodraethol a’r celfyddydau er mwyn rhannu canfyddiadau.

    People working together

    Hyfforddiant Prydain Ddi-Garbon

    Archwiliwch ddatrysiadau hinsawdd, gan feithrin y sgiliau i wneud gwahaniaeth yn eich gweithle neu’ch cymuned ar gyrsiau hyfforddiant llythrennedd pwrpasol neu y mae modd archebu lle arnynt.

  • Datblygiad cydnerthedd lleol

    Datblygiad cydnerthedd lleol

    Ar draws cymdeithas, gwelir cydnabyddiaeth gynyddol o’r angen i feithrin mwy o gydnerthedd o ran y ffordd yr ydym yn darparu ar gyfer ein hunain.  Mae Paul Allen yn archwilio ystyr cydnerthedd a sut y gall gysylltu sawl agwedd wahanol ar ein bywydau.

    Ar draws y DU a thu hwnt, mae cymunedau yn wynebu oes newydd o newidiadau dwys ac annisgwyl.  Er mwyn ymateb i’r her hon, rhaid i ni gydnabod ein bod bellach yn rhan o gymdeithas ‘fregus’.  Wrth i gadwyni cyflenwi gael eu globaleiddio, mae economi y farchnad rydd wedi gwaredu’r amrywiaeth a’r cysylltiadau naturiol sy’n cynnig sylfaen i allu cymunedau i ‘adfer’.  Yn gyflym, gall methiannau ddechrau ymateb i’w gilydd, gan fynd â’r heriau ymhell y tu hwnt i allu unrhyw lywodraeth neu awdurdod lleol i ymdopi â nhw, heb gymorth gweithredol dinasyddion.

    Cydnerthedd cadarnhaol

    Er nad yw’r newidiadau hyn yn rhywbeth a achoswyd gan gymunedau, maent yn eu cymell i ailystyried y ffordd y maent yn symud ymlaen i ail chwarter yr unfed ganrif ar hugain.  Bydd cydnerthedd lleol yn ffactor pwysig yn y pontio hwn.  Caiff hyn ei ddiffinio mewn dwy ffordd fel arfer:

    • Y cyflymdra a’r cymhwystra y gall aelwyd, cymuned, tref neu ranbarth baratoi ar gyfer ac adfer yn dilyn ysgytwadau neu ysigiadau.
    • Mesur o ba mor dda y gall system newid i fod yn system fyw hollol wahanol ond yn un sy’n ddichonadwy o hyd, os bydd yr un wreiddiol yn mynd yn anghynaladwy.

    Mae’r ddau ddiffiniad yn ddefnyddiol – ond maent yn ystyried cydnerthedd fel ffordd o ddelio ag effeithiau negyddol yn unig.  Mae hefyd yn ddefnyddiol i ni ystyried trydydd math o gydnerthedd:  Ein gallu i baratoi ar gyfer heriau mewn ffordd ragweithiol ac ar y cyd, gan ryddhau grym cadarnhaol o fewn ein cymunedau hefyd, sy’n ein dwyn ynghyd.  Er enghraifft, wrth i ni newid o fewnforio tanwydd ffosil i ddefnyddio asedau ynni adnewyddadwy ar ein stepen drws, mae angen i ni fod yn ddeallus, yn hyblyg ac yn gydweithredol.  Trwy gydweithio, gallwn fanteisio ar y buddion yn lleol, fel y mae nifer o brosiectau adnewyddadwy wedi dangos.  Wrth gwrs, nid adhawlio’r grym mewn ynni yw’r unig gam sy’n angenrheidiol er mwyn cynyddu ein cydnerthedd.  Gall cymunedau aml-ddatrys ar draws ystod eang o feysydd, gan gynnwys iechyd, bwyd, trafnidiaeth, sgiliau, tegwch a chydlyniant lleol.

    Trwy gydweithio i ddatblygu ein cydnerthedd ffisegol, gallwn feithrin cydnerthedd seicolegol hefyd, ar lefel bersonol a chymunedol.  Pan fyddwn yn gweithio mewn ffordd weithredol i gynyddu ein cydnerthedd, byddwn yn teimlo’n well am ein sefyllfa.  Mae bod ar lwybr o’r fath yn ein tywys i gael perthnasoedd gydag eraill, gan ddatblygu llwybrau cadarnhaol i gymuned newydd sydd ag ymdeimlad o ddiben ar y cyd.  Gall hyn ynddo’i hun wella ein hansawdd bywyd, fel y mae nifer o brosiectau wedi dangos.

    Cydnerth gyda’n gilydd

    Pan darfir arni, mae natur yn ymateb mewn ffyrdd cyfunol cymhleth i sicrhau cydbwysedd newydd. Gallwn ddysgu o hyn er mwyn ein helpu i baratoi ar gyfer yr adeg pan darfir ar gymdeithas ddynol. Gallwn gynnwys cydnerthedd fel ffactor allweddol wrth gymell gweithredoedd lleol. Gall cydnerthedd ddod yn lens newydd lle y byddwn yn archwilio ein ffyrdd o fyw, ein cymuned, a’r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud i gynorthwyo ein gilydd yn ystod cyfnodau heriol.

    Mae meithrin cydnerthedd lleol wedi’i ymwreiddio mewn rhwydweithiau rhyngbersonol. Mae’n amlwg y bydd y cysylltiadau o fewn ein cymunedau personol yn bwysig. Fodd bynnag, mae datblygu rhwydwaith ehangach o grwpiau cyswllt y tu hwnt i’n cylch cymdeithasol uniongyrchol yn hynod werthfawr hefyd. Bydd y bobl hyn yn ffurfio grŵp y gallwn feithrin ymddiriedaeth ddyfnach â nhw – y rhai cyntaf i alw arnynt yn ystod cyfnodau anodd neu pan fydd cyfle yn codi. Yn wyneb mwy o doriadau i gyflenwadau pŵer, llifogydd, sychder a chwymp eira, mae cydnerthedd cymunedol yn gwneud synnwyr da i nifer fawr o bobl. Mae’n cryfhau cymunedau ac mae’n cynnig pob math o gyd-fuddion cadarnhaol. Ar draws yr Alban, mae’r Gwasanaeth Gwirfoddolwyr Cydnerthedd Cymunedol yn cynorthwyo pobl o ystod eang o wahanol gefndiroedd sydd â’r cymhelliant a’r ymrwymiad i roi eraill yn gyntaf a chynorthwyo eu cymunedau.

    Gall ailystyried cydnerthedd gynnig ysgogiad cadarnhaol pwerus er mwyn ymgysylltu yn ddyfnach â’n ffrindiau a’n cymdogion. Pan fydd pobl yn dod ynghyd gyda diben cyffredin, gallant fod yn rym pwerus ar gyfer sicrhau newid.

    Er enghraifft, mae Somerset Prepared yn bartneriaeth sy’n cydweithio’n agos gyda chymunedau er mwyn helpu i wella cydnerthedd lleol mewn argyfwng. Mae’n cynnwys ystod amrywiol o sefydliadau sy’n gallu cynnig cyngor, arweiniad a chymorth er mwyn helpu gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i feithrin mentrau sy’n gwella cydnerthedd yn eu hardal.

    Rhag Ofn

    Bydd meithrin cydnerthedd yn cyflawni rôl gynyddol wrth i ni siapio ein bywydau o’r newydd dros y blynyddoedd nesaf, gan symud o’r cyrion i fod yn rhan ganolog o’n cymunedau. Er mwyn helpu gyda hyn, mae Comisiwn Cenedlaethol Parodrwydd y DU newydd gyhoeddi ymchwil newydd am ddiogelwch bwyd. Dan arweiniad darlithydd gwadd rheolaidd CyDA, Athro Tim Lang, mae adroddiad Just in Case: narrowing the UK civil food resilience gap yn nodi’n glir bod angen diwygio ein system. Mae’r adroddiad yn amlygu astudiaethau achos sy’n dangos yr hyn y mae angen ei ehangu, gan gynnwys ymwybyddiaeth ddinesig, polisïau lleol a chenedlaethol, a marchnadoedd garddwriaeth a phrosiectau bwyd cymunedol.

    Sgiliau ar gyfer y dyfodol

    Gall meithrin cydnerthedd ein cymunedau gynnig buddion go iawn, yn ogystal â bod yn broses greadigol ac sy’n cysylltu a grymuso ar lefel bersonol. Mae CyDA yn cydnabod hyn ac yn cynnig y cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd a chael profiadau ymarferol mewn cymysgedd amrywiol o feysydd, o ynni adnewyddadwy i aelwydydd ac adnewyddu-eco, i dyfu bwyd ac adfywio’r pridd. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant pwrpasol ar gyfer grwpiau, megis Civic Square a’r Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol. Bydd y wybodaeth, y sgiliau a’r offerynnau y byddwn yn eu rhannu yn galluogi mwy o bobl a’u cymunedau i bontio mewn ffordd hanfodol i ddyfodol mwy cydnerth.

    Am yr awdur

    Paul yw Cydlynydd Gwybodaeth ac Allgymorth Prydain Ddi-garbon CyDA. Mae wedi bod yn ymwneud â’n gwaith ymchwil ynghylch sefyllfaoedd di-garbon ers y dechrau, gan gydlynu datblygiad adroddiadau ymchwil a chael cyswllt uniongyrchol gyda’r llywodraeth, diwydiant, cyrff anllywodraethol a’r celfyddydau er mwyn rhannu canfyddiadau.

  • Labordy Arloesi LPIP:  O Fapio’r System i Gynllunio Ymyriadau

    Labordy Arloesi LPIP:  O Fapio’r System i Gynllunio Ymyriadau

    Mae gweithdai Labordy Arloesi CyDA ar gyfer prosiect LPIP Cymru Wledig yn dwyn cyfranddeiliaid ynghyd o’r sector Garddwriaeth yng Nghymru i archwilio sut y gallant gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.

    Yn dilyn gweithdai Labordy Arloesi cyntaf CyDA ar gyfer prosiect LPIP Cymru Wledig, a oedd wedi dwyn ynghyd rhanddeiliaid i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd y mae’r sector garddwriaeth yn eu hwynebu yng Nghymru, mae tîm y prosiect wedi bod yn ystyried y data a’r ddirnadaeth a gasglwyd.

    Bellach, mae’r canfyddiadau hyn yn siapio cam nesaf y prosiect:  cyd-gynllunio ymyriadau ymarferol ac y mae modd eu profi a’u treialu mewn lleoliadau go iawn.

    Mae’r tîm wedi bod yn cynnal dadansoddiad systemau, gan ystyried y perthnasoedd rhwng gwahanol rannau o’r system er mwyn nodi lle y gwelir egni i’w ddatblygu, a lle y gallai heriau parhaus fod yn dal pethau yn ôl.  Mae’r ddirnadaeth hon yn helpu i amlygu meysydd posibl ar gyfer ymyrraeth, ac maent yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio’r ail weithdy.

    Rachel leading an LPIP session

    Cydweithio i ddatblygu datrysiadau

    Dyma’r ail weithdy yn cymryd lle ar 30 o Fehefin yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Fe fynychodd 30 o gyfranogwyr, gan gynnwys y mwyafrif o’r rheini a ymunodd yn y sesiwn gyntaf, yng nghyd a nifer o gyfranwyr newydd.

    Y nod yw cyd-greu pump neu chwech syniad ymyrraeth craidd. Caiff y rhain eu harchwilio a chynhelir pleidlais amdanynt er mwyn canfod lle y gwelir y brwdfrydedd mwyaf a’r potensial mwyaf i gael effaith.  Er na wneir unrhyw benderfyniadau terfynol ar yr adeg hon, bydd y gweithdy yn arwain at restr fer o syniadau a ddatblygwyd yn dda, y bydd modd eu symud ymlaen i’w profi ymhellach.

    Gweithredu datrysiadau mewn ffordd iteraidd

    Nid ymarfer damcaniaethol yn unig yw hwn.  Mae’r prosiect wedi sicrhau £30,000 er mwyn treialu un o’r ymyriadau neu fwy dros gyfnod o 12 mis, o hydref 2025 i hydref 2026.  Bydd rheolwyr arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth yn goruchwylio’r cam hwn, gan gynorthwyo gyda’r gwaith o brofi ac ailadrodd y syniadau a ddewiswyd ar lawr gwlad.

    Mewn systemau cymhleth, nid yw hi wastad yn bosibl rhagweld canlyniadau ymyriad ymlaen llaw.  Dyna pam bod y cam hwn yn canolbwyntio ar arbrofi – rhoi cynnig ar bethau, monitro sut y maent yn gweithio, a’u haddasu yn ôl yr angen.  Y nod yw dysgu’r hyn sy’n gweithio mewn gwirionedd a defnyddio’r hyn a ddysgwyd i gyfrannu at weithredu yn y dyfodol.

    Cyn eu gweithredu, caiff y syniadau yn y rhestr fer eu hadolygu gan banel her, a fydd yn helpu i sicrhau bod y cyllid yn cael ei gyfeirio at yr ymyriad sydd â’r potensial mwyaf i gael effaith gadarnhaol.

    Rôl CyDA

    Er nad yw rôl CyDA yn y cam gweithredu wedi cael ei gadarnhau eto, mae’n debygol y bydd y tîm yn parhau i gyflawni rôl trosolwg wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.

    Mae cam nesaf Labordy Arloesi LPIP yn cynrychioli cam ymlaen arwyddocaol – o ddeall y system i gynllunio a phrofi datrysiadau mewn ffordd weithredol.  Edrychwn ymlaen i rannu mwy o ddiweddariadau wrth i’r gwaith barhau.